Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
R. M. RICHARDS, ESQ., CAERYNWCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
R. M. RICHARDS, ESQ., CAERYNWCH. DELit StB,-The people of Dolgellau and neighbourhood would be under great- and lasting obligations to you, if through your wide and weighty influence we could get our mails direct from Chester via Bala instead of round by way of Newtown and Machynlleth. The writer from his earliest youth has been taught, to respect the authorities of his country, and wishes as Editor of the DYDD at Dolgellau, to honor the magistrates of Merionethshire, but hopes to have fairness at their hands. It was not just or honourable to grumble at one penny a line for Advertisements in the DYDD, the only Welsh paper in the County, and at the same time justify an allowance of fourpMice a line to the Bangor Chronicle,' which has not in Merionethshire one eighth the circulation of the DYDD, which reaches every village in the county, and almost every district in Wales. I uniformly admire your ability as Chairman of our Sessions, and hope that you will do us the justice of moving that the DYDD in future should have the same allowance as the other papers. I think all of them ought to be satisfied With two pence a line. I am, Sir, most respectfully yours, SAMPEL ROBBBTS. DYDD Office, Dolgellau, Jan. 19,1870. 1. Nid yw y DYDD ddim yn tybied y bydd i breswylwyr Dolgellau a'r cyhoedd dram- gwyddo wrtho am ddeisyfu ar yr ynad o Gaerynwch roddi ei ddylanwad i gael eu llythyrau iddynt yn y ffordd unionaf. 2. Nid oedd yn gamgymeriad i grybwyll fod cylchdaeniad y DYDD yn Meirionydd yn fwy wyth waith na chylchdaeniad y 'Chronicle.' 3. Os ydyw cwarter trethdalwyr Meirion- ydd am gael yr Hysbysiadau drwy 'Chronicle' Bangor yn hytrach na thrwy DDYDD Dolgell- au, y mae y DYDD yn berffaith ewyllysgar i hyny. Nid oedd ynddo ddim awydd ond i wneud, am bris rhesymol, y gwasanaeth ag ydoedd bwrdd yr ynadon wedi roddi iddo. 4. Os darfu i 01. y DYDD wrth gyfeirio at 'ability' y Cadeirydd, dalu compliment mor uchel iddo fel ag i achosi 'blushes' ar ei ruddiau, y mae yn wir ddrwg gan y Gol. am ei amryfusedd, a rhaid iddo wylio o hyn allan rhag y fath gyfeiliornad. Gan fod cynnrych- iolwyr y newyddiaduron eraill wedi cael eu cyfarch o'r gadair, rhyfygodd Gol. y DYDD godi, heb ei alw, i gynnyg gair o eglurhad ar y 'nodyn' oedd wedi achosi y fath ddifyrwch; ond yr oedd y 'blushes' a'r smiles o'r gadair yn ormod iddo sefyll o'u blaen. Mawr dda i enaid llydan llawen y Cadeir- ydd o'r difyrwch digyffelyb a gafodd wrth ddarllen mor or-ddoniol, dan y fath beautiful blushes, ar osteg y llys, lythyryn Gol. y DYDD. Hir oes i'r blushing Chairman gael llawer etto o'r fath sport. Hoffai Gol. y DYDD wneud yr oil a'r a allo er refinio ei ddifyrwch. A dichon y gall y blushing Chairman fforddio rhoddi tipyn o sport i'r Hen Olygydd: for an Old Editor can afford to smile and blush pan y bydd ustus mawr- frydig yn ymostwng ac yn blushio yn ei gadair i geisio gwneud sport o Hen Olygydd. Boed i'r ddau frawd o hyn allan ymroi i gael am y mwyaf o sport yn eu hen ddyddiau. Dichon y bydd i'r Cadeirydd fod mor fonedd- igaidd a darllen y llythyr hwn yn Sessions nesaf yr Ustusiaid, ac yn Penny Readings plant lleiaf yr Olyniaeth.
JOHN BRIGHT, A.S.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JOHN BRIGHT, A.S. BWLCH llydan yn ymdriniaeth y Senedd ar bynciau pwysfawr sydd wedi bod dan ei hystyriaeth yr wythnosau diweddaf ydoedd absenoldeb MR. BRIGHT; ac yr oedd y wlad yn teimlo yn ddwys am fod hyny yn cael ei achosi gan afiechyd. Bu y gair ar led ei fod am roddi ei swydd i fyny fel Llywydd Bwrdd Masnach; ac yr oeddid yn ofni y buasid yn ei golli, nid yn unig o'r Senedd, ond o bob cylch o ddefnyddioldeb cyhoeddus. Ond da genym ddeall fod y gobaith am adferiad ei iechyd i'w nerth arferol yn cryfhau; ac y mae ei gyfeill- ion yn hyderu y bydd yn alluog i ddyfod allan i faes eang, pwysig, gwasanaeth ei wlad erbyn adgyfarfyddiad y Senedd ar ol y Sul- to,,wyn.
