Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
TRAWSFYNYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TRAWSFYNYDD. MR. GOL. Erfyniaf am eich hynawsedd i wneud sylw neu ddau ar ohebiaeth Trawsfab yn eich rhifyo diwedd- af, o berthynas i'r gylchwyl lenyddol, a beirniad- aeth y Parch. E. Stephen ar yr anthem, 'Pa fodd,' &c. Gadawaf allan amryw gamgymeriadau di- bwys a lithrodd i'w ysgrif hyd nes cyrhaeddyd y frawddeg ryfedd a ganlyn:—'Dyfarnwyi y wobr i gor Utioa. Cymerodd hyn le trvy i'r arweinydd gamgymeryd y cyweirnod, sef ton a haner yn rhy uchel.' Rhyfedd, rhyfedd! y Parch. E. Stephens wedi gwobrwyo cor oedd don a haner allan o'r key note. Na, na, nid felly y bu, Mr. Gol.; cadwodd cor Maentwrog yn ddiysgog at y cyweirnod cych- wynol hyd y diwedd, a chanodd yn rhagorol, ac aeth adref o'r frwydr wedi enill 11 a wry f buddugol- iaeth yn galonog. Pe buasai Trawsfab yn Ilanw yrenw gohebydd diduedd, buasai yn crybwyll am gor undebol Traws- fynydd, pa un oedd o dan arweiniad y cerddor ym- hongar Eos Prysor. Dyma'r cor anffodus a god- odd don a haner ar y cyweirnod cychwynol cyri cyrhaeddyd y diwedd, a pheth nesaf i wyrth, (ys dywedai y beirniad), oedd iddo fyn'd trwyddi o gwbl. Eto, edliwia Trawsfab i gor Maentwrog fod cwrs o arogl Mr. R. Roberts, Trawsfynydd, arno, a chy- nghora ni i fod yn ddiolchgar iddo. Dymunem gydnabod Mr. R. Roberts yn gyhoeddus. Yr ydym yn dra diolchgar iddo; gwnaeth ei ran yn anrhyd- eddus fel aelod o'r cor, a phob cyfarwyddyd a all- odd, fe'i rhoddodd heb ddanod. Dymunem hefyd gydnabod Miss Killin, Rectory, pa un sydd bellach yn adnabyddus fel cerddores trwy ranau helaeth o'r Dywysogaeth. Yr oedd hithau gyda ni. Hwvrach mai nid anfuddiol fyddai i gor yr Eos gofio talu diolchgarweh i Owen Williams, Rhiwbryfdir, yn nghyda John Williams, Nantymarch, Maeotwrog; pe heb y rhai hyn, mae yn ddios genym na buasai yr anthem wedi codi na gostwog. Edryched Trawsfab am ysgrifenu yn fwy di- duedd o hyn allan, onide caiff deimlo pwys fy ar- weinffon. l TWROG. I
LLITH AR ANFOESOLDEB YR OES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLITH AR ANFOESOLDEB YR OES. MR. GOL. Temtir fl. yn ami i dalu sylw i wahanol bethau o'm hamgylch yn ystod fy arosiad mewn gwabanol fanau, yn enwedig i foesoldeb a chrefydd, yr hyn bethau sydd yn tra rhagori yn awr yo Nghymru rhagor yr oeddynt yn y blynyddoedd aethant heibio, pryd yr oedd ymladd ceiliogod, cicio'r bel wynt, taflu maen a tbrosol, a chwareu pel a'r do'r Llan wedi d'od o'r gwasanaeth ar y dyda eyntaf o'r wythnos, a Ilu o'r cyffelyb, mewn bri mawr; ond diolch byth, y mae goleuni yr Ysgol Sul, ac ym- drechion diflino dynion dewr a da, trwy fendith y nef ar eu gwaith, wedi difodi y pethau a nodwyd yn lied lwyr. Ond y mae yn amIwg yn y dyddiau hyn mai tra phriodol yw llefain, 'eto mae lle.' Oblegid os ydyw yr ymladd ceiliogod wedi ei adael heibio, y mae cyfeddach a meddwdod yn y ffasiwn eto; os aeth cicio'r bel wynt i lawr, y mae caru'r nos, a'i effeithiau cywilyddus, yn rhy uchel ei ben medd pawb ond Satan a'i hil; os yw taflu maen a throsol yn darfcd, r ydym yn ofni fod cynffona a derbyn wyneb yn cynyddu; os na chwareuir y bel ar do'r Llan, y cynen a chenfigen, celwydd ac .ystraeon, yn awr yn anterth eu nerth. A chredaf fod galwad neillduol ar yr areithfa a'r wasg, a phob athraw a phenteulu, i dalu sylw dyladwy i'r pethau hyn. Yr wyf fi yn lletya mewn pentref bychan yn rhifo saith odfti, yo y rhaiypreswyliachwech o weithwyr ac un tyddynwr, ac y mae mwy na'u haner yn meddu gwragedd a phlant. Y maent yn ddynion diwyd, gweithgar, a sobr, ac yn ofalus am gysur eu teuluoedd. Teilyngant barch; a gallaf ddweyd fod eu gwragedd yn ferched cryfion, ac o burion defnydd, ond ni allaf ddweyd eu bod yn rhai defn- yddiol na doeth, canys amlwg yw fod pob un o hon. ynt yn caru rhiniog ei drws yn fwy na'i gwr, ac ystraeon yn fwy na'r dwfr a'r sebon, a thyru at eu gilydd yn fwy na gofalu am eu plant- Y mae fy amean yn nodi y pentref bychan hwn allan, yr un ystyr ar hen ddiareb hono, Curo'r post gael i'r pared glywed.' Diau y byddai yn dda gan bawb sydd o dan angenrheidrwydd i basio man bentref- ydd Cymru, glywed fod yr arferiad wrthun hon wedi darfod. Terfynaf gan ddysgwyl y caiff gair byr fel hyn effaith dda ar eu gwrthddrychau. Ydwyf, yn caru Iles pawb, MOSES JONES.
