Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

AT HO WEL MANOD. | MR. GOL.,-…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AT HO WEL MANOD. MR. GOL. Ymaeyrysgriblwr uchod, a ddaeth i fodolaeth yn y DYDD diweddaf, yn dweyd ei fod am roddi ei labwt ar fy nghefn os na bydd i mi roddi mwy o fan-hanesion yr ardal. Nid wyf yn ystyried pob- peth yn werth ei anfon i'r papyr, megys ag y mae ambell un, ae hefyd nid wyf mewn mantais i'w cael. trwy nad wyf wedi cymeryd trwydded i gerdd- ed o'r naiil gwr i'r llall o'r ardal yma bob nos, a phan ddaw prydnawn Sabbath, yn ysgrifenu yr hyn a welodd ac a glywodd, a'i anfon drachefn i L- W- Dyna ydyw arferiad H. M. A dywedwch wrtho fod perffaith ryddid iddo roddi ei labwt, ond iddo ddangos mwy o allu nag a wnaeth yn ei bwt ysgrifddiweddaf. Hawyr! clywch ef yn dechreu mewn perthynas i'r Bwrdd Iecliyd Lleol. 'Mae yn ein cymydogaeth un bwrdd hynod o drwm i'r trethdalwyr eisoes, sef Bwrdd Ysgol. Wrth i Miedrych oddiar y Marod yma, yr ydym yn gweled y cyfan.' Ai oddiyno y gwelaist di y bwrdd yn drwm? Yr wyf yn credu, pe Aasai trethdalwyr yr ardal hon yn gwybod rhywfaint am fodolaeth y gwr uchod cyn sefydlu y Bwrdd Ysgol, y buasai yn ateb dybeoion anhraethol well na chynal cyfarfod- yJd fel ag y gwnawd, gan ei fod ef wedi esgyn i le y gwela y cyfan i bedwar pwynt y nef. Diau pe buasai wedi teimlo rhywfaint oddiwrth addysg, y buasai wedi cael gwell geiriau na galw 'celwyddog,' &c., ar bersonau anrhydeddusach ac ardderchocach nag ef ei hun. Cawn ef yn condemnio y Bwrdd Iechyd, ac yn y man yn dweyd fod yn rhaid ei gael. Dysgweh resymeg, H—b—g bach. Ie, yr wyf yn credu fod ei ddarganfyddiad mewn perthynas i ansawdd dwfr Llyn y Manod, wedi tynu i lawr lawer o dreuliadau a siarad, ac ymran- iadau; ie. clywch ei ymadroddion:—'Mae nhw yn dweyd mai dwfr Llyn y Manod yw y goreu i'w gael yn nghymydogaeth Ffestiniog. Yr ydwyf FINAU yn dweyd yr un peth,' sef H. M. Diau y dylai barn a darganfyddiad gwr fel yr uchod gael ei gadw ar astell hanesyddiaeth fel un o brif ddarganfyddiadau y pedwerydd canrif ar bymtheg yn Ffestiniog. Rhoddwn gynghor rhad iddo am dro—Mynych- wch fwy ar yr Ysgol Sabbathol, crwydrwch lai am fan-hanesidn dynion, rhoddi mwy i mewn a gollwng llai allan i'f llais, am y dywed yr hen air, os •Ceryg roi'r yn y sach, Oeryg ddaw allan, bobol bach Felly, daeth o ymenydd hwn bethau ysgafnach na cheryg. Meddaf yr anrhydedd o fod, &c., GLAN BARLWYD.

YMDEITHYDD.

Y NEWYDDION DIWEDDARAF 0 FAES…

JHarct)tiafcoetm yt OTgtjjnos.

DYFFRYN ARDUDWY.

[No title]

Advertising