Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
11 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
11 erthygl ar y dudalen hon
Y RHYFEL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y RHYFEL. YN gymaint ag nad oes gyda'r gwahanol fyddin- oedd ohebwyr Ewropoaidd; ond y mae gan y gwahanol newyddiaduron ohebwyr ar eu ffordd tuag yno, y rhai a anfonant y gwir ymaith. Y Baae y Serviaid wedi ymwahanu ya dri neu hedwar corfflu, ac wedi croesi y terfynau mewn gwahanol fanau. Y mae byddin Montenegro Wedi cychwyn hefyd, ond y mae aymudiad hbno ttior ddirgel, neu y mae yn teithio trwy fanau anghysbell, fel nad oes ond ychydig, os dim o'i hanes wedi ei gael o'r cychwyn cyntaf. Y mae rhai awdurdodau milwraidd yn synu fod y Serviaid wedi rhuthro yn sydyn i diriogaeth- au Twrci; ac y mae un corfflu wedi myned ugeiniau o filldiroedd i ganol y wlaJ. Ond yr amcan mawr, yn ddiau, ydyw ymuno a r Montenegriaid, achynllunio ymosodiad ar radd- fa eang ar brif alluoedd Twrci mor gynted ag sydd yn bosibl, cyn i'r Tyrciaid gael amser i gasglu eu holl alluoedd i faes y gwaed. Y mae dwy frwydr wedi cymeryd lie yr wythnos ddiweddaf, ac y mae pob ochr yn adrodi fod y canlyniadau yn ffafriol iddynt hwy.
BRWYDR BELTNA.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRWYDR BELTNA. Dywed yr adroddiadau Tyrcaidd fod brwydr fawr wedi cymeryd lie yn Belina, yr hon a barhaodd am lawer o oriau; a bod y Serviaid wedi gadael dau gant o feirwon yn y dref, heblaw saith cant yn y gymydogaeth. Collasant lywydd, amryw swydd- ogion, yn nghyda banerau.
BRWYDR NOVIBAZAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRWYDR NOVIBAZAR. Yn ol yr adroddiadau o Gaercystenyn, gwnaeth y Serviaid, o dan y Cadfridog Zach, ymosodiad ar y Tyrciaid; ond gyrwyd hwy yn ol gyda lladdfafawr -pymtheg cant wedi eu ltadd a phymtheg cant wedi eu clwyfo tair mil o golled. Dywed adroddiad y Serviaid,-Aeth y corfflu, o dan lywyddiaeth y Cadfridog Zach, dros y terfyn dydd Iau, ac ymosodasant ar y Tyrciaid- y rhai a wersyllasant mewn safleoedd cedyrn. Clwyfwyd, lluaws ar bob ochr; ond ar ddiwedd yr ysgarmes, yr oedd pob ochr yn gallu ymifrostio eu bod wedi dal yn eu sefyllfaoedd yn ddi-ildio. Croesodd corfflu arall yn Raschka, ac wedi ym- laddfa galed a'r Tyreiaid am chwe' awr, gorfodwyd y Tyreiaid i ddiane i Novibazar, gyda lladdfa fawr.
AMDDIFF^NFA SAITCHAR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AMDDIFF^NFA SAITCHAR. Y mae y Tyrciaid wedi gwneud pedwar rhuthr aflwyddianus i feddianu yr amddiffiynfa hon, a dy- wedir fod Osman Pasha wedi ei anfon yn ol gyda lladdfa fawr dydd Sadwrn. Ymosodwyd ar ochr ei fyddin gan gorfflu o Serviaid, gan wneud cryn ddinystr ami. Dywedy newyddion trwy Paris hyd dydd Sadwrn, fod y rhyfel, os yr un. hyd hyny, yn troi ychydig yn ffafriol i'r Serviaid; a dywedir fod ganddynt well magnelau o lawer na'r Tyrciaid. Y mae y Cadfridog Americanaidd, ac amryw o hen swyddog- ion yn myddin Prwssia wedi myned i roddi eu help i'r Serviaid.
BETH WNA RWSSIA ?
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH WNA RWSSIA ? Y mae Rwssia wedi anfon nodyn at ei chyurych- iolwyr yn mhob gwlad, yn yr hwn y mynega na wna roddi un cymhorth i Servia, ond sefyll yn llonydd i edrych ar yr ymdrechfa bresenol.