INDIA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
INDIA. GAN fod India yn rlian mor bwysfawr o ym- erodraeth Prydain, dylai pob newydd oddiyno fod o ddyddordeb i ni. Y mae y reilffordd fawr o Bombay i Calcutta newydd gael ei hagor i bob trafnidiaeth; ac y mae dwy eraill yn nghanol y wlad wedi cael eu gorphen. Bydd lluosogiad cyfleusderau felly yn foddion i ddwyn allan adnoddau y wlad eang, oludog hbno; a thrwy hyny yn gefnogiad i fasnach Prydain ac India. Yr oedd treuliau llywodr- aeth India y ddwy flynedd ddiweddaf yn fwy na'r cyllidau. Yr oedd y treuliau yn 1868 yn 54 miliwn, tra nad oedd y derbyniadau ond 51 miliwn. Yr oedd y treuliau yn 1869 yn agos i 64 miliwn, tra nad oedd y derbyn- iadau ond 53 miliwn. Ond hyderir fod rhan helaeth o'r gwario wedi bod ar welliantau a dalant yn dda yn yr amser a ddaw. Yr holl wario a wneir i borthi diogi a llygredd y gwersylloedd a sefydliadau milwraidd sydd yn warth, a melldith, a dinystr i wlad, ac nid traul gwneuthuriad reilffyrdd a gwelliantau cymdeithasol. Ar achlysur cyflwyniad banerau yn ddi- weddar i'r fyddin yn Nusseerabad, gweddi- wyd trwy linynau y pellebyr gan archddiacon yr esgobaeth, yr hwn oedd ar pryd yn Bom- bay. Os oedd eisieu gweddto dros y banerau, dichon y buasai yn Ilawn cystal i'r aich- ddiacon anfon ei weddi y ffordd unionaf at yr 'Orsedd fawr,' yn lie trafferthu wires y pellebyr; ond dichon fod yr hen wires rhwng Eglwys Bombay a'r nefoedd allan o gywair ar y pryd. Gresyn hefyd na buasai rhywun oedd yn y fan a'r He pan gyflwynwyd y banerau rhyfel, rhywun mewn coat ddu neu goat goch yn medru dweyd neu wneud rhyw fymryn o weddi ar achlysur o'r fath ddyddor- deb i'r eglwys filwriaethus. Yn ddiweddar, mewn lie yn India o'r enw Jouqpore, darfu i weddw, yn ol yr hen ddefod baganaidd, losgi ei hun gyda chorff ei gwr; ond y mae y perthynasau ddarfu ei chymhell i hyny wedi cael eu dedfrydu i saith mlynedd o garchariad, a'r edrychwyr o'r pentref oedd- ynt yn cylchynu y tan i dair blynedd o garchariad. Gan fod y llywodraeth wedi sefydlu cyfraith yn erbyn llofruddiaethau y fath goelgrefydd, y mae'n deg ac yn briodol iddi anrhydeddu ei chyfraith, a defnyddio llymder os bydd raid er attal y fath farbar- eidd-dra.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
t — Y mae llywodraeth Awstria newydd ostwng pris y telegraphs trwy yr ymerodraeth. Y tal o hyn allan fydd 9c. am ugain gair i bellder o 48 milldir o'n mesuriad ni, a Is. 2c. os bydd y pellder yn fwy.
YSGOLION TRETH YN AMERICA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSGOLION TRETH YN AMERICA. AR ol yr holl ganmol sydd wedi bod arnynt, a'r mawrygu y lies y maent yn wneud, y mae yr argoelion o hyd yn lluosogi ac yn trymhau y' byddant yn debyg o fod yn fagl ac yn brofedigaeth i ddeddfwyr a llywodraethwyr a threthdalwyr a gwirfoddolwyr America. Y mae miliynau o ddoleri yn barod o'r trethoedd cytfredin01 yn cael eu rhoddi yno bob blwydd- yn at ysgolion credoau a defodau y Pabyddion* Talwyd pedwar can' mil o ddoleri yn ninas New York yn unig, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, tuag at sefydliadau addysg y Pab- yddion. Talwyd hyny o'r trethoedd cyffredin, ond tuag at ddysgu credoau a defosiynau SECT. c Z3 A beth ydyw hyny ond sefydliad gwladol o grefydd yn ymnyddu ac yn ymwthio yn y moddau cyfrwysaf drwy holl gylchoedd cym- deithas1 Y mae'n eithaf teg i'r Pabyddion gael eu catecismau a'u defodau sectol, ond iddynt eu dysgu a'u dilyn drwy foddion teg, heb drethu eiddo a gormesu ar gydwybodau eu cyd-ddeiliaid. Y ffaith yw, y mae plant ac *yrion hen gredoau a hen Eglwysi sefydl- edig Ewrop yn