Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Y CRONICL A'R OGOFAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y CRONICL A'R OGOFAU. Gwell fuasai genyf alw pob cyhoeddiad i gyfrif na'r Cronid, am fy mod yn un o'i blant; 11 n efe ddysgodd fy mysedd i ryfela. Nid oedd yn llyfrgelloedd y wlad lie fy maged ond Beiblau i fyw yn dduwiol wrthynt—Croniclau a Dysged- yddion i ddweyd hanesion byd ac eglwys, ac Almanac Gaergybi i ddweyd yr arwyddion a'r amserau, /i Y mae genyf y gwaith goiidus o alw y Cromcl i wyfrif am ymosod ynangharedig ac anghyfiawn ar un o'i gyfeillion ftyddlonaf, Bismark, trwy ei osod yn mhlith y rhai a eilw yn deulu yr ogof- au, am iddo ysgrifenu i'r DYDD ddau lythyr ar 'Y Pwyllgor Mawr.' Anghyfreithlon am fod B. wedi galw ei lythyrau yn ol, arwyddo ready made apology, talu y swm gofynol er boddhau yr erlynydd, a chanddo yn ei logell settlement fel hyn yn gywir, gyda'r eithriad y gadawn yma y swm heb ei nodi, yn nghydag enw y twrne. Caiff y cy- hoedd hyny eto pan y cyhoeddir y llythyrau, &c., yn llyfryn. Gwneir hyny pan y delo stop ar yr eirchion am danynt. Y settlement:- Jones v. Davies, article in the Dydd. Reed. the 3rd of May, 1876, from Mr. D. S. Davies, the sum of in full settlement of the above mater, subject to the apology being published by the Editor of the DYDD, £ "Published by the Editor of the Dydd," sydd yma, chwi welwch. Cafodd ei chyhoeddi yn yr Herald, guaranteed 25,000 copies; hefyd yn y Faner; nis gwn ei rhif. Nid eedd y galw yn ol, y talu, y cyhoeddi mewn tri phapyr, yn ddigon, gellir casglu, oblegid dyma'r Cronid yntau yn codi'r peth i'r gwynt—rhoi pwt i'r eweh yn bellach i'r dwfr, a dweyd fod ysgrifenydd ogof bellach i'r dwfr, a dweyd fod ysgrifenydd ogof y DYDD yn addef ei fod wedi "camddarlunio," ei fod wedi ei "ddynoethi," &c. Nid ei ddy- noethi gafodd B., ond rhoddi ei hun i fyny yn anrhydeddus, gan gredu, y pryd hyny, y setlid yr achos felly. Nid yw B. wedi colli'r gyfraith —ni ddewisodd geisio enill. Nid camddarlunio sydd yn yr apology, ond gair llawer ysgafnach (peth digon rhyfedd hefyd), "camliwio." Gellir golchi yn mron bob lliw ymaith, ail baentio'r hen gwpwrdd, lliwio gwyneb hagr. Nis gellir ail-lunio'r naill na'r Hall heb ea nivvcidio. Nid wedi lluchio tipyn o Iwch hyd y darlun pryd- ferth yr oedd B., ebe'r Cronid, ond a'i bwyntil ddu, a'i law anghelfydd, wedi ei "gamddar- lunio," a hyny i'r fath raddau fel mai dwywaith y mae yn cael cipolwg ar y gwir yn y ddau lythyr ar y Pwyllgor mawr, pa rai ydynt lathen a haner o hyd o leiaf. Sonia'r Cronid am ryw ddau haner modfedd o eiriau o honynt, a dywed, 'l0fnv)yf fod peth gwir ynhyn." "Peth gwir," ychydig fel pupur mewn potes, a hyny ddim ond mewn modfedd o'r llathen a haner. Y casgliad, a dyna ddywed pawb, yw fod y naw modfedd a deugain eraill yn anwireddau. Os yw'r casgliad yna yn deg, dyna charge ofnadwy yn erbyn Bismark, 59 inches o lie! Ni soniodd y twrne am y fath beth. Ni ddyfynodd air o'r