Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
15 erthygl ar y dudalen hon
-.."__CYNWYSIAD.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
__CYNWYSIAD. Yr "Wythnos 1 Hanes Plwyf Celynin 2 Llith Ephraim Llwyd .3 Y Senedd 4 Eisteddfod Llanrwst 5 Newyddion Cymreig 6 Gwyl Gerddorol Harlech 7 A oes Perygl? '8 Llithiau Walis Puw 9 Gohebiaethau 10,11 Marchnadoedd yr "Wythnos 12 Hysbysiadau .13-16
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ofnir y cymer anghydwelediad le rhwng roeistri cotwm a'u gweithwyr. Y mae y roeistri byd yma heb benderfynu beth a wnant, pa un ai gweithio llai o ddyddiau yn yr wythnos, ynte gostwng yn y cyflogau. Dadleuant fod yn angenrheidiol gostwng yn y cyflogau er eu galluogi i gydymgais a, gwledydd eraill, ac y dylai y gweithwyr ddyoddef eu rban cystal a hwythau oddiwrth farweidd dra y fasnach yn bresenol. Y mae y gweithwyr, o'r ochr arall, yn barnu eu bod yn cael eu talu yn ddigon bach eisoes, a Vygythiant sefyll allan yn hytrach nag yoiosfcwng i gymeryd llai o gyflog.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
r, Er fod masnach yn farwaidd ar hyn o bryd yn Mhrydain, y mae yn ddymunol cael ar ddeall nad yw yn colli ei thir mewn celfydd- ydwaith, a bod ei chynyrch yn Arddangosfa Philadelphia yn mbell tuhwnt i eiddo pob gwlad, ac nad yw yn ol mewn dim ond yr adran amaethyddol. Bum mlynedd ar hugain yn ol, hyd yn nod ar ein tir ein hun- I ain yn Hyde Park, yr oedd eraill yn mhell tuhwnt i ni mewn cerfluniaeth, gwneud laces, carpedau, a chelfyddydau eraill; ond yn y cbwarter canrif diweddaf y mae Prydain wedi gwneud y fath gynydd yn y pethau hyny a'r eelfy-ddydau yn gyffredinol, fel nad yw yn ail i un wlad yn v byd.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Er i ni gael gwyntoedd oerion, awelon teneuou, a nosweithiau o lwydrew gwenwvn- Ilyd hyd ddiwedd Mai, os nid i .ddechreu Mehefin, y mae v poethder presenol, meddir, yn gwneud iawn am y cyfan. Bernir na bydd y cynhauaf mor ddiweddar ag y medd- ylid, ac na bydd y cnwd lslaw y cyfartaledd arferol. Y mae ysgogiadau heddycbol gallu- oedd Ewrop hefyd yn effeithiol i atal unrhyw gyfnewidiad gymeryd He yn mhris y gwenith. Pan y mae masnach mor farwaidd, a holl attgenrheidiau bywyd, oddigerth bara, mor ddrud, buasai codiad yn mhris "ffon ein bywyd" yn ergyd andwyol i weithwyr ein gvrlad mewn ardaloedd gweithfaol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pan ddygodd Mr. Smyth ei Fesur i gau y tafarnau ar y Sabbath o flaen y Senedd i'w ail ddarllen, vr oedd y Llywodraeth wedi newid ei meddwl, ac wedi penderfynu peidio gwrthwynebu y Mesur i fyned trwy yr ail ddarlleniad, ond awgrymodd y byddai yn cynyg amryw welliantau ynddo cyn ei basio yn gyfraith. Ond y mae yn dda geDym weled fod y Llywodraeth wedi dyfod i gyd- nabod fod gan y mwyafrif hawl i gyfyngu ar ryddid y lleiafrif (os rhyddid ydyw gadael i ddynion yfed diod wenwynig) fel nad allant gael diodydd meddwol ar y Sabbath. Siarad- odd Mr. Gladstone hefyd yn hynod o flafriol i'r Mesur, a llongyfarchodd y Llywodraetb am ei phenderfyniad i beidio ei wrthwynebu yn yr egwyddor o hono.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cafodd James Purvis, yr hwn a laddodd blenfcyn dynes am nad oedd wedi dyfod i'w gyfarfod yn ol ei haddewid, ei brawf yr wythnos ddiweddaf. Ni anaeth un amddi- ffyniad i'w weithred ysgeler, a dedfrydwyd ef i gael ei ddienyddio.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn mrawdlys Maidstone, daethpwyd at achos nad oedd yr un o'r Barnwyr yn gymhwys i eistedd arno, sef y "Frenhines yn erbyn swydd Middlesex." Gwrthwynebwyd i'r Arglwydd Brif Ynad eistedd arno, am ei fod fel trigianydd yn swydd Middlesex, yn ddiffynydd yn yr achos, ac felly yr oedd yr holl farnwyr oddigerth y Barwn Polloch, ond yn gymaint a'i fod yntau wedi bod yn gy- nghorwr cyfreithiol i'r diffynwyr, yr oedd yn anghymhwys i weithredu fel Barnwr. Sylwodd yr Arglwydd Brif Ynad fod yn rhaid ei brofi o flaen dirpwyaeth neillduol, neu fod yn rhaid pasio Deddf Seneddol i ddarparu ar ei gyfer.