Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
FFESTINIOG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
FFESTINIOG. MR. GOL, Gan nad ydwyf wedi aflonyddu ar.eich heddwch yn awr er's tro, hyderaf y caniatewch i mi ofod ijtechan o'r DYDD i wneud ychydig sylwadau ar y ■^featinogiaid. Ni ddym^inwn, er dim, ddweyd yr IIn gair fel ag i friwio teimladau yr un o honynt; ac eto i gyd, byddai yn well genyf i'r ychydig a ddy- ^edwyf ddeffro a chynhyrfu eu teimladau. i'w S^aelodion na chelu oddiwrthynt yr hyn sydd wir £ 01 danynt. Mae rhyw hen ddiareb yn dweyd fel Vn,—' Dweyd y gwir sydd dda bob amser, dweyd gwir digio llawer." Felly, gan fy mod yn rliwym 0 sefyll at y gwir, byddaf, yn ol y ddiareb ^ehod, yn rhwym o dynu gwg, a digio ami i un o'r ?°sbarth hwnw a elwir "Nhw." Dosbarth rhyfedd lawn ydyw y "Nhw" yma. Os y bydd rhywbeth yn SomedjI dyfod, neu os y try rhyw symudiad yn 8loto, neu gymdeithas yn fethiant, hwy, druain, gaiff holl fai—y "Nhw" byth a hefyd ydyw tad pob —gwna pob un ei fwch diaDgol ar y "Nhw." Vs ymresymir yn erbyn eu cyndynrWyjj^ 0 ymuno Undeb y Gweithwyr, ar 01 eu hymresymu i Slawdd, dywedant, Does. bai yn y byd arnom ni "Nhw" ydyw y drwg i gyd—pe buasai y "Nhw" debyg i ddynion, ymunasem ni oil ar unwaith Undeb." Y "Nhw" hefyd ydyw'r drwg ein bdd dosbarth o weithwyr yn cymeryd ein gorfodi i eithio deuddeg awr y dydd." Cyfaddefa pob f^eithiwr yn y chwarelau fod ein: hamser gweithio yn rhy hir; a saif i fyny mor ddifrifol yr "78 arno a chare? filldir,' a dywed gymaint piti na ddeuai y "Nhw" i'w cefnogi 1 ddeisebu eu eistrriaid am gael lleihau eu horiau llafur. Bellach, Of ia digon naturiot sydd yn ymgodiynmeddwl '*• v ■' r"'1 <■: y darllenydd ydyw, Pwy a feddylir wrth y "Nhw?' Wei, i fod yn onest, rhaid dweyd mai nyni ein hunain ydynt; ie, nyni. y Ffestinogiaid, ydynt y "Nhw." Rhag ein eywilydd yn cyndyn sefyll yn ffordd diwygiadau yr oes. Ceisiwn daflu yr holl fai ar y "Nhw." Glanhawn ein hunain, a phriodol- wn ein holl wendidau iddynt hwy, pryd, mewn gwirionedd, mai nyni ydynt. Anwyl gyfeillion, dylem gofio mai gwehilion cymdeithas sydd yo gwneud i fyny y "Nhw" yma bob amser; ac os dy- wedwn ni mai Did rhai 0 honynt ydym, y mae ein gweithredoedd yn ein condemnio. Gan hyny, gyd- weithwyr. gadewch i ni ymysgwyd o'r cyflwr poen- us ac adfydus yr ydym ynddo. Bydded fod genym fwy o ymddiried y naill yn y Ilail-na fyddeii i ni fod yn fradychwyr Judasaidd i'n gilydd; dyna, mewn gwirionedd, ydy w ein cymeriad yn bresenol. Ofer byth fydd i ni ddysgwyl diwygiad heb yn gyntaf ddiwygio ein hunain. Byth nae yn dra- gywydd ni chawn leihau ein horiau llafur tra y par- hawn fel yr ydym. Rhaid ein asio, rhaid ein cael yn fwy unol a'n gilydd. Yr ydym yn rhy anghymdeithasgar—yn rhy annhebyg i ddynion yn byw mewn gwlad efengyl. Edrycha ein brodyr chwarelyddol yn Arfon arnom fel dosbarth israddol i bob dosbarth arall o weithwyr, aid am nad ydym cystal gweithwyr a bwythau, yr edrychant mor ddiystyrllyd arnorr, oud am mai gwlaneni o bobl ydym — dim sefyll ynom gyda dim -rhyw greaduriaid ag y mae gwaseiddiwch wedi ei gyfrodeddu a'n holl weithredoedd. Yr ydym fel dosbarth yn ddigon llygadgraff i weled