Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TWNEL DAN Y MOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TWNEL DAN Y MOR. Y mae cwmni o Ffrancod a SaesoM wedi penderfynu ynagymeryd a'r anturiaeth o gloddio twnel dan y culfor, rhwng y ddwy wlad, mewn trefn i agor tramwyfao Brydain i Gyfandir Ewrop, heb beryglon morwriaeth; ac yn awr gallwn hysbysu fod y gwaith mawr wedi ei ddechreu. Dywed hen ddiareb mai "Nawparth gwaith yw ei ddecereu;" ond pa fodd bynag am hyny, bydd yn Ilawenydd i'r boll fyd ddeall fod yr anturiaeth fitwr wedi ei dechreu mewn gwirionedd. Mae lied y Sianel Brydemig, rbwng Dover a Lanqnette yn 21 o filltiroedd; ac yn ystod y rhan helaethaf o'r flwyddyn, bydd yno for tymest- log a pheryglus. Collwyd llawer 0 fywydall ar wahanot adegaa wrth groesi o Y nys Brydain i'r Cyfandir; ac mae y m6r yn anbwylusdod mawr i fasnach Ewrop. Dengys daiareg fod Prydain mewn cyfnod boreu, yn rban yr Cyfandir, ac i'r sianel gael ei hagor drwy aruthrol gynhvrfiadau natur, pryd y cysylltwyd Mor y Gogledd gyda'r Mor]Werydd. Bu daearegwyr a naturiaethwyr yn ar- chwifio gwaelod y m6r yn hynod o fanwl rhwng y ddwy wlad, dros bellder mawr bob ochr i'r twnel; ac mor bell ag y gellir cael allan, bernir fod calch faen, raarm, neu siocs yn rhedeg dan y radr o Loegr i Ffrainc. Mae y graig farm mewn cyflawnder tnawr ar y ddwy ocnr, a bernir ei bod yn un corff cyfan yr holl ffordd. Wrth blymio i waelod y m6r bob (leg Hath, o'r naill lan i'r llall, metbwyd a chanfod bolltau ua thyllau dyfn- ion; ac os ydyw y graig yn gyfan, dihoilt a didvllau, sicrheir llwyddiant yr anturiaeth. Rhoddir prawf yn awr ar natur y graig ar ochr Ffrainc, drwy gloddio siafft i'r dyfnder o bedwar canto droedfeddi; ae os yrnddengys pob peth yo ffafriol, eir yn mlaen gyda'r anturiaeth yn ddioed. Mae yn dra araheus a brofa y graig siocs yn ddidyllau, yr holl ffordd; ac y mae yn debygol hefyd fod creig- iau catedion o ithfaen, os nad callestr mewn manau, a thywod gwyllt hefyd. Byddant yn alluog i dori yn dra chyflym drwy y graig siocs, gydag offerynau tyllu yn cael eu gyru ag ager; ond os deuir i dywod, bydd yn ofynol gweithio bwa ceryg uwchben. Credir nad oes perygl y daw dwfr y m6r i lawr drwy agenau, gan y bydd y twnet dros ddau gant o droedfeddi islaw gwaelod y sianel. Os profa yr anturiaeth ar ochr Ffrainc yn addawol, dechreuir y twnel yn ddioed ger Dover, Lloegr, a gweithir felly o'r ddau ben. Bydd yn ofynol gosod y rhifyddegwyr i weithio, er cael allan y cyfeiriad i gloddio y twnel o'r ddwy oeb;, yn y fath fodd fel ag y cyfarfyddant yn union tua chanol y slanel. Nid gwaith di- bwys fydd hwn; ond y m&e perffeitbrwydd mesuroniaeth y fath fel nad oes perygl y gwneir camgymeriad. Pedygwyddai dau ben y twnel gydgyfarfod yn union, anmhosibl fyddai eosod cledrau rbeilffyrdd, heb gostau aruthrol i unioni y fynedfa. Os cwblbeir y twnel hwn, bydd yn fwy dair gwaith na thwnel Mount Ceuis, yr hwyaf ar y ddaear, a ffarfia brif ryfeddod y byd mewn celfyddyd a pheirianwaith. Dengys fawr allu y meddwl dynol, wedi ei ddiwyllio, ei eangu, a'i rymuso, drwy ddylanwad y celfau a'r gwyddorau. Mae gwybodaeth ymarferol a gwyddonol yn myned yn mlaen i oresgyn rhwystrau naturiol, ac i ddwyn deddfau natur yn is-wasanaethgar i ddynoliaeth, er daioni cyffredinol pawb. Edrycher ar yr agerbeiriant, y rheilffyrdd, y gwefrebyr, peirianau argraffu, offerynau amaethyddof, a llaw-weithfaol o amrywiol fathau ydynt oil ya gynyrchion diweddar; a chymbarer hwy a ffrwyth meddyliau yr hil ddynol am filoedd o flynyddoedd yn flaenorol i hyny, tra mai euprifucheigaisoedd Iladd eu gilydd, gor- esgyn y naill y lIall, erlid ac ysbeilio. Mae byn oil i'w briodoli i ddadblygiad athrylith y meddwl dynol, dan ddylanwad addysg elfenol, gelfyddydol a gwyddonol; ac mae y fath addysg yn sylfaeriedig ar ryddid barn, rhyddid ymadrodd, a rhyddid y wasg. Erlidiwyd a chaicharwyd prif ddiwygwyr celfyddydol a gwyddonol yr oesau, megys Gralileo, Copernicus, Bacon ac eraill, gan grach-dduwinyddion un-llygeidiog, rhagfarn- lIyd ac ofergoelus. Rhaid diolch i oleuni yr oes a chynydd gwybodaeth, am ryddid i wneid twnel o Ffrainc i Loegr, pe amgen buasai y Priestcrafft yn atal yr anturiaeth, drwy y twyll-hdniad fod rlyn yn rhyfygu wrth gaisio gwueud gwelliai.t ar waith y Gorachaf. Mae yr hen ysbryd yn fyw eto; ond ni feiddia hyd yw nod y Pab amcana ei I' roddi mewn gweithrediad.