Y DDAU YMERAWDWR MEWN CYNGHOR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DDAU YMERAWDWR MEWN CYNGHOR. Bu Ymerawdwyr Prwssia ac Awstria mewn cynghor a'u gilydd yn Nghastell Reichstadt; asicr- heir eu bod wedi cytuno i beidio ymyraeth o gwbl, oadyncadw mewn golwg yr angearheidrwydd o gael yr holl alluoedd Cristionogol i gyd-ddealltwr- iaeth cyn gynted ag y bydd y rhyfel wedi troi yn derfynol o un ochr. Credir yn lied gyffredinol ar hyn o bryd nad oes perygl i'r rhyfel ymledu o'i wely presenol.
BETH AM ROUMANIA ?
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH AM ROUMANIA ? Y mae Roumania wedi anfon at y galluoedd sydd wedi rhoddi sicrwydd am eu hannibyaiaeth, ei bod yn bwriaducadw i'r llythyren at y cytundeb hwnw; ac na wna oddef i agerlongau Twrci ddyfod i un o'i phortlfladdoedd i ymofyn cyflenwadau o lo na dim arall.
TREIALON CWN DEFAID Y N. YR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
TREIALON CWN DEFAID Y N YR ALEXANDRA PALACE. Y mae y drychfeddwl o gynal treialon neu gystadleuaeth cwn defaid wedi gwreiddio yn meddwl Mr. Lloyd-Price, ac y mae llwydd- iant a daioni mawr wedi eu dilyn. Y mae dwy gystadleuaeth wedi eu cynal yn y Bala; a chymerodd y Saeson y drychfeddwl i fyny, a chynaliwyd un gyffelyb yn yr Alexandra Palace yr wythnos ddiweddaf, o dan arolyg- iaeth T. Ellis, Ysw., Henblas, Bala. Yr oedd lluaws o gwn wedi dyfod o Gymru i'r gystadleuaeth, ac yr oedd yno rai o'r cwn goreu yn Lloegr, o ran dysgyblaeth; ond ni lwyddodd ond un o honynt yn unig i gasglu y tair dafad yn nghyd i'r gornel, a diangodd y defaid ar ^yfeiliorn yn mheU o gyrhaedd y lleill. Parhaodd y treialon am ddau ddi- wrnod; a dyfarnwyd y gwobrwyon fel y canlyn:— canlyn:— I Own o bob oedran. 1. Mr. John Thomas. Cwmyraethnant, Bala. £ (Maddie). 15 2. Mr. Roberts's Nell 7 3. Mr. John Jones, Pentre 5 4. Mr. James Glendinney's Tool 2 I Gwn leuaine, 1. Mr. Jamas Thompson's Tweed 10 2. Mr. W. Evans's Juno (Goruchwyliwr i Arglwydd Penrhyn 6 Ataliwyd y 3edd a'r 4ydd wobr Am y Ci o ymddangosiad goreu. Mr. E. Rowland Currie's Rover Am y ci gjoeithio goreu o bob oed. Mrs. John Thomas's Maddie. Y mae "Maddie" yn fam i "Tweed." Yr oedd yn bresenol y dydd cyntaf un o oruchwylwyr y Gymdeithas er atal Creulon- deb tuag at Anifeiliaid, a chafodd ei foddhau gymaint, yn y gweithrediadau, fel yr oedd Lady Burdett Coutts yn bresenol ei hunan yr ail ddydd, ac addawodd danysgrifio i'r drysorfa. Y mae amcanion y treialon hyn yn tueddu i leihau creulondeb tuag at gre- aduriaid afresymol, am fod cwn yn cael eu dysgyblu yn briodol i'w trin a'u casglu i'r fan a fyno y bugail. Prof odd trefniadau ein cydwladwr, Mr. T. Ellis, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Par- meter, yn llwyddianus a boddhaol i bawb o'r edrychwyr.
