Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

$g-enefctr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

$g-enefctr. Tr YR ARGLWYDDI, Mawrth, Mawrth 29. Ysgrif Cadwraeth yr Heddwch yn Iwerddon.-Cyn- nygiodd Argl. Dufferin ail ddarlleniad y mesur, gan fynegu fod y Llywodraeth wedi ei ddwyn i mewn gyda gofid, ond oddiar argyhoeddiad cadarn o'r angenrheidrwydd o roddi i'r Llywodraeth Wyddelig fwy o awdurdod er cadw heddwch a threfn, a diogelu bywyd a meddiannau.—Cefnogodd Due Richmond y cynnygiad, yr hwn a ystyriai fod arbenigrwydd yr amgylchiadau yn cyfiawnhau llym- der eithafol y mesur.—Dywedai larll Derby ei bod yn dra anffodus fod mesur o'r natur yma yn angen- rheidiol; ond gan mai felly yr ydoedd, fod gan en harglwyddiaethau ddyledswydd i'w chyfUwni ag na ddylent ymgilio oddiwrthi. Wedi sylwadau pellach gan larll Kimberley, Ardalydd Salisbury, ac larll Granville, darllenwyd ef yr ail waith. Ty Y CYFFREDIN, Mawrth 29. Y Cynghrair Masnuckol a Ffrainc Mewn atebiad i Mr. Birley, mynegai Mr. Otway nad oedd un gynnr> chiolaeth, yn y nodwedd wrthdystawl, wedi ei hanfon at Lywodraeth Ffrainc mewn perthynas i ddiwygio y cynghrair masnachol rbwng Ffrainc a Lloegr; ond hyshyswyd Llywodrneth Ffraiuo-fod Llywodraeth ei Mawrhydi yn barod i gynnysgaeddu pwyllgor a naill ai tystiolaeth eneuot neu ysgrifen- edig. us dymunent hyny. Yr oedd Argl. Lyons, ein llys-genadwr yn Paris, wedi ei wneud yn hyshys o olygiadau y Llywodraeth, ond ni thybid ei bod yn gyfaddus, ar hyn o biyd, i fynegu y cyfarwyddiadau a roddwyd iddo. TT T CYFFREDIN, Mercher. Y Ddedd:f Feddygol.-Cynnygiodd Syr J Gray ail ddarlleniad ysgrif gwelliant y Ddeddf Feddygol, amcan yr hon, medd ef, ydyw gwellbau y deddfau presenol, ae i alluogi dynion i wahaniaethu rhwng meddyg cymhwys ac un anghymhwys. Eiliwyd y cynnygiad gan Mr. S. R. Graves Cynnygiodd Mr. Brady am ohirio y ddadl. Gobeitbiai Mr. W. E. Forster y cytunid a'r cynnygiad am ohiriad, a mynegai fod ei gyfaill ardderchog Iarll de Gray a Ripon yn bwriadu dwyn mesur i fewn i Dy yr Arglwyddi, er gwellhau y deddfau meddygol. TT TR ARGLWYDDI, Iau. Cadwraeth yr Heddwch yn lwerddon.-Darllenwyd yr ysgrif y drydedd waith, a phasiodd gydag ychydig welliantau. Ty Y CYFFREDIN, Iau. Cludiad JYewyddiaduron.—Mewn atebiad i Mr. Graves, mynegai Mr. Gladstone fod Canghellydd y Trysorlys yn gobeithio y byddai yn alluog i gynnyg gostyngiad yn nholl cludiad mater argraffedig ag a roddai foddlonrwydd i'r honeddwr anrhydeddus. Gorchwylion y Ty.—Ystyriai Mr. Gladstone fod y cwestiynau a ganlyn yn gyfryw ag y dylent gael eu settlo yn sniongyrchol-yn gyntaf, ysgrif Tir Iwerddon; wedi hyny y mesur Addysg yn Lloegr; Prawflwon y Prifysgolion; a'r mesur fwriedid ddwyn i mewn wedi ei sylfaenu ar adroddiad y pwyllgor ymchwiliadol i'r arferiadau a ddygid yn mlaen mewn etholiadau. Yn mlilith mesurau eraill ag yr ystyriai ef yn bwysig eu hystyried yn yr eisteddiad presenol yr oedd Ysgrif Rhyddfreiuiad, a'r Priodasau Gwyddelig. Os oedd y Ty yn teimlo parodrwydd i gynnorthwyo y Llywolraeth, awg- rymai ef am gael elsteddiadau boreuol o'r pryd hwn hyd yr oediad dros y Pnsg (llefau o 'No' a chwerthin).. Os ceid allan ei bod yn anniliosibl myned drwy yr Irish Land Bill cyn y Pasg, y cynnygiai ef wahanu yr occupation clauses. ac eraill a berthynent i dir, i ddau fesur; ac wedi myned drwy v cyntaf, ei anfon i Dy yr Arglwyddi fel mesur neillduol. Protestiai Mr Disraeli yn erbyn y cynnygiad am gael eistedd- iadau boreuol cyn y Pasg er myned drwy ysgrif y tir Gwyddelig. Fod y mesur yn un o nodwedd barhaol, ac y cymerai i fewn ddadleuaeth ar egwydd- orion sydd dipyn yn newydd, ac felly na ddylid ei brysurO drwy y Ty, ond ei ddadleu yn llawn a phwyllog. Dywedai hefyd y byddai i'r eisteddiadau boreuol amddifadu y Ty o hresenoldeh aelodau y gwisgoedd llaes, ac eraill. Gobeithiai ef. gan hyny, na byddai i'r cynnygiad gael ei wasgu i fewn. Rhoddai Mr. Gladstone rybudd y byddai iddo, ar ddiwedd pwyllgor y Tir Gwyddelig y prydnawn hwnw, gynnyg i hyny gymeryd lie am 2 o'r gloch bore dranoeth. Ty Y CYFFREDIN, Gwener. Terfysg y Red River.