CYLOHWYLGERDDOROL HARLECH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYLOHWYLGERDDOROL HARLECH. Y mae y nawfed Gylchwy] wrth y drws, sef dydd Mercher nescif. Nid oes eisieu can- mol y sefydliad cerddorol hwn yn ei amcan na'i weithrediadau, oblegid y mae y naill a'r llall o duedd i ddyrchafu chwaeth yr oes oddiwrth ben ganeuon anfoesol a llygredig at gerddoriaeth uchel a chysegredig; ond yn unig, dymunwn alw sylw at ddyddiad cynal- iad yr wyl yn hen Gastelll henafol Harlech. I gynorthwyo y 500 o leisiau, dan arweiniad Eos Morlais, y saith cor a'r tair seindorf bres, y mae gwasanaeth y fyd-enwog Maoame EDITH WYNNE wedi ei sicrhau eleni. Bydd trens rhad yn rhedeg ar hyd y gwahanol linellau i'r Wyl.
LLANRWST.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANRWST. Pwnc y dydd yma yw yr Ei-iteddfod. Ar gae cyfleus gerllaw y dref y mae y babell i'w chynal, yr hon fydd yn fuan wedi ei chwbl orpheo. Dysgwylir y bydd yma Eisteddfod lw-yddianus yn mhob ystyr -mae y pwyllgor wedi trefau ya dda er cael hyn oddiamgylch. Teimla eich gohebydd mai y rhan fwyaf dyddorol fydd boreu y dydd cyntaf, ar lau Llyn Geirionydd, lie yr agorir yr Eisteddfod, ac y deuir oddiyno i Lanrvrst i wneud y gwaith. Os bydd y tywydd yn ffafriol. ceir gwledd o adloniant y tro hwn. Ymdrecha eich gohebydd i roddi i chwi ad- roddiad ffyddlon o'r holl weithrediadau gan y daw i'r lie eto i wylio y symuJiadau. Mae gan bobl y Llan waith parotoi ar gyfer y dyeithriaid; ond gobeithio Da fydd iddynt werthu eu cymeriad trwy orfaeliaeth—codi pris gwely o swllt i bum' swllt y nos, a phethau cyffelyb, fel y gwna rhai. Os Dad yw peth fel hyn yn anonestrwydd, mae yn anhawdd gwybod beth sydd. Mae llawer o ymwelwyr yn Trefriw—bydd hyny yn lies i'r Eisteddfod yn ddiau. Mae Ffynon Caecoch yn dyfod yn fwy enwog bob blwydoya-liawer cloff a waeir yn iach yma; a bydd Eisteddfod Llanrwst yn fantais d da i'r merched ieuaine gael gweled pwy yw eucariaiau. am fod pobpeth y telir am dano yn cael ei ystyried yn werth; daw Miss i wybod pa un ai Jst, 2Dd, neu 3rd class y mae ei hanwylyd yn ei hystyried (neu ddim). Rhoddaf wybod y manvlion pan yr el yr Eisteddfod heibio, gan y byddaf yno'n unswydd yn cynrychioli y DYDD. GOHEBYDD NEILLDUOL.
MOSTYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MOSTYN. Da genym ddeall fod yr Annibynwyr yn y He uchod yn amgylchynu muriau eu hen gapel yn ddyddiol, gyda'r amcan o gynllunio ffurt y ea. pel newydd a fwriadant gael yno. Ond y drwg yn nglyn a'r cynlluniau yma yn rhy aml-esgor ar lygod y byddant wedi'r cwbl. Gobeithiwn mai nid felly y bydd hi yn yr aehos hwo, ond y bydd y 'seithfed dydd' a'r 'seithfed tro' yn hanes yr hen gapel wedi stwawrio yn fuan, ac addoldy hardd wedi ei adeiladu yn ei Ie, teilwng o'r gymydogaeth. teilwng o'r Annibynwyr yn y lie, ac yn neillduol teilwng o'u parchus wewldog-y dysgedig a'r galluog Dr. Pan Jones. Os oes rhywun yn teilyagu gwell addoldy nag eraill, wele y gwr. Hyderwn,, ganihyny. y bydd i'rcyfeillioc gadw hyn mewn golwg pan yn planio, yna gellir dysgwyl am gapel gwerth rhoddi spectol i fyny er cael golwg arno. Saron. RHYS MORRIS.