AT "CYMRO," LLANFACHRETH (YR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT "CYMRO," LLANFACHRETH (YR UWD). ANWYL GYMRAWD,— A welwch chwi'n dda orphen eich hane* o "Gy- farfod Llenyddol y Temlwyr Da," a gynaliwyd yna Mehefin 26, yn y DYDD nesaf, fel y gwypor byd beth a ddaeth o'r Hir a Thoddiad ar ol y diweddar Barch. Owen Roberts? Bydgai yn ddymunol i'r ymgeiswyr oil, gael gwybod os oedd yn y gystadleuaeth rywun yn werth y wobr; ae os oedd, pwy oedd hwnw, a sut y mae'r Toddaid? Yr eiddoch, heb na digter na dadl, ond a hoffai gael adroddiad gweddol gyflawn o gyrddau llen- yddol pan fo rhyw destynau "yn agored i'r byd." CYMRO ARALL. O bendraw'r byd o fewn modfeddneu ddwy.
MOSTYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MOSTYN. Yr oedd yn llawen genyf weled 'Cyfaill Caton' yn ymgymeryd a chofoodi gweithrediadau cyfarfod ymadawol y brawd gweithgar a ffyddlawn, Mr. Edward Morgans o Fostyn i weinidogaethu yo Llansantffraid-Glan-Conwy. Yr wyf yn diolch iddo ar g'oedd drwy eich papyr adeiladol am ei gofnodiad prydlawn a manwl. Ond y mae wedi gadael allan ddau beth pwysig. Dywed am y lluaws cyfeillion i Mr. Morgans a ymgasglodd ar yr achlysur o'i ymadawiad i dalu parch iddo, ond ni ddywed pwy a feddyliodd gyntaf am gael cyfarfod, a phwy aeth i'r drafferth a'r draul o'i wneud yn gyhoeddus, a pharotoi canenon, dadleuon, &c., er ei wneud yn un dityrua ac adeil- adol. Ond bydded hysbys mai Temlwyr Da yr ardal a wnaeth hyn. i madael â Mr. Morgans fel Temlydd Da oeddid y noson hon, ac nid fel cy- mydog, aelod eglwysig, efrydydd, na phregethwr. Temlydd Da oedd y cadeirydd, ac y mae yn haeddu diolchgarwch cynes am ei barodrwydd a'i ufudd-dod i gynorthwyo pob achos da, a Themlwyr Da proffes- edig oedd pawb a gymerodd ran yn y cyfarfod, ac mae hwnw yn ddirwestwr selog. Nid wyf yn gwybod pa un ai Temlydd neu wrth-Demlydd yw 'Cyfaill Calon,' ond y mae rhai pethau yn ei lythyr yn fy arwain i gredu mai un o'r eymeriad olaf a nodais yw, ac nad oedd yn bresenol yRY cyfarfod. Mae yn rhyfedd, Mr. Gol., fel y mae pawb am gyfranogi o'r clod a geir am weithio, ond nid o'r gwaith. LI Y peth pwysig arall a adawodd ailan oedd y 'Wledd De.' Am bed war o'r prydnawn yr eistsdd- odd oddeutu 50 o blant y Juvenile Lodge, ac ych- ydig o frodyr eraill, i fwynhau ffrwyth y ddeilen dramor a bara brith, o dan arolygiatth Miss Dav es, Gwern House. Cofier eto mai y Temlwyr Da a anrhegodd y plant a the. Cymeraf fantais o'r cyfleusdra hwn hefyd i ddiolch yn gynes i'r brodyr Wesleyaidd ar ran y Temlwyr Da am roddi benthyg y capel at eu gwas- anaeth. 'Parhaed brawdgarwoh.' Yr wyf yn dy muno iechyd da, hir oes, a gwenau y nefoedd i't brawd i wneuthur llawer o ddaioni yn ei gylch newydd. EWYLLTSIWR DÃ.
