Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

TRAWSFYNYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TRAWSFYNYDD. MR. GOL. Erfyniaf am eich hynawsedd i wneud sylw neu ddau ar ohebiaeth Trawsfab yn eich rhifyo diwedd- af, o berthynas i'r gylchwyl lenyddol, a beirniad- aeth y Parch. E. Stephen ar yr anthem, 'Pa fodd,' &c. Gadawaf allan amryw gamgymeriadau di- bwys a lithrodd i'w ysgrif hyd nes cyrhaeddyd y frawddeg ryfedd a ganlyn:—'Dyfarnwyi y wobr i gor Utioa. Cymerodd hyn le trvy i'r arweinydd gamgymeryd y cyweirnod, sef ton a haner yn rhy uchel.' Rhyfedd, rhyfedd! y Parch. E. Stephens wedi gwobrwyo cor oedd don a haner allan o'r key note. Na, na, nid felly y bu, Mr. Gol.; cadwodd cor Maentwrog yn ddiysgog at y cyweirnod cych- wynol hyd y diwedd, a chanodd yn rhagorol, ac aeth adref o'r frwydr wedi enill 11 a wry f buddugol- iaeth yn galonog. Pe buasai Trawsfab yn Ilanw yrenw gohebydd diduedd, buasai yn crybwyll am gor undebol Traws- fynydd, pa un oedd o dan arweiniad y cerddor ym- hongar Eos Prysor. Dyma'r cor anffodus a god- odd don a haner ar y cyweirnod cychwynol cyri cyrhaeddyd y diwedd, a pheth nesaf i wyrth, (ys dywedai y beirniad), oedd iddo fyn'd trwyddi o gwbl. Eto, edliwia Trawsfab i gor Maentwrog fod cwrs o arogl Mr. R. Roberts, Trawsfynydd, arno, a chy- nghora ni i fod yn ddiolchgar iddo. Dymunem gydnabod Mr. R. Roberts yn gyhoeddus. Yr ydym yn dra diolchgar iddo; gwnaeth ei ran yn anrhyd- eddus fel aelod o'r cor, a phob cyfarwyddyd a all- odd, fe'i rhoddodd heb ddanod. Dymunem hefyd gydnabod Miss Killin, Rectory, pa un sydd bellach yn adnabyddus fel cerddores trwy ranau helaeth o'r Dywysogaeth. Yr oedd hithau gyda ni. Hwvrach mai nid anfuddiol fyddai i gor yr Eos gofio talu diolchgarweh i Owen Williams, Rhiwbryfdir, yn nghyda John Williams, Nantymarch, Maeotwrog; pe heb y rhai hyn, mae yn ddios genym na buasai yr anthem wedi codi na gostwog. Edryched Trawsfab am ysgrifenu yn fwy di- duedd o hyn allan, onide caiff deimlo pwys fy ar- weinffon. l TWROG. I

LLITH AR ANFOESOLDEB YR OES.

IAT Y PARCH. D. S. DAVIES,…

MOSTYN A LLYTHYR 'GLOWR' YN…

BETH MAE INHWI YN EI DDWEYD?I

AT EPHRAIM LLWYD, R. 0. ROBERTS,…