Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
• Y BOREU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
• Y BOREU. MiL GOL. Credaf fod y rhan luosocaf o ddarllenwyr y DYDD yh gwybod trwy brofiad mai cyfaill hoff a chy- mwynasgar yw y boreu i'r iach a'r gweithgar. Ond dichon y bydd yn eithaf peth crybwyll y ffaith hon i ami on o honynt. Y mae yr iach a'r gweith- iwr yn arfer rhoddi croesawiad prydlon i'r boreu; o ganlyniad, derbyniant anrbegion lluosog a gwerth- fawr ganddo, sef aur i'w Ilogellau. iechyd i'w cyrff, a synwyr i'w peaau) a hawl i adael eu gorchwylion yn dangnefeddos cyn i gysgodau yr hwyr eu dal. Ac aid oes neb yn gallu byw yn gysurus, a dilyn ffordd onest, ac esgeuluso y boreu. A dywedir i mi fod beirdd a llenorion blaenaf yr oesau yn arfer rhoddi croesawiad cynes a gwastadol i'r boreu, a'i fod yn adeg nodedig o fanteisiol i noddi awen ac athrylith, pryd y mae y côr asgellog yn llanw yr awyrgylch a miwsig eu cathlau oddiar orielau y llwyn, a phob blodeuyn a glaswelltyn wedi eu coroni a pherlau prydferthach a dysgleiriach nag a welwyd ar ben yr un brenin daestrol erioed, a'r nivrl ysnodenaidd yn araf ddringo ar ysgwyddau'yr awel falmaidd i lethrau'r bryniau a'r creigiau ysgythrog; mewn gair, pan y mae holl anian yn edrych yn llawen ar ei dychweliad allan o freichiau duon y nos. Y mae colli y boreu yn golled anmhrisiadwy, yn enwedig yn miseedd y gwanwyn a'r baf. Ond er mor ddymunol a hael yw y boreu, un o elynion penaf y diog ydyw; nid yw byth am ei weled na chlywed soa am dano. 0 ganlyniad, ceidw y boreu e?' holl ragorfeintiau yn mhell o'i gyrhaedd ef, ni chaiff fwynhau yr un o bonynt. Ond cofier, y mae i'r diog ei gyfaill, a'r gwely yw hwnw. Troa ynddo fet drws yn troi ar ei golyn, a derbynia an- rhegion uuosog ganddo, sef llogell lom, pen gwag, gwyneb^lwyd. cymeriad tyllog, a chorff aflach; ac er nad yw yn hoffi yr anrhegion hyn, yn ei wely y myn fad. Torodd y wawr, yn ei wely y mae ef; cododd jyr haul. a'r dillad dros ei ben y mae ef; can a yradar, plethu dwylaw i gysgu y mae ef; y mae ol^ynion ffactories a melinau yn troi ar eu pegynau'< er's oriau, ychydig gysgu ac ychydig hfipian -^sr ei ddymuniad annheilwng ef eto. Y mae gojpaod o lewod yn ei ystafel) wely. iddo son am godi Y mae y neb aydd yn gwisgo y cymeriaa "hwn mewn gwisg druenus o hagr. Y mae diogi yn difaholl gysur a defnyddioldeb dyn. Yr wyf yn adnabod amryw yn yr ardal hon sydd yn dilyn ,yr arferiad wrthun o gysgu yn hit yn y boreu,, pi rai sydd yn eithaf i'w hadnabod, gan eu bod ar olpawb ond hwy eu hunain gyda'u gorchwyl- ion, ac yri f wy amddifad o wybodaeth na'r cyffredin o lawer; braidd y maent o flaen yr anifeiliaid afres- ymol. Sid oes ganddynt amser i ddarllen na gWeddio:' treuliant eu horiau hamddenol yn eu gwelyau fel meirwon. Gresyn na cha'i llyfrwerth- wyr eu gwneud yn hysbys o honynt, gael iddynt ochelyd rhag galw heibio i'w tai, oblegid ni wydd- ant pa betb mae pobl yn wneud allyfrau. Ni bu yr un newyddiadur erioed yn eu pabell, os na ddygwydctodd y masnachwr ei gymeryd i lapio snuff neu fyglys iddynt. Ni wyddant ddim am hanes y byd masnachol na chrefyddol. Byddent yn well dynion o lawer pe cyfodent: deirawr yn gynt bob boreu i ddarllen y DYDD a llyfrau da eraiU. Terfynaf, gan byderu codi awydd yn y cysgadur- iaid a nodwyd i newia eu ffasiwn. Ya wyf, yn caru lies pawb, MOSES JONES.
JOHN JONES A GENERALS "Y DYDD."
