Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
9 erthygl ar y dudalen hon
V Setteun Pmerotrrol.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
V Setteun Pmerotrrol. Ty YR ARGLWYDDI, dydd Mawrth. Aeth y Mesur i Uno Bywoliaethau Eg- lwysig a'r Mesur i ddiwygio heolydd White- chapel a Limehouse, Llundain, trwy y Pwyllgor, a gyrwyd amryw fesurau eraill raddfa yn mlaen.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Mr. Whalley, yr hwn a ofynodd a oedd y Prifweinidog yn barod i wneud ymchwiliad i'r hyn a ddywedodd Ar- glwydd Brif Ynad y Queen's Bench yn yr Iwerddon, sef rmi y Pab, ac nid y Frenhines, oedd yr awdurdod uchaf yn yr Iwerddon mewn llawer o amgylchiadau, dywedodd Mr. Disraeli nad ydoedd efe yn ystyried ei hUD yn gyfrifol am yr hyn a ddywedir gan Farnwr yn yr Iwerddon. Cynygiodd Mr. Sclater-Bootb fod i'r Ty fyned i Bwyllgor ar Fesur Benthyciol J Gweithiau Cyhoeddus, dyben yr hwn yw galluogi y Trysorlys i roddi digon o arian at alwad Pwyllgor y Benthycion Cyhoeddus i gyfarfod a'r galwadau yn ystod y flwyddyu arianol. Gwrthwynebodd Mr. Fawcett y Mesur am fod y rhan fwyaf o'r baich o dalu y llogau a'r cyfalaf yn disgyn ar gymerwyr tai mewn cyferbyniad i dir a thai-feddian- r wyr, ac eiddo trethol eraill. Ond ni ddang- osodd y Ty nemawr gydymdeimiad aL Mr. Fawcett, yr hwn a dynodd ei welliant yn ol, ac aethpwyd i Bwyllgor arno. Gohiriwyd y ddadl ar Fesur y Llys Apel- iadol hyd boreu dydd Gwener. Pan gynullodd y Ty am naw, nid oedd yn bresenol ond 26 o aelodau. Gohiriwyd ef yn uniongyrchol.
ITY Y CYFFREDIN, dydd Mercher.…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN, dydd Mercher. ) Cynygiodd Mr. O'Shangnessy ail ddarllen- iad Mesur Plant Amddifaid Iwerddon, dyben yr hwn y w galluogi y Gwarcheidwaid i ofalu am blant amddifaid hyd 13 yn lie 10 oed. Cydsyniodd Syr M. Hicks Beach i dderbyn egwyddor y Mesur, ond y byddai yn rhaid rhoddi y darpariaethau priodol i'w atal rhag cael ei gamddefnyddio. Darllenwyd ef yr ail waith. Cynygiodd Mr. Cowper-Temple ail ddar- lleniad Mesur yn caniatau fod i raddau mewn Prifysgolion tramor wedi eu henill gan ferch- ed cael eu cydnabod yn y wlad. Gwrthwyn- ebodd Mr. Wheelhouse hyny, ond ni chafodd gefnogaeth neb ond Dr. Ward. Dangosai yr holl ddadl ddymuniad am symud ymaith yr anfanteision presenol sydd ar flordd i ferched ymarferyd yn y broffeswriaeth feddygol yn y wlad hon. Yn canfod hyn, dywedodd Ar- glwydd Sandon, fod y llywodraeth, tra yn gwrtbwynebu cydnabod graddau o wledvdd tramor, yn barod i dderbyn Mesur Russell Gurney ar yt un cwestiwu; v nd nid oedd vn tybied y gellid ei basio yr eistAdrliad presenol. yr hyn a gododd Mr. Bright ar ei draed, yr hwn a ddangosai mor rwydd y gellid ei baaio gan fod y Ty wedi dyfod i farn unfrydol arno. Tynwyd y Mesur a'r gwelliant yn ol, a gadawyd y mater yn Ilaw y llywodraeth.
TY YR ARGLWYDDI, dydd lau.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI, dydd lau. Darllenwyd Mesur y Commons yr ail waith, a gyrwyd amryw fesurau lleol raddfa yn mlaen.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Cynygiodd Mr. Walpole ail ddarlleniad Mesur Prifysgol Caergrawnt. Gwrthwyneb- odd Syr Charles Dilke y Mesur am ei fod yn rhoddi gormod o awdurdod i'r Dirprwywyr, heb nodi allan yr egwyddorion wrth ba rai yr oeddynt i weithio yn eu gwelliantau yn rheoleiddiad y Brifysgol a'i cholegau. Par- haodd y ddadl am oriau mewn Ty hynod o wag; ac yn y diwedd, tynodd Syr C. Dilke ei welliant yn ol, a darllenwyd ef yr ail waith.
