Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
AT HO WEL MANOD. | MR. GOL.,-…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT HO WEL MANOD. MR. GOL. Ymaeyrysgriblwr uchod, a ddaeth i fodolaeth yn y DYDD diweddaf, yn dweyd ei fod am roddi ei labwt ar fy nghefn os na bydd i mi roddi mwy o fan-hanesion yr ardal. Nid wyf yn ystyried pob- peth yn werth ei anfon i'r papyr, megys ag y mae ambell un, ae hefyd nid wyf mewn mantais i'w cael. trwy nad wyf wedi cymeryd trwydded i gerdd- ed o'r naiil gwr i'r llall o'r ardal yma bob nos, a phan ddaw prydnawn Sabbath, yn ysgrifenu yr hyn a welodd ac a glywodd, a'i anfon drachefn i L- W- Dyna ydyw arferiad H. M. A dywedwch wrtho fod perffaith ryddid iddo roddi ei labwt, ond iddo ddangos mwy o allu nag a wnaeth yn ei bwt ysgrifddiweddaf. Hawyr! clywch ef yn dechreu mewn perthynas i'r Bwrdd Iecliyd Lleol. 'Mae yn ein cymydogaeth un bwrdd hynod o drwm i'r trethdalwyr eisoes, sef Bwrdd Ysgol. Wrth i Miedrych oddiar y Marod yma, yr ydym yn gweled y cyfan.' Ai oddiyno y gwelaist di y bwrdd yn drwm? Yr wyf yn credu, pe Aasai trethdalwyr yr ardal hon yn gwybod rhywfaint am fodolaeth y gwr uchod cyn sefydlu y Bwrdd Ysgol, y buasai yn ateb dybeoion anhraethol well na chynal cyfarfod- yJd fel ag y gwnawd, gan ei fod ef wedi esgyn i le y gwela y cyfan i bedwar pwynt y nef. Diau pe buasai wedi teimlo rhywfaint oddiwrth addysg, y buasai wedi cael gwell geiriau na galw 'celwyddog,' &c., ar bersonau anrhydeddusach ac ardderchocach nag ef ei hun. Cawn ef yn condemnio y Bwrdd Iechyd, ac yn y man yn dweyd fod yn rhaid ei gael. Dysgweh resymeg, H—b—g bach. Ie, yr wyf yn credu fod ei ddarganfyddiad mewn perthynas i ansawdd dwfr Llyn y Manod, wedi tynu i lawr lawer o dreuliadau a siarad, ac ymran- iadau; ie. clywch ei ymadroddion:—'Mae nhw yn dweyd mai dwfr Llyn y Manod yw y goreu i'w gael yn nghymydogaeth Ffestiniog. Yr ydwyf FINAU yn dweyd yr un peth,' sef H. M. Diau y dylai barn a darganfyddiad gwr fel yr uchod gael ei gadw ar astell hanesyddiaeth fel un o brif ddarganfyddiadau y pedwerydd canrif ar bymtheg yn Ffestiniog. Rhoddwn gynghor rhad iddo am dro—Mynych- wch fwy ar yr Ysgol Sabbathol, crwydrwch lai am fan-hanesidn dynion, rhoddi mwy i mewn a gollwng llai allan i'f llais, am y dywed yr hen air, os •Ceryg roi'r yn y sach, Oeryg ddaw allan, bobol bach Felly, daeth o ymenydd hwn bethau ysgafnach na cheryg. Meddaf yr anrhydedd o fod, &c., GLAN BARLWYD.
YMDEITHYDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMDEITHYDD. MR. GOL.,— Yn unol a'cb hynawsedd arferol, dymunaf arnoch am fenthyg coogl fechan o'ch newyddiadur i osod i lawr hanes y daith a gymerais yn ddiweddar trwy ddyffryn hyfryd a godidog Ardudwy, yn nghydag y y amryw o bethau a ganfyddais yn ystod fy ymdaith heb fod yn unol nac yn gyson ag egwyddorion Cristionogaeth, yn ol rheswm a chydwybod ddynol. Fe gefais daith hyfryd ar hyd y dyffryn, y golyg- feydd mwyaf dymunol i'w canfod ar bobpeth, natur wedi gwisgo pob peth oddiatrgylch mewn gwyrdd- lesni, y mynyddoedd yn ymddyrchafu o bob tu i'r dyffryn, gan ei amddiffyn, a gwaelodion y rhai hyn yn llawn o goedydd ffrwythlawn-y mae hithau yr afon yn myned ar hyd y dyffryn, gan gusanu glan- au ei gorweddfa, a chan sibrwd yn ei hiaith, "Mor, môr i mi;" ac yn ystod ei phererindod, y mae yn derbyn i'w mynwes Cynfal, Dwyryd, &c., pa rai aydd yn ymddianc o lochesau y mynyddoedd. Y Sabbath canlynol, aethum i addoliad trwy'r dydd. Am ddeg y boreu, cawsom Ysgol wir flod- euog; ac am ddau, cwrdd gweddi; ac yn yr hwyr, cawsom bregeth oddiar loan iii. 14. Mater y breg- eth ydoedd, Tystiolaeth yr Arglwydd Iesu Grist ei hun, sef fod y sarph bres yn yr anialwch gynt yn gysgod o hono Ef; ac fe nodwyd yn ystod y bregeth luaws o bethau i ddangos y gwirionedd yna. Yn y gyfeillach ar y diwedd, synais yn fawr wrth glywed un o swyddogion eglwysig y Gylchdaith, ar ol iddo ymdrafod ag amryw bethau, yn dyfod at y bregeth yn y wedd fwyaf beirniadol, gan ddywedyd, "Nid wyf fi yn canfod yr un criglyn o gysgod rhwng y sarph bres a Christ." Ond fe ddeallais i ryw fesur pa fath ddyn ydoedd, trwy yr hyn oedd yn dyfod allan o hono, a chredais nad hawdd iddo ef oedd cy- soni yr ysgrythyrau. Credaf fod yr hyn a nod- wyd gan y pregethwr yn 11awer hawddach canfod eysondeb ynddynt na lluaws o bethau sydd yn bodoli ya yr ardal. A oes cysondeb cydrhwng cynal i fyny deyrnas y tywyllwch ag un lIaw, a theyrnas Mab Daw a'r HaM? Onid gwirionedd ydyw fod y fasuach feddwol yn achosi tlodi, cwerylon, ymladdau, troseddau, gwall- gofrwydd? &c. Wrth hyn, canfyddwn nad ydyw y rhai sydd yn masnachu gyda'r diodydd meddwol In ddim amgen na rhai yn marchnata mewn gwaed dynol! Gresyn yw fod neb yn Nghymru Gristion- ogol yn pleidio y fath fasnach ag sydd yn dinystrio cymaint o'i thrigolion yn flynyddol i drueni tra- gwyddol, heb son am broffeswyr crefyddol, ie, rhai yn meddu ar swyddi yn y cysegr, yn cefnogi y fath fasnach felldigedig a hon. Y mae pethau o'r natur hyn yn galw am i Seion ddeffro, a chodi at ei gwaith. Onid yw y Beibl yn gwahardd y diod- ydd meddwol yn y modd mwyaf penderfynol. Dyma y pethau "gwatwarus" hefyd. Cyhoeddir "gwae" gan Dduw ar y "rhai sydd yn codi yn foreu i'w hyfed, ac yn aros hyd yr hwyr i'w chymysgu," a'r un modd ar y neb a'u 'rhoddo i'w gymydog.' Y mae gair Duw yn gwahardd i ni gymaint ag'edrych' arnynt, am eubod,"yn y diwedd, yn brathu fel sarph, ac yn pigo fel neidr," ac, yn ol tystiolaeth y gwirionedd, y maent yn cau dynion allan o'r bywyd, ac yn eu cadwyno yn ngholledigaeth. Onid yw hyn yn galw arnom i ddyfod allan i'r frwydr i ymladd yn erbyn y fath elyn dinystriol? "Pa ymdrech ragorach er meithrin moesgarwch Mewn ardal mae yfed mewn cymaint o fri? Pa weithred fwy amlwg o berffaith weithgarwch Na chwbl ymdrechion i atal y lli'?" Yr eiddoch, &c., GWLADGARWR.
Y NEWYDDION DIWEDDARAF 0 FAES…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y NEWYDDION DIWEDDARAF 0 FAES Y GWAED, Ydyw fod yna ymladd mawr yn myn'd yn mlaea-bod canoedd wedi eu lladd-miloedd wedi eu clwyfo—a bod arfau y benyd wedi syrthio i law y naill neu y llall; ond y mae y Serviaid yn gystal a'r Tyrciaid yn hawlio mai eu heiddo hwy yw y fuddugoliaeth. Y mae gohebydd un o newyddiaduron Paris wedi cael ei saethu yn farw, a chlwyf- wyd tri eraill o ohebwyr ar yr un amser. Y mddengys iddynt fyned tua'r gwersyll heb ganiatad; ond sicrheir mai mewn camgymer- iad y saethwyd atynt.