¥ gantat jfarttioL
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
cymeradwyo y bardd i'w hanfon i'r DYSGEDYDD neu DYSGEDYDD T PLANT, Y Diwygiwr, neu ryw gy- hoeddiad arall, yn herwydd yr elfen grefyddol a red drwyddynt. Ond cant aros eu tro yn swyddfa Dolgellau. 5. R. Jervis (Gwynonwy), Birmingham. "Dau Englyn ar ol Plentyn Mr. a Mrs. Jones, Staylittle, Maldwyn. Llinell dda yw'r olaf,- 'Mae'n chwareu 'i delyn mewn uwch ardaloedd." Cymeradwy. 6. O. W. Jones, Ffestiniog. Englynion- "Gwraig Sarug." Cynghaneddion cryfion, amedd- yliau rhedegog-gwylltion. Un iawn am arfer yr 'ordd: yw y bardd hwn. Cynghorem ef i gyfansoddi ychydig linellau y tro nesaf ar "Heddwch," "Tang- Befedd," neu "Gymydogaeth Dda." Nid da troi a thraflvncu gormod. Cymeraiwy. 7. Prysorfab, Trawsfynydd. "Oriau A wen" Dewi Hafhesp. Drwg genyf nad ydych hyd yn hyn Wedi medru marchogaeth march carlamog Dafydd ap Edmwnd. Dim cynghanedd. Peidiweh tori elch calon, er hyny, ond ewch yn mlaen yn ddewr, -meistrolweh Ramadeg Caledf ryn (ei reolau); yna, tyddwch yn deilwng fardd yn ardal deg Traws- fynydd. Dangoswch eich gwaith i ryw wr o fardd, tyfarwydd yn y cynghaneddion, cyn ei yru i'r Nvas- Gwnai y Parch. W. Jones, Fron, Traws- fynydd (brawd Llystyn), eich gosod ar ben y flordd-mentrweh ato. 8. R—s H-g-s, D-I-f-e. "Y Cristion yn Marw." Tra anghelfydd ydyw ffurfiad eich Ilia cllau, —eu hesgeiriau ddim yu ogyhyd—un goes yn hirach na'r Uall! Felly, pan a y gan i gerdded, honcian a honcian a wna hi o hyd. Mae'.r meddyl- lau yn dda iawn. Hwyrach, ar ol ail ystyried, fod y bardd yn fwriadol yn newid ei fesurau; os felly, y mae'r gan yn un go dda. Caiff ymddangos. (Boed hysbys i Dylife, fod rhai copiau o "Awdl-Bryddest Emrys" ar law. Gyrer i Golwyn). 9. Glan Ednant, Llanbrynmair. "Teulu Mawr y Sebon." Campus, Glan Ednant! "Daw Haul ar ol Y Gwlaw." Tlws, arabol. Diolch i chwi am y ddau ddarn. Diau y darllenir hwy gyda bias a twyi gan ddarllenwyr y DTDD, Ephraim Llwyd, *8wm a phawb. Cawsoin wledd cb.werthinol wrth darllen. Da genymfod "Caneuon Glan Ednant" dd'od alian o'r wasg. Gwelsom lawer o honynt. Maent yn siwr o 'fyn'd.' Oes hir i Glan Ednant. •ghlO. Edward Owen, Brithdir. 'Llinellau ar mab bychan Mr. Richard Owaia, Police- Constable, Trawsfynydd." Nai i'r awdwr oedd y Pjentyn. Darilenasom y llinellau o'r blaen yn v Nhrawsfynydd. Maent yn dyner a theimladwy. C3nt ymddangos yn fuan. 11. loan Machreth, Ffestiniog. Dyma fardd arall eto yn awyr Ffestiniog. Englynion buddugol ar "Pharaoh" sydd ganddo. Yn ein byw, nis gallwn gofio yu mha le na pha bryd y darllenasom hwy o'r blaen. Credwyf fod yno swrn o naddynt i'w beirniadu gan fardd mewn rhan anghysbell yn ngbeseiliau Meirioa ddechreu y flwyddyn hon,- beth bynag, hwynthwy oeddynt y goreu o ddigon. triglynion campus ydynt. Yn fuan. Yr un modd yr englyn i'r "Wybren nosawl." Q-Bydded hysbys i loan Machreth a phawb nad oes genyf yr un linell i fewn ar "Helen Hwyddawg"—Testnn Cadair Eisteddfod Genedl- aethol'Wrexham-eleni, nac ar ddim arall chwaith yn yr Eisteddfod hono. Dechreuais gyfansoddi yn Ebrill, yn ngwlad Myrddin; ond daeth tonau trist- "ch, gofid, a hiraeth i lifo droswyf fi a theulu fy l'hieni,-cleddais cbwaer anwyl-darn o'm calon- 'Qll oedd yn hoff iawn genyf am dani bob amser- 46th i'w bedd yn 16eg mlwydd oed. Trodd Ebrill ^yner wanwynol yn lihagfyr oer tymhestlog i mi. Dim hwyl i gyfansoddi dim. Colwyn. CAERONWY.