Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
CYNWYSIAD. I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYNWYSIAD. I r Wythnoa 1 Lindsays 2 Wasg 3 ^"ynodeb Seneddol 3 f*wy sydd i Hela neu Bysgota 4 Z Llofruddiaeth ger Dolgellau 5 J Rhyfel 5 Newyddion Cymreig 6,7 Cadwalader Jones 8 tlofruddiaeth ger Dolgellltu-y Trengholiad 9 Qohebiaethau 10 Jollgellau 11 12-16 mom-
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yn y Cynghor Eglwysig sydd yn agosbau, Wdd pob plaid yn cael eu cynrychioli. Bydd Deon Stanley yn bresenol yno am y waith 8yntaf. Mae y Canoniaid Gregory a Ryle *edi cael eu penodi i draddodi anerchiadau ar ad-drefniad y cysylltiadau rhwng yr Eglwys ar Wladwriaetb; y Canoniaid Duckworth a Butler ar angbymedroldeb; a'r Canoniaid Carter, Garbett, a Farrar, yn ngbydag Argl- "'ydd Middleton, a Mr. Beresford-Hope ar y tnoddion i ddyrcbafu goddefiad a chydweith- l'ediad yn yr eglwys.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Deallwn y gall y creadur rbeibus hwnw, 'chwilen Colorado,' nofio yn gystal ac ehedeg gvvaetbaf yn y byd. Darfu i fyddin gyfan Or llwyth yma nofio ar draws Llyn Cham- Plain, a goresgyn talaeth Yewnont, yn yr ^Jnol Daleithiau, y ffordd hono. Ond os nad yw yn arswydo rhag y Ilif, ac os na fedr byd yn nod y tan ei ddyfetba, a chaniatau na fyddai y tan ond ar wyneb y tir, gwyddys atn un gelyn y Mae ganddo achos i'w ofni- y paun. Darfu i ffermwr yn Ohio, cnydau cymydogion yr hwn a ddyfethwyd yn hollol gan y chwilen, achub ei eiddo ei hun yn unig trwy droi ei ddau baun i'w ardd, He y difa- lIant bob un cyn i'r trychfilod gael amser i ddechreu ar eu gvaith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pwy ydyw y gohebydd newyddiadurol an- "turiaethus hwnw a ollyngir i mewn i'r Cabinet Council, ac a oddefir i ddadguddio ei ddirgelion i'r cyhoedd sydd yn mron ac ym- dori gan syndodl Bob yn awr ac eilwaith yr ydym yn clywed fod un cynygiad neillduol, tnanylion pa un a roddir yn gyflawn, wedi cael ei roddi gerbron y Cyngbor gan Wlad- ^einydd, a'i wrtbod gan fwyafrif. Er eng- taltft, mae y byd allanol newydd gael ei- kysbysu mai cynllun diweddaf Arglwydd beacon-neld er amddiffvn buddianau Pryd- einig ydoedd trwy gymeryd meddiant o Gallipoli, gyda 18,000 o wyr, a'i dal yn etbyn y Rwssiaid a'r Tyrciaid yr un modd, gan osod 7,000 yd ychwaneg o filwyr yn Mor y Canol- ^r> pe byddaiangen. Gosododd yr awgrym- yna o fiaen y Cynghor, a gwrthodwyd ef twy fwyafrif o un. Gan nad oedd holl gyf- *tfodydd diweddar y Cynghor yn cael eu z:=: hattendio ond gan ddeuddeg o aelodau, teiml- wn anhawsder i gael allan pa fodd y gallasai yr ymraniad gael y canlyniad uchod. Ond wrth gwrs, nid oeddym ni yno: a rhaid fod rhyw 'ysbiwr' wedi bod, oblegid ni feiddiai yr un aelod o'r Weinyddiaeth ddadguddio ei dirgelion yn y modd hyn.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae yn amlwg nad yw Mr. Gladstone ei hun mwyach yn credu yn y "bleidlais o ym- ddiried" a fygythid ei gynyg ychydig yn ol, nac ychwaith yn y tehygolrwydd y daw yr un achos newydd i ymdrafod hawliau y Cwestiwn Dwyreiniol yflwyddyn yma, onide ni buasai yn myned i lawr i Benarlag "am y tvmor" cyu i'r Senedd gau. Wrth gwrs, y mae o fewn cyrhaedd galw; ond pe na buasai wedi llacio yn yr ysbryd gwyliadwrus hwnw yr oedd mor bryderus yn ei gylch ychydig wythnosau yn ol, buasai yn aros y Tymor drosodd, ac ni buasai ond anfynych yn absen- ol o'i le yn Ty y isaf.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae y gwrth Rwssiaid mewn cyfyngder poenus. Nis gallant gael eu hachos i'w gynrychioli fel y dymunent yn y taleithiau. Maent yn barod i daflu Twrci heibio os gall- ant ond yn unig ymladd a Rwss'a; ond y mae y teimlad mwyaf yn y deyrnas yn erbyn rhyfel. Fel enghraifft o gast diweddaraf y blaid hon, clywsom eu bod yn cynyg erthygl- au i'r Wasg yn erbyn twyll, ffyrnigrwydd, ac anfoesoldeb yr Ymerodraeth Rwssiaidd. Mae hyd yr erthyglau a roddir am ddim yn dyfod i ddim.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Mae Mr. W. H. Smith o'r diwedd wedi cytuno i ddwyn allan y manylion a'r costau yr aed iddo yn nglyn a phrawf Tichborne. Dygwyd yr adroddiad allan dydd Gwener. Y mae yn dangos ei fod wedi costio i'r wlad < £ 60,000 i gyd i gael yr 'Hawlydd' i garchar. O'r swm hwn, gwariwyd £23,000 mewn tyflogau cyfreithwyr, £18,000 i dystion a fwyddogion, XIO,000 am argraffu, &c., £ 3,600 am bapyrau i ysgrifenu liaw fer, a « £ 3,700 mewn cyflogau rheithwyr a lunch- oous. Tybed na bydd Mr. Wballey yn fodd- ion ar hyn. _I
