Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
COSTAU CARCHARAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
COSTAU CARCHARAU. MR. GOL. Yo "Yr Wythnoa" yn y BYDP diweddaf, dywed- wch fod pob carcharor yn ngharchar Lincoln yn costio 2p. 4s. yr wythnos, tra nad yw y gost yn ngharchar TrefaMwjn ond 28. 4c. yr wythnos, ac y gellid cadw deunaw yn Nhrefaldwyn am yr un faint ag a gostiai un yn Lincoln! Nid wyf yn gwybod o ba le y cawsoch eich hysbysrwydd i ysgrifenu yr uchod; ond gallaf eich sicrhau eich bod wedi cael eich camarwain yn fawr iawn gan rywun. Yn lie bod yn 23. 4c. yn yr wythnos yn Nhrefaldwyn, dy- lasai fod o loiaf yn Ip. 6c. yn yr wythnoa ar gyfer pob carcharor. Ni fedraf sicrau fod yr uchod yn hollol gywir, am nad yw cyfrifon y llywodraeth am y flwyddyn ddiweddaf eto wedi eu cyhoeddi; ond y mae, o leiaf, yn lied agos i'w le. Dichon i chwi gymeryd eieh cyfrifon o'r daflen a gyhoeddwyd gan y Milwriad Totteafaym mewn cysylltiad a Brawdlys Meirionydd, ond nid oedd y daflen hono yn gywir; a phe cymerasech haner mynyd oamser i edrych drosti, gallasech weled ei bod yn amlwg anghywir gyda golwg ar garchar Trefaldwyn. Yn y daflen bono, yr hon nid ywwrth law genyf, dywedir mai tua 6p. 6c. yn y fiwyddyn a gyst cadw pob carcharor yn Nhrefaldwyn; a gosodir cyfaorii dyddiol y carcbarorion (daily aver- age number} yn 16. Yn awr, ond i chwi luosogi (multiply) 6p. 6s. gyda 16, bydd genych tyw ychydig dros gan' puut mewn llaw ar gyfer holl gostau y carcbardy am flwyddyn, yr hyn fydd gryn lawer yn rhy fach i dalu cyflog y Governor, heb son am y fwyddogion eraill, a'r holl gostau am fwyda dillad, &c., perthyaol i'r sefydliad. Yr wyf yn sicr pe gosodasai y Milwriad anrhydeddus ffugr 6 arall, a'i wneud yn 66p. 6s. ar gyfer pob carcharor, y bu- asai yn bur ago# i'w le. Yr wyf yn dra sicr, Mr. Gol., y cydolygwch a mi, os ydych yn myned i wneud sylWadau ar sefydliadau a swyddogion cy- hoeddus, y, dylai fod eich ffigyrau yn berffaith gywir, ac bid ymddiried mewn rhywbeth a welwch yn awr a phryd arall mewn newyddiadur. Yr eiddoch, &c., ■j OwAIN. ryr ydym yn ed my gu pluck "Owain" i ymddangos 0 flaen y cyhoedd, a'i barodrwydd bob amder i ollwnlfci ergydioo allan i bob cyfeiriad; ond y drwg ydyw nad oes ganddo yr un rifle, ac nad yw ei pop-gun bychan bob amser yn cynwys ond llaid, a bod mwy o hwnw yn disgyn arno ef ei hunnagar y gwrthddrych yr anela ato. Nid o adroddiad (y Milwriad Tottenham y gwnaethom ein dyfyniad-nis gwelsom hwnw—ac j mae y ffaith ein bod ni a'r Milwriad yr un fath yn profi ein bod wedi cael ein cyfrif o'r un lie, set, o'r Adroddiad Seneddol a gafwyd trwy y Milwriad Beresford. Ie, o adroddiad swyddogoly Senedd, megys ag y cyhoedd wyd ef gau y newyddiad- uron, y dyfynasom. Yn y golofn o dan y teitl, "cyfartaledd costau blynyddol pob carcharor heb dynu ymaith yr enillion oddiwrth eu llafur," y maeyftigyrau uchaf gyferbyn a Lincoln ( £ 113 ss.), er rhai isaf gyferbyn a Threfaldwyn ( £ 6 6B. 8c). Yn y golofn, "cyfartaledd costau blyn- yddol pob carchararoltynn ymaith yr enillion oddiwrth lafur," y mae y ffigyrau uchaf eto ar gyfer Lincoln (dCHS Is. 4c.J; a'r rhai isaf at gyfer Nottingham (£1 6s. 4c). Felly nid oes genym ond, gadsel rhwng "O wain" a'r adroddiad seneddol; ac os nad yw yn gywir anfoned at Mr. Ysgrifenydd Cross i ofyn am eglurhad. Ond dymunwn ddweyd wrth "Owain" a phawb o'r un dosbarth ag ef, gan nad ydym yn holl-bresenol nac yn hollwybodol, nad oes genym ondgymddir- ied ilr hyii a ddarllenwn, ond dichon y dylem fod yn ddigon hunanymwadola gostyngedig i fyned i ofyn eifarn ef a'i gySelyb ar bob mater. Dylai "Owain" ddiolch fod ganddo ef gyfryngau gwybodaeth uwch na'r hyn a ddarlleno, ac oracl- au cywirach ac anffaeledicach na "newyddiadur- on" y rhai a'n camarweiniodd ni a'r Milwriad Tottenham—a bod y cyfan yn cydgyfarfod yn ei berson ef. Ond cymered "Owain" amynedd cyn rhnthro Vi wasg i ddweyd ein bod wedi cam- gymeryd wrth ddilyn newyddiaduron; ac os nad yw yn gywir, dywedwn eto anfoned at yr Ysgrifenydd Cartrefol am eglurhad ar y ffigyrau yn y golofn y dywedir mai costau blynyddol cadw carcharor yn Nhrefaldwyn yw X6 6s. se, yr hyn sydd tua 21.. 4c. yn yr wythnos. Ac wedi i "Owain" gael eglurhad, bydd yn dda genym ei gyhoeddi, a diolch iddo am drafferthu; ond y mae yr hyn a wna yn bresenol yn hollol ddiangen- rhaid, oblegid os nad ellir ymddiriad yn adrodd- iadau swyddogol y Senedd, y mae ein gwlad mewn cyflwr hynod o ddrwg ac amheus; ae ni cyhoeddir adroddiadau anghywir gan ein Llyw- odraeth, nis gwyddom mewn pa beth y gallwn ymddiried-y mae ein system yn ddrwg trwyddi, a rhaid i "Owain" ymgymeryd a'r gwaith o'i phuro oddiwrth bethau o'r fath.—YR SNOS.]
AT EPHRAM LLWYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EPHRAM LLWYD. ANWYL EPHRAM,— Yr wi i wedi chwilio Nerpwl yma o ben bwi gil- ydd am danoch. Clywais eich bod, heblaw yn deiliwr, yn gwerthu poteli rhag y bendro, a phethau o'r fath; a thaswn i yn gwybod Ue'r 'yeh chwi yn byw, fase waeth gen i brynu ambell i botel genoch chwi na rhywun arall. 'Rwy'n gweled 'ch bod chi yn i rhoid hi yn iawn iddyn Bhw yn y DYDD ene. 'Rwy'n coelio na wel- wn ni mo wep Roli bach yn rhagor. Daliwch atyn nhw, Ephram; mae isio'i rhoid hi i ryw glepgwns fel ene. Mae'n haner ni'r Cymry yma heb dduallt papyr newydd. Mae arnon ni eisio trio pobpethfel tae ni yn y seiat; ac wedi byny, ni driniwn y seiat fel tae ni yn trin tatwa. Ryden ni yn llusgo'r Beibil i'n hysgrife i gyd. Barnu mae nhw eieh bod chwi yn rhy gomic-, ond y gwir yw, nhw sydd heb dduallt papyr newydd. Y mae llawer iawn o ddrygie yn y byd yma y byddai yn biti eu Uusgo i'r capel i'w trin, ac yn anhawdd cael gafael arnynt yr un ffordd arall ond yn unig trwy eu chwerthin, ymosod ar- nynt mewn gwawdiaeth fyddan nhw yn ddweyd, ynte? Mae gan y Saeson eu pwns a'u jiwdi, a'u ffun, a'u ffigaro, ac felly yo y blaen, at y pwrpas llwnw. Felly, Ephram, os bydd Golygydd y DYDD mor galled a gadael colofn fechan bob wythnos, daliwch ati yn y ffordd yna. 'itwy' i, fel chwithe, mor grefyddol a neb ar y Sulie, ac mewn lleoedd y mae eisieu bod, ac wrth ysgrifenu i'r Cronicl, alleoedd felly; ond am bapyr newydd, lIe i drin petbe't byd yma yn eu cwyin eu hunen ydyw ef, ynte Ephram? Os gwelwch yn ein plith ni'r Cymru draethawd ar had maip erbyn cwarfod Uenyddol, byddys wedi bod yn y Beibil yn pron pob rhan o hono. Bardd Aled yn rhoid y ddarlith fawr hono ar Gryddion a Chryddiaeth, aethum i'w wrando, gan feddwl y cymerai ei destun yn Llanerchymedd, ac y diweddai yn Padis Market; yn lie hyny, aeth yr hen fardd duwiol i'r Beibil ar ei ben, a phendiodd hanes cryddion, 'scidiau lledr, a chreie yn mhob congi o hono. Yr ydyw i mor dyned a nsb dros y Beibil, ond nid dros gymrud y Beibil i bob peth, neu cym'rwn ef fel y gwr hwnw cym'rodd o i guro'i wraig. Daliwch chwi ati hi, Ephram, yn y ffordd ene; deuant hwy i'ch gweled chwi toe. Rhowch hi iddyn nhw hyd adre', Ephram. Hyn yn fyr ac yn fler oddiwrth eich hen gyfell- MORUS OWEN.
MANION 0 FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MANION 0 FFESTINIOG. Tro hollol anghristionogol wnaeth y wraig hono o D——, pan yr aeth at y landlord i chwilio am cf ei brawd a'i chwaer grefyddol boreu dr&noeth wedi cly wed fod ei brawl crefyddol yn wael, ac yn an- hebyg o wella. Dylasai fod gan un mor alluog a hi ryw air o gysur i'w chwaer yn ei phrofedigaeth Creda, mae'ndebyg, nad oedd yr apostol yn iawn pan y dywedodd, 'Dygwch feichiau eich gilydd;' ond yn He ysgafnhau baich ei chwaer, ceisia hon ei drymhau. Dylai y sawl a wna y fath dro creulon a hwn gael ei draddodi i fwyta bara gofidiau, ac yfed dyfroedd edifeirwch am un dydd a blwyddyn, a bod o dan arolygiaeth fanwl y 'got las' tra y bo byw. Cafwyd prawf ychwanegol yn B —, un