Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
Netogitoum
3 erthygl ar y dudalen hon
Netogitoum
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Netogitoum <allmtttg. OVIW*. ■ Deallwn fod treuliau yr ymgeisydd Rhyddfrydig llwyddianus (yr Anrhydeddus F. S. A. Hanbury Tracy), yn yr etholiad diweddaf dros fwrdeisdrefi Trefaldwyn, yn cyrhaedd i'r swm o X1212 15s. 10c., ac eiddo yr ymgeisydd Ceidwadol aflwyddianua yn X3033 8s. 5c. Pwy byth ai yn member of Parliament] Wrth gyfarch y grand jury yn mrawdlys Caer, dywedai yr Arglwydd Farnwr Bram- well fod rhestr y troseddau yno eleni yn fwy ac yn drymach nag arfer, a bod Deheudir Cymru i gyd yn tra rhagori ar y Gogledd yn anamlder y troseddwyr a bychander y troseddau. Mae'r "adar bonheddig" yn dechreu dyfod adref. Gadawodd Syr. Watkin Wil- liams Wynn, A.S., a Lady Wynn eu preswyl. fod yn St. James'-square, Liundain, am Wynnstay. Kefyd, y mae Arglwydd Hanmer wedicythaedd i Bettisfield Park, Whitchurch, o Eaton-place, Llundain. Dywed gohebydd i un o'r papyrau dyddiol Seisnig mewn perthynas i'r boneddwr hwnw a gafwyd yn farw yn ddiweddar ar y traeth yn Harlech, fod "celfyddyd wedi dyoddef colled lem yn marwolaeth Mr. John Samuel Raven, ac mai anaml iawn y byddai muriau Burlington House heb ryw waith oi eiddo ef." Yn Nhy y Cyffredin dydd Mercher, ar ail ddarlleniad Mesur Mr. Cowen i drosglwyddo yr hawl i ganiatau trwyddedau i werthu diodydd meddwol i ddwylaw y trethdalwyr, dywedodd Mr. Watkin Williams, yr aelod dros Ddinbycb, ei fod ef yn cymeradwyo egwyddor y Mesur, ac y gallesid cyfarfod a'r gwrthwynebiadau mewn pwyllgor gyda gwelliantau. Mae genym y pleser mwyaf o sylwi fed trefniadau wedi cael eu gwneud i gyhoeddi cerflun lithography o'r arlun tystebol a dyn- wyd yn ddiweddar o Dr. William Rees, Caer, gan Mr. J. D. Mercier, arlunydd adnabyddus. Deallwn fod Mr. Mercier ei hun wedi ymrwymo i arolygu y cyhoeddiad, fel gwystl o gymeriad uchel y gwaith. Bydd cylch eang o gyfeillion Gwilym Hiraethog yn 11a wen o'r cyfle hwn i gael ei ddarlun. Gosodwyd careg sylfaen capel newydd Seisnig y Methodistiaid Calfinaidd i lawr yn Pensarn, ger Abergele, ar y 25ain cynfisol, gan Mrs. John Roberts, Bryngwenallt. Mae Mr. David Roberts a Mr. John Roberts, Bryngwenallt, Abergele, a Hope-street, Le'r- pwl, yn dwyn y gost o'r lie a'r adeiladwaith. Bu Syr Colman O'Loghlen, Bar., yr aelod dros sir Clare, farw yn sydyn bore Sul, wythnos i'r diweddaf, ar fwrdd y mail boat o Gaergybi i Dublin. Yr oedd y gwir anrhyd- eddus foneddwr yn bresenol yn Nhy y Cyffredin prydnawn y dydd Sadwrn blaenor- ol, ac yr oedd ar adeg ei farwolaeth ar ei ffordd i frawdlys Clare. Cyiarfyddodd y goach sydd yn gadael Caernarfon am Beddgelert, ac yn dychwelyd i lawr pass Llanberis, 4 damwain yr wythnos cyn y diweddaf. Dychrynodd y meirch tua chymydogaeth Ynyswen a Glyn Peris, rhed- asant fel pe buasai yr hen fachgen ei hun ar eu sodlau, a llusgasant y goach dros dwr o geryg oedd ar ochr y ffordd, gan ei dymchwel- yd, a thaflu y teithwyr, pump o nifer. allan yn bur ddiseremoni. Deallwn na niweidiwyd neb yn beryglus, heblaw y cerbyd, yr hwn oedd yn ysgyrion. Cawn fod Mr. William Rowlands Parry, Menal Bridge, o swyddfa Mr. John Roberts, cyfreithiwr, Bangor, wedi pasio yn llwydd- ianus arholiad cyfryngol Cymdeithas Gyfreith- iol Gorfforedig Prydain Fawr, a gynaliwyd y term hwn. Mae Mr. W. F. Jones, mab hynaf Mr. R. Jones plumber, High-st., Bangor, wedi pasio yn llwyddianus yr arhol- iad olaf, wedi ei dderbyn yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon, Llundain, ar y 24ain cynfisol.
Y DEHEUDIR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y DEHEUDIR. Mae y trengholiad ar gorff Francis Wil- liams, yr hwn a laddwyd gan y ffrwydriad yn mhwll Twnel Abernant, ychydig ddydd- iau yn ol, wedi cael ei ohirio oblegid afiechyd y prif dyst, j r hwn sydd yn gorwedd mewn cyflwr peryglus oddiwrth y niweidiau a dderbyniodd. Mae y dyuddefwyr eraill yn u dyfod yn mlaen yn ffafriol. I Qafodd Mary Ann Shern ago Eliza Shern, chwiorydd, eu cyhud'do y dydd o'r blaen yn llys yr ynadon, Coed-duon, o ladrata amryw ddilladau, &c., gwerth £21, o'r Carpenter's Arms Hotel, perthynol i draper o'r enw Thomas James. Cyhuddid hefyd eu tad, George Shern, o dderbyn y cyfryw, tra yn gwybod mai lladrad oedd. Ar ol i'r dystiol- aeth gael ei gwrandaw, rhyddhawyd Eliza, a thraddodwyd y ddau arall i garchar i aros eu prawf. Me irn cyfarfod cyhoeddus o drigolion Abertawe, nos Wener diweddaf, gwnaed trefniadau i roddi i Arglwydd Faer Llundain dderbyniad cyhoeddus ar achlysur ei ymwel- iad a'r dref hbno yr wythnos hon. Deuwyd o hyd i gorff geneth ieuanc yn yr afon Tawe, ger Pontardawe, yr wythnos ddiweddaf, ac oddiwrth ymddangosiadau ofnir fod y drancedig wedi cyfarfod a chware drwg. Cafwyd llythyr yn ei llogell, a'r dybiaeth ydyw ei bod yn ferch Rees Davies, Glynrythynog, ger Onllwyn. Cynaliodd Mr. Rowlands, crwner, drenghol- iad yn Llanelli ar gorff plentyn gwryw, yr hwn a gafwyd yn nhy lodging Mrs. Harries, ( ilbert-place. Ar ol ymchwiliad o bedair awr, dychwelwyd rheithfarn o Cafwyd wedi marw." Dedfrydwyd ua George Awstin, alias Robinson, yr hwn a alltudiwyd o'r blaen dair gwaith yn Nghaerdydd, ac yn 1870 am ladrata ar y rheilffordd yn Abertawe, i ddeng mlynedd o benyd-wasanaeth yn mrawdlys Nottingham, am ladrata oddiar Gwmni y Great Northern Railway. Dywedir fod y carcharor yn ddyn o addysg uwch na'r cyffredin. Yn Nghynadledd Wesleyaidd Cymru a Lloegr a gynaliwyd yn Bristol yr wythnos ddiweddaf, hysbyswyd fod XI 7,988 wedi cael eu cyfranu i drysorfa y gweinidogion meth- iantus yn y flwyddyn hon. Allan o 183 o ymgeiswyr am y weinidogaeth, derbyniwyd 151; a derbyniwyd befyd 34 o'r gorsafoedd tramorol yn China, India, Affrica, Italy, a'r India Orllewinol. Dygwyd summons yn cyhuddo pump o herw-helwyr o drespasu ar ol game ar diroedd yn perthyn i Mr. R. T. Crawshay, Castell Gyfartha, o flaen ynadon y Faenor, dydd Gwener. Profwyd tri yn euog, a rhoddwyd gwarantau allan i ddal y ddau arall, y rhai na ymddangosasant. u- Traddododd ynadon Llanelli eneth 19oed o'r enw Barry, o Briton Ferrry, dydd lau, i sefyll ei phrawf yn y brawdlys nesaf, ar y cyhuddiadau o lofruddio, ac o gelu genedig- aeth ei phlentyn. Dangosai y dystiolaeth fod y gyhuddiedig yn aros mewn llety yn Gilbert-place, a sylwyd ei bod yn y ffordd deuluol. Dydd Llun, wythnos i'r diweddaf, cafwyd corif baban mewn berwedydd yn yr yard berthynol i'r ty, ac yr oedd ymddangos- lad y dillad ar y gwely yn mha un y cysgai y gyhuddedig yn arwain i'r dybiaeth ddarfod iddi roi genedigaeth i blentyn. Nos Sadwrn, yr 2 lain cynfisol, bu farw Syr Thomas Lloyd, Bar., Bronwydd, Aber- teifi, ar ol ychydig ddyddiau o saldra. Yr oedd y barwnig trancedig yn foreman y prif reithwyr yn Mrawdlys diweddaf Aberteifi, a'r wythnos ganlynol cymerwyd ef yn glaf yn sydyn. Bore dydd Sadwrn daeth yr arwydd- ion yn beryglus, a telegraffiwyd am ei feddyg yn Llundain, ae hefyd am ei fab, yr hwn oedd yn aros yn Llundain. Bu farw bore y dydd canlynol. Bu yn cyurychioli air Aberteifi dros y Rhyddfrydwyr yn j Senedd am lawer o flynyddoedd. Dilynir ef yn y farwniaeth a'r etifeddiaethau gan ei unig fab, Mr. Martyne Lloyd. Yn llys yr heddgeidwaid, Aberdar, dirwyodd Mr. R. H. Rhys, y prif-ynad, ei hun i bum' 8wllt a'r costau am adael i'w gi grwydro o fan i fan. Nis gallai, meddai ef, yn ol ei gydwybod, ddirwyo pobl eraill am y cyfryw drosedd os na roddai ei hun yn ddarostyngedig i'r un mesurau.
CYMANFA ANNIBYNWYR MON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA ANNIBYNWYR MON. Cyiialiwyd y gymanfa uchod eleni yn Llangefni, ddyddiau Iau a Gwener, Gorph. 26 a'r 27. Dydd Iau am 10 cynaliwyd cynadledd y cyfarfod chwar- terol yn addoldy y Wesleyaid (y mae capel yr Anni- bynwyr o dan adgyweiriadau yn breaenol). Wedi cael anerchiad cynhes gan y ilywydd, sef y Parch. W. Griffith, Caergybi, a derbyn tasgliadau, cafwyd adroddiadau y brodyr foaaent yo casglu at y gymdeithas genadol gartrefol; ac yr oedd eu hadroddiadau yn hynod galouogol; deall- wn fod tua 85p. wedi eu cael yn barod, yr hyn sydd yn ddechreuad da. 1. Penodwyd y Parch. W. Griffith, Caergybi; a Mri. Lewis, Bodedeyrn; Thomas, Clegyrog; Roberts, Pandy Treban; a Hughes (Tegerin), Llan- erchymedd, yn bwyllgor y gymdeithas. 2. Ailetholwyd y farch. W. Griffith yn Ilywydd am y flwyddyn ddyfodol. 3. Cynygiodd Mr. J. Aubrey fod pob pregethwr a geisiai gymeradwyaeth y cyfarfod fel ymgeisydd am dderbyniad i mewn i un o Golegau yr enwad, i bregethu o flaen y cyfarfod, er mwyn iddynt gael ffurfio barn am ei allueedd a'i gymhwysderau. Wedi peth siarad, cytunwyd ig ef. 4. Gwadodd y Parch. E. C, Daries yn y modd mwyaf pendant a diamwys, fod dim gwirionedd yn y chwedl a daenwyd ei fod ef yn myned i adael yr enwad. Derbyniwyd ei ddatganiad gyda chymer- adwyaeth cyffredinol. 5. Terfynwyd y cyfarfod gydag anercbiadau buddiol gan amryw frodyr. Am ddau cynaliwyd cynadledd y gymanfn. Wedi i Mr. Griffith roddi anerchiad agoriadol, galwodd ar Dr. Rees. Galwodd of sylw at yr athrawiaethaa newyddion a dyeithr a bregethir ac a goleddir yn Lloegr, yn enwedig y dyddiau hyn, a thtimlai y dylem ni fel enwad a chenedl, wnend protest grymus ein bod yn glynu wrth hen athrawiaethau y Beibl yn eu purdsb a'u symlrwydd eto. Parch. E. H. Evans, Caernarfon, a gynygiodd ein bod fel cymanfa yn dy-muno ar i Dr. Reel ddwyn y mater gerbron cyfarfodydd yr Unceb yn Mhorthmadog. Dywodai nad ydym ni fel Cymry yn holiol bur; ond fod yr athrawiaethau newydd- ion hyn yn cael eu pregethu mewn rhai capelydd Cymreig yn Nghymru. Sylwodd ar ddylanwad ni weidiol rhai o'r papyrau crefyddol Seisonig a led- aenir yn ein plith, a chyfeiriodd sylw gweinidogion ac aelodau ein heglwysi at ddarlithiau gwerthfawr y dysgedig Joseph Cooke, Boston. Parch. R. Williams (Hwfa Mon), a ddygai dyst- iolaeth i ddirywiad y pregethu yn amryw o bulpud- au Llundain; ond dyweaodd fod y rhai a bregeth- ent y cyfryw gyfeiliornadau yn colli eu cynulleid- faoedd yn fuan. Parch. D. M. Jenkins, Liverpool, a ddywedai, y gallai y credo fod yn ei le heb i'r galon fod; a sylwv ai ar yr angenrheidrwydd amfywyd yr athrawiaeth- au yn ein calonau. Parch. E. James, Nefyn, a ddywedai, fod rhaid i ni ofalu am sylfaenu yr ieuenctyd yn yr hen ath- rawiaethau, yn neillduol ya yr ysgol SabbathoL Wedi aylwadau gan y Parchn. Rowlands, Tref- lys» a'r Ilywydd, gyda J. Aubrey, rhoddwyd sy- nygiad Mr. Evans yn nghylch y protest i fyny, a