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
JOHN JONES A GENERALS "Y DYDD." MB. GOL.,— Syr, yr wyf fi, fel derbynydd cyson y DYDD, 'ac yn talu am dano,' yn dymuno cael congl fechan o hono i draethu fy syniad o berthynas i lythyrau un a eilw ei hun yn John Jones. Gwelaf ei fod yn ymosod ar dri o gewri eich newyddiadur clodwiw. Yr wyf fi yn honi fy mod yn meddu ar ddigon o farn acbrebwyll i draethu fy marn ar yr ymdrafod- aeth hon. Yr wyf wedi darllen llawer o ysgrifau gwahanol ysgrifenwyr yn fy oes, ond rhaid i mi yn gyd- wybodol gyfaddef mai Ilythyr y J. J. hwn ydyw y peth mwyaf iselwael a dialw am dano a ddarllenais i erioed. Mae yn ddiamheu genyf mai prif amcan ysgrifenu y Uythyr hwn ydoedd ymosod ar dri o ddynion adnabyddus Cymru, a hyny er mwyn eu hiselhau, a phardduo eu cymeriadau, yr hyn sydd gamp i ddynjon fel J. J. Fel y dywedais o'r blaen, fy mod yn meddu ar 'farn a cbrebwyll I achebliw hyny, gallaf ymhyfhau a dywedyd fy mod yn gydnabyddus iawn a'r J. J. hwn yn ol y cnawd,' ond nid yn ol yr enw y mae ef yn arfer yn bresenol, a maintioli fy synwyr cyffredin i, yr hwn sydd uwchlaw ei un cf, ydyw yr achos fy mod yn atal fy nhafod ar hyn o bryd, er fod cyfiawnder yn galw yn uchel am hyny, Hefyd, yr wyf yn adnabod Celynin yr un modd yn lot y enawd' er's namyn ugain mlynedd; felly, chwi welwch, Mr. Gol, fy mod yn adnabod Celyn- in bedair blynedli o flaen J. J., ac o'r ddau, Celyn- in wyfyn ei edmygu fwyaf o lawer. Yn wir, nid wyf yn sdmygu v eymeriad arall o gwbl, am fy mod yn credu yn gydwybodol mai humbug noeth ydyw. Yr wyf yn ysgrifenu v llythyr hwn fel dyn hollol ddiduedd, ac yn eyfaddef yn ddiragrith fod y tri general ag sydd yn awr ar faes y DYDD yn haeddu pob cefnogaeth i wareiddio a goleuo y byd; a'm gwir farn i ydyw, y ceir mwy o les ac adeilad- aeth oddiwrth ysgrifau o'r fath na trash o eiddo yr hwn a eilw ei hun J. J. Cyn terfynu, dymunaf alw eieh sylw at y frawddeg ganlynol yn ei lythyr diweddaf:—'Nid yw J. J. yn perthyn mewn un modd i biwyf Celynin, ac felly, nid oes un gobaith iddo gael ei anfarwoli gan ysgrifell Celynin,' &c. Gwir a ddywedaist, ni chefaist y fraint oruchel hono o fod yn frodor o blwyf Celynin, ond pe buasit ti wedi dy eni ynddo, 'ni wnaethost yn dy fywyd DDIM yn werth ei gron- iclo ar ddalenau y DYDD; ac mae yn ddiamheu genyf fod digon o synwyr cyffredin yn nghoryn Celynin i gadw allan un o'th fath di. Hynyna hyd y tro nesaf, oddiwrth Eich ewyllysiwr da, Plwyf Celynin. CARWR CYFIAWNDER.
AT ISOMEBODY'O FAWDDWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT ISOMEBODY'O FAWDDWY. Maefyawydd a'm syched gymaint am enill y wobr anrhydeddus a gwerthfawr a gynygir gan 'Somebody' am roddi gwybodaeth yn mha ran o'r bydysawd yma y mae Moelydre wedi lledu ei babeli a thrigo ynddi, wedi fy electrifyo bob mod. fedd, a ni cynhyrfu hydfy ngwaelodion i wneuthur ymchwiliad manwl am y 'colledig' yn uniongyrchol pan welais yr hysbysiad, a Hawen genyf allu dweyd i 'Somebody' fy mod wedi llwyddo yn fy ymchwil- iad, acwrth hyny, yn sicrhau i mi fy hun y wobr o 'ddwy wns* o'r "Ffieiddlwch, tislwch toeslyd,-aflesawl, Ni flysiaf ei gym'ryd; Rhydd been i ddwy Nfpea,—a phryd A thanlliw wna'n gethinllyd. Llwch drewllyd bawlyd.Belial,-na. cbrefwch, Na chrafion torn Baal; Och! i'n sawr! gwna'r iach yn sal, Wr ifanc, cymer ofal." Yr wyf yn rhyfedda ac yn dwbl ryfeddu fod un mor graff a Somebody' wedi myned mor ffibddall i fetbu canfod y 'talentog' Moelydre, ac ynfcau yn trigo yn ddiofal yn ei ymyl-yn yfed yr un awelon lachus a balmaidd-.yn mwynhau yr un golygfeydd ac yntau; ae yn eyfranogi o'r un ymborth ysbrydol. Cewch ei address yn gyflawn ond cyfeirio at Teg- wyn. 6 Er fod 'peirianau barddonol Ty'nybraich' yn myned ar auction, ni bydd raid i ni ddim ofni yr ant o'r wlad. Ond i ni gofio pwy ydyw yr auction- eer, chwal hyny ein hofnau fel niwl, oblegid bydd Tegwyn yn sicr o'u prynu oil. Cofion at 'Some- body* ac Everbody. Hyn oddiwrth eich cymwynaswr, Gorph. 7fed. NOBODY.
BETH MAE "NHW" YN EI DDWEYD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BETH MAE "NHW" YN EI DDWEYD. MR. GOL. Mae 'Nhw' yn dweyd fod Shon Gorff yn D—1—11—u yn myned i adeiladu capel Seisnig i'r Cymry.Wel, mi goeliaf ypethynhawdd; oblegid mae Shon wedi cymeryd pethau rhyfedd iawn i'w ben y dyddiau a basioud; pethau mwy i ryfeddu atynt o lawer na gwneud y Cymry yn Saeson. ^elwch chi, yn fod eccentric iawn, a hollol ar ei ben ei hun? er, ar yr un pryd, nad oes rhyw lawer iawn o wreiddioldeb i'w ganfod ynddo. Gwyr llawer am dano gystal a minau (os nad gwell, o ran hyny), mai un nodedig ydoedd am lynu wrth yr lien ffasiwn, yr hen ddull, a'r hen bethau! 0, yr oedd yn ymhyfrydu mewn pobpeth hen! Yr hen dadau Methodistaidd, welwch chi, yr eedd Shon yn meddwl y byd o honynt! Ond y mae yn a-mlwg y dyddiau cynbyrfus hyn fod arwyddion dadfeiliad yn henainl Shon; ond syndod, a dwbl syndod hefyd, nid henaint yn arwain i angeu ydyw ei henaint ef, ond un ag sydd yn cilio i roi lie i neWydd-deb a freshness yr oes bresenol. 'Dyw Shon ddim am fod yn hen tra yn gweled pawb eraill yn ieuaine o'i amgylch; ac y mae wedi d'od o'r diwedd i gredu fod lyr hen bethau wedi myned heibio,' ae fod pob- peth wedi ei 'waeud o newydd.' Mae yna harmon- ium yn nghapel yr rhaid i ninau gael un. Lie mne'r hen dadau Method—? O, tewch son, mae'r hen bethau wedi myn'd. W rI ar ol cael offeryn canu, be 'nei di wed'yn, Shon? Wel, dyna gwest- iwn go perplexing, ynte? Ddar'u mi ddim meddwl am hwna o'r blaen. Ond, p'run bynag, rhaid i ni gael o, 'does i ni fyned at yr —————, a cbymeryd eu Ilarmonist hwy! Ac felly y gwnaeth Shon, ac mae'n awr .rth ei fodd. Mae Shon yn wr pur gyfoetbog, welwch ch'i, ac heblaw hyny, yn un go haelionus, chware teg iddo fo; a gwyr yn burion beth yw nerth a dylan wad y -darnau melynion' ar feddyliau pobl weiniaid, ac felly ni chatodd ei siomi. Ond mae arnaf ofn y daw Shon i gryn lawer o drwbl wrth ddilyn y ffasiwn newydd, ac mai gwell fuasai iddo aros yn iaghwmni yr hen dadau Method- istaidd o lawer; 'naethen nhw ddim byd teRyg i hynyna. Cymer ofal, Shon. Eich anrhydeddusaf wasanaethwr, MO<L TRA HBN. O. Y.-Rhag ofn y bydd rhywun fel Cadvan Meirion yn teimlo awydd ymohebu a mi, erfyniaf ar iddynt gyfeirio eu llythyrau yn y modd canlynol. —M. T. HEN, I, 'Nhw' Buildings, RhoscorsmoChno. 'Does dim angen am fanylu ar y sir, &c., oblegid mae y dref uchod yn ddigon hysbys i bob dyn, 'tae 0 heb wel'd geography erioed.— M. T. H.