y dylem gael diwygiadau gyda llawer o bethau; ond y drwg ydyw, ein bod yn berffaith amddifad o'r stwff hwnw -gwroldeb a phenderfynolrwydd, yr hyn bethau sydd anhebgorol angenrheidiol cyn byth y cawn ein dymuniadau. Anwyl frojyr, y Bathesdiaid a'r Llanberisiaid, a fyddai yn ormod hyfdra gofyn am i rai o honoch ddyfod drosudd atom unwaith yn rhagor, er ceisio cyfanu ychydig arnom; mae ein sefyllfa yn druenus i'r eithaf, ac nid oes ynom allu i'w gwella. Yr ydym yn gruddfan o dan feithder ein horiau llafur—yr ydym oil gyda'n gilydd yn cydolygu y dylid eu lleihau-ac yr ydym yn rhai go lew fel cynllunwyr, ond yn amddifad o'r dewrder hwnw sydd yn ofynol i wynebu y goludog. Yr ydym yn ddigon dewr a gwrol pan yn y twll gyda'n gwaith; ond unwaith yr elom i wyddfod rhai o'n huwehafiaid, yr ydym yn colli ein holl ddewrder —dechreua ein garau grynu yn nghyd; a chan y byddwn mor ddychrynedig yn yr olwg danbeidiawl a dysgleiriawl arwynebpryd yr un y byddwn yn dweyd wrtho ein cwyn, dywedwn na ddywedasom ac na wnaethom ddim oil, ond mai y "Nhw" sydd yn codi row, ac yn unol a'r cyffesiad yna, rhydd ei arglwyddiaeth gynghor, yn ol pa un y dywed y bydd yn rhaid gweithredu; a rhag ofn mai ein troi i ffwrdd bob enaid walltog, byw, bedyddiol, a gawn, rhwydd gydsyniwn a'r gorchymyn. Cyn terfynu, dymunwn argraffu ar feddwl holl ddarllenwyr y DYDD nlai nid ar ein goruchwylwyr nac ar ein meistri chwaith y gorwedd yr oil o'r bai ein bod mor debyg i ddallhuanod yn Ffestiniog. Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai iddynt fod—o'r hyn lleiaf, nid ydynt yn ddim gwaeth nag ydoedd eiddo chwar- elwyr Arfon. Cymaint sydd arnom ni yn Ffestiniog ei eisieu ydyw, i rywrai neu rywun drugarhau wrthym, os y gwyr beth ydyw y feddyginiaeth oreu at wella yr hyn y soniwyd am dano. Gwyddom i raddau pa beth sydd yn eisiau. Y cwestiwn ydyw, pa fodd i'w gael. Da chw1., ddarllenwyr goleuedig y DYDD, tosturiweh wrthym cyn iddi fyned yn rhy ddiweddar arnom. Yr eiddoch, &c., YSBRYD.
AT MR. R. O. REES.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT MR. R. O. REES. MR. GOL. Yr ydwyf yn un o luosog dderbynwyr "Gweith- iau Ieuan Gwynedd," ac y mae y rhanau 1, 2, 3,4, 5, yn fy meddiant. Ond dyna oeddwn yn ei ofyn, a ydyw y 6ed ran ddim ar ddyfod o'r wasg; y mae amser bellach er's^ymddangosiad y rhifynau blaen- [ orol, pa beth, gan hyny, sydd yn lluddias ymddang. osiad y rhan 6ed? Mae awyddfryd llawer heblaw fy hunan am ei gweled. SOUTHMAN.
Hloffium,
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Hloffium, Gellir gwneud papyr i ddal dwfr trwy"gymhorth bichromate of pottasia; ac y mae'r bichromate el potassta yn meddu ar allu i wneuthur glue a gelatin, i beidio toddi a datod mewn dwfr. Gwneir papyr cotton, llian, a silk, trwy gymhorth glue wedi ei wneud a'r bichromate ojpottasia yn hollol waterproof. Un ran o bicliromote ar gyfer 50ain o gelatine sydd yn ddigon. Caledu papyr.- Y cyffyr a arferir i'w galedu yw chloride of sinc. Gwneir ef mor galed a phren, ac mor wydn a lledr. Gellir ei ddefayddio yn wadnau i esgidiau cryflon, yn ffyn, a' choesau chwipiau, a a charuau llifiau, ac i lorio llofftydd yn lie plane- xiu coed. I
ISARTMOMEAT!).