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid ym yn cael ein tueddu i gredu fod y elprigwr a ddarllena bregeth wedi ei hysgrif- enu yn bwrpasol iddo ei hun, yn ddyn drwg ac anfoesoi. Ond nid oes ynom betrusder i ddweyd fod y clerigwr a ddarllena un o'r pregetbau a grybwyllir yn yr hysbysiad isod h ymddangos odd mewn un newyddiadur yn euog o anfoesoldeb: "Pregethau ysgrifedenig, heb erioed eu cyboeddi, gan bregethwyr mawr Lloegr ac Ysgotland yn yr ugain mlynedd diweddaf (dros 1,000 o honynt), wedi eu cymeryd i lawr gyda chryn draul. Eog- hreifftiau i unrhyw glerigwr. Yr ymddiried- aeth llwyraf. —Parch. M. A., &c." Yn awr, mae yn ddigon hawad gweled beth mae hwna yn ei olygn. Mae y "Parch. M. A. wedi cyflogi rhai arferol ag ysgrifenu i gy- meryd i lawr bregethau pregethwyr nodedig. Mae wedi llwyddo i'w cael wedi eu hail-gopio; ac yn awr, ymgymera a'u gwerthu i bwy bynfl g a'u pry no. Tybier fod un o'n darllen- wyr yn ysgrifenu pregeth, ac yn ei gwerthu i ryw glerigwr i'w darllen yn gyhoeddus; nid yw ond yn gwerthu ei eiddo ei huu; ond os gwei tha efe bregeth gwr arall, y mae yn llen-lleidr, a'r clerigwr a'i derbynia yn waeth. na hyny. Athrawiaeth gysurus iawn ydyw fod bendithion crefydd yn cael eu rhoddi yn annl bynol ar deilyngdod y sianel trwy ba un y rhedant.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Nid oes derfyn ar gynlluniau dynion, a'r gwaeihaf o hyny ydyw, mai cynllunio i wneud drwg y maent i fesur mawr. Os digwydd i un o'n darllenwyr-ond yr ydym yn gobeithio nad felly y bydd—dderbyn gwýs ("summons") i ymddangos yn y cwrt sirol oddiwrth ryw fasnachwr, byddai yn werth colli tipyn o amser i chwilio i mewn er cael allan a ydyw y wys ddim yn peidio a bod yn ffug. Er yn ddiweddar mae arferiad anmharchus wedi cael ei chych- wyn a'i magu yn mhlith masnachwyr anmbarchus; ac yn wir yn mhlith rhai a dybid en bod yn barchus, a'r rhai yn sicr oedd mewn busnes a dalai yn dda; sef anfon papyrau cytreithiol ffugiol gyda'r arfau Brenhinol wedi eu stampio arnynt. Mewn un amgylchiad, bostiai un masnachwr o'r West-end, Llundain, fod y ddyfais yn ateb braidd bob tro. Mae y derbynydd wedi ei ddychrynu, yn talu y swm a ofynir, er y gall fod yn gwbl argyhoeddedig nad oedd yn ddyledus arno. Gofaled pob un o hyn allan aitn brofi ei "wys" cJ n ei hateb.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Ar yr un diwrnod ag y clywsom om far- wolaeth Mr. Ward Hunt, daeth y newydd i'n clustiau o ymadawiad gwr hollol wahanol —John Frost, y Cbartist. Hwyrach y dy- lasem ddweyd, yr hwn a fu felly, oblegid yr oedd, ar adeg ei farwolaetb, y dyn a gondem- niwyd i farw am godi gwrthryfel yn erbyn ei Frenhines, yn dal comisiwn ei Mawrhydi fel ustus heddwcb. Bu unwaith yn ddyn pur hynod. Er o sefyllfa gymdeithasol digon da i fod yn ynad, eto, ymunodd &'r Chartists; a phan, mewn canlyn'ad i'w iaith anheyrngaro), y bygythiwyd eisymud oddiar y fainc, rhodd- odd her i Arglwydd John Russell (y pryd hwnw, yr Ysgrifenydd Cartrefol), yr hwn, ar unwaith, a dynodd ei enw ymaith. Tachwedd 4ydd, 1839, daeth y Chart sts, yn rhifo 20,000 dao flaenoriaeth Frost a Zephaniab Williams, i Casnewydd, Mynwy, a decbreuasant dori y tai. Taniodd y mil wyr i'w canol, a dychwel- wyd y tan gan y gwrtoryfelwyr, a lladdwyd amryw o bob ochr. Or diwedd, ymwahan- odd y Chartists, a daliwyd eu blacnoriaid. Cynaliwyd comisiwn neillduol i'w profi yn Mynwy, a phasiwyd dedfryd marwolaeth ar Frost, Williams, a Jones. 0 herwydd rbyw- beth neu gilydd, niweidiwyd y ddedfryd i alltudiaeth am oes.