o'r wythnbsau diweddaf yma, nad ydyw yr Hen Gorff (fel rheolj ddim wedi eti cynysgaeddu a'r gallu o gario cyfaffodydd llenyddol yn mlaen ya liewyrch- us. Teifl thai y bai at ddrws y pwyllgor, drwy ei fod byth a hefyd yn cadw yn gaeth at destynau ysgrythyrol, ac heb ond ychydig o'r difyrus a'r diniwed; dywed dosbarth arall mai bychander y gwobrwyon ydyw yr achos o'u haflwyddiant, ac y dylai y pwyllgor wobrwyo mewn arian yn hytrach na llyfrau; tra y dywed dosbarth arall nad oes eisieu y cyfryw gyfarfodydd o gwbl, am eu bod hwy, mae yn debyg, wedi cyrhaedd pen pinacl anrhydedd, ac y byddai yn iselhad ar eu natur iddynt wneud dim gyda'r oyfryw gyfarfodydd, rhag y bydd i'r to ieuanc syddyn codi eu trechu mewn dysg a gwybod- aeth. Fodd bynag am y gwahanol dybiau, rhaid dweyd fod cyfarfodydd lienyddol B-th-s-a a'r T—b—r—a—1 yn hynod o eiddil mewn cyfansodd- iadau, ac yn fychan gywityddus yn rhif yr ymgeis- wyr. Gyda llaw, pa reswm oedd gan feirniaid y farddoniaeth dros ddywedyd na wnai yr ymgeiswyr byth gyflog wrth farddoni? A ydyw efe yn gwybod drwy brofiad? Nid beirniadaeth ydyw peth fel yna, ond rhywbeth i geisio 'codi hwyl.' Dyled- swydd y beirniaid ydyw gwneud ei feirniadaeth yn addysgiadol, ac nid cymeryd mantais ar y sedd feirniadol i ddangos ei arabedd. Yn eisieu ya ddioed i bwyllgor e teddfod Ffee- tiniog ddeffroi o'u cysgadrwydd, a chyhoeddi testyn- au rhag blaen erbvn y Sulgwvn, 1877, rhag y bydd i'r Gyradeithas Odyddol, neu y Temlwyr Da, gy- meryd meddiant o'r diwrnod, ac ybydd yn rhaid iddynt hwythau sylweddoli proflad y claf ar lan y Hyn. Mr. Gol., dywedwch wrth Ephraim LI wyd am ddyfod i Ffestiniog am fis nea ddau, er mwyn iddo ddysgu y bobl sydd yn ystyried eu hunain yn fashionable ddyfod i'r addoldai mewn pryd. Ceis. iodd pwyllgor llenyddol 8-tb-s-a. ladd yr arfer- iad drwy ei chanu; ond dywedir fod y beirdd yn euog iawn o'r camwedd, ac felly, ni oddefai eu cyd- wybodau tyner iddynt geisio ar y testun. Os bydd yr hybarch Ephraim yn addaw dyfod, feallai y gwna F--s—t-n—f—b a 8—r—a—f—b drefnu ei gy- hoeddiadau yn aghymydogaeth y Llan, bydd Eryr Bywydd, gyda chynorthwy (i—1—u—b—11 a'r Yep-in, yn falch o'a trefnu o Gonglywal byd waelodion isaf Tanygrisisiu. Diamheu y byddai ymweliad Ephraim a'n hardal yn fwy angeuol i'r arferiad na chynghorion a rhybuddion ein blaenor- iaid crefyddol.
STRIKE FFXFOBNWAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
STRIKE FFXFOBNWAU. Dywedir fod cymaint o feirdd a cherddorion ffug- enwol ag oedd yn yr Assembly Room nos Lun y Sulgwyn, wedi ymdynghedu yn unfryd unfarn i ymwrthol a'u ffugenwau, wrth glywed yr arch- fflaogellwr Mynyddog yn eu dinoethi mor ddi- drugaredd. Aeth ambell un mor bell a dweyd na dderbynieut hwy eu llythyrau, ie, eu llythyrau car- wri "flethoi hefyd, os byddai eu ffugenwau arnynt. Chyi ysgrifenyddion ac ysgriblwyr i Ffestiniog, cymerwch ofal, onide bydd yn rhaid cael dead letter office yn nes yma na Llundain. Oad tra y byddant hwy mewn gwrthryfel a'u ffugenwau, yr wyf fi am sefyll yn drump i'm henw gwreiddiol, sef ERYB BYWYDD.
