Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

LLITHIAU WALTS PUW.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLITHIAU WALTS PUW. XCII. C ',1, IJ MR. GOL.,— Llytbyr lied fyr heddyw, a hyny yn herwydd amryw resymau na waeth i mi heb eu nodi. Bu Siencyn Ddwywaith yma, yn ol fel yr hysbysais. Y mae genyf lawer i'w ddweyd am dano, ond rhaid ymatal hyd adeg fwy cyfleus. Y mae hi yn gryn helynt yr wythnoa hon yn Abertawe, Aberdar, Caerdydd, a Phont- ypridd, yn berwydd ymweliad Arglwydd Faer Llundain a'r IIeoedd. Diamheu genyf y bydd genych grybwylliad am hyn mewn colofn arall o'ch DYDD, fel na. raid i mi fanