Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
\ mm*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
mm* Y BEIRNIAD. GORPHENAF, 1877. Fel bob amser, felly y tro hwn eto, yr ydym yn cael yn y Beirniad ysgrifau o 'Werth a dyddordeb mawr. Anerchiad i Fyf- yrwyr Duwinyddol yw y peth oyntaf geir yma, a'r testun ydyw, "Tair laith y Groes." Ceir ar y decbreu sylwadau tarawgar lawer. Wrth fyned yn mlaen, sylwa yr ysgrifenydd fod dwy o'r tair ieithoedd hyn yn haeddu aylw myfyrwyr duwinyddol, mewn modd arbenig. Yna dygir wyth o ystyriaethau yn mlaen er cymhell i ymdrech gyda golwg ar hyn, sef i gyrhaedd gwybodaeth o'r Hebr. aes, a'r Groeg Beiblaidd. Mae yr latyr. iaethau, pa fodd bynag, rai o honynt, yn eithafol a dibwynt, megys pan yr honir fed y wybodaeth yma yn angenrheidiol er "bodd- had Duw," cyrhaedd "duwinyddiaeth ys- grythyrol," a sefydlogrwydd yn y gwirion- edd." A yr awdwr yn mhellach o'i le eto, pan y dywed mai "fel byn yr enill gweinidog ymddiried ei wrandawyr." Gall hyn fod yn help os bydd pethau eraill yn gyfartal. Ond dylasai yr awdwr gofio mai annhraethol mwy peth yn ngolwg cynulleidfa yw fod eu gweini- dog yn gallu siarad i bwrpas, ac yn medru rhoddi ambell floedd effeithiol nes siglo y lie, na'i fod yn gallu rhoi ateb cadarnhaol i'r cwestiwn "a fedri di Roeg1" Wedi y cyfan, y.sgrif ddyddorol yw hon, er fod yr awdwr yn mawredd ei sel dros fedru yr ieithoedd gwreiddiol, wedi cyfeiliorni ychydig ar air yn nghyflead rhai o'i brif osodiadau. Y mae yr ysgrif gyntaf ar hanes "Thomas Edward," y Naturiaethwr Ysgotaidd, yn ddifyrus iawn i'w darllen. Y mae yn seil- iedig ar gofiant a ysgrifenwyd iddo gan un o awduron mwyaf poblogaidd yr oes, sef Sara- uel Smiles. Ganwyd Thomas Edward yn Gosport, ger Portsmouth. Ysgotiad oedd ei dad, a gwehydd cotwm wrth ei alwedigaeth. Yn achos y rhyfel yn erbyn Napoleon y cyn- taf, gorfu arno ymuno a'r fyddin, a symud cryn lawer o le i Ie, yr un fath a milwyr yn gyffredin. Wedi iddi fyned yn heddweh, symudodd yn 01 i Aberdeen, ac yno y dech- reuodd Thomas Edward ymddadblygu, a rhoddi yr arwyddion cyniaf o'r enwogrwydd mawr oedd yn ei aros yn y dyfodol. Gall- wn addaw i ddarllenwyr ieuaine lawer iawn 0 foddhad yn nghwmni y Naturiaethwr enwod Thomas Edward. Yn yr ysgrif sydd yn dwyn y penawd, "Taith i'r Haul," ceir J dychymyg anturus ar waith, a llwydda yr awdwr yn rhyfedd i roddi i ni gipdrem ar fawredd a gogoniant creadigaeth Duw. Yn y Bryddest-gan sydd yn dwyn yr enw "Golygfeydd Brycheiniog," yr ydym yncyfar- fod a darnau grymus a swynol dros ben. Mae y llinellau cyntaf ynddi, yn ein dwyn ar unwaith i ddysgwyl cael yma rywbeth "o'r awen wir." Ebe y bardd yn brydlerth:- "O'm llety iach, yn own cynghanedd rydd, Hen Wyøg ddoleuog wrth ymdreiglo heibio; A phan oedd haul, teg ymerawdwr dydd, Uwch eirian gaer y dwyrain newydd ddringo; Cychwynais ar foreuol hyfryd hynt, Hyd uchel gopa'r Banau serth aruthrol, I fwyn ogleisio'm clust perorai'r gwynt, Alawon tyner, glwys, o froydd nefol. Yn eistedd wyt ar oraed i, gadarn, gref, Ardderchog fynydd ban—hen mewn blynyddau; Wyt dyat o bob chwyldroad dan y nef, A'r stormydd mawrion fn'n cynhyrfu'r oesau; Dy ben goronir gan y grug a'r brwyn, A blodau fyrdd a drwsia'th ruddiau rhychog; Dy ffyrdd orchuddir gan y mwswg mwyn, A'th dtaed a olchir gan afonydd troellog." Yn debyg i hon mae y Bryddest ar Ddy- chymyg," etc yn faith, ac yn cynnwys darn- au godidog iawn. Ar ol hyn, y prif bethau ydynt ysgrifau ar "Fawredd Trefn Iachawd- wriaeth," "Offeiriadaeth, ac Archoffeiriad- aeth Crist," a'r "Awyrgylch." Fel arfer, mae y Nodiadau ar Lyfrau, a'r Cofnodion Chwarterol yn dda iawn. 0 ran argraff- waith, mae y Beirniad yn awr yn rbagori braidd ar yr oil o'n Cyfnodolion Cymreig. Da genym ei weled yn cael ei droi allan mor hynod o lan a destlus. Boed ei lwyddiant yn eang a hir-barhaol.
©tgnotteb J&enetitJoU
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
J&enetitJoU Dydd Mawrth (Gorphenaf 24). Ty Y CYFFREDIN.—Dywedodd larll Nel- son na byddai iddo ef y pryd hwnw dynu sylw y Ty at Ddeddf Trefniant yr Addoliad Cyhoeddus, gan ei fod yn meddwl mai anheg fyddai dwyn yn mlaen ddadl ar y pwne pan yr oedd cynifer o'r "gwir barchedigion" yn gorfod bod, o herwydd dyledswyddau, ymaitb o'r Ty. Darllenwyd Mesur Eiddo Gwragedd Priod (Ysgotland) yr ail waith, a Me sur Gwelliant Deddfau y Llaw-weithydd, y drydedd waith, yr hwn hefyd.a basiodd. Ty Y CYFFREDIK.—Cylfwynodd y Milwr- iad Makins ddeiseb wedi ei harwyddo gan dros 43,000 o bersonau, yn cynwys 1,100 o glerigwyr, yn atolygu am ddiddymiad Deddf Trefniant yr Addoliad Cyhoeddus. Mewn atfbiad i Mr. Whalley, dywedodd Canghell- ydd y Trjsorlya nad oedd Llywodraeth ei Mawrhydi wedi derbyn yr un gwyn yn erbyn Pn dain oddiwrth Rwssia, ei bod wedi tori ei chanolrwydd (neutrality). Gofynwyd cwcstiwn ar y cytundeb masnachol A Ffrainc, smuglo yn Gibraltar, a Iluaws o faterion eraill. Ar ol tipyn o ddadl ar ddarpariadau Mesur Deheudir Affrica, aeth y Ty i Bwyllgor. Dydd Mercher (Gorphenaf 25). Ty Y CYFFREDIN.—Gwrthododd Cang- hellydd y Trysorlys ateb cwestiwn a rodd- wyd gan Mr. Whalley, oedd yn dal cysylltiad a'r Llywodraeth, a'r rhyfel presenol. Dy wedodd yr anrhydeddus foneddwr na fuasai buddianau cyhoeddus y deyrnas ddim ar eu gwell pe yr atebei ef. Aeth y Ty wed'yn i Bwyllgor ar Fesur Deheudir Affrica, ac yn ystod y ddadl a ddilynodd, oymerodd golygfa ryfedd Ie, o herwydd rhai geiri&u a ddisgyn- odd oddiwrth Mr. Parnell. Cynygiodd Syr Stafford Northcote fod i'r geiriau gael eu cy meryd i lawr, ac ar ol i hyn gael ei wneud, cynygiodd yr anrhydeddus foneddwr fod i r. Parnell gael ei atal o'r Ty hyd ddydd Gwener. Ar ol dadl, pa fodd bynag, gohir- iwyd y cynygiad hyd y diwrnod hwnw. Dydd I au (Gorphenaf 26). Ty YR ARGLWYDDI.—Dywedodd Due Richmond a Gordon, mewn atebiad i Ar- glwydd Sandwich, ei fod ef braidd yn am- heu a ellir troi hen garcharau diddefnydd yn nodd-dai i wallgofiaid. Gallesid eu troi i un- rhyw ddefnydd a ddewisai y wlad, ond nid oedd y llywodraeth yn barod i'w trosglwyddo drosedd heb daliad gan y Siroedd. Cafodd deiseb yn cynwys 47,284 o arwydd-enwau cler- igwyr a lleygwyr Eglwys Loegr, yn dymuno diddymu Trefniant yr Addoliad Cyhoeddus, ef ehyflwyno gan larll Nelson. Dilynwyd hyn gan ddadl ddyddorol, yn ystod pa un yr amddiffyn- wyd y Ddeddf gan Archesgob Caergaint. Yr oedd y personau a arwyddent y deisebau hyn, meddai ef, yu bur anfoddlawn i'r rhai hyny a geisient eu hatal rhag gwneud yn union yr hyn a fynent. Nid y modd y gweinyddid y gyfraith, ond y gyfraith ei hun a wrthwynebwyd gan y bobl. Sylwodd Iarll Hanowby ddarfod iddo gael allan awgrymiadau yn y ddeiseb, o ryw gysylltiad Cymdeithas y Groes Santaidd, ac Eglwys St. Alban. Gosodwyd y ddeiseb ar y bwrdd. Gohiriodd eu harglwyddi am chwarter wedi chwech. Ty YR CYFFREDIN.