Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
CAMBRIAN RAILWAYS. Tourist Arrangements, 1876. FIRST, Second, and Third Class Tourist Tickets, available for five months, will be issued from June 1st to 31st October, 1876. For particulars, see Time Table and Pro- grammes issued by the Company. o HENRY CATTLE, TRAFFIC MANAGER. Traffic Managers' Office, May, 1876. STSpKE Y^SNGH^RLLBDN. IjAER efcfj^nir ar iV^Joineriaid gad^^ddi- JOHN RUGHES, Printer & Stationer, Barmouth. Orders freceived for Printing & for Welsh & jish Periodicals. AT Y BEIRDD. T1LYNYDDOEDD yn ol, cyhoeddodd y diweddar X Barch. W. Ambrose betiillion i'r "Chwain" yn y FANER; byddai yn dda genym os gall un o hon- och ein ffafrio a chopy o honynt, trwy eu hanfon i Swyddfa'r DYDD, Dolgellau. YN EISIEU ENGINE DRIVER AT BEIRIANT -U SEFYDLOG. tiwaith parhaus. Rhoddir y flaenoriaeth i wr priod. Rhaid i'r ymgeisydd fod yn sobr, ac o gymeriai da. Eower person neu bersonau i ymofyn & hwy. Ymofyner trwy lythyr, gan hysbysu yr oed a'r gyflog, a'r Meistri JONES & GRIFFIEHS, Merchants, Aberdovey. PREGKETHAU J. R., Rhif CyJ. II., Pris Is., I'w cael 0 SWYDDFA Y DYDD, Dolgellau. DYMUNA y PARCH. I LEWIS, BIR- MIN GH AM, ar 'w gyfeillion gyfeirio eu llythyrau ato o hyn allan fel y canlyn:— Penarth House, Frederick Moad, Ashton Park, Birmingham. MUSIC, Dpi-erEJfiLEY. MR. PRICHAjiBf'S next terro^JfiTmences July 2fX?67l876. For tywrffculars apply to Mr. PlfrfUHARD. camdrfw. O. O. Roberts, BDolgelley. AIL-ARGRAFFIAD. COFIANT y diweddar Barch. C. JONES, Dol- gellau, (Hen Olygydd y Dysgedydd). gyda ¡j" un, gan y Parch. R. Thomas, Bala. Wedi ei rw) mo yn hardd, a'i oreuro, a'i lythyrenu, pris 2s. 6c. Cynwysa wahanol benodau ar neillduoliou ei gymeriadgan Dr. Rees, Le rpwl; J. Thomas; M. D. Jones; y diweddar Caledfryn; W. Ambrose; D. M. Davies, ac amryw ysgrifenwyr eraill. YN BAROD GWEITHIAU EMRYS, acyn gorphen y gwaitb, Rhif 8. Pris Is. GEIRIADUR, Rhif 17. ESBONIAD CYFLA.WN, Rhif 18. at, ein CobebWpr. TOWTNIAU.—Istaw y safon. YN EIN NESAF—Ffestiniog; Criccieth; At "Some- body o Fawddwy, &c., &c. AT Y BEIRDD. HYN all OHYN allan, diolchwn am i'r Beirdd gyfeirio ue cynyrchion i'r DYDD fel y canlyn:- Rev. D. C. Harries (Caeronwy), Colwyn, Nr. Conway. j
BETH YW DYLEDSWYDD PRYDAIN1
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH YW DYLEDSWYDD PRYDAIN1 Ni bu ein gwlad, er's llawer o flynyddoedd, mewn cyfwng mor bwysig a dyrys a'r un presenol. Y mae ei chysylltiad ag Ymerodr- aeth Twrci, a'r ffaith fod gwrthryfel wedi tori allan o'i mewn, yn gosod ein llywodraeth- wyr mewn sefyllfa hynod o ddifrifol, ac y mae cyfrifoldeb ofnadwy yn gorphwys ar- nynt; a'r cwestiwn pwysig ydyw, Beth yw dyledswydd Prydain ar yr adeg bwysig hon? Y mae y wlad yn unfrydol yn rhoddi ateb nacaol plaen iddo, sef na ddylai gynorthwyo Mahometaniaid Twrci yn h^y i ddal yr Ymerodraeth yn 'ei chyfanrwydd, tra maent yn defnyddio eu hawdurdod i orthrymu a thlodi pawb