Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD LLANRWST,

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD LLANRWST, Dydd Iau a dydd Gwener, Gorph. 13eg a'r 14eg. Agorwyd yr Eisteddfod ar lan Llyn' Geirionydd boreu Iau, pan y goetegwyd pair Ceridwen, trwy daflu iddo feirdd ac ofyddion, y rhai a ddaethant allan wedi eu puro, dan ofal Clwydfardd, Llallawg, Gwilym Cowlyd, Trebor Mai, lolo Trefaidwyn, &c. Yna, ar ben Bryn y Caniadau, agorwyd Gorsedd Cyfallwy "yn ngwyneb haul a llygad goleuni" i urddo y rhai a ddaethant allan o'r pair. Yna, aed i Llanrwfct i gynal yr wyl, a myned trwy y gweddill o'r urddau a'r defosiynau yn yr Orsedd a agorwyd yn y dref. Am lleg, ffurfiodd y pwyllgor, &c., yn orymdaith i gyfarfod y llywydd am y dydd-H. R. Sandbaeh, Ysw., Hafodunos Hall, a'i arwain i'r babell, yn cael eu blaenori gan Band Llanrwst. Arweinydd yr Eisteddfod oedd Mynyddog. 1 Alaw Gymreig (Gwyr Harlech), gan gor yr Eisteddfod. 2 Anerchiad i'r Llywydd. 3 Anerchiad gan y Llywydd. Ni welwyd bardd y boreu hwn; ac felly, aed heibio i rbif 4 ar y rhaglen. 4 Can yr Eisteddfod (Gogoniant i Gymru), gan Llew Llwyfo. 5 Beirniadaeth Clwydfardd ar y Chwe' Englyn i hen Eglwys Ysbyty Ifan, 4 yn cystadlu; goreu, Griffith John Griffith. 6 Beirniadaeth Pencerdd America ar yrUnawd ar unrhyw eiriau Cymreig; gwobr, haner gini; 12 yn cystadlu; goreu, Bugeilydd—heb atebi'w ecw. 7 Cystadleuaeth gerddorol—I'r tri a gano oreu, "Heddwch fo i lwch y Gwroniaid," gwobr gini; S. R. a'i barti, Llanrwst, yn unig a ganodd. 8 Beirniadaeth Gwilym Hiraethog ar y Cywydd- au,"Y Gerbydres;" gwobr, dau gini; 2 yn cystadlu; goreu, Gar mon, Thomas ap Arfon Williams, Henryd. 9 Beirniadaeth Scorpion ar y Traethodau, "Llanrwst fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod;" gwobr tri gini; un a ymgeisiodd, sef Hen Drigian- ydd, W. Jones, Bodrenig. 10 Unawd ar y delyn gan T. Griffith, Ysw., Tel- ynor i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. 11 Can, "Fe ddaw Llewelyn eto'n ol," Mrs. Maggie Jones Williams. 12 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr Englrn, Amnaid y Llygad (wink); gwobr, coron, gan Ffer- yllfardd; 15 yn cystadlu; loan Glan Dyfrdwy a Rhys Gethin yn gyfartal. loan Glan Dyfrdwy heb ateb i'w enw-Rhys Gethin yw Tudur Arfon. 13 Cystadleuaeth y Seindorf Bres; gwobr 5 gini; tri yn cystadlu, sef Trefriw Band, Llanrwst Local Band, a Garn Dolbenmaen Band; goreu, Garn. 14 Beirniadaeth Messrs. Knight and Davies on the best Pencil Caracature of the Drunkard; gwobr, haner gini; un ddaeth i law, ond yn annheilwng (am nad oedd yn ddigon meddw, meddai yr arweinydd). 