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Da genym ein bod yn cael sicrwydd yn barhaus o wahanol fanau nad yw Rwssia yn bwriadu cymeryd unrhyw gwrs gyda golwg ar y cwe'stiwn Dwyreiniol heb yn gyntaf ymgynghori a'r Galluoedd Mawrion; ac felly nad oes perygl i heddwch Ewrop gael ei aflonyddu gan y rhyfel presenol rhwng Servia a Twrci.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Syrtbiodd boneddwr o'r enw Mr. James Hutchins o ben gwaxen yn llwythog o wair yn agos i Swickenham ac ni siaradodd air byth. Yr oedd yn y lie ar ymweliad, ac er difyrwch, helpai i gael y gwair i ddyddos- rwydd, ac wrth hyny cyfarfyddodd a'i angeu,
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae yr anffawd sydd wedi cyfarfod a'r liongryfel "Thunderer," yn dyfod mor fuan ar ol anflodion eraill sydd wedi cyfarfod i'r Llynges yn ddiweddar yn sicr o beri i'r wlad a'r byd amheu a oes fawr o nerth gwirion- eddol yn y Llynges pan elo hi yn dan. Yr oedd y "Thunderer" yn cael ei phrofi yn Stokes Bay, ac nid oedd wedi cychwyn ond er's wyth mynyd pan ffrwydrodd y berwed- ydd, gan ladd pedwar ar ddeg ar hugain o bersonau, yn c-ynwys y prifbeivianydd, a chlwyfo tri ar ddeg ar hugain eraill. Os gadewir i longau ei Mawrhydi fyiied allan fel hyn gyda berwedyddion bregys a brau, fel nad allant ddal ychydig bwysau o ager, ni bydd y dywediad fod Prydain yn llywodraethu y tonau yn ddim amgen na dychymyg ffol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
.u ). r T Cymeroddetholiad Leitrim le dvdd Gwener pryd yr oedd tri yn ymgeisio amy sedd, sef Cadben O. Beirne, Rhyddfrydwr o Home Ruler; Mr. Tottenham, Ceidwadwr; a Mr. M' Gowar, yr hwn a ddenai allan fel ymgeisydd dros y tenantiaid amaethyddol. Cafodd y cyntaf 1, 276 o bleidleisiau; yr ail, 885; a'r trydydd, 7. Gan fod Major Ormsby-Gore, yn awr Arglwydd Harlech, yn Geidwadwr, y maebyn yn golled o un sedd i'r Weinydd- aetb.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
——————-——————' Bu farw dau ddyii yn Bristol mewn can- lyniad i wres tanbeidiol yr haul effeithio inor drwm arnynt, nes eu lladd. Llafurwr oedd un yn dadlwytho agerlong, a nqtilwr newydd ddychwelyd o India oedd y llall, yr hwn a gafwyd wedi marw ar yr heol. Yr oedd y gwresfesurydd yn dangos y poethder yn 92 o raddau yn y cysgod, a 123 yn llygad yr haul.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ciciodd labrwr o'r enw Andrew M'Kear- ney, yn Preston, ei wraig mor ddychrynllyd fel y bu farw yn mhen ychydig amser; Yr oedd yn 32 oed, ac yn fam i chwech o brant, ac nid yw yr ieuangaf ond tri mis oed. Y mae yr adyn yn y ddalfa.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ColloddyWesleyaid un o'u tywysogion yn marwolaeth Mr. Thomas Hazlehurst, yr hyn a.gymer°dd le dydd Sadwrn diweddaf yn ei breswylfod yn Runcorn, pan yn 61 oed. Y mae wedi cyfranu dros haner can' mil o bunau tuag at ad6iladu capelau Wesleyaidd, a gosododd geryg sylfaen i dros gant o gapel- au yn y wlad hon ac ar y Cyfandir. Yr oedd wedi ymgymeryd yn ddiweddar ag ysgrifenu pregethau, a chyfrifir ei fod wedi rhanu dros filiwn o goplau. f
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dylai y tri dyn hyny—Birch, Atkin, ac Ainsworth—y rhai a lichiasant ac a giciasant James Thompson i farwolaeth, ddiolch fod y rheithwyr a'r Barnwr wedi cymeryd golwg mor dyner ar eu hanfadwaith, fel ag i beidio gosod cosb drymach araynt halltudio. Am nad oedd Thompson yr un.farn a hwy, ac yn gwrthod gadael ei waith ar strike, ymos- odwyd arno gyda chigeidd-dra anarferol gan dri o'i gydweithwyr; ond barnodd y rheithwyr nad oeddynt yn bwriadu ei ladd. Yr oedd yn anmhosibl darllen tystiolaeth ei briod heb deimlo. Dywedai:—"Aethnm i chwilio am dano tua haner awr wedi deuddeg, gan nad oedd wedi dychwelyd adref; a phan yn myned dan bont y reiffordd, cefaisefyno ar lawr wedi marw,