AT JOHN JONES ETO.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT JOHN JONES ETO. MR. GOL.,— Addawaf fod yn fyr, i rhag eich blino, a thori rheol John Jones, laynwyreyffradin a gonestrwydd Rheol dda, pe sefid ati; ond yr wyf yn lied sier yn fy meddwl fy hun fod yr 'hen wr' John Jones yn carlamu mor gyflym ag y gillo oddiwrth! yn ei lithoedd bustlaidd yn y DYDD. Mae yn eithaf naturiol i 'hen wr' fod dipyn yn bigog, 'Ni ddaw henaint ddim ei hunan.' Gwelais ambell i amaethwr yn Nghymru pan oeddwn i yn hogyn yn llechian gyda'r gwrychoedd i geisio saethu'r brain fyddai yn difa'r gwenith, a thebyg iawn yw John Jones. Yr oeddwn i yn tybied ar y cyntaf mai dyna oedd amcan yr hen frawd—gwneud gwrych o ohebwyr y DfDi) i saethu trwyddo at arall. Os ydych am saethu, set wch ar y maes agored, ac ymleddweh fel dyn dewr yn ngoleu. DYDD, fel y bylido pob 'great, humbug' yn toddi o dan wres 'ymfflamychyddol' eich mag- nel. Na feddyliwch, gyfaill, fod R 0. Roberts yn teimlo o herwydd eich bod yn cy feirio eich snethau at J. R. yn fwy na rhyw ddyn arall o'r un egwydd- orion. Nid oes ar J. ii. eisieu llythyrau canmoi- iaeth oddiwrthyf fit ac ni wna y gwrth-gaumol Qddiwrthych chwithau yr un niwaid iddo. Caffed dalenau y DYDD lonydd oddiwrth y fath sotbach gwael a disynwyr o ddifriaeth bersonol ar bersonau cyhoeddus ger gwydd y wlad. Mae llawer o ffael- eddau ynpertWn i newyddiaduron y Saeson,ond tra ragorant yn hjro yma ar y rhaiCymroig. Mae yn dda gen i nad yw y Seison yn deall eiu hiaith, rhag dygwydd id lynt dd'od ar draws ami i druth difriol a rhith-santeiddiol a ymddengys o dro i dro yn em papyrau. Ysgrifenwch ar ryw bwoc buddiol, Johd Jones, eich hun, ac fe'ch dilyna y iluaws ° bosibt, a chawn felly werth ceiniog am geiniog o oleuni. Dechreuwch gartref, John Jones, a chawn nioau y darllenwyr farnu, ac ymborthi ar a fyddom yn ei garu; felly, caiff pob bwyd ei fwyta, a phawb 'lon'd ei fol,' chwedl pobl Aberdaron. Cofiwch nad ydym yn arswydo y Iffon fawr,' pe byddai gollen wen o ruddiau'r Eryri. Gwna fwy o les i chwi sy'n 'hen,' heb godi rhyw lawer ami, i'ch helpu i ymlwybro. Byddwch wych a boddlon y w dymun- iad Yr eiddoch heb na digter na dadl, ROBERT 0. ROBERTS. Earlestown, Gorpb. 8, 1876.
DOWLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOWLAIS. MK. GOL. Bu Ysgolion Sabbathol yr Ymudilldawyr yn y lie ucbod yn gorymdeithiri gyditu gllydd drwy ystryd- oedd y dref dydd Llun,! y infedo'r mis hwn. Wale yn canlyndrefn yr orytndaith a'u nifer, mor belled ag y daethant i law yr ysgrifenydd:—Yr oeddynt yn cerdded by ,eniroity. Ar v blaen yr oedd ysgol Caersalem (B.), rhif 330; Bethania (A.), rhif 1425; Hermon (M.), a'r gangen Seisnig syda yn ngiyn a hI; 685 j Wesleyaid (Seisnig a Chymraeg), heb anfon eu rbif; Bryuseion (A.), heb anfon ei rhif; Hebron (B.), heb anfon ei rhif; Primitives 95; Gwernllwyn (A ), 723; Libanus (M.), heb anfon ei rhif; Moriab a Pantywaun (B), 550; Beulah (B. Seisnig), 250; Penywern (A.), 248; Ivor Chapel (A. Seisnig), 150. Bernir fod yr orymdaith, yn y man lleiaf, yn 6,008. Ni welwyd y fath orymdaith ysgolion erioed o'r blaen yn Dowlais, os gwelwyd yn rhywie yn Nghymru ei chyffelyb; Hawdd y gall y darllenwyr farnu beth yw nerth Ymneilldu-