Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COSTAU CARCHARAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COSTAU CARCHARAU. MR. GOL. Yo "Yr Wythnoa" yn y BYDP diweddaf, dywed- wch fod pob carcharor yn ngharchar Lincoln yn costio 2p. 4s. yr wythnos, tra nad yw y gost yn ngharchar TrefaMwjn ond 28. 4c. yr wythnos, ac y gellid cadw deunaw yn Nhrefaldwyn am yr un faint ag a gostiai un yn Lincoln! Nid wyf yn gwybod o ba le y cawsoch eich hysbysrwydd i ysgrifenu yr uchod; ond gallaf eich sicrhau eich bod wedi cael eich camarwain yn fawr iawn gan rywun. Yn lie bod yn 23. 4c. yn yr wythnos yn Nhrefaldwyn, dy- lasai fod o loiaf yn Ip. 6c. yn yr wythnoa ar gyfer pob carcharor. Ni fedraf sicrau fod yr uchod yn hollol gywir, am nad yw cyfrifon y llywodraeth am y flwyddyn ddiweddaf eto wedi eu cyhoeddi; ond y mae, o leiaf, yn lied agos i'w le. Dichon i chwi gymeryd eieh cyfrifon o'r daflen a gyhoeddwyd gan y Milwriad Totteafaym mewn cysylltiad a Brawdlys Meirionydd, ond nid oedd y daflen hono yn gywir; a phe cymerasech haner mynyd oamser i edrych drosti, gallasech weled ei bod yn amlwg anghywir gyda golwg ar garchar Trefaldwyn. Yn y daflen bono, yr hon nid ywwrth law genyf, dywedir mai tua 6p. 6c. yn y fiwyddyn a gyst cadw pob carcharor yn Nhrefaldwyn; a gosodir cyfaorii dyddiol y carcbarorion (daily aver- age number} yn 16. Yn awr, ond i chwi luosogi (multiply) 6p. 6s. gyda 16, bydd genych tyw ychydig dros gan' puut mewn llaw ar gyfer holl gostau y carcbardy am flwyddyn, yr hyn fydd gryn lawer yn rhy fach i dalu cyflog y Governor, heb son am y fwyddogion eraill, a'r holl gostau am fwyda dillad, &c., perthyaol i'r sefydliad. Yr wyf yn sicr pe gosodasai y Milwriad anrhydeddus ffugr 6 arall, a'i wneud yn 66p. 6s. ar gyfer pob carcharor, y bu- asai yn bur ago# i'w le. Yr wyf yn dra sicr, Mr. Gol., y cydolygwch a mi, os ydych yn myned i wneud sylWadau ar sefydliadau a swyddogion cy- hoeddus, y, dylai fod eich ffigyrau yn berffaith gywir, ac bid ymddiried mewn rhywbeth a welwch yn awr a phryd arall mewn newyddiadur. Yr eiddoch, &c., ■j OwAIN. ryr ydym yn ed my gu pluck "Owain" i ymddangos 0 flaen y cyhoedd, a'i barodrwydd bob amder i ollwnlfci ergydioo allan i bob cyfeiriad; ond y drwg ydyw nad oes ganddo yr un rifle, ac nad yw ei pop-gun bychan bob amser yn cynwys ond llaid, a bod mwy o hwnw yn disgyn arno ef ei hunnagar y gwrthddrych yr anela ato. Nid o adroddiad (y Milwriad Tottenham y gwnaethom ein dyfyniad-nis gwelsom hwnw—ac j mae y ffaith ein bod ni a'r Milwriad yr un fath yn profi ein bod wedi cael ein cyfrif o'r un lie, set, o'r Adroddiad Seneddol a gafwyd trwy y Milwriad Beresford. Ie, o adroddiad swyddogoly Senedd, megys ag y cyhoedd wyd ef gau y newyddiad- uron, y dyfynasom. Yn y golofn o dan y teitl, "cyfartaledd costau blynyddol pob carcharor heb dynu ymaith yr enillion oddiwrth eu llafur," y maeyftigyrau uchaf gyferbyn a Lincoln ( £ 113 ss.), er rhai isaf gyferbyn a Threfaldwyn ( £ 6 6B. 8c). Yn y golofn, "cyfartaledd costau blyn- yddol pob carchararoltynn ymaith yr enillion oddiwrth lafur," y mae y ffigyrau uchaf eto ar gyfer Lincoln (dCHS Is. 4c.J; a'r rhai isaf at gyfer Nottingham (£1 6s. 4c). Felly nid oes genym ond, gadsel rhwng "O wain" a'r adroddiad seneddol; ac os nad yw yn gywir anfoned at Mr. Ysgrifenydd Cross i ofyn am eglurhad. Ond dymunwn ddweyd wrth "Owain" a phawb o'r un dosbarth ag ef, gan nad ydym yn holl-bresenol nac yn hollwybodol, nad oes genym ondgymddir- ied ilr hyii a ddarllenwn, ond dichon y dylem fod yn ddigon hunanymwadola gostyngedig i fyned i ofyn eifarn ef a'i gySelyb ar bob mater. Dylai "Owain" ddiolch fod ganddo ef gyfryngau gwybodaeth uwch na'r hyn a ddarlleno, ac oracl- au cywirach ac anffaeledicach na "newyddiadur- on" y rhai a'n camarweiniodd ni a'r Milwriad Tottenham—a bod y cyfan yn cydgyfarfod yn ei berson ef. Ond cymered "Owain" amynedd cyn rhnthro Vi wasg i ddweyd ein bod wedi cam- gymeryd wrth ddilyn newyddiaduron; ac os nad yw yn gywir, dywedwn eto anfoned at yr Ysgrifenydd Cartrefol am eglurhad ar y ffigyrau yn y golofn y dywedir mai costau blynyddol cadw carcharor yn Nhrefaldwyn yw X6 6s. se, yr hyn sydd tua 21.. 4c. yn yr wythnos. Ac wedi i "Owain" gael eglurhad, bydd yn dda genym ei gyhoeddi, a diolch iddo am drafferthu; ond y mae yr hyn a wna yn bresenol yn hollol ddiangen- rhaid, oblegid os nad ellir ymddiriad yn adrodd- iadau swyddogol y Senedd, y mae ein gwlad mewn cyflwr hynod o ddrwg ac amheus; ae ni cyhoeddir adroddiadau anghywir gan ein Llyw- odraeth, nis gwyddom mewn pa beth y gallwn ymddiried-y mae ein system yn ddrwg trwyddi, a rhaid i "Owain" ymgymeryd a'r gwaith o'i phuro oddiwrth bethau o'r fath.—YR SNOS.]

AT EPHRAM LLWYD.

MANION 0 FFESTINIOG.

STRIKE FFXFOBNWAU.

CyMEMADAU CYFFREDIN.

RHIF T.