Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

BIBL TALIESIN, FFESTINIOG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BIBL TALIESIN, FFESTINIOG. DAEAREG A GEN. I.—CHEMISTRY A'R ADGYFODIAD. 'Siaradai efe am ddoethion Corinth, a phwnc yr adgyfodiad. Gofynaf iddo, a ydyw holl ieithwyr a duwinyddion yr oesau wedi taflu y filfed ran o'r goleuni ar bwnc yr adgyfodiad ag y mae y fferyllydd wedi ei daflu arno F 'Nid oedd Duw erioed wedi bwriadu i neb ddeall pwnc neu athrawiaeth y creu drwy ddarllen llyfr Moses yn unig. Na! yr oedd wedi gweled yn dda i beri i ddeddfau anian ysgrifenu esboniad ar y bennod gyntaf yn Llyfr Genesis ar greigiau y ddaear, a mil myrddiwn gwell esbon- iad na fedrodd y so called divines droi allan erioed o un wasg. Yr eiddoch yn serchog, Ffestiniog, Chwef. 8. TALIESIN.' (O'r DYDD am Chwef. 18, 1870). Y MAE y dyfyniadau uchod o'r papyr a anfon. odd Taliesin i'r DYDD am Chwef. 18 yn galw am sylw. Ni byddai yn deg i'r darllenydd eu gadael yn ddisylw. Cawn ddechreu ar yr olaf, sef pertffynas Daeareg a Gen. i., am fod creadigaeth yn blaenori yr adgyfodiad. Yn y dyfyniad uchod, dywedir 'nad oedd Duw wedi bwriadu i neb ddeall pwnc neu athraw- iaeth y creu trwy ddarllen llyfr Moses yn unig.' Pwy ddywedodd hyn wrth Taliesin? Ai Duw y Creawdwr, ynte Taliesin a'i dywed- odd wrtho ei hun? Gwell yw iddo ef a ninnau heb soliloquies o'r fath. Diau na ddywedodd Duw hyny wrth neb. Pa ddyben fel yna oedd ysgrifenu 'llyfr Moses' o gwbl? Ag i ni i dybied mai I pwnc y creu,' sef creadigaeth neu C, wneuthuriad cyntaf y ddaear, ei gwneuthur- iad o ddim, sydd mewn golwg yn Gen. i. 1, pa ddyben oedd ysgrifenu yr banes os na fwriadodd Duw i neb ei ddeall? Y mae hyn yn rhyw athrawiaeth hynod. Ag i ni i feddwl mai Duw a orchymynodd i Moses ac a'i cynnorthwyodd i ysgrifenu yr hanes, y mae yn syn iddo orchymyn i'w was ysgrifenu llyfr neu bennod o lyfr annealladwy a di- ddefnydd. Y mae hyny yn groes i'w ymddyg- iadau o bavthed i ysgrifeniadau hanesyddol eraill o'i eiddo. Dyna bennod, o leiaf, yn Genesis, yn ol athrawiaeth Taliesin, yn ddi- ddyben. Cystal felly yw ei thori ymaith o'r Pum' Llyfr, a pheidio ei hargraffu mwyach, mwy nag ysgrifeniadau diddefnydd eraill; ac c' y mae lluaws o honynt ar hyd y byd; a da ydyw os nad yw Taliesin yn chwanegu at y stock. Ond, i'm bryd i, ac ambell un arall mwy cyfarwydd na mi yn y myfyriaethau hyn, nid am greadigaeth wreiddiol neu gyntaf (absolute) y ddaear yr ysgrifena Moses yn Gen. i., ond am wneuthuriad y ddaear, yr hon oedd yn bod eisoes, i ateb dybenion neillduol fel preswylfa dyn, ei phrif drigiannydd. Nis gallaf lai na meddwl mai hyn yw syniadau Moses yn y bennod uchod. Hynod mor wahanol i'w gilydd yw deall dynion o'r ben- nod hon, neu eu chwaeth