MARWOLAETH MRS. REES, ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MARWOLAETH MRS. REES, ABERTAWE. Pan ar fin myned i'r wasg, derbyniasom delegram oddiwrth y Parch. B. Williams, Canaan, i'n hysbysu am farwolaeth priod Dr. Rees, yr hyn a gymerodd le rywbryd dydd Mawrth diweddaf. Ychwanegai Mr. Williams, We telegraph to America now." Gwyddom y caiff Dr. Bees gyd- ymdeimlad dwysaf yr Annibynwyr drwy hoU. Gymru, a llawer gyda hwy, yn ngwyneb y dyg-, wyddiad pruda ac annysgwyliadwy hwn. BviU yn ychwaaegiad gofidus at chwerwder y brofedig- aeth ei fod ef mor bell oddicartref ar adeg mor hynod o ddifrifol i'w deimladau. Derbynied nerth i ymgynal dan y groes, a chaffed ei ysbryd briwedig noddfa dawel yn nirgelfa pabell y Goruchaf. Dyna ein gweddi, a gwyddom mai dyna fydd gweddi mil- oedd ar ran Dr. Rees o bob ta i'r Werydd y dydd- iau hyn. Dysgwyliwn y bydd genym ychydig fanylion yn nghylch marwolaeth a chladdedigaeth Mrs. Rees i'w cyhoeddi yn ein rhifyn nesaf,
SWN RHYFEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
flaen yr ynadon, gwrthodwyd gwrando arno, am nad oedd ganddo yr un tyst Mahometan- aidd o'i blaid-nid eeddynt yn ei goelio, ac nis gallent gredu ei fod yn dweyd y gwir, gan nad oedd yn credu yn y Koran. Ac nid yw Llywodraeth Twrci yn ymddangos fel yn gwneud un ymdrech i geisio gwella sefyllfa pethau yn y taleithiau hyny, a hyny sydd wedi gwneud i'r Tywysog Millan a Thywysog Montenegro i geisio adfer trefn ac iawnder yno eu hunain. Y mae Llywodraeth Prydain wedi gwith- od dweyd yn eglur beth mae am wneud yn y cyfwng hwn; ond y mae wedi boddloni i'r holl ymdrafodaethau yn nglyn a "Nodyn Count Andressey," yr hwn a arwyddodd, a "Nodyn Berlin," yr hwn a wrthododd ar- wyddo, a dyben pob un o'r ddau ydoedd adfer heddwch. Daw yr holl bapyrau, a hyny yn ddioed, o flaen yTy a'r cyhoedd. Ond y mae owestiwn arall llawer pwysicach yn awr sef, Beth yw y cwrs a fwriada ddilyn yn nglyn a'r rhyfel sydd yn awr wedi dechreu? Y mae y wlad yn arswydo rhag ly drych- feddwl i Brydain roddi y cymhorth lleiaf i Twrci Fahometanaidd i barhau i lywodraethu gyda'r fath ddwylawhaiarnaidd a chreulawn; ac yn wir methwn weled pa fodd y gall wneud hyny yn ol y cytundeb y mae ein Llywodr- aeth wedi dweyd ei bod yn ystyried ei hunan yn rhwym iddo; oblegid amddiffyn Twrci rhag ymosodiadau gelynion oddiallan, nea mewn geiriau eglur, i'w hamddiffnn rhag Rwssia, y mae Lloegr, Ffrainc, ac Awstria wedi ym- rwymo, ac nid ymosodiadau oddimewn ei Ymerodraeth ei hun. Yn wir, y mae y cyt- undeb hwnw yn dal y galluoedd yn rhwym i amddiffyn y Tywysogaethau a'r taleithiau rhag gormes y Tyrciaid, fel yr ydym yn methu gweled o dan ba esgus y gall y wlad hon fyned i ymyraeth yn y cweryl hwn, tra y pirhao Rwssia i gadw draw yn gliro hono. Byddai'n iacbad i holl Ewjop, pe llwyddid i sefydlu teyrnas annibynol yn y rbandir hon o Ymerodraeth Twrci; a gobeithiwn y bydd-i Brydain gadw yn mhell o feddwl am ymyr- aeth, oblegid nid ydym eto wedi anghofio rhyfel mawr y Crimea; ac er yr holl golled y pryd hwnw, nid yw Ymerodraeth Twrci yn ddim gwell mewn un ystyr, a phe collid cy- maint o waed eto, a phe gwarid cy naint o arian eto, credwn na byddai wed'yn ond yr un -yn arddangos yr un eiddilwch ac anghy- mwysder i gadw trefn ar ei deiliaid, yr un culni a pbenboetbni cael-grefyddol, ac yncael ei meddianu gan yr un pydredd i'w gwraidd.