Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

LLYTHYR DESGRIFIADOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLYTHYR DESGRIFIADOL. Taith o Porthmadog i Ffestiniog gyda'r rheilffordd. AttWYt. QTFAIH.,— Daeth eich llythyr i'm Haw, dyddiedig— 76, • gofynwch ynddo am frasddesgrifiad o'r daith o'r *ort i fynyyma. Wel, y mae yn bur anhawdd gwybod pa beth ydfw un o anhebgorion brasddes- Srifiad, gan fod cymaint o wahanol farnau am hyn fel pob peth arall yn y byd Henyddol. Ond i geisio boddloni, rhoddaf yr hyn a dynodd fy sylw yn J*yaf arbenigol. Daethum i Porthmadog o Gaernarfon yn hwyr btydnawn, fel na chefais amser i sylwi fawr ar y e, gan fod y wtrain bech" yn cychwyn i fyny oddi- yno oddeutu pump yn y prydnawn, yr hwn yw y diweddaf am y dydd. Cafodd y He hwn ei enw oddiwrth W. A. Madocks, Ysw., yr hwn a gododd trwy ei haelioni, forglawdd nes ieuo gwlad Meir- ion ac Arfon yn un." Y mae llawer yn fyw eto sydd yn cofio Porthmadog heb ddim ond dau neu dri o dai; ond erbyn hyn y mae yn dref fywiog, ac Ynddi borthladd dymunol. Bywyd y fasnach ydyw y llechi sydd yn cael eu cludo o Ffestiniog. O'r station, cawn olwg ar y morglawdd y rhaid i 741 ei greesi, i'r hwn y canodd y diweddar Emrys,— "0 Arfon i Feirion ceir rhodio'n ddifyrus Er gweled yr eigion yn lleidio gerllaw, Heb ofni cudd berygl y draethell dwyllodrus Fu'n angeu i ganoe,id-i filoedd yn fraw; gwreng ar boneddig gyd. deithf ant heb ddychryn, Yr ychain a'r defaid a rodiant dan rif, A.'r rheilfEordd syncludo glas wythi y Moelwyn, Lie gwelfd Ý lfo-ngau yn marchog y llif." Pywedir i ami fywyd gael ei golli wrth groesi y Waethle hwn cyn gwneud y morglawdd, a dwyn canoedd o erwau o dir oddiar y mor, lie codir Qynyrcliion at gadw dyn ac anifail, ac yn y morfa *Qniwylliedig gwelir ugeiniau o anifeiliaid yn ym- yn mhlith yr eitliin • pan yn crossi hwn yr ydym yn gadaelswydd Gaernarfon, ac yn Meirion yn ddiarwybod i ni einhuaain. ,Y peth cyntaf a dynodd ein sylw ynddi ydoedd y foundry, yr hon sydd eidd6 perchenogion y reilffordd. Yr ydym yn trem wrth fyned yn mlaen ar gyrau Eifionydd, Rwelir yno luaws o elltydd deiliog, ac 01 mor bryd- ferth y mae y meusydd diwylliedig yn edrych—y niae yn ddigon a pheri i'r sylwcdyda feddwl nad dim ond taugnefedd yn y tir. Acw, gwelwn' •Penymorfa: yn adeg ein teidiau, yr oedd tdnau yn *nyned hyd yno megys law yn Haw; ac yn mynwent oes dim ond tangnefedd yn y tir. Acw, gwelwn Penymorfa: yn adeg ein teidiau, yr oedd t6nau yn lJlyned hyd yno megys law yn Haw; ac yn mynwent y plwyf acw y claddwyd yr hen Syr John Owens, Celenau, yr hwfl a fu yn filwr dewr e:n gwlad yn Jtoser Siarl jU a Cromwell. Wedi dyfod i orsaf ^inffordd, cawn olwg ar gei llechi, y rhai a dynir o *ageni llinell Ffestiniog, gan eu llwytho drachefn wagenir Cambrian ^Railway. Hon yw yr orsaf wydferthaf a mwyaf gorphenedig fedd y llinell J to°n. Ar 61 .gadael Plas y Penrhyn ar y dde, dyma | adeilad