llythyrau a'i nodi fel anwiredd. Ni soniwyd am hyny, ond y "camliwic" yn yr apology. Ond yma, "ofni" yr ydys gweled crap ar y gwir. Edrychir yn ddirmygus ar yr ogof a llathen a haner o gelwydd ar ei thalcen. Yn awr, Cronicl, pa anwireddau ydynt? Pa un ai rhai mawr ai thai bach ydynt? Ni fynwn yr apology yn brawf; gwnaeth rhai wroity apology cyn yma er mwyn cyfleusdra, ac yr oedd llythyr y Cronid wedi ei ysgrifenu cyn i'r apology ymddangos, felly, yr y'm yn pwyso am i'r anwiredd gael ei nodi allan, a dysgwyliwn yn bryderusam hyny. Nid anwir yw pob libel. Y gwir mwyaf yw'r libel gwaethaf. Golyger fy mod i wedi troi yn rogue, "peilio pobl ddiniwed o lawer o eiddo, ¡ troi fy holl eiddo ar law'r wraig, fy mod yn dyrant ystyfnig, digon calon galed i ymdroi ar fy nglythau, pryd y byddai'm cymwynaawr mewn eisieu yn fy ymyl felly, ni fyddai gan neb hawl i gyhoeddi hyny, er ei fod yn wir. Gallwn gael action for libel yn ei erbyn. Felly, nid oedd dwyn y cynghaws yn erbyn Bismark yn brawf o anwiredd y llythyrau. Ond y mae r Cronid wedi gweled "yr achos" o'r apology. Yn awr, gan y gellir cael achos neu libel heb fod yn anwiredd, gadewch wybod pa beth yw'r achos neu'r libel yma; ïe, pa beth hefyd? Nid yw fod Bismark wedi gwneud fel y gwnaeth yn brawf y gallasai fod heb wybod pa beth oedd libel, a gallasai gael ei over bressio i setlo; bod rhy fyrbwyll neu rhy lwfr. Bu Bismark yn siarad a llaweroedd ar ol hyny, acyn ymholi am yr "achos;" ond rywfodd, pawb yn methu cael dim. Ni chlywodd neb yn dweyd fod libel yn y llythyrau ond twrne yr erlynydd a'r Hybarch S. R.; ac yn awr, dyma'r Cronicl yn addef ar g'oedd byd ei fod wedi gweled yr "achos/' Gan hyny, y mae genym hawl i ofyn yn mha Ie? A pha beth ydoedd? Ond, a golygu fod anwiredd a libel yn erbyn' B., nid oedd gan neb hawl i'w farnu na son am dano ar g'oedd byd. Os nofiodd ddyfroedd dyeithr, talodd y ddirwy. Nid a ond anwariaid i ymlid byddin ar ol iddi roddi ei harfau i lawr, talu, a dymuno am heddwch. Nero greulon, pe tynasai lygaid Britanicus, ni fuasai hyny yn cyfiawnhau dim ar frenin Oors y Cacwn yn myned ato yn mhen yr wythnos i grafu'r tyllau. Nid oes gan y Cronicl hawl i daflu'r un belen at B. am hyny, y mae wedi ei setlo. Ond pur debyg y caiff ambell i belten bellach tra yr ochr yma i afon angeu, oblegid y mae wedi ei osod yn yr un buarth a thad y ceffylau pren, cariwr glasdwr yr enwad, cyhuddwyr y brodyr, lluoedd o Judasiaid a dinodolion daear, a rhy- feddir na fyddent yn wrthddrych gwawd a hwt- iadau'r holl genedloedd. "Teuluoedd y gam- blinghouses yn meddu ar ormod o anrhydedd i ymddwyn fel y rhai hyn." Ydynt, a gormod hefyd o anrhydedd i daro ar lawr. Y gair nesaf o eiddo'r Cronicl y cawn sylwi arno yw, Nid ydym yn credu y buasai y gwr yu ysgrifenu fel y gwnaeth er cael ei anog." Dyna multum in parvo-un ergyd i ladd naw bran-Bismark yn gyntaf, ei osod allan fel tWl gwasaidd; ond i bwy yn awr, Cronicll ie, pwy hefyd a wyddai am un gair o'r llythyrau