Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

• Y BOREU.

JOHN JONES A GENERALS "Y DYDD."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

JOHN JONES A GENERALS "Y DYDD." MB. GOL.,— Syr, yr wyf fi, fel derbynydd cyson y DYDD, 'ac yn talu am dano,' yn dymuno cael congl fechan o hono i draethu fy syniad o berthynas i lythyrau un a eilw ei hun yn John Jones. Gwelaf ei fod yn ymosod ar dri o gewri eich newyddiadur clodwiw. Yr wyf fi yn honi fy mod yn meddu ar ddigon o farn acbrebwyll i draethu fy marn ar yr ymdrafod- aeth hon. Yr wyf wedi darllen llawer o ysgrifau gwahanol ysgrifenwyr yn fy oes, ond rhaid i mi yn gyd- wybodol gyfaddef mai Ilythyr y J. J. hwn ydyw y peth mwyaf iselwael a dialw am dano a ddarllenais i erioed. Mae yn ddiamheu genyf mai prif amcan ysgrifenu y Uythyr hwn ydoedd ymosod ar dri o ddynion adnabyddus Cymru, a hyny er mwyn eu hiselhau, a phardduo eu cymeriadau, yr hyn sydd gamp i ddynjon fel J. J. Fel y dywedais o'r blaen, fy mod yn meddu ar 'farn a cbrebwyll I achebliw hyny, gallaf ymhyfhau a dywedyd fy mod yn gydnabyddus iawn a'r J. J. hwn yn ol y cnawd,' ond nid yn ol yr enw y mae ef yn arfer yn bresenol, a maintioli fy synwyr cyffredin i, yr hwn sydd uwchlaw ei un cf, ydyw yr achos fy mod yn atal fy nhafod ar hyn o bryd, er fod cyfiawnder yn galw yn uchel am hyny, Hefyd, yr wyf yn adnabod Celynin yr un modd yn lot y enawd' er's namyn ugain mlynedd; felly, chwi welwch, Mr. Gol, fy mod yn adnabod Celyn- in bedair blynedli o flaen J. J., ac o'r ddau, Celyn- in wyfyn ei edmygu fwyaf o lawer. Yn wir, nid wyf yn sdmygu v eymeriad arall o gwbl, am fy mod yn credu yn gydwybodol mai humbug noeth ydyw. Yr wyf yn ysgrifenu v llythyr hwn fel dyn hollol ddiduedd, ac yn eyfaddef yn ddiragrith fod y tri general ag sydd yn awr ar faes y DYDD yn haeddu pob cefnogaeth i wareiddio a goleuo y byd; a'm gwir farn i ydyw, y ceir mwy o les ac adeilad- aeth oddiwrth ysgrifau o'r fath na trash o eiddo yr hwn a eilw ei hun J. J. Cyn terfynu, dymunaf alw eieh sylw at y frawddeg ganlynol yn ei lythyr diweddaf:—'Nid yw J. J. yn perthyn mewn un modd i biwyf Celynin, ac felly, nid oes un gobaith iddo gael ei anfarwoli gan ysgrifell Celynin,' &c. Gwir a ddywedaist, ni chefaist y fraint oruchel hono o fod yn frodor o blwyf Celynin, ond pe buasit ti wedi dy eni ynddo, 'ni wnaethost yn dy fywyd DDIM yn werth ei gron- iclo ar ddalenau y DYDD; ac mae yn ddiamheu genyf fod digon o synwyr cyffredin yn nghoryn Celynin i gadw allan un o'th fath di. Hynyna hyd y tro nesaf, oddiwrth Eich ewyllysiwr da, Plwyf Celynin. CARWR CYFIAWNDER.

AT ISOMEBODY'O FAWDDWY.

BETH MAE "NHW" YN EI DDWEYD.

AT JOHN JONES ETO.

DOWLAIS.