IAT Y PARCH. D. S. DAVIES,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I AT Y PARCH. D. S. DAVIES, BANGOR. SYR,- Yn yr araeth a draddodwyd genych yn nghapel Dysgwylfa, ger Ebenezer, Arfon, dywedusoeh ddarfod i weinidog Annibynol yn swydd Gaernarfon gyhoeddi, neu ddweyd fod Iesu Grist yn wrth- ddirwestwr. Galwasoch y gweinidog uchoi yn "ffwl dwl, diymenydd, a diras." Yn awr, onid teg fyddai i chwi ddadlenu enw y gweinidog uchod, a'i gyhoeddi, fel y gellir 8ei ddiarddel, oni phrofa ei haeriad. Credaf fod eich swydd fel gweinidog yn galw arnoch i wneud hyn. Annheg ac anwrol i'r pen yw taflu pethau fel hyn o fllen cynulleidfa. Dywedasoch fod gan y gweinidog dan sylw deitlau. Yn awr, y mae gan amryw o weinidogion yr Anni- bynwyr yn swydd Gaernarfon deitlau neulythyren- au ar ol eu henwau; ac o herwydl hyny, ceir llawer yn dweyd mai Hwn a Hwn ydyw, ac eraill mai gweinidog y Fan a'r Fan ydyw. Fel hyn y llunir ystraeon celwyddog, ac y "Llunir bai lie na bydd." Gresyn yw beio'r diniwed. Hyderaf y bydd i chwi ddaogos ychydig o'r gwr- oldeb yr ymffrostiwch gymaint yn ei gylch, a d'od allan fel dewrddyn yn yr achos hwn. Yr eiddoch, &c., NID PLAGARD.
MOSTYN A LLYTHYR 'GLOWR' YN…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MOSTYN A LLYTHYR 'GLOWR' YN "Y DYDD" DIWEDDAF. MR. GOL. Darllenais lythyr 'Glowr' yn eich newyddiadur am yr wythnos ddiweddaf; ac wrth wneuj adolyg- iad ar ansawdd bresenol y gweithiau gJo yn y lie, y mae eich gohebydd yn dwyn eyhuddiad yn mlaen yn erbyn swyddogion ygwaitlt. Dywed fod twyll yn mhob trad, a bod rhywrai oedd wedi eu gosod i edrych am chwareu teg i'r meistradoedd yn gwneud hyny mewn ffordd dwyllodrus-, a thrwy hyny, medd 'Glowr,' yn rhoiarian y meistradoedd i'r gweithwyr oedd erioed heb weithio am danynt. Tra y dywed yn mhellach ei fod ef wedi bod yn wylo dagrau wrth fyned adref at y wraig gydag yehydig arian, ar ol bod yn gweithio yn galed am bythefnos am danynt. Ond heb fyned i fanylu llawar ar lythyr 'Glowr.' y mae am i ddarllenwyr y DYDD a'r wlad ddeall fo 1 camwri mawr yn cael ei wneud yn ngweithiau glo Mostyn. Y rhai sydd yn gwneud ac yn cael cam ydynt yn laf. Y meistradoedd, arissn pa rai sydd yn cael eu rhoddi heb wasanaeth am danynt. 2. Y gweithwyr sydd yn derbyn arian heb erioed weithio am danynt. 3. Y gweithiwr sydd wedi gweithio yn galed am bythefnos, ac yn gorfod troi adref at ei wraig dan wylo gydag yehydig arian am ei waith. 4. Y goruchwylwyr hyny ag y mae eu hunanles yn gorphwys ar osod bargeinion da i rai o'r gweithwyr, tra y mae y lleill yn cael eu gorfodi i weithio agos yn rhad. Fe wel y darllenydd mwyaf brjsiog fod 'Glowr' yn dwyn cyhuddiad o anonestrwydd yn erbyn gor- uchwylwyr gweithiau glo Mostyn; ac y mae cyf- iawnder yn galw am iddo brofi y eyhuddiadau y mae wedi eu rhoddi yn eu herbyn. Peth difrifol iawn ydyw cyhuddo dyn o ddrwg moesol, a hyny ar g'oedd y wlad. Y mae genym dri o gweatiynau i'w rhoddi i 'Glowr,' ac y mae ei anrhydedd fel y eyfryw yn galw am iddo roi atebiad gooest iddynt. 