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ISARTMOMEAT!). TAWELWCH Y CRISTION YN MARW. Mae'r Cristion yn marw gan wenu A'i ogwydd ar Brynwr y byd; bbflo-ii?, Ffarwelia a'r ddaear heb ofni, A'i hudol bleserau i gyd; Y wlad uwch y ser sy'n ei ddenu O for y trallodion i'r lan; A dyna yw testun ei ganu, "Cryf ydwyl" er bod gyntynwan. Mae'nlgweled ei,Warelwr yn d'od At yr Iorddonen i'w dderbyn; Ac yna ei gan a dderbynia ei nod, r Set canu am byth yn ddiderfyn: Yn awr yn lie dyoddef un cystudd, Mwynhaupur ddedwyddwcha ga; Yn lie daear lawn o orthrymder, Ca dreulio bytholfyd o ha'. Er mor anwyl ydyw y ddaear, Ymadael am byth a hi mae; Er mor swynol yw can yr adar, Y ddaear sy'n gynefin a gwae; Nid cartref y Cristion ywlr ddaear, Ond pellder ei daith tua'r wlad Sydd itfdo yn gartref tragwyddoi, Heb boen, na chystuddiau, na brad. Ddarllenydd, os enilli y teitl 0 Gristion, hyn fydd dy'ran; Ac yna dy gan fydd dy chwedl, Sef diolch am ddyfod i'r lan; ODd iti gredu y Beibl gwiw, Enilli hon yn rhwydd, A' gwedd'io'n ddyfal ar dy Dduw Am gael bod yn ei wydd. Dylife. |REES HUGBEES. I
;' YR WYBREN NOSAWL. '' v
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YR WYBREN NOSAWL. v > Ol mor ddenawl mae'r ddunos—yn gwisgo Ei theg wasgod wiwdlos; Onid yw eogyl yn dangos atod v Rosette y nef ar siwt y nos? « lOAN MACHBETH.
GWRAIG SARUG. 5 '"
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWRAIG SARUG. 5 Un sur odiaeth ei siaradwedd—yw hoa, Mynwes heb drugaredd; Yn aros mewn anwiredd, Dan ei baich hyd yn y bedd. • Annedwydd yw'r oneidiau-syl 0 dan Bwysau dig wefusau Y wraig hon, a'r galon gau Rydd allan ei myrdd wallau. Hen anian gas anynad—yn bwrw Barbariaeth dideimlad; Chwerw yw, ni char ei had, Hyll sarug ei hall siarad. Rhiw, Ffestiniog. O. W. JoNM.
DAU ENGLYN I'R ROBIN GOCH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DAU ENGLYN I'R ROBIN GOCH. Robin fel hogyn hygoch -y gauaf A gywain Ile'r eloch, A'i loyw gain frest loywgoch, 1 ofyn maeth o gafn moch. Heb bres cynes y cana-'t) arabol Ei driban mewn eira; Ac wed'yn robin trwy'r ha' Resymol erys yma. Llanuwchllyn. B. G. 4G al-ia
ODLAU COFFADWRIAETHOL ^
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ODLAU COFFADWRIAETHOL Am'JoHN JERVIS JONES, hoff blentyn John a Rachel Jones, Staylittle, Maldwyn, yr hwn a fu farw Mai 30ain, 1876, yn bedair blwydd a haner oed. Hwn dyfodd mewn byd afiach-yn rhosyn Na phrisiem ei dlysach; Ond mae'n well tewi bellaeh- Yn y bedd mae Johnny bach. „ < s Ei enaid eu at Dduw'r Iluo'edd-'hedodd, Gan adael pob ingoedd Ar ei ol; rhy bur oedd-i le fel hyn, Mae'n chwaren 'i delyn mewn uwch ardaloedd., Birmingham. R. JERVIS (Gwynonwy),
ENGLYN I'R WENOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ENGLYN I'R WENOL. Y wenol fyw, siriol asuren—eheda Ar ei hudnwl aden; n Yma ar hael dymhor Jl#jjlwen, • A gwisg od wych a'i,gwa|§o4 wen. Llanuwchllyn.. < B.G. f
DOWLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