TY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY YR ARGLWYDDI, dydd Gwener. Aeth Mesur y Llongau Masnachol trwy y Pwyllgor gyda gwneud un neu ddau o gyf- newidiadau ynddo, y mwyaf pwysig o ba rai ydoedd, mabwysiadu cynllun tebyg i eiddo cyfraith Canada gyda golwg ar lwythi at fyrddau Ilongau, yn lie eu gwahardd yn gyfangwbl, yr hon adran a basiwyd trwy fwyafrif mawr gan Mr. Plimsoll yn Nhy y Cyffredin.
TY Y CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TY Y CYFFREDIN. Yn yr eisteddiad prydnawnol, cymerodd Mr. Bowen ei sedd dros sir Benfro yn lie y diweddar Syr John Scourfield. Wedi myned trwy nifer fawr o gwestiynau, aeth y Ty i Bwyllgor ar Fesur y Llys Apeliadol, yr hwn a gymerodd yr holl eisteddiad hyd saith-yr awr i'w ohirio hyd naw. Pan gyfarfyddodd am naw, galwodd Mr. Dillwyn sylw at y gyfraith yn nglyn a gwallgofiaid, a chynygiodd, 'Nad oedd y gyfraith, fel y mae yn bresenol, yn gosod digon o amddiffyniad rhag i wallgofiaid gael eu camdrin;' ond pan oedd Syr E. Wilmont yn cefnogi, galwodd rhywun sylw y Llefarydd at y nifer oedd yn bresenol, a cban nad oedd yno 40, gohiriwyd y Ty.
¥ gantat jfarttioL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
¥ gantat jfarttioL 1. B. G., Llanuwchllyn. Dau Englyn i'r "Robia Goch." Gair wedi ei Gymreigeiddio o'r Saesoneg yw "Brest" (breast). Nid chwaethus ia wn, er e fod yn ddigon gwir, yw dweyd -fod Robin bach yn myned— "I ofyn maeth o gafn moch." Y mae ynoch allu i gynghaneddu. Eweh rhagoch. Caiff "Robin" a'r "Wenol" ddyfod allan o'r cage yn fuan. 2. Glan Prysor, Blaenau Ffestiniog. "Hen Wlad y Gan yw Cymru." Cin dda-cii sydd yn debyg o ddyfod yn boblogaidd, pe gellid cael cerddor iawn i'w gosod mewn Jrame gerddorol, ac Eos Morlais i'w ebanu we(ilyn-gweireii,liai y miloedd. Yn fuan. Diolch i Glan Prysor am ei nodyn cyfrinachol, a'i ddymuniadau daionus. 3. O. W. Jones, Rhiw, Ffestiniog. Englyoiou— "Gorthrymu y Tlawd." Ymddangosant. 4. Asaph Collen, Sarou, Ffestiniog. Rhyw le rhyfedd am feirdd yw Ffestiniog yna! Maent yna fel gwlith y boreu. Cana Asaph Collen Chwe' phenill ar -'Elias wrth afon Cerith." Buasem yo
LLITH EPHRAIM LLWYD
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
af ofnadwy) at bersonau tawel a respecto Ai nid ffrwyth cenfigen ydyw y cyfan, fer r,- edf Gwyliwch ati, onide bydd Lowri nr eich cefnau fel barcutan. Y mae Temlyddiaeth Dda yn colli ei dyl- anwad yn yr un gymydogaeth. I brofi y pwnc, chwedl Cadi Ellis, A y mae merch,. sydd yn byw yn ymyl y mor, yn penderfynu llenwi eu ceadodau a diod Syr John. Y mae gan rai o'r hil ddynol ddigon o synwyr cyfFredin i feddwi yn respectable, a myned i'w gwelyau i sobri wed'yn, ond am y rhai byn, rhaid iddynt gael codi rom, a hyny ar y Sabbath. 