neu eu dychymyg. Y mae dwyn Daeareg yn mlaen yma, a pheri 'i ddeddfau anian ysgrifenu ar greigiau y ddaear esboniad a mil myrdd o oleuni' ary bennod, mor ddiangenrhaid a dioleuni i mi a phe dygid Decimals a Vulgar Fractions yn mlaen i esbonio Gen. i. Cawn gymaint goleuni ganddynt hwy ar y bennod ag a gawn gan Ddaeareg ac 'esboniad deddfau anian ar greigiau y ddaear,' sef yw hyny, dim yn y byd. Meddyliwyf ddarfod i Moses ysgrifenu ei wers ef ei hun, nid y wers a rydd rhai daearegwyr iddo, mor oleu a dealladwy nes y gall y darllenydd ei liunan ei deall wrth ddarUen heb angen goleuni oddiwrth 'esbon- iad deddfau anian ar greigiau y ddaear,' nac ar un sylwedd daearol arall. Ydyw, y mae mor oleu ei hun ag y gorchymynwyd i Habacuc i ysgrifenu ei weledigaeth yntau ar lechau, 'fel y rhedai yr hwn a'i darllenai.' Ond o ddwyn daeareg ac esboniad y creigiau yn mlaen i'r bennod hon, nis gall y darllen- ydd na rhedeg na darllen. Os cynnygia redeg, tery ei grimogau wrth un neu y llall o'r creigiau' henafol nes eu dolurio, ac ochain o hono yntau gan boen. Os cynnygia ddarllen, dyna gyff a gwreiddiau hen bren cynfoesesig, neu grug aruthrol o gregin nad oes daearegydd a wyr pa mor oedranus ydynt, neu weddillion rhyw megatheria o oesau boreu y ddaear yn tywyllu rhyngddo a'r tudalen wiw, ac yntau yn methu yn lan a darllen na deall. Tyner y cysgodau hyn o'r ffordd a daw goleu tros y Ilith, a gwna yntau ddarllen a rhedeg, a chanu hefyd foliant i'r Creawdwr bendigedig. Y mae llawer o athrawiaeth daeareg ac esboniad y creigiau yn athraw- iaeth y cyfnewidiadau a'r dadymchweliadau ar greadigaethau neu ffurfiadau blaenorol. Atbrawiaeth Moses, o'r tu arall, sydd yn unig yn athrawiaeth ffurfiadau newyddion ar ol eu gilydd, heb ddim dadwneuthur na dinystrio yr hyn a wnaed o'r blaen. Pethau newyddion sydd ganddo ef o ddydd i ddydd dros y chwe' dydd, heb ddim yn cael ei ddinystrio ganddo heddyw o'r hyn a wnaed ddoe ac echdoe. Yn Gen i. ni sonia Moses am hen breswylwyr y ddaear, na'r cyfnewidiadau a gymerasant le ami cyn y pryd y gwelai efe hi, ac yr adroddai wrth ei ddarllenydd ei bod hi, yn afluniaidd a gwag;' dim am ei hanifeiliaid na'i thyfieint na'i chreigiau. Ei orchwyl ef yn unig yw adrodd hanes yr hyn a wnaed arni oddiyno yn mlaen hyd nes y daeth dyn arni. Yn Gen. i. nid yw yn atebol chwaith am gyf- newidiadau a allasent dd'od tros y ddaear wedi ymddangosiad Adda arni, ai trwy ysgydwadau a chrynfaau, ai trwy ddyfroedQ. y diluw. Diau ddyfod cyfnewidiadau mawrion ar ei harwyneb mewn manau gan y dyfroedd nerthol yma. Anmhosibl oedd i 'ffynnonau y dyfnder mawr' gael eu rhwygo a'u liagor heb lawer o drais ac ysgydwad a drylliad. Ac os ceid dynion ac anifeiliaid a choedydd yn rhai o'r holltau dyfnion yma lie na ddysgwylid