dylifo i'r Unol Daleithiau wrth y miloedd; ac y maent am gario egwyddor anghyfiawn eglwysi ac ysgolion treth gyda hwy i bob man; a rhaid i lywodr- aethwyr America ddeffro yn gyfiawn; a bod ar eu gwyliadwriaeth, neu ynte cant eu hun- ain, er eu holl ymffrost o'u rhyddid crefyddol, wedi ymddyrysu yn rhwydau, ac yn ymwingo ac yn ymdreiglo yn llyftetheiriau hen eglwysi sefydledig. Y mae Eglwys Rhufain yn diwyd blanu ei hysgolion drwy daleithiau a dinasoedd America; ac enaid ei holl gynllun- iau o addysg ydyw, cael ei chredoau i'w hysgolion, a chael trethoedd y wlad i'w cynnal; a dichon y gwesgir eglwysi eraill i ddilyn ei chynlluniau, mewn ffordd o hunan-amddiffyn- iad; ac y bydd i grefyddau sefydledig— crefyddau treth, drwy hyny estyn eu gwraidd a'u brigau gwenwynig i galon ac i holl gyrau y wlad. Dichon y caiff America fawr ddeall, drwy brofiad gofidus, y buasai yn well iddi adael i'w hysgolion yn gystal a'i heglwysi, fyw yn iachus, a chynnyddu yn naturiol ar y Drefn Wirfoddol. Y mae digon o nerth bywyd ynddi at y gangen hyny o'i gwaith; ac y mae yno bob cyfiawnder o foddion i faethu ei bywyd a'i gweithgarwch. Os a Taleithiau America yn mlaen ar eu gyrfa bresenol, neu yn eu dull prescnol, i waddoli ysgolion credoau pabaidd a sectau eraill, byddant bob yn dipyn yn llawnion o eglwysi sefydledig, neu o gredoau gwaddoledig, dan yr enw catholig- aidd, parliamentaraidd—'YSGOLION GWLADOL.' +
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
<CADW AMSER.' Y MAE 'cadw amser' yn gamp o les mawr mewn teulu, mewn eglwys, ac mewn gwladwriaeth. Y mae peidio cadw amser mewn unrhyw gylch cy- hoeddus yn niwaid moeso), ac yn golled arianol i gymdeithaa. Ddydd Mercher diweddaf ydoedd dydd Cwarter Sessions Meirionydd. Yr oedd y Rheithwyr wedi cael rhybudd, dan sel y Sirydd, i fod yn y Llys am ddeg yn y bore; a geiriau olaf y rhybudd oedd,—'Fail not at your peril.' Yr oedd yno tintai hardd o honynt wedi cyfarfod yn brydlawn wrth y LIysdy, am ddeg, yn ol y rhybudd; ond yr oedd y pyrth yn gloedig am bron dri chwarter awr ar ol hyny; ac yr oedd yn ymyl awr ar ol amser y rhybudd pan y daeth Cadeirydd y Sessions i agor y Llys. Collwyd felly awr o amser gwerthfawr wyth a deugain o Reithwyr, arferol o fod yn ddiwyd yn eu galw- edigaethau. Yr oedd hyny yn golled bwysig mewn llawer cysylltiad. Erfyniwn yn ostyng. edig i Gadeirydd y Cwrdd Cwarter a'i gyd-ynad- on gymeryd y peth at eu hystyriaeth, er ysgoi colledion a niweidiau felly yn yr amser a ddaw. Carem ofyn i'r Sirydd neu i'r Cadeirydd, a fuasai rhyw 'peril' ar y Rheithwyr pe yn troi at eu galwedigaethau pan nad oedd neb i'w derbyn i'r Llys dri chwarter awr ar ol amser y rhybudd?
Y 'DYDD'0 FLAEN YNADON MEIRIONYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYDD yn y lie, ond ni ofynwyd iddo agor ei enau. Darllenwyd o'r gadair nodyn ag oedd wedi anfon yn Ionawr at R. Mercdyth Richards, Ysw., o Gaerynwch. Cafodd y Cadeirydd dipyn o sport cyu darllen, ac wrth ddarllen, ac yn enwedig ar ol darllen y nodyn hwnw. Y r oedd ei lygad a'i wefus a'i blushes a'i smiles yn eloquent annarluniadwy; a sylw- odd ei fod am wisgo ei blushes' goreu wrth ei ddarllen. Ni ddarfu i 01. y DYDD ddim dychymygu y byddai i'w nodyn gael yr anrhydedd uchel o fyned drwy Gaerynwch i lysdy ynadon Meirionydd. Gan iddo achosi y fath grechwenau a'r fath blushes,' byddai yn werth iddo ysgrifenu nodyn etto i Gaeryn- wch er creu y fath ddifyrwch. Estynwyd y llythyr i'r Reporters' i gael ei gyhoeddi yn Bangor a manau eraill. Ni ofynwyd am i'r DYDD ei gyhoeddi, ond medr y DYDD wneud dichon o'Jlaen ei gymydogion; a thebyg i hyn ydoedd ei eiriau:—