'Gwae chwi, breswylwyr glan y m6r.' Yn ngwysg fy nghefn i L-n-r-s. Taro ar hen gyfaill yno newydd ddychwelyd o F—n-—g—r gyda'r tren, ac yn mhlith pethau eraill, dywedodd wrthyf fod yn yr un cerbyd ag ef ryw mag o gymydogaeth y F—r—n G—ch yn torsythu, fel pe buasai yn werth ceioiog a dimai, ac yn ceisio gwneud sport o hen wr parchus. Pa fudd ydoedd gwrando ar y ffwl yn ymffrostio yn ei wroldeb yn gallu gadael ei wraig, yr hon a briododd y diwrnod hwnw, pryd y gwyddai pob dyn o synwyr llai na chyffredin, nad oes yr un ddynes wedi erioed ei darparu ar ei gyfer, nac yn debyg o fod ychwaith. Pe buasai gwir yn ei ymffrost, mae'n bur debyg y bu- asai ei wraig yn falch o gael ymwared ag ef. Gwell i ti y tro nesaf, boy, y byddi yn trafaelu, gau dy geg, ac yna, ni fydd neb yn gwybod fod dy synwyr mor brin. Hwre! Alarch Gwyrfai wedi cael teitl newydd, a dyma hi, P. S., neu, yn ol esboniad Wil twll y clawdd, "Peiriant Sibellol." Bydded hit oes iddo i enill yn holl sill-gacynod y bydysawd. Races mulod deudroed yn Llanrhaiadr y moch. Enillodd y mul cyntaf, wrth gwrs, a'r achos i'r mul olaf fethu enill ydoedd, ei fod wedi yfed gormod o ddwr o dwb brag. Onid gwell fyddai i aelodau y cyrff yma gadw o'r fath leoedd, rhag ofn i'r hen batriarchiaid godi o'u beddau? i'w hargyhoeddi. Newydd da o lawenydd mawr. Y mae Eos Einion wedi rhwymo ei hun wrth Miss Davies, Nantclwyd, a gobeithio y byddant wedi eu rhwymo am byth yn rhwymau cariad. Fel hyn y cana Bardd Cemmaes iddynt:- "Llwyddiant i chwi fy nghyfeillion, Bydded cariad yn eich nyth; Fel gwythien euraidd odiaeth Yn arweinydd i chwi byth." Bu agos i mi ac anghofio rhoddi hanes fy ymweliad i a'ch hen ftrind, a chyd-drefwr, Mr. John Jones, (yrhwn aurddwyd genyfyn ol brain a defaid am dri o'r gloch boreu dydd Gwener y Groglith diweddaf, yn nhy yr Archdderwydd Etta Mon, yn Lazarus Lleif- iad) i bwthyn a gardd yr anfarwol lenor "Theta Delta." Os oes paradwys yn rhyw- le ar y ddaear yma, dyma lie y mae. Ni fu'm i erioed mewn lie mor brydferth, palas bych an mewn gwirionedd, a Theta yn frenin ynddo. Pe na buasai yr un gronyn o awen mewn dyn, buasai byw yn y fath fwthyn a hwn yn ei alluogi i gyfansoddi awdl heb erioed astudio rheolau barddoniaeth. 8aif mewn llecyn tawel, o swn a dwndwr ofnadwy ein tref. Adeilad bychan yn yr hen style ydyw, un uchder, fel y dywedir, ac y mae ei wyneb glan oddiallan yn eich argyhoeddi ar unwaith fod y rhai sydd yn trigo o'i fewn yn bobol dwt, fel y dywed pobl sir Fon; ae wedi yr eloch iddo, yr ydych yn ofalus rhag llych- wino llawr y bwthyn. Yn wir, yr oeddym yn ofni eiatedd yno, rhag y byddai i ni ei halogi. Y mae yr olwg ar y ddau, sef Theta a'i anrhydeddus wraig, yn eich argyhoeddi hefyd fod glanweithdra yn brif study gan- I ddynt, am eu bod hwy eu dau, "fel pin mewn papyr, chwedl Mali Jacob. Y mae pob ys- tafell yr un fatb, glanweithdra yn teyrnasu yn mhob congl; byddai yn dal da i lawer gwr I a gwraig fyned yno i gael gwers ar lanweith- dra. Mewn un ystafell yno y mae harmon- ium, a'r hon y mae Theta yn arfer difyru ei hun a'i briod, drwy ei chwareu hirnos gauaf, a chawsom ninau y pleser o weled y brawd yn rhedeg ei fysedd ar hyd-ddi, er difyrwch mawr i ni. Yn ymyl y bwthyn y mae gardd fawr yn llawn o bob math o flodau a ffrwyth- au, yr hon sydd o dan ofal y cyfaill. Cawsom y fraint o rodio drwyddi, ymborthi ar y strawberries, &c. Ac fel rhodd i goffau am ein hymweliad ag ef, anrhegodd ni ein dau a bunch o flodau o bob lliw ag arogl mwyaf peraidd. Wedi siglo Haw, a diolch am y croesaw mawr a gawsom gan y cyfaill caredig, aeth Lazarus Lleifiad i'w fan, ac felly hefyd yr aeth EPHRAIM LLWYJD. Lerpwl, Gorph. 8, 1876.