eu gweled, nid yw Moses o lierwydd hyny i'w ddal yn euog o fod yu 'ysgrifenydd annigonol ac anmherffaith ei hanes yn Gen. i., a bod eisieu cael goleu arni gan esboniad y creig- iau.' Y mae ei hanes am yr amser a'r gwaith j y soma am danynt yn ddigonol a chyson, yn oleu a dealladwy, heb esboniad o graig yn y byd. Ar y tir a goffeir yn y dyfyniad blaenorol, heblaw fod Moses yn ysgrifenydd diddefnydd am iddo ysgrifenu pethau nad allasai neb eu deall trwy ddarllen yr ysgvifen yn unig cyn gwybod I esboniad deddfau anian ar greigiau y ddaear,' y mae yn ysgrifenydd twyllodrm; ac os yn dwyllodrus, yn ddrygionus hefyd. Parodd ei ysgrif i'w genedl ac i eraill hefyd feddwl mai am wneuthuriad y ddaear wedi yr amser pryd yr oedd yn afluniaidd a gwag' yr ysgrifenai, ac y maent yn meddwl hyny hyd heddyw. Ond erbyn edrych, yn ol y dyfyniad uchod, rhyw fath, math anmherffaith iawn, o ysgrifenu ar ddaeareg a wnaeth, fel y mae eisieu esboniad y creigiau i egluro yr hyn sydd dywyll, a chysoni yr hyn sydd yn wyrog. Dan rith ysgrifenu am wneuthuriad y ddaear i ateb ei dybenion priodol fel preswylfa i ddyn, ysgrifenu y mae efe am rai ffurfiadau newyddion ar ei gwyneb, tra heb son gair am y eyfnewidiadau ag oeddynt yn myned yn mlaen arni ac ynddi, y rhai na wyddys pa bryd y dechreuasant nae y dybenasant. Ar y trydydd dydd, medd Moses, fe gasglwyd y dyfroedd i'r un lie, a sychwyd y ddaear; ond yn ol esboniad y creigiau, yn hytrach yn ol amgyffred rhai pobl o esboniad y creigiau, cymysgwyd hwynt drachefn, a Moses ei hun heb ddywedyd gair am hyny nac am y dydd y gwahanwyd hwynt eilwaith. Ar yr un dydd yr eginodd y ddaear egin, llysiau yn hadu, a phrenau yn dwyn ffrwyth; ond yn ol esboniad rhai pobl a arferant y gair geology, ac heb ddim pellach, dinystrwyd yr holl egin a'r llysiau a'r coedydd hyn, a Moses heb hys- bysu ei ddarllenydd o'r difrod, nac yn son am beri ymddangosiad rhai eraill yn eu lie, na'r dydd at hyny. Ar y pummed dydd heigiodd y dyfroedd ymlusgiaid byw, a chafwyd ehed- iaid i ehedeg uwch y ddaear;' ond yn ol yr esboniad bendithfawr hwn, cawsant oil eu dinystrio, ac eraill eu creu yn eu lie, peth a ddylasai Moses ei goffau; ond pa bryd nid yw yr esboniad yn ei enwi, mwy na Moses ei hun. Os nad yw y dull hwn o ysgrifenu yn dwyll- odrus, pa ddull sydd? Y mae hwn yn gyhuddiad trwm yn erbyn Moses, ond yn un cywir, os nad ellir deall ei ysgrifen heb esbon- iad y creigiau, esboniad sydd etto ei liunan heb ei ddeall ond yn rhanol. Yn wir, y mae y cyhuddiad yn d'od yn erbyn ei Feistr hefyd, os tybiwn mai ar arch neu trwy gydsyniad a chymhorth ei Feistr yr ysgrifenodd y bennod hon a'r un ganlynol yn Genesis. 'Ond ai dyn yw Duw i ddywedyd celwydd?' CAMFYR. (Chemistry a'r Adgyfodiad yn y nesaf.)

[No title]