Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB CERDDOROL FFESTINIOG…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

UNDEB CERDDOROL FFESTINIOG A'R BLAENAU. Fel y mae yn wybyddus i lawer fod Undeb Cerddorol wedi cael ei ffurfio rhwng y gwahanol gapelau Annibynol yn y lie uchod, sef y rhai canlynol:—Bethel, Bethania, Jerusalem, Salem, a Carmel. Yr amca.n sydd genym mewn golwg ydyw, grymuso a choethi y gerddoriaeth gysegr- edig. Y mae personau o'r gwahanol gapelau uchod wedi eu penodi fel pwyllgor er cario yr amean yn mlaen. Hefyd, y mae y tonau canlynol i'w dysgu o Lyfr Mri. Jones a Stephens: -Elworth (M. 1), Cemaes (M. 2), St. Stephen (3), Altona(4), Mamre (5), Spires (5), Glades (6), Cathrine (7), Penllyn (8), Caerllyncoed (9), Hamburgh (10), St. Andrews (12). Hefyd, y mae dwy Chant o gasgliad yr un awdwyr, sef y 19 Salm, a'r 77 Salm, a'r Anthemau canlynol, un o'r Cerddor (rhif 72), a'r llall o'r Gyfres (rhif 10). Y mae y gymanfa wedi ei phenodi i fod yn Jerusalem, Four Crosses, y Sadwrn olaf yn Mai; a dysgwylir Mr. Stephens yno fel arweinydd.-R. D. W., Ysgrifenydd.

NEW TREDEGAR.

CORRIS A'I HAMGYLCHOEDD.

BIRMINGHAM.

YSTALYFERA.

FFESTINIOG

CAERNARFON.

'Y or DEWRYN,'