cyn eu hymddangosiad? Y mae llawer chwedl fawr wedi dechreu mewn hint fechan fel hyn, a rhai wedi bod yn gwaeddi celwydd, celwydd, ar hyd y blynyddau. Dichon pe yr edrychaaid i'r peth mai tebyg i hwn fuasai. Y ffordd hawddaf i ladd eryrod yw yn yr wyau; felly, na foed i neb ddal ar yr uchod nes i'r Cronicl dori plisgyn yr haeriad annheg uchod. Gadawa'r haeriad Bismark ar ol ei nodi fel careg filldir, a chyfeir- ia at rywun neu rywrai o'r tu cefn; cewch feddwl ar neb y fynoch, ond cofiwch feddwl ar rywun, a chadweh eich llygad arno hefyd. Cadw dithau, Lndependia, guard ar rai o'th blant. Gwylier am gyfleusdra i roi halen yn eu brywes. Tuedd yr haeriad yw codi cynhen rhwng brodyr, felly, yr ydym yn ei osod yn deg wrth ddrws y Cronicl fel haeriad hollol ddisail, ac yn herio neb i brofi dim yn amgen, i brofi jod un dyn byw yn gwybod amttn gair o'r llythyrau cyn eu hymddangosiad. Y bai nesaf a osodir ar Bismark, yn nghydag eraill, yw y "ffugenw." Yr y'm yn dadleu mai nonsense hollol yw hyny. Y pwnc yw'r peth yn annibynol ar yr enw. Nid yw y gemwr yn ymholi pa un ai °. enau llytfanfc ai o enau morfil y daeth y gem; ei gael y wr gamp. Pe y dy- wedasai B. fod ei enw yn Demas, ei fod wedi ei eni i gryd arian, a llwy anr yn ei safn, llawrleni sidan tan ei draed, ei fod yn" nghadw ar shelf uwchaf cymdeithas, ac na welodd erioed odre hil Adda; neu yute, pe y dywedasai ei fod wedi ei eni dan y to brwyn, ac mai trwy y corn sim- ddai y gwelsai byr awyr gyntaf erioed, ieir y mynydd, Robin Goch, a'r petris, ei ffrindiaxi boreuol; y gog, yr ehedydd, y fronfraith, a'r fwyalch ei delynorion yn moreu ei oes—ei fod wedi dechreu ymladd am ei fara beunyddiol ar ris isaf cymdeithas, pa wahaniaeth a wnaethai hyny? Pa gymhwysder, neu anghymhwysder, tuag at ysgrifenu ar Goleg y Bala? ac ar ol cael enw priodol B., beth well ydys? Pa beth ellir wneud o hono'? Pa bechodau rhyfygus a gyf- lawnodd o'r blaan1 Ni welsom ddim yn deill-
YR ANERCHIAD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
pregetha llawer iawn i'ch pobl chwi yn Me n, ac Arfon, a Meirionydd. Y mae ei.h Llywydd a minau wedi bod yn yr un cap d ac yn yr un cyfarfod cyn heddyw. Y mae y pethau hyn yn dangos y dylem ddyfod yn nes at ein gilydd. Yr wyf yn meddm 1 v gallem gydweithredu yn gamp,as mewn llawer o bethau. Dysgwn oddef ein gilydd. Dyna ardal wledig He nad oes lie i ddysgwyl cynydd yn y boblogaeth, ac wedi oi meddianu gan Annibynwyr, nid wyfyn nieddwl ei fod yn fuddiol nac yn weddus i chwi ymwthio ar ein traws ni. Dyna ardal arall wedi ei chymeryd i fyny gan Fethodistiaid, wedi ei meddianu genych chwi, lie nad oes ond pur ychydig o gynydd yn y boblogaeth, lie heb ddim gweithfeydd, nid wyf yn meddwl, o herwydd fod rhyw ychydig bersonau yn byw yno perthynol i'r Annibynwyr ei fod yn deg i ni fel enwad ymwthio a chodi capel er m wyn y ddau neu dri hyny. Y mae digon o efengyl gan y naill a'r llall o honom i'w hachub i gyd ond iddynt gredu. Y mae pobl yn siarad