JHarct)tiafcoetm yt OTgtjjnos.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JHarct)tiafcoetm yt OTgtjjnos. Er nad oedd ond ychydig o wenith yn marchnad- oadd y siroedd dydd Sadwrn, yr oedd yr adroddiad- au ffafriol am y cynhauaf yn y wlad hon a gwled- ydd tramor yn effeithio marweidd-dta mawr ar y marchnadoedd. Ni chymerodd un cyfnewidiad o bwys le yo y prisiau, ond gogwydd y farchnad yd- oedd tuag at ostyngiad. Yr oedd yr un marweidd- dra yn ffynu ar y Cyfandir. Ni wnai V melinwyr ond prynu ychydig at eu hangen presenoi, a chydag anhawsdra yr oedd y gwerthwyr yn medru ei ddal yn ei bris. Gostyng- odd y gwenith a'r blawd yn New York. Yr oedd mwy o farweidd-dra na'r wythnos o'r blaen yn Mark-lane dydd Llun. Nid oedd ond ychydig o wenith Prydeinig yn cael ei gynyg ar werth, tra yr oedd yno gyflawnder o'r tramor, yr hwn a werthai am lai o swllt y chwarter na'r wythnos o'r blaen. Tra y daliai yr haidd ei dir yn lied dda, yr oedd y ceircb, pys, a ffa yn tueddu i ffafrio y prynwyr. Ni chymerodd un cyfnewidiad leyn mhris y blawd. Y mae gwerth £44,,257,0620 wenith, haidd, ceirch, pys. ffa, Indrawn, a blawd wedi eu dadforio i'r wlad hon o wledydd eraill er y cyntaf o Fedi di- weddaf, yr hyn sydd yn fwy o £7,188,000 nag yn ystod yr un amser y flwyddyn o'r blaeo.
DYFFRYN ARDUDWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DYFFRYN ARDUDWY. Marwolaeth Ddisymwth.—Taflwyd trigolion cym- ydogaethau y DyfEryn i dristwch a galar dydd Sadwrn diweddaf, gan y newydd annysgwyliadwy fod Mr. Jones, yr Ynys, wedi cwympo i lawr a marw ar yr heol yn agos i bentref Dyffryn. Yr oedd yn wr ag ydoedd yn cael ei barchu gan bawb, a chollodd y Wesleyaid un o'i haelodau mwyaf ffyddlon a gweithgar. Cfaddwyd ef dydd Llun.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
jfffiarotolaetf). Gorphenaf 8, priod y Parch. E. Garnos Jones, Talsarn, yn 32 mlwydd oed. Mehefin 30, priod Mr. John Parry, Dyfi Terrace, Dinas Mawddwy, ar ferch. Mary bach, mae ar ei bochau,—liw cain Fel y coch rosynau; A'i Jlygaid lion, clirion clau Yn leision fel rhyw dlysau. 0 mor fwynaidd dyma'r fenyw.—i'w thad A'i theg wen fydd hyglyw; A model o'i mham ydyw, Eulun am ei chalon yw. DEWI GLAN DULAS.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y DARLTJNYDDy Am Fis Mai. Yr ail Rif/n. Pris Cemiog. P,.hifjruau Cyntaf a'r Ail i'w cae,,[ gqn Roll ddosbarthwyr GogleJd a Delieadir Cymru. CYNNWYSIAD DABLDNIAC James Thompson, y Bardd Ysgotaidd Yn nghyda Darluniau yn egluro ei fywyd. Dau Ddydd, Barn. Y GwyVt a'r Gofalus lJau ddarlun yn egluro. John Bunyan yn Ngharchar Bedford. Yr Eilun Get-bud Yr Iuddeu.es o Tunnis. ERTHYGLAU, BARDDONIAETH, HANESION, &0. f' Ceisiwch i'r lle Cawsoch. ¡ Tyfaint Dyn. Darganfyddiad hynod. I)ifyr a Digrif. Pobl a Phethau Annghyffrtdin. Dau IJdydd Barn (Barddoniueth). At ein Gohebwyr. Yr Eilun Gerbyd. Ein Boneddwyr ar Anghymedroldib. PElS CEINIOG. I'w gael yn mhob man. Y DAELUNYDB, I < [OBOSODD] Cyhoeddedig yn Swyddfa'r DAEtLUNYDD Caernarfon. "EXbHANGE TTNIO v Adelphi House, STRAZID DON, W.O. RBADEBS M^AONINNIS ) *V*^VATE SAIiES. E?'y^ESCHANGES, Masted toexamijwr&o principftaof this MART WBAZAA^fid BARTER o>^tions. Sestb* "Sdchange Union Advertising Price id.,post free Id. 1/ MAE Y LLWYDDIANT MAWR sydd wedi bod yn nglyn a dygiad allan Reckitt's Paris Blue in Squares wedi peri i rai masnachwyr anonest, er mwyn gorelw, werthu Lliw Glas gwaelach yn yr un ffurf. Gan nad yw y Paris Blue. m. Squares yn un gwirioneddol o nd pan wedi ei amgau mewn pink wrappers yn dwyn enw I. Reckitt a'i Feibion a'r trade mark, ymwrthoder 4 phob Lliw Glas a'r nad yw wedi ei amgau felly.