diaddurn yn dyfod i'r golwg, a rhai adeilad- au newydd yn cael eu codi yn ei ymyl; ac erbyn holi, cawsom mai hwn ydyw Tlotdy U ndeb Ffestin- iog. Wrth fyned vr ydym yn troi ein golygon yn ol i gyfeiriad y deheu, ac yn cael ond prin olwg ar dyrau Castelldeudraeth, yn yr hwn y mae teulu y diweddar D. Williams, A.S. dros y sir hon. Llecha mewn eesail yn ochr trwyn y Penrhyn, gan ffiryntio at hen gastell henafol Harlech. Fel yr ydym yn prysuro yn mlaen, dyma y Penrhyn i'w weled yn ei ogoniant, yr wyf yn cofio y lie hwn yn edrych yn dlawd, a'i breswylwyr yn anaml; ae yr oedd hen ddywediad am y He, "Ffordd bynag chwyth y gwynt, i'r Penrhyn aiff yr us." Ond da genyf ddwyn tystiolaeth wahanol oddiwrth yr hyn a welir yno yri awr. Y mae yma dreflan hardd a glanwaith, capeli heirdd, eglwys orwyeh-wedi ei hadeiladu gan yr haelionus Mrs. Oakley, ac yr wyf o'r braidd yn tybio fod yno farchnadfa yn rhan o'r pentref. Dywe iir i mi mai y diweddar D. Wil- liams, Ysw., o Gastelldeudraeth, fu yn offerynol i ddyrchafu y lie hwn y peth ydyw yn awr, yn lie hen gorsydd lleidiog, y mae caeau meillionog o tan wair a chnydau toreithiog, yn lie mawn ceir tatws, &c. Gorsaf salw a diaddurn sydd yma, o'r bron na ddywedem y dylid cosbi y neb a'i geilw ar yr enw, nid yw yn dyfod i fyny a'r gair yn agos; au wrth ei gadael cawn drem diJa ar Hen Gastell Harlech, (neu fel y mae rhai yn hoffi ei alw Castell Bronwen) yr hyn sydd i'w weled yn gadarn, er iddo sefyll cynddaredd estroniaid ac amser. Yn fwy i'r dwyrain, gwelir Talysarnau yn nghanol coedydd talgryf ac iraidd, y mae yn demtasiwn i fyned i edrych am hen breswylfod awdwr "Y Bardd Cwsg" (Ellis Wyn), ond nid oes amser. gan ein bod o dan awdurdod dyn araU. Gwelwn y graig ddrwg a'i chyffelyb chwiorydd, yn ihedeg fraich yn mraich at Trawsfynydd; yn nes atom y mae Maentwrog yn dechreu ymwthio i'n svlw, yr ydym yn awr uwchbeo hen balas Oakley, Ysw., sef Tanybwlch. Clywaia ddywedyd fod yno lyfrgell ardderchog wedi bod, un o'r rhai rhagoraf feddai y sir hon, ond yr Hengwrt; ond y mae yntau wedi newid ei gynllun fel llawer hen adail, saif ar allt| serth uwchben dyffryn prydferth; ac fel y dywedodd fy nghyfaill Meurig Ellen am dano pan yn cyd-deithio ryw ddydd,— "Maen tirion yw Maentwrog,—a'i goedydd A'i gadarn fur enwogj Onid ydyw yn odidog I daenu yr yd o dan yr og?" Gellid dweyd fod natur wedi ymgyfarfod yn Nyffryn Maentwrog yn amrywiaeth ei golygfeydd, a.'r amrywiaeth, hwnw heb fod yn milwrio yn erbyn yr unffurfiaeth meddwl sydd ynddi. CawD yma ddolydd gwastada llydain, a'r afon yn rhedeg trwy eu canol yn cyflwyno i niy prydferthwch mewn ysgogiad, a dywed Hogarth fod ffugrau ag sydd yn cael eu trefnu gan linellau dolenog, troellog, bwaog, &c., yn gyffredin yn fwy prydferth na'r rhai ageir mewn lliuell uDionsyth. A dywed yn mhellach fod prydferthwch ffugr yn dibytiu ar ddwy linell. Geilw y naill yn llinell y prydferth, a'r llall yn "line of grace," ac i egluro hyn i ti gyfaill, nid wyf yn gwybod am ddim a wasanaetha i hyny yn well na'r afon agsydd yn ymddolenu yn ol a blaen trwy y dyffryn uchod. Y ma ar un llaw, cawn y clogwyni yn codi yn fryniau uchel; ar y itaw aralt, y mae coedydd talgryf ac iraidd fel gwylwyr, yn amddiffynfa i'r lle; a thrwy yr oil y mae yr olygfa yn cyfranogi o'r addurnol a'r mawreddog, a thrwy hyny yn ei wneud yn un o'r lleoedd prydferthaf fedd sir Feirionydd. Mewn congl nes atopi nag eglwya henafol y plwyf, cawn olwg ar Glan William, lie bu Mr. Holland, A.S., yn byw;ynuwch na'r tollborth gwelwn yn nghanol y wig adeilad newydd, syml, a phrydfertb, wedi ei wthio o'r neilldu, a mynegwyd i mi mai capel newydd ychwanegot y Methodistiaid Calfinaidd ydoedd; ychydig uwchlaw iddo, dacw y Tyddyndy, lie bu Edmund Prys, Archddiacon Meirionydd, yn byw; yn uwch i'r dwyrain mae hen drigfan Hugh Llwyd, (Cynfal), bardd enwog yn ei ddydd; ac fel I y dywedodd yr Archddiacon Prys am dano,— HNi chleddir ac ni chladdwyd, Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd." Yn y ceunant islaw, mae darn o graig a adnabyddir wrth yr enw Pulpud Huw Llwyd. Ond dyma orsaf Tanybwlch, pryd y mae y cerbydau a'r agerbeiriant yn pasio i fyned i lawr, wrth ymyl hon y gosodwyd careg sylfaen y llinell hon, nid oes yma ddim i dynu sylw ond gelltydd ;.serth; yr ydym Iyn myned trwy dunel bychan o ran hyd. Dyma ni wrth ben y Dduallt, (hen balasdy yn ei ddydd a adeiladwyd yn amser y Frenhines Elizabeth) a Dol y Moch, neu yn ol yr hen enw Dol y Rhydfyran. Dyma orsaf newydd yn dwyn yr enw Coprhos y Llyn. Nid oes yma ondun ty, eto y mae yn fan cyfleus at fyned i bentref Ffestiniog. cawn oddiyma drem ar y Manod a rhanau o'r Blaenau yn dechreu ymwthio i'n sylw- ac yn wir oddiyma ceir yr olygfa ar bentref Ffest; iniog, a'r palasau hardd, megys Frondirion, Plaa Meini, &c.; ond pan yn nghanol yr olygfa dyma dywyllwch yn y fan yn ein goddiweddyd. Dywedir fod y twnel hwo dros haoer milldir o hyd, cyn gwneudjhwn, yr oedd dwy allt i gymeryd y gwageni dros y mynydd hwn, ac y mae olion o honynt i'w gweled eto. Yn sydyh, dyma oleu dydd arnoB* unwaith eto, a Mr. Cook yn dal ei flag wen yui arwyddo fod heddwch a diogelwch i fyned yn mlaen, ac yr ydym yn cael ein hunain wrth droed y Moelwyn; ac am a wn i na ddaethum drwy un o'i fys- edd pan yn dyfod trwy y twnel. Taoygrisiau ygel- wir y lie hwn, yr hwn le sydd wedi cael ei enw oddiv wrth hen risiau mawr oedd ar y ffordd wrth fyned i Cwmorthin. Y mae golwg adnewyddol i weledar elltydd y Moelwyn, ar hyd pa rai y codir ac y gollyngir gwageni. Ni cheir dim yn y Moelwyn i dynu sylw y sylwedydd, os nad yw yr allt hir sydd yn myned i waith y Wrysgafn. Ceir oddiyma ychydig olwg ar domenau gwaith Cwmortbio, a dwfr-ddisgyniad arddewchog, ac yn y lan dyma y foundry ar yr aswy cyn myned i'r orsaf, yr hott sydd yn edrych yn salw a diaddurn, ac fel y dywed" odd lonoron