15 Cystadleuaeth ar esgynlawr yr Eisteddfod, Nyddu gyda'r Droell Fawr Gymreig. Beirniad Mr. Ebenezer Jones; 'gwobr, 15s., ail, J Os., tryd- ydd, 58. Daeth chwech yn mlaen i'r gystadleuaeth hon; goreu, Mrs. Lloyd, Bettwsycoed, ail, Mary Jones, Hafodarthen, trydydd, Jenny Jervis, Bettws- ycoed. Rhoddwyd pwys o dê i bob un a ddaeth ar yr esgynlawr yn yr hen wisg Gymreig. 16 Cystadleuaeth Gerddorol—I'r Cor heb fod dan ugain o nifer a gano yn oreu Gwaiia Wen, gan D. Jenkins, Trecastell; gwobr, 5 gini; pedwar cor yn cystadlu, sef Llanrwst, Rhiwbryf<jir> Ffestiniog, Garn Dolbenmaen, a Bro Aled; goreu, Rhiwbryfdir. 17 Beirniadaeth Gethin ar y Llawffon Ddraenen Ddu oreu; gwobr, 5s; saith ffon i law; goreu, Jacob, aef Henry Jones, Tyddynbach, Bettwsycoed. 18 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau, Yr awdurdod Hanesiol goreu ar darddiad yr enw Dolwyddelen, neu Dolyddelen; gwobr, gini a haner; dau yn cystadlu; a rhanwyd y wobr rhwng Elis o'r Nant ag Elis o'r Cwm. 19 Beirniadaeth Llallawg ar y Cyfieithiadau o r Supplement to Grey's Elegy, &c.; gwobr, dau gini, 7 yn cystadlu; goreu, Young Wales, sef J. Jones (Glan Menai). 20 Cystadleuaeth Gerddorol—I'r Ferch a gano oreuYr Ehedydd; gwobr, gini. Ni ddaeth neb yn mlaen i ganu. 21. Beirniadaeth D. E. Davies, Ysw., ar y Byr- draethodau, Y dull goreu i Weithio Chwarelau Dol- yddelen, Penmachno, a Bettwsycoed; gwobr, gini. Neb yn cystadlu ar hwn eto. 22 Beirniadaeth Meudwy Mon ar Profi ac enwi'r Saith Cysgadur Prydeinig; gwobr, haner gini; tri yn cystadlu; goreu, Cymro, set Robert Evans, Pen- machno. 23 Beirniadaeth Gwilym Parry ar Set o Bedolau Ceffyl Marchogaeth; gwobr, haner gini, dau yn ym- geisio; goreu, Pedotwr—heb a.teb i'w enw. 24 Beirniadaeth T. Fonning Evans, Ysw., aHarri Machno, on the Treatise upon the Lead and Silver Deposits of the Gwydir Estate, and their develope- ment (English or Welsh); gwobr, pum'gini. Dim cystadleuaeth ar y testun hwn. 25. Beirniadaeth Gwilym Hiraethog ar y Prydd* estau, Marwolaeth; gwobr pum' gini, triarddeg yn cystadlu; goreu, Barddon, sef J. H. Evans, Hill St. Liverpool. 26 I'r cor heb fod dau 40 o rifedi a gano oreu yr anthem, Mor hawddgar yw dy bebyll! gan Pen- cerdd America; gwobr. pymtheg gini, a baton i'r arweinydd; saith cor Dolyddelen, Rhiwbryf dir, Bro Aled, Garn Dolbeumaen, Llanrwst, Capel Currig, a Bethesda; goreu, cor Bethdsda. (Hon oedd y brif gystadleuaeth gerddorol. 27 Beirniadaeth Meudwy Mon ar y Traethodau, Hynafiaethau Dyffryn Conwy; gwobr, 2p. 2s.; goreu, Gwydion ap Don, set Glan Menai. 28 Unawd ar y delyn gan Miss Griffith, Llanofer. 29 Beirniadaeth Mynyddog ar y Penillion Tel- ynegol i'w canu ar yr hen alaw, Tyb William Owen, Pencraig; gwobr gini, dau yn cystadlu; goreu, lolo Trefaidwyn. 30 Beirniadaeth Clwydfardd ar yr Hir a Thodd- aid, Cwsg; gwobr, 10s. 6c.; goreu, lolo Trefaidwyn. 31 Alaw Gymreig gan gor yr Eisteddfod. r

Y CYNGHERDD. |

YR AIL DDIWRNOD.

Y CYNGHERDD.

SEGURWYR.