—Rhoddodd Mr. Eastwick rybudd, ar ran Mr. R. N. Fowler, y byddai i'w gyfaill anrhydeddus, ar y 29ain, alw sylw at y terfysgocdd diweddar yn v Red River, ac y gofynai i Is-ysgrif. enydd y Trefedigaethau am roddi yr ohebiaeth ar y mater ar y bwrdd. Trosglwyddiad Tir.-Dywedai Mr. Gladstone, mewn atehiad i Mr. Pim. nad oedd ysgrif Tlos- glwyddiad Tir, a ddygwyd i mewn gan yr Argl. Ganghellydd, yn cynnwys un wlad heblaw Lloegr. Yr oeddid wedi cael allan fod sefyllfa y gyfraith a pheirianwaith y mesur yn ei gwneud yn fwv cyfleus i ymwneud a Lloegr mewn un Bill; ond y bwriedid estyn yr un ddeddfwriaeth i'r Iwerddon. Tv YR ARGLWYDDI, Llun. Yr vchelfraint frenhinol o estyn trugaredd.-Cyn- nygiodd Argl. Penzance am gael cyfrif swyddol o'r achosion troseddolafaddeuwydyn hollol, a leihawyd, neu a newidiwyd gan y Goron, o dan gyfarwyddyd yr Ysgrifenydd Cartrefol, yn yypaid y tair blynedd diweddaf, gan ddynodi yr achosion yn y rhai yr oedd tybiaeth o ddiniweidrwydd y portion, llymder y ddedfryd, neu achosion eraill yn sail i'r ymyraeth. Honai ef mai canlyniad y gyt'undrefn hon ydoedd gwanhau effaith y dedfrydau a draddodid yn y llys. Tybiai y dylai brawdle gael ei ffurfio, yn cynnwys, os yn angenrheidiol, yr Ysgrifenydd Cartrefol, i addygu y dedfrydau draddodid ar droseddwyr.— Eglurodd Argl. Morley y rheswm a dueddai y Llywodraeth i wrthod caniatau y cyfrif. Yr oedd yn groes i bob arferiad i alw ar yr Ysgrifenydd Cartrefol i fynegu yr amgylchiadau a'i tueddai i gynghori ei Mawrhydi i estyn trugaredd i droseddwr. Nis gallai ef ddal allan unrhyw ohaith y penotfid dirprwyaeth frenhinol, ac yr oedd ef am ynigadw oddiwrth y cwestiwn eyffredinol a gyfodwvd gan Argl. Penzance. Dywedai Argl. Penzance nad oedd ynddo ef, dan yr amgylchiadau, un dymuniad am wasgu ei gynnygiad yn mlaen, a thynwyd ef yn ol. TY Y CYFFREDIN, Llun. Dienyddiad Mr. Gordon.-Mewn atebiad i Syr Charles Dilke, mynegai Mr. Gladstone, mewn perthynas i ddienyddiad y diweddar Mr. G. W. Gordon yn Jamaica, fod y mater wedi ei ada 1 yn y fath sefyllfa, fel na ddygwyd yr hawliau cyf<eitliiol cynnwysedig ynddo byth i derfyniad. 0 berthvnas i golledion neu ddyoddefiadau y we Idw. can belled ag yr oedd niwaid wedi ei wneud i'w heiddo, nad oedd tystiolaeth, yn profl natur a helaethrwydd y colledion, wedi ei gosod ger ei fron ef. Nid oedd ef yn tybied y byddai i'r mater syrthio i fewn i amcan y civil list pension fund, nac y byddai yn gyson a dyledswydd y Llywodraeth i alw sylw y Senedd at y pwnc. Derbyniadau y Telegroph.-Mynegai Ardalydd Hartington, mewn atebiad i Mr. Crawford, mai y cyfanswm a dderbyniwyd gan ddosbarth y Telegraph hyd yr 31ain o Fawrth diweddaf ydoedd £ 100,000, yr hwn a wnaed i fyny o symiau a delid am messages; ond nid oedd hwn yn gwneud i fyny y symiau a dclid am messages y wasg a special wires, y rhai na ddygwyd etto i'r cyfrif. Cyfanswm y negeseuou i fyny i'r un dyddiad oedd 1,160,000. Ysgrif Tr Iwerddon.-Rhanodd y Ty ar welliant Mr. Disraeli ar adran 3; a chaed dros y gwelliant 220; yn erbyn 296; mwyafrif 76. ♦—

GUARDIANS DOLGELLAU A'R FESTRI.

,.UY L LEU AD.