Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

HANES PLWYF C ELY N T If.

DYLED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DYLED. (GAN Y PARCH. C. H. SPUREON). Ymddengys rhai personau fel pe yn hon5 bod mewn dyled; ond buasai cystal genyf fi fod yn gath yn y simne a'r tan yn nglýo, neu gadnaw a'r bytfceuaid ar fy sodlau, neu ddraenog ar flaen pigfforcb, neu lygoden rhwng ewinedd dallhuan. Ystyria dyn gonest lonaid pwrs o arian dyn arall yn waeth na pbwrs gwag; r,is ^«!l ddyoddef bwyta caws pobl eraill, gwisgo crysau pobl eraill, na cherdded oddiamgylch m^wn esg diau pobl eraill, ac nis gall deimlo yn esmwyth wrth weled ei wraig yn gwisgo cwcyllau, a dillad pobl eraill. Y mae yr echwynwr yn 8icr1o ddyfod id ledi, a hwnvr o'r fath t hwerwat, canys y mae cywilydd yn nglyn ag ef. Gwastraff yw clefyd cyffredin yr amser- au, ac er eu cywilydd a'u gofid, y mae llawer o Gristionogion proffesedig wedi ei gael. Nid yw gownau gwlanen yn ddigon da yn bresenol; rhaid i ferched gael sidanau a 'sat- ins,' ac yna maebilsiop y dilledydd cyhyd a noson hir yn y gauaf, a Hawn morannymon- ol. Y mae shorn a style yn rbedeg ymaith a moddion dyn, yn cadw y teulu yn dlawd, a I. ihrwyn y tad ar y maenllif. Y mae dynion yn Ilosgi y ganwyll y ddau ben, ac yna yn dweyd eu bod yn anffortunus iawn. Pabam na osodant y cyfrwy ar y ceffyl iawn, a dweyd eu bod yn wastraffus iawn? Y mae canoedd na chaent deimlo eisieu pe buasent heb wybod amwastraff yn gyntaf. Pe baasai boll wragedd dynion tlawd yn gwybod y modd i goginio yn dda, mor bell yr elai ychydig. Dywed ein gweinidog fod y Ffrancod a'r Germaniaid yn ein curo i ryw- le mewn coginio yn dda ac yn rhad: hoffwn pe anfonent genadon drosodd i ddysgu ein gwragedd chwedleugar yn gogyddion da; byddai byny'yn ffasiwn llawer mwy defn- yddiol na'r darluniau beirdd yna yn ffenestr Mrs. Frippery, gyda boneddigesau wedi eu gwisgo yn y style newydd bob mis. Y mae rhai pobl yn rhy dda y dyddiau hyn i fwyta yr hyn a fyddai yn dda gan eu tadau ei weled ar y bwrdd; boddhant eu blys â. maeth- au drudfawr, a dysgwyliant i bawb drugar- baD, wrthynt. Truant eu trwynau ar tara a 'menyn, a deuant i twyta erfin wedi eu Ilad. rata allan o'r caeau. Ni* gall dyledwyr lai na bod yn gelwydd- wyr, canvs addawant daiu pryd y gwyddant nas gallant; ac ar ol gwneud amryw o esgus odion twyllodrus, addawant eilwaitb, ac felly dywedant gelwydd mor g) flym a choffyi yn trotian. Yn awr, os yw dyled yn arwain i gelwydd, pwy a ddywed nad yw yn ddrwg? Wrth reswm y mae eithriadau, ac ni ddymunwn fod yn galed ar ddyn gonest sydd wedi syrtbio i ddyled trwy golledion ac afiechyd; ond cymerwch y rheol fel rheol, a chewch fod dyled yn hen gors echryslawn, yn dwll lleidiog, a ffos afiach dedwydd yw y dyn a ddeuo allan wedi y syrthio iddo, ond ded- wyddach yw yr hwn a gadwo allan yn gyf- angwbl. Os ceiaiwch unwaith gan y diafol iddytod i giniawa. gyda cbwi, cewch waitb caled i'w gael allan o'ch ty; gwell paidio ym- wneud dimâg ef.