aeth yn Dowlais oddiwrth yr adroddiad uchod. A diau y buasai y turn out dydd Llun yn llawer llu o oeach oni buasai fod Manager y gwaith wedi rhoddi rhybudd y byddai i bob un a gollai ei waith dydd Llun, gael ei stopio drwy'r wythnos. Ffei, ffei, onide? gwrthod rhyddid am un diwrnod i'r dosbarth goreu o'i weithwyr, sef y dosbarth crefyddol-y dosbarth sydd yn cadw y gwaith, pan y mae y dos- barth arall, y digrefydd, yn colli dyddiau gyda'r diodydd meddwol; ac eto, pan anfonwyd cais ato am ryddid i'r dosbarth crefyddol am un diwrnod, gwrthododd y cais gyda y rhybudd gorthrymus a nodwyd. Ond er ei waethaf ef, cafwyd gorym- daith ardderchog, un a gofir yn hir yn Dowlais, ac un yr wyf yn credu sydd wedi gadael argraff a dylanwad parhaol ar bawb yn y lie. Wedi gorphen gorymdeithio, aeth yr ysgolion i'w manau apwyntiedig—rhai i'r meusydd ae eraill i'r capeli, i fwynhau te a bara brith; a gellwch feddwl, Mr. Gol., fod pawb wedi gwneud cyf- iawnder a'r danteithion darparedig, ar ol bod yn lJerdded am ddwy awr drwy y lie. Yr oedd y plant dan bymtheg oed yn cael eu te am ddim, a phawb dros hYDY yn talu chwecheiniog yn mhob ysgol ond M. Mae eithriad i bob rheolonid oes? Felly y bu yn Dowlais y diwrnod hwnw; yr oedd yn rhaid i Shon Gorff gael bod yn eithriad i bawb yn y lie, drwy roddi y te am ddim i bawb a fyddai yn cerdd- ed gyda hwy y diwrnod hwn. Nid wyf yn gwybod betli amean yr Hen Gorff yn Hermon, Dowlais, yn gwneud hynyna. Un cyfrwys iawD yw efe, a diau fod ganddo ryw amean mewn golwg wrth wneud yr eithriad uchod i ysgolion eraill y dref. Bum yn toeddwl am ddau amean allasai fod ganddo. Y cyntaf oeddwn yn feddwl oedd hwn, sef ceisio ar- graffu ar feddwl trigolion y dref a'r wlad o gwmpas, fod y Methodistiaid yn Dowlais yn llawer mwy haelionus na'r enwadau eraill, ond bydded hysbys i Shon a phawb, mai nid am nad yw yr enwadau eraill yn llawn mor haelionus a'r Methodistiaid y darfu iddynt godi chwecheiniog yr un ar bawb dros bymtheg oed, ond am eu bod am ddysgu pawb a fedr i dalu am yr hyn y maent yn ei fwynhau. Amean arall oeddwn yn feddwl allasai fod ganddo oedd ceisio chwyddo nifer ei ysgol erbyn y diwrnod hwnw; ac yr wyf o'r farn mai hwna oedd ei amcan, gan mai eerdded gyda'r orymdaith oedd yr amod i gael y te am ddim. Trie teilwng o Shon Gorff ynte, Mr. Gol.? Shon yw Shon o liyd, a thebyg lawn mai Shon fydd efe mwyach. Maent yn dweyd mai peth anhawdd iawn yw cael gan hen geffyl i adael ei driciau. Llawn mor anhawdd a hyny yw cael gan yr Hen Gorff i adael ei driciau; an hyny, waeth rhoddi heibio ceisio ei ddiwygio, a'i thaflu i fyny yn bad job. Wedi gorphen yfed te a bwyta y bara brith, gorphenwyd y diwrnod gan y gwahano) ysgolion drwy gynal cyfarfod yn yr hwyr i adrodd, canu, ac areithio ar wahanol faterion, rhai yn yr awyr agor- ed ac eraill yn eu capeli. Cafwyd hin ddymunol, a threat ardderchog, ac yr tpyf yn meddwl yr hoffai pawb a'i mwynhaodd gael ei chyffelyb eto y flwyddyn nesaf; a chredwn y byddai yn fuddiol i gael ei bath bob blwyddyn, a yw dymuniad UN A FWYNHAODD EI HUN.