—Ar gais Ardalydd Rart- ington, eglurodd Canghellydd y Trysorlys dermau y penderfyniadau oedd am eu dwyn yn mlaen gyda golwg ar ddygiad yn mlaen y gwaith, a chynygiodd ddiddymiad yr order am y ddadl ohiriedig mewn perthynas i weithrediadau Mr. Parnell dydd Mercher. Cynygiodd Mr. Butt ail-ddarlleniad Mesur Addysg Prif-Athrofaol yn yr Iwerddon, ond ar raniad y Ty, gwrthodwyd ef trwy fwyafrif o 344. Dydd Gwener (Gorphenaf 27). Ty YR ARGLWYPDI.—Addawodd Duo Rich- mond a Gordon, mewn atebiad i Iarll Somerset, y rhoddid ystyriaeth i'r arddangosiadau a wnaed gyda golwg ar effeithiau dinystriol yr arferiad e ddefnyddio dynamite, a materion ffrwydrol eraill yn nglyn tJ.'r pysgodfeydd (coast (fishen). Ar ol i Arglwydd Redeadale gwHwyno
Y LINDSAYS. ,--
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
-I- oddiarni na'i thynu oddiwrthyf fi a'r plant. 'A both ddywedwch chwi wrth y fath nonsens?' 'Atolygais fenditb, neu rywbeth oyffelyb, ar y -gymydogaetb-er nad oedd dim o'r cyfryw sylwadau wedi cyrhaedd fy nghlust- iaa i; a dywedais wrth Mrs. Page mai camgymeriad ydoedd meddwl ddarfod i mi dalu anrhyw sylw neillduol i Miss Paris; na thelaia i ddim o gwbl. Sicrbaodd Mrp. Page fi fod petbau wedi cael eu dweyd, a gofynodd i mi beth allaswn wneud yn y dyryswcbj gan awgrymu y buasai y eyfryw ddirmyg yn cael ei dafla ar gyfnither Marian—' 'Pa un a symudwyd ddeugain gw&itb/ ataliai Mrs. Charles yn wawios. Gwenodd Mr. Lindsay, a pharbaai. 'Y buasai y eyfryw ddirmyg yn cael ei daflu ar. gyfnither Marian yn profi yn ofid chwerw idd1 hi, pe buasai byw. Yna dechrenais feddwl, gan fy mod wedi penderfyou priodi eiiwaitb, na boasai waetb imi gymeryd Miss Paris na rbywun arall, a aetlo yr ardal,y ffordd bono. Ac felly, heb gymeryd i mi fy hun amser i yetyried,-yr wyf yn cydnabod byny- dywedais wrth Mrs. Page mai gwell fuasai i'r mater gael ei derfynn yn y wedd hyny.' 'A bachasant en' 'Derbyniasant ef,' ebar Mrs. Lindsay. 'Nid oedd y cyfan ond trap wedi ei gynllnnio!' siaradai Mrs. Charles yn boeth- lyd. 'Nid oedd dyfodiad Mrs. Page i lawr, a hyny a ddywedodd, oiid trap wedi ei blanij i'ch tynu chwi iddo, wedi ei blanio rhyngddi hi a Miss Paria. Buasai yn dda genyf pe ')uaswn mor sicr am y nefoedd! Mae wedi chwareu ei rhan.' Safodd Mr. Lindsay, ei ffurf tal wedi ei godi i'w gyflawn faintioli. Dechreuodd wthio, gyda'i fotasen, rai darnau o lo i'r tan, rhwng bariau y grat. 'Norman!' meddai Mrs. Charles. 'WeU' 'Peidiwch a'i gario allan. Rhaid i chwi beidio meddwl fy mod yn edifarbau, Ellen. Yr wyf fi yn credo yn hynawsedd Miss Paris, os nad ydych ch wi, ae lyr wyf yn credu y gwna wraig gymhwys i mi.' 'Wel-os ydych yn foddlawn. Nis gallaf fi ond gobeitbio y cewch actios i fod felly bob amser,' ychwanegai Mrs. Charles yn bwysig. 'Credwch fi, ni wnai neb lawenbau mwy nag a wnawn i pe ceid allan fod fy nhybiadau yn ddisail. Pa bryd y mae i fod? CJywaf fod Miss Paris yn Llundain.' 'Dychwelodd yno gyda-'i chwaer. Mae i gymeryd lie yn union.' Ac felly y bu. Aidaetb Joanna Paris yn Mrs. Lindsay yr ail, er ei bunan foddbad a'i llawenydd diamwys ei hun. I'm barhau