CyMEMADAU CYFFREDIN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CyMEMADAU CYFFREDIN. MR. GOLYGYDD,— Uywedodd un gohebydd wrthyf yn ddiweddar fod llai yr ydym yn eifediwi o fasnachwyr gonjeat a didwyll; eu bod wedi arfar codi gwahaool brisiau am nwyddau ar wahanol bersouau, fel nad ydynt yn meddwl eu bod yn troseddu yu. erbyn rheol yr ysgrythyr. Dywedir anwiredd dybryd ganjrai o honynt er mwya rhoddi lliw digon cryf a fEafriol ar eu nwyddau. Gwnaot y castiau mwyat ystrywgar, ac ydynt yo llwyddo i dwyllo y diniwed a'r anochelgar. Ac y mae'n ddrwg iawn geuyf feddwl fod y dynion hyn yn llwyddo i bentyru cyfoeth, a thrwy fod cymdeithas yn ein dyddiau ni yn llygredig, y maent yn esgyn i fjoy i'w lleoedd pwysicaf. Er mwyn dynoethi, byd y gallaf, y dynion hyn rhoddaf frasluniad o un o honynt yn
RHIF T.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
RHIF T. Y mae i fyny a'r gyfraith mewn pob pjfch ay 1 yn "wyu cysylltiad ag ef fel masnachwr. Er ei fod yn (iyflawni llawer iawn o bethau ag sydd i rai vn ymddangos ya groes i gyfraith y tir, eto gall Lerio y gyfraith i afael ynddo. Y mae mor graff a chyfrwys fel y gall wneud masnach anonest (yu foespl) heb dori'r gyfraith, drwy ei fod yn g illu cael llei hyny rhwng y naill orchymyn a'r llall o'r gyfraith. Fel dyn uniawn yn ei holl ffyrdd nis gellir ymddiried ynddo, if mae yn wir ei fod yn gelfyddydwr da, ond nid ydyw yn fymryn gwell na llawer sydd yn ei gymydogaeth, Und, er hyny, y mae wedi 11 wyd Jo i roi y fath wedd ar ei fasnach fel tig y mae lluaws yn cwbl gredu mai efe sydd ya gweirthu y nwyddau goreu yn y gymydogaeth. Pe baech yn myned i'w fasnachdy i ofyn am nwyddau, a pha faint a gostiant, caech er eich syu- dod ddeall fod cyfanswm gwerth y nwyddau yn mhell uwchlaw i'r hyo yr oe ldych chwi eich hun yn tybio ei fod. Ac yna, ysgatfydd, y cymera ymddyJ,\¡\I\,Ie fHyng-lI0h k'I»)4 l h¡ü:- GW»MBK.—Dear me, onid ydy»n yu uchel iawn eich pria? MASNACHWR.-—0, nac ydwyf vn s;wr. Nwyddau da yw y rhai hyti. C.—Wei, beth bynag am hyny, y uaae Mr. Y Shrimbel yn eu gwerthu yn is lawer iawn na chwi. Gallwn gael y Cyfkn oil sydd aruaf ei eisieu am v swm o £3 ganddo ef, pryd y nue arnoch chwi eisieu £ 3 18s. am yr un pethau yn u don. M.—Dim o'r fath beth Mr. C Nid ydyw ei nwyddau ef yn debyg o ran quality i'm rhai i. Ni eheiff brynu yn yr un warehouse ag yr ydwyf fi yn gwneud. A pheth arall, nis gall roi cyatal gwaith arnynt ag y gallaf n. Edrych- wch ar hwn—dyma i chwi ddefnydd iawn a gwaith rhagorol. Mi hariaf Mr. S. i ddangos ei gystal. Rhyw hen stwff sal, rhad, ond edrych yn dds- fydd ganddo ef bob amser. Ond waethi chwi beidio a dywedyd wrtho fy mod i yn dywedyd hvny, oea oa dywedwch mi feddylia mai "cenflgea trad" ydyw.