Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Netogitoum

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Netogitoum <allmtttg. OVIW*. ■ Deallwn fod treuliau yr ymgeisydd Rhyddfrydig llwyddianus (yr Anrhydeddus F. S. A. Hanbury Tracy), yn yr etholiad diweddaf dros fwrdeisdrefi Trefaldwyn, yn cyrhaedd i'r swm o X1212 15s. 10c., ac eiddo yr ymgeisydd Ceidwadol aflwyddianua yn X3033 8s. 5c. Pwy byth ai yn member of Parliament] Wrth gyfarch y grand jury yn mrawdlys Caer, dywedai yr Arglwydd Farnwr Bram- well fod rhestr y troseddau yno eleni yn fwy ac yn drymach nag arfer, a bod Deheudir Cymru i gyd yn tra rhagori ar y Gogledd yn anamlder y troseddwyr a bychander y troseddau. Mae'r "adar bonheddig" yn dechreu dyfod adref. Gadawodd Syr. Watkin Wil- liams Wynn, A.S., a Lady Wynn eu preswyl. fod yn St. James'-square, Liundain, am Wynnstay. Kefyd, y mae Arglwydd Hanmer wedicythaedd i Bettisfield Park, Whitchurch, o Eaton-place, Llundain. Dywed gohebydd i un o'r papyrau dyddiol Seisnig mewn perthynas i'r boneddwr hwnw a gafwyd yn farw yn ddiweddar ar y traeth yn Harlech, fod "celfyddyd wedi dyoddef colled lem yn marwolaeth Mr. John Samuel Raven, ac mai anaml iawn y byddai muriau Burlington House heb ryw waith oi eiddo ef." Yn Nhy y Cyffredin dydd Mercher, ar ail ddarlleniad Mesur Mr. Cowen i drosglwyddo yr hawl i ganiatau trwyddedau i werthu diodydd meddwol i ddwylaw y trethdalwyr, dywedodd Mr. Watkin Williams, yr aelod dros Ddinbycb, ei fod ef yn cymeradwyo egwyddor y Mesur, ac y gallesid cyfarfod a'r gwrthwynebiadau mewn pwyllgor gyda gwelliantau. Mae genym y pleser mwyaf o sylwi fed trefniadau wedi cael eu gwneud i gyhoeddi cerflun lithography o'r arlun tystebol a dyn- wyd yn ddiweddar o Dr. William Rees, Caer, gan Mr. J. D. Mercier, arlunydd adnabyddus. Deallwn fod Mr. Mercier ei hun wedi ymrwymo i arolygu y cyhoeddiad, fel gwystl o gymeriad uchel y gwaith. Bydd cylch eang o gyfeillion Gwilym Hiraethog yn 11a wen o'r cyfle hwn i gael ei ddarlun. Gosodwyd careg sylfaen capel newydd Seisnig y Methodistiaid Calfinaidd i lawr yn Pensarn, ger Abergele, ar y 25ain cynfisol, gan Mrs. John Roberts, Bryngwenallt. Mae Mr. David Roberts a Mr. John Roberts, Bryngwenallt, Abergele, a Hope-street, Le'r- pwl, yn dwyn y gost o'r lie a'r adeiladwaith. Bu Syr Colman O'Loghlen, Bar., yr aelod dros sir Clare, farw yn sydyn bore Sul, wythnos i'r diweddaf, ar fwrdd y mail boat o Gaergybi i Dublin. Yr oedd y gwir anrhyd- eddus foneddwr yn bresenol yn Nhy y Cyffredin prydnawn y dydd Sadwrn blaenor- ol, ac yr oedd ar adeg ei farwolaeth ar ei ffordd i frawdlys Clare. Cyiarfyddodd y goach sydd yn gadael Caernarfon am Beddgelert, ac yn dychwelyd i lawr pass Llanberis, 4 damwain yr wythnos cyn y diweddaf. Dychrynodd y meirch tua chymydogaeth Ynyswen a Glyn Peris, rhed- asant fel pe buasai yr hen fachgen ei hun ar eu sodlau, a llusgasant y goach dros dwr o geryg oedd ar ochr y ffordd, gan ei dymchwel- yd, a thaflu y teithwyr, pump o nifer. allan yn bur ddiseremoni. Deallwn na niweidiwyd neb yn beryglus, heblaw y cerbyd, yr hwn oedd yn ysgyrion. Cawn fod Mr. William Rowlands Parry, Menal Bridge, o swyddfa Mr. John Roberts, cyfreithiwr, Bangor, wedi pasio yn llwydd- ianus arholiad cyfryngol Cymdeithas Gyfreith- iol Gorfforedig Prydain Fawr, a gynaliwyd y term hwn. Mae Mr. W. F. Jones, mab hynaf Mr. R. Jones plumber, High-st., Bangor, wedi pasio yn llwyddianus yr arhol- iad olaf, wedi ei dderbyn yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon, Llundain, ar y 24ain cynfisol.

Y DEHEUDIR.

CYMANFA ANNIBYNWYR MON.