Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

eYR, EULUN TOBACO.'

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

eYR, EULUN TOBACO.' MR. GOL.Yn eich rhifyn am Mawrth y 15fed, ym- ddangosodd ysgrif fer dan y penawd uchod, oddiwrth un o'r enw R. T. Williams. Y mae yr awdwr yn cymhell cyfeillion yr eulun i dd'od allan i'r maes agored i'w amddiffyn. Bid siwr, y mae Mr. Williams, pwy bynag yw, wrth wneud hyny, yn dangos ei fod am ladd yr eulun mor fuan ag y byddo modd. A chan fod rhyfel wedi ei chyhoeddi yn erbyn' yr eulun, ystyriwn hi yn deg a rhesymol i'r gwrthwynebwyr ddangos pa ddrwg a wnaeth yr eulun iddynt hwy, neu i'r wlad, yn gymdeithasol, yn wladol, yn deuluaidd, neu yn grefyddol. Nid yw resymol ymosod ar hawliau a llywodraeth unrhyw eulun, heb yn gyntaf brofi anghyfreithlondeb ei sefyllfa, a'i fod yn gwneud mwy o ddrwg nag o dda yn y sefyllfa hono. Gallwn ddangos fod yr elw sydd yn deilliaw oddiwrtho wedi cadw ein gwlad rhag suddo dros ei phen i ddyled wladol, ac wedi cadw trethi trymion rhag cael eu gosod ar ysgwyddau gweiniaid deiliaid y llywodraeth. Efallai nad ydyw R. T. W. wedi meddwl yn ddigon pwysig a difrifol am y cyfrifoldeb y mae wedi gymeryd arno ei hunan, wrth anturio i'r maes yn erbyn eulun, yr hwn y mae ei • fawrhydi yn cael ei gydnabod gan dywysogion, duciaid, pendefigion, rhaglawiaid, trysorwyr, cyfreithwyr, treth- wyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau enwocaf a fedd y ddaear. Y mae yr eulun yn fwy defnyddiol nag y mae R. T. W., a'r 'Dyn a'r baich drain' wedi meddwl am dano erioed. Gall Bet a Sal ac Ann, ddywedyd yn rhagorol am ei ddylanwad goruchel yn cadwyno Will, Ned, a Jack, wrth ochr y tan mor dawel a thair dafad, rhag myned i'r dafarn i wario mewn awr fwy nag a werir mewn wythnos ar y tobaco. Y mae genym fil o resymau dros arfer tobaco. A gwyr pob dyn call fod mil yn rhif perffaith, wedi ei wneud i fyny o'r round number ten. a hwnw wedi ei luosogi iddo ei hun ddwy waith drosodd. Y mae tobaco yn ddefnyddiol ragorol i berchenogion y plantations, ac i'r gweithwyr tlodion sydd yn cael eu bara beunyddiol oddiwrtho. Y mae yr eulun yn llawer mwy trugarog i'r dosbarth gweithiol nag yw Senedd Lloegr. Darfu y Senedd ryddfrydol ymddifadu miloedd o dlodion o waith, a'u danfon hwy a'u plant yn gwbl ddiseremoni, i fyned o ddrws i ddrws i fegio eu bara. Ni chymerai yr eulun ddim a welodd erioed ag ymddwyn mor galed a dideimlad at ei gyfeillion ag yr ymddygodd y Senedd at weithwyr tlodion Woolwich Dockyard. Nid troi dynion allan o waith, a'u gadael heb un ddarpariaeth ar y ddaear wedi ei darparu ar eu cyfer y mae yr eulun. Y mae yr eulun yn dosbarthu llafur a chynnaliaeth gyffredinol y deiliaid yn llawer mwy teg, cyfiawn, a chyffredinol, nag y darfu y Senedd pan y trodd y miloedd punnau i'r pensioners hyny, nad oedd y rhithyn lleiaf o'u hangen arnynt. Y mae y gwasanaeth y mae yn wneud i'r gymdeithas ddynol trwy employio dynion yn ei waith, a'u talu yn dda M yn rheolaidd, haf a gauaf yr un modd, yn annhraethol fendithiol. Ac y mae yr eulun, trwy ei lafur a'i wasananaeth dyfal-barhaol, wedi esgyn i'r lleoedd uchaf, anrhydeddusaf, a mwyaf dylanwadol yn yr holl fyd. Y mae yn cael y lie goreu yn y palasau gwychaf a chyfoethocaf ar y ddaear. Y mae hyd yn nod brenhinoedd ac ymerawdwyr yn talu gwarogaeth iddo, gan ddywedyd, '0 frenin, bydd fyw yn dragywydd.' Ac hefyd, yn ol y 'Dyn a'r baich drain,' y mae wedi esgyn yn uwch na'r orsedd,-y mae wedi myned i'r 'pulpudau,' ae wedi gosod ei sawyr ar y 'pregethau,' ac wedi peri i ambell hen ysmociwr eistedd yn dawel fel oen am awr hirfaith, i wrandaw pregeth tra amddifad o sawyr ymenydd. Nid peth bach dibwys yw gwneud pethau fel hyn. Y maent oil yn brawf anwadadwy o originality yr eulun. Deued Mr. R. T. W. i'r maes, yr ydym yn penderfynu amddiffyn yr eulun; a dymunaf arno beidio dywedyd dim am yr eulun, nad ellir ei brofi drwy evidence, yn ngoleu y DYDD glan gloyw. Os ydyw yr eulun yn gormesu, neu yn tra-arglwyddiaethu ar unrhyw etifedd- iaeth neu eiddo nad yw yn briodol yn eiddo iddo, yn dymmorol, gwladol, ysbrydol, neu foesol, dangosed ei wrthwynebwyr hyny yn deg a boneddigaidd, cyn gwneud un osgo at ei gondemnio i farwolaeth. Nid wyf yn gwybod pwy yw R. T. W.; y mae cymaint o'r un enw fel y mae yn anmhosibl i mi allu gwybod pwy yw. Ac am hyny, yr wyf yn cadw fy enw yr un mor ddirgelaidd ag yntau, drwy ddywedyd,-PLATO.

AT BWYLLGOR ATHROFA Y BALA.

CYFARWYDDIADAU I YMFUDWYR…

BALA.

BORO', LLUNDAIN.

MEUDWY FFESTINIOG, A CHANU…