Glan Dwyryd,— Tynu gwres mae Tanygrisau I fron ei llechweddau. Yma. mae tai heirdd a phrydferth, yr oil i'w gweled o'r bron yn newydd; ysgoldy newydd, dau gapel, un i't Annibynwyr a'r llall i'r Methodistiaid J ,a Calfinaidd.. Dacw Ty'n y Ddol, hen breswylfa Salmon Llwyd, yr hwn oedd yu ei ddydd yn enwog am adrodd chwedlau. Nid oes dim tir llafdf i'w weled yma. ychydig o gaeau gwair a gerddi bach o flaen y tai, a gofal dyladwy, gallwn dybio, yn gaet ei roddi iddynt, a'r un sydd wedi rhoddi symbyliad iddynt yn hyn o beth ydyw J. W. Greves, Ysw., Plaswaunydd. Yr ydym yn cael ein cario trWy Ie serth, ac fel y dywedodd Dewi Wyn,— "Uwch y gwaelodion iach a goludawg, Wele'r bryniau a'r creigiau cerygawg, Echrys, ac uthrol, ochrau ysgythrawg, A manau crebach uwch meini cribawg." Ac hefyd yn myned dan a thros bontydd, y mae < afon Barlwyd i'w gweled yn ymlithro yn mlaen am afon Dwyryd, a chawn hi yn gwneud un gwat;an- aeth heblaw rhoddi ei hUD i gario ymaith afiendid y He, set troi olwyn y factory, ac uwchlaw hon y cawn y deml i'r duw Bacchus gyntaf yn y lie hwn;, gerllaw y mae capel bychan gan y Bedyddwyr, olynwyr y Parch. J. R. Jones, Ramoth. Gyda'r ffordd, gwelir anedd-dai glanwaith hyd nes dyfod o honom at aneddau y Publican; y mae gwedd ddi- ymgeledd arnynt. Yn y fan dyna y groesffordd, llinell yn fforchi at y Rhiw, a'r llall ar hyd pa un yr ydym yn myned i orsaf y Diffwys. Cawnoddi • yma drem ar domenau y gweithfeydd; ac yn wji: y mae Gallt-nyth-y-gigfran yn serth, Ie, dacw yr hen iwybr oedd er's talm yn bur adnabyddus wrth yr, enw Llwybr Llwynog, lie byddai llawer oweith- wyr Mr. Holland yn ffoi adref cyn y gloch. Ar y ddeheu, y mae capel bychan gan yr hen Fedyddwyr wedi ei weithio o goed, a'r bryniau ceinion o'r tu ol iddo. Ar y tiaw aswy, gwelwn orsaf y Dinas, Galit Holland, Pontfawr y Rhiw, a'r tai melinau; ac yii nea atom gwelwn aneddau heirdd, capel prydferth y Rhiw, yr ysbytdy, Baltic Hotel, ac ysgoldy Llwyngell. Wedi cors glan y pwll, dyna y farchnad- fa a'r Assembly Room uwch ei ,phen, ac Eglwys Sant Dewi, yr hon fynwent sydd anwyl genyf. Wedi ei gadael cawn eto dai heirdd, apbatasdy prydferth Isallt, pre8wylfa Dr. Roberts, yr hwn sydd yn disgyn o ran ei achau o deulu hen ddoctoriaid r Isallt yn Eifionydd. Ar ol gadael gorseddfa llioell Blaenau & Ffestiniog Railway, uyna ni yn ngoraeddfa Diffwys, a llu o rai yn dysgwyl am e,u eydnabod, a llawen oedd genyf cael myned o'r cerbyd bychan clos. Y mae megys uwchben hob graig ysgythrog, yr hon a elwir yn Gareg Ddu, yr > hon aydd yo gysgod da i'r anedd-dai sydd Isla w. Wedi i ni fyned o'r oraaf yr ydym yn gweled tai da f odiaeth; y,prif adeilad sydd gerllaw ydyw Queen's Hotel. Gan mai taith ar hyd y llinell ydoedd, i haid dybenu gyda'r Ilinell, oni raid? Rhiwbryfdir. GLAN BARLWYD. 0. Y. A'r gais rhai o'm cyfeillion yr wyf yn anfon hon i chwi.-G. B. .—————————————————-—-——————— ht

[No title]

RHIF T.