weithiau am ddaliadau enwadau eraill, fel pe b'ai wenwyn mawr ynddynt. Fe dybid felly unwaith am ddyfroedd Llanwrtyd. Ond fe ddaifu i awdwr Drych y Prif Oes- oedd gael allan eu rhinweddau meddygin- iaethol. Dygwyddodd iddo weled llyffant byw yn y dyfroedd. Casglodd ar unwaith mai nid marwolaeth oedd ynddynt, ac fe yfodd o honynt a derbyniodd lesad, ac fe wyr pawb pa beth yw Llanwrtyd heddyw. Dysgwn ninau oddef a chyd-ddwyn a'n gilydd, ac nid gadael i'n sel sectol fyned dros derfynau gweddeidd-dra mewn ardaloedd lie nad oes cynydd yn y boblogaeth. Gallwn gydweithio yn galonogol dros ben mewn cadw cyfarfod- ydd gweddiau gyda'n gilydd. Gwnaed hyny y gauaf diweddaf yn y Bala. Yn y nefoedd y mae ein nerth ni. Gallwn gyda'n gilydd wneud rhywbeth i hyrwyddo ieuenctyd ein gwlad i gerdded llwybrau glanach a phryd- ferthach nag y maent yn eu cerdded i fyned i'r sefyllfa briodasol, a thuag at godi dysgybl- aeth deuluaidd. Gallwn gydweithio i wrth- wynebu detodaeth ddiwerth a gwag yn ein gwlad, ac i adferu symledd i'r parch a deilynga. Gallwn, ac yr ydym wedi bod yn eydweithio yn erbyn y fasnach mewn diodydd meddwol, i sychu corsydd lleidiog y byd ac i godi yr oes i dir sych a diogel dirwest. Ond i ni fyned law yn Haw, genau yn ngenau, a chalon yn nghalon, ni a allwn orchfygu y fasnach bon, a'i gwneud yn ddirym i ddrygu yn ein plith. Y mae mater arall wrth y drws ac ar y bwrdd y dylem gydymdrech gydag ef, sef cael crefydd yn rhydd oddiwrth lyffetheir- iau y llywodraeth wladol. Yr ydym ni yn credu mai lesu Grist ydyw unig Ben yr eglwys. Mynwn y lie iddo ar y ddaear ag a ddylai ei gael. Y mae yr Eglwys yn yr Iwerddon wedi ei rhyddhau, ac fe fydd iddynt yno deimlo y llesad oddiwrth hyny cyn pen ychydig flynyddoedd. Y mae y dydd ar wawrio pan ybyddyr Eglwys yn Scotland a Lloegr mor rydd a'r Eglwys yn yr Iwerddon. Hyny a fydd oreu i ryddid ac i grefydd. Gallwn wneud y pethau yna oil a'u cyffelyb heb roddi i fyny ddim yr ydym ni yn ei gredu. Ni rown ni ddim i fyny. Yr ydym am gario ein golygiadau yn inlaen heb wneud dim niwed i'n gilydd ar air nac ar weithred. "Gan fod yn gywir mewn cariad," neu yn ol cyfieithiad Seisnig, "Speaking the truth in love." A allwn ni wneud hynyna? A ydym ni yn ddigon duwiol i wneud hyny? Ni wna neb ofyn i ni wrth borth y nefoedd, pa un ai Annibynwyr, ai Methodistiaid, ai Wesleyaid, ai Bedyddwyr, ai Llauwyr a fyddwn? Bod mewn undeb a'r Gwaredwr a'n gwisgo yn ei gyfiawnder ef fydd yn bob peth i ni Y diwrnod hwnw. Ni raid i ni roi dim byd i fyny. Gadewch i ni fod yn fwy tringar o'n gilydd. Y mae y gwirionedd mor fawr a ninau mor fychain. Nid oes genych chwi na minau mo'r holl wirionedd ar unrhyw bwnc. Ni bydd hyd yn nod angylion Duw mewn gafael a'r holl wirion edd yn mhen miliwn o flynyddaw. Dysgwn fod yn dringar, i gyd-ddwyn a'n gilydd, ac i gydymgynghori a'n gilydd. Y Beibl yw yr unig lyfr anffaeledig ar y ddaear. Ato ef y rhaid i ni apelio. Efe ydyw y llyfr fydd ar y fainc y diwrnod hwnw.