Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

wI 1.il1II'1' ^. "Y" MVNACHDAI…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

w 1.il1II'1' "Y" MVNACHDAI A'R LLEIANDAI. Bu Mr. Newdegate yn llwyddiannus yn y Senedd, Mawrth 29, drwy fwyafrif o 2, i gael penodi pwyllgor i wneud ymchwiliad i'r sef- ydliadau uchod yn Mrydain. Y mae bod y fath gynnygiad wedi llwyddo yn y Senedd bresenol yn arddangosiad eglur o'r drwgdyb- iaeth dwfn sydd yn y wlad am y nythleoedd hyn. Ni bu Senedd erioed yn fwy pleidiol i gydraddoldeb crefyddol, nac yn fwy gwyliad- wrus i ochel pob math o ymyriad a hawliau cyfreithlon unrhyw enwad crefyddol. Dan y pie hwn y ceisia amddiffynwyr y sefydliadau hyn ymgyfgodi: honant fod eu crefydd yn dysgu iddynt gyfreithlondeb, neu yn hytrach deilyngdod, bywyd mynachawl, a bod eu cyd- wybodau yn eu hannog i'w ddilyn. Pa fodd bynag, edrychir ar y lleoedd hyn yn bresenol gan y mwyafrif o'r Saeson gydag anymddiried hollol; a bu y ddau achos fu gerbron y wlad yn ddiweddar yn foddion effeithiol i'w gweithio i hynyma, sef ystori Barbara Ubryk, yr Ellmynes; a phrawf enwog 'Saurin yn erbyn Starr.' Wedi y chwilio a'r chwalu fu ar yr achos diweddaf, anhawdd ymattal heb ddyfod i'r penderfyniad fod ymchwiliad yn llwyr angenrheidiol i'r ffauau creulondeb ac aflendid hyn. Gobeitbiwn y cymerir i fewn bob math o sefydliadau lie y byddo meibion a merched yn cyd drigo dan unrhyw fath o rwymau crefyddol, ac na bydd i'r pwyllgor ymchwil- iadol aros yn unig gyda'r sefydliadau Pabaidd. Os gwneir hyn, bydd Mr. Newdegate, drwy ei ddyfal-barhad, wedi llwyddo i roddi cam yn yr iawn gyfeiriad, ac mewn canlyniao i "wneuthur gwasanaeth dilfawr i'r wladwriaeth.

GLASYNYS WEDI MARW!

Family Notices

flRatcbnaborbb J)t lllftvtbnos.

Advertising

BORO', LLUNDAIN.