1. Rhoddweh enw neu enwau y swyddogion sydd yn gwneud y cam y cyhuddwch hwy o hono yn eich llythyr? 2. Rhoddweh enwau y personau a aleiladodd eu tai, &c., trwy fod y swyddogion neu y goruchwyl- wyr wedi ymddwyn tuag atynt mewn ffordd an- nheg ragor y gweithwyr eraill? 3. Rhoddwch eich enw eich hun fel un sydd wedi cael cam, a nodwch natur y cam a gawsoch, yn nghyda'r ffordd oreu i gael gwared o hono? Os ydyw eyhuddiadau 'Glowr' yn d ia, na fydded cywilydd ganddo eu dwyn i oleum yn llawn. Os nad ydynt, galwed goruchwylwyr gweithiau glo Mostyn ef i gyfrif. Yr eiddoch, &c., W. J. R.
BETH MAE INHWI YN EI DDWEYD?I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH MAE INHWI YN EI DDWEYD? MR. GOL. Mae 'Nhw' yn dweyd fod parson LI 1 wedi gwrthod claddu Ymueillduwr yn mynwent y dreflan hoao yn unig am ei fod yn Ymneillduwr; ae nid ya unig hyny, ond ei fod wedi gwrthod hefyd rhoddi pethau angenrheidiol at ddwyn gwe id- iltion y marw i d$ei hir gartref am yr un rheswm. Wel, yn wir, dyna ffaith werth ei dwyn i'r amlwg; a chwareu teg iddyn' 'Nhw' a.m fod mor flaeallaw a gwrol i wneud hyny. Mae yn Hawn bryd bellach, rhoddi terfyn ar orthrwm, trais, ac awdurdod 'gw £ r y crysau.' Maent yo mynei yn annyoddefol. Ymneillduwyr, pa le yr ydych? Yr wyf yrt rhyf • eddu at eich cysgadrwydd! Deffrowch, onide fe gewch deimlo ei bod yn rhy ddiweddar i dynu yr iau oddiar eich gwarau. Gadewch heibio gyndyn ymrysomau yn eich plith eich hunain, a deuwch allan yn un llu banerog yn erbyn y bwystfil rheibus hwn. Mae yr amryfal ddadleuon a chynhenau ag svdd yn beunyddiot godi ac yn cael eu maga yn eich plith, vn llad i eich grym, yn bwyta eich nerth, ac yn difa eich cryfder. Mas y blaid wrthwynebol yn gwybod hyny, ac yn gwneud y tantais a'r defn- ydd goreu 0 hyny er budd iddynt hwy. Dywedir i'r Peraiaid lwyddo mwy yn erbyn y Groegiaid trwyeu gosod yn benben a'u gilydd na thrwy ddan- fon byddinoedd dirifadi ea hymerodraeth eu hun- ain i'w herbyn. Ymneillduwyr! nid danfon rhai o'u praidd eu hu iain i'ch mysg chwi a wna yr Eglwyswyr, oblegi 1 y maent yn dea.H ya burion na wna hyny mo'r tro, am eu bo i ya ymwybodol y gorchfygi i hwy ar dir teg rheswm. Ond y maent am eich difi ffordd arall. Y m ient yn edrych ar- noch yn bwyta eich gilydd mewn ymrysonfeydd, ac yn gwanychu eich gilydd mewn cynhenau; a phan y byddoch wedi myned yn rhy win i amddiffyn eich hunain a'ch hawliau, yna y deuant arnoch fel llu yr As3yriai i gynt yn eich gwendid, ac a'ch gwnant fel yr Helots yn Sparti, yn ga.ethioa byth- ot i'w gorthrWm a'u tra-arglwyddiaeth. A gaiff hyn foi? Oes digon o bluck tybed yn Ymneilldu- wyr H—n—r—! i gymeryd gafael yu y 'cyw rhad' yna, a rhoi cystal sewrfa iddo ag a roddodd y briwars hyny yu Llundain i'r anghanfil Haynau? y Mae yn ei haeddu yn deg. Gresyn fod rhyw gyw- ion ieir yn cael cymaint o louydd i wneud fel y mynont yn y plwyfi byeha-in lie maent yn teyrniau. 'Angenrhaid a oaodwyd arnaf,' meddai Paul yn rhywle. Piti na b'ai rhyw angenrhiid yn cael ei osod ar Ymneillduwyr Cymru y dyddiau hyn i beri iddynt gyfodi i fyay i ddemandio eu rights. Onid oes achos? Mae 'Nhw' yn dweyd y dylaswn osod rhai o'r eoghreifftiau hynv a dderbyniais gauddynt, er profi y gosodiad hwnw fod cythreuliaid yn meddianu dynion y pryd hWiJ i lawr gerbron eich darllenwyr, fel y gailont farna drostynt enhunain. Yr esgus oedd dros eu rhoddi, os ydych yn coflo, oedd, nad oeddwn yn hoffi gwneud felly hyd nes y caffwn foddlonrwydd i fy meddwl fy hun fo y peth yn bod. Erbyn hyn, mi gefsiis berff Lith foddloanvydd, ac o ganlyniad, gweddus ydyw rhoddi ger eich bron un, o'r enghreifftiau goreu a allesi i ei gael at y pwrpis. Mewn pantref gwleiig. m'le capel yn perthyn i'r ac fel yn mhob capel, mae yno go}o.vr canu, ac fel pob codwr canu, mae ya hyno i o hunanol, ac yn meddwl y byd o hono ei hun. Ychydig amser yn ol. pendetfynwyd cael harmon ium i'r capel i gynorthwyo'r canu, ac i wella can- iadaeth y cysegr. Ona dyn anwyl, dyrna ffrwydr- iad.fawr yn esgyn o set y codwr canu, a phe buasai yno gasgen o bylor wedi ei goso i, ni buasai y cy- nhwrf fawr fwy! lilarmonitim yu wir! Helpur canu ai e? Gwellacaniadaeth y cysegr? Oes eisieu ei wella? Oes yna ddiffyg wedi bo i arno erpta ydw i wedi bod gydag ef?' P'run bynag am hyny, cafwyd yr offeryn; a byth oddiar yramser y daeth i mewn i'r addoldy, y mae wedi profi yn ddraen yn ystlys chwith y colwr emu. Wd, medd rhywun, pa fodd y mae hwaa yn proii iod cythraul yn y dyn? Beth! rhaid fod y dyn a ofvn- ai y fath gwestiwn a hwna yn gythreulig o ddaU ei hun! Beth ond y gwr drwg ei hun oedd Yll chwythu brwmstan i gasgen bylor hunaactde') y dyoyn chwyddedig? Ie, cythraul y canu oedd yna yn ei nerth. Ond v mae yn fater mor touching t'el mai goreu po leiaf yr ymdrafodir ag ef. Mae 'Nhw' yn dweyd os cnoir y cil yn o dda ar hyn yr wythnos hon, yr ateba ei ddyben yn rhag- orol. Mae 'Nhw' yn dweyd eu bod yn cofio yn garedi-r at Mr. a Mrs. Ffowc, a'r holl Ffowciaid bach. Ac yr wyf finau, yn annibynol ar y 'Nhw,' yn dweyd 'Amen,' ac yn eu gwahodd yn gynes, os byth y deu- ant tua chymydogaethau Rhoscorsmoahno, am iddynt alw yn No. 1, 'Nhw' Buildings, y caut groesaw mawr, a chj panaid o demor dew 'wel y gallo'r llwy sefyll ar eiphen ynddo.' Eich ufuddaf was, Most, TitA IIKN.
AT EPHRAIM LLWYD, R. 0. ROBERTS,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EPHRAIM LLWYD, R. 0. ROBERTS, &c MR. GOL.,— Mae. yn bryd weithian i John Jones ddywedvd. ychydig o ifeddwl wrth y 'tri general' a'r cadban, sef Walis Puw, Celynia, Ephraim Ll w yd, ac R. O. Roberts. Yn gyntafoll, caniatewch i mi eu, hys- bysu nad oes geuyf y gronyn lleiaf o lid na chen- figen at yr un 0 honynt. Nid a'u personau y mae a fynwyf, ond a'u gwaith fel ysgrifea wyr cyhoeddua. Gaa fod John Jones yn talu am y ÐrOD, ac yn ei ddarllen, ystyria fod ganddo hawl i ddweyd ei farn ar gynyrehion y rhai sydd yn ysgrifenu iddo, ac os dygwydd i'w farn ef fod ychydig yn antfafriol i rai o honynt, nid yw hyny yn profl dim ond yo umg fod John Jonss yn barnu felly; y mae efe yn fodd- lawn i eraill farnu fel y mynont. Cwyna R. O. Roberts na ddarfu John Jones osod un reol na