ond credwyr yn y 'Kora,n/ tra nad ydynt yn ymgeisio at un math o ddiwyg- iadau, a thra y mae y wlad yn warth i holl wledydd gwareiddiedig y byd edrych arni, yn ei thlodi a'i thywyllwch ofergoelus. Y niae anrhydedd ei chymeriad yn ateb na ddylai fod yn fraich i barhad y fath drueni ag sydd yn bodoli yn bresenol yn Twrci-sefyllfa ag y mae yn well gan y Cristionogion syrthio ar fin y cleddyf a blaen y bidog na bod ynddi am foment. Ac y mae ein gwladlyw- iaeth o beidio gadael i Rwssia gael meddianu Caercystenyn, yn ateb yn gadamhaol y dylem gefnogi creadigaeth talaeth Gristion- ogol annibynol ar yr ochr ddebeuol i'r Dan- ube. Gall tri o bethau, o leiaf, ddygwydd. Gall Twrci lwyddo i roddi i lawr y gwrthryfel- wyr—gall gael ei gorchfygu, a'i chyfyngu i'r z' wlad yn ddeheuol i fynyddoedd y Balkans- ond y peth mwyaf tebygol ydyw, i'r rhyfel presenol fod yn un o hir-barhad, anmbender- fynol, a dychrynllyd o ran barbareidd-dra, creulondeb, a dinystriol i fywydau a medd- ianau. Dyna y peth tebycaf o lawer ar hyn o bryd; ac y mae yn anhawdd meddwl y llwyddir i'w gadw yn rhywbetb lleol arlanau y Danube. Bydd Rwssia yn sicr o roddi cymhorth i Sbrvia yn ddirgel neu yn gy- hoeddus, yna daw yn angenrheidiol i Loegr ymyraeth; a'r cwestiwn pwysig ag y mae y Senedd a'r wlad yn awyddus am gael ateb iddo ydyw, Beth fydd natur yr ymyriad hwnw? Dylai y llywodraeth roddi ateb eglur a diamwys iddo, a goreu po gyntaf y gwna. A ydyw yn meddwl cynorthwyo y Sultan i adfeddianu ei awdurdod dros y taleithiau a'r tywysogaethau gwrthryfelgar, gan gymeryd sicrwydd ganddo ar bapyr y caiff y deiliaid Cristionogol fwynhau pob rhyddid yn wladol a chrefyddol? Ni fydd hyny yn ddim angen na gwneud rhyfel mor ofnadwy ag eiddo y Crimea yn bosibl eto! Ie, pe llvydd- id yn hyny-pe llwyddid i ddarostwng y gwrthryfelwyr a'r Rwssiaid—ie, y mae os yn y cwestiwn-byddai y 'cwestiwn dwyreiniol' yn bellach oddiwrth gael ei benderfynu nag erioed, byddai yn ddechreuad cyfnod newydd o orthrymu mwy dychrynllyd, o wrthryfel- garwch mwy penderfynol, ac o ymyraeth mwy cynllungar ac uniongyrchol o eiddo Rwssia. Yn wir, pe llwyddid i gyhoeddi y 'dyn claf' o Twrci am unwaith eto yn Ym- erawdwr ar ei holl daleithiau, ni wnai hyny ond sicrhau Caercystenyn i Rwssia mewn amser dyfodol. lë, wedi hyny—wedi yr holl alanastra, colli bywydau a gwario arian- byddys yn sicr o weled mai yr unig feddyg- iniaeth fydd gwahanu y taleithiau ar yr ochr ogleddol i fynyddoedd Balkan oddiwrth Twrci, a'u sefydlu yn un galln, annibynol; ac as felly, onid gwell ydyw gwneud hyny yn awr, ac atal y rhyfel presenol rhag myned yn mlaen, cyn dyfetha y wlad, lladd y trigolion, a ehreu digter ynddynt tuag at Brydain. Dyna fyddai yn waith gogoneddus a theilwng o Brydain-arfer ei dylanwad i ddwyn hyn oddiamgylch. Os sefydlir teyrnas annibynol z,Y felly ar lanau y Danube wedi i Rwssia fod yn ymladd o blaid hyny a Phrydain yn er- byn, edrychir aryfRwssiaid gan y Sclaviaidfel eu gwaredwyr, a bydd byn yn gam mawr tuag at i'r 'arth' gael rhoddi ei phawenau mawrion am Caercystenyn. Ond, a chaniatau i'r gwrthryfelwyrlwyddo iymysgwyd o dan iau orthrymus Twrci, y cwestiwn wed'yn fyddai, pwy fyddai fwyaf yn y rhandir hono, pa un ai y Groegiaid ai y Sclaviaid, ai rhai o'r cenedloedd eraill, fel y byddai mewn cyflwr mor ansicr ag erioed, a mwy o gyfle i'r "Arth" daflu ei phawen i mewn. Byddai y wlad oil yn yr annhrefn mwyaf, ac heb gymaint a chynrychiolydd Mahomet i gymeryd arno gadw trefn ar y trigolion. Ond fel y dywedasom eisoes, y peth tebycaf o lawer ydyw i'r rhyfel gael ei gario yn mlaen gyda'r fath farbareidd-dra a chigeidd-dra o'i ddeutu fel nad allai gwledydd Ewrop, er mor awyddus am gadw o'r uweryl, oddef iddo gael ei gario yn mlaen heb roddi terfyn arno. Wel, onid ellid ei ddwyn i deriyniad cyn iddo wneud y fath alanastra ag a fydd yn rhy ofnadwy gan Ewrop ei oddef yn hwy? Oredwn mai dyledswydd Prydain ydyw ymgais at hyny. Y mae meddwl am i'r Cristionogion gymeryd eu llywodraethu gan y Tyrciaid fel eu gorchfyg- wyr, pe cymerai hyny Ie, a'r rhai hyny dra- chefn yn cael eu ffiamio gan benboethni crefydd- ol, yn ynfydrwydd-ni wnant byth ei oddef; a byddai yn ailddechreuad y drygau o ba rai y cododd y gwrthryfel presenol. Ac ni byddai goruchafiaeth y gwrthryfelwyr yn llai peryglus i heddwch y Dwyrain, oblegid ni byddai yno yr un gallu yn ddigon o feistr ar y llall i hawlio blaenoriaeth, ond pawb yn dadleu eu hawliau, gan sefyll bron ar yr un tir, yr hyn ni fyddai ond taflu y wlad i an- nhrefn o benbwygilydd. Gan hyny dyledswydd Prydain,?er mwy a dynoliaeth yn gyffredinol, er mwyn y truein- iaid Cristionogion, ac er cadw Rwssia draw o Gaercystenyn, ydyw defoyddio ei dylanwad i greu teyrnas annibynol, gref, ar ochr ddeheuol y Danube. Dywedir fod Rwssia yn erbyn sefydlu y eyfryw allu rhyngddi a Chaereystenyn; a bod Awstria yn dychrynu rhag y drychfeddwl, am y bydd ei deiliaid ar yr ochr gyferbyniol i'r Danube o'r un genedl, ac y bydd perygl iddynt fyned i gydymdeimlo a'u brodyr yn mhobpeth. Oud dylai fod y flaith fod Rwssia yn erbyn hyny yn rheswm ychwanegol i Brydain dros ei gefnogi, a cbai y byd o'i phlaid ac i gydymdeimlo yn ei hymdrech i estyn ym wared i'r Cristionogion gorthrymedig. Ni wnai, trwy hyny, roddi yr un iot o warth ar ei chymeriad, na'r un arwydd o wendid, oblegid y mae Llywodraeth Twrci wedi methu cario allan yr ymddiriedaeth a roddwyd iddi, ac wedi gwrthod cyflawni yr hyn a addawodd, sef llywodraethu Cristion- ogion ei thaleithiau mewn tegwch ac iawnder, gan ganiatau iddynt bob rhyddid, yn wladol a chrefyddol. Ni byddai, trwy hyny, ond yn dangos ei bod yn meddu dylanwad, ac yn perch- en ar egwyddorion, ac enillai barch ac ymddir- ied y gallu a fyddai ar ffordd i'r "Arth" fyned hyd yn Nghaercystenyn. Gall ein hamddi- ffyniad i gyfanrwydd Ymerodraeth Twrci ddyrysu cynlluniau Rwssia dros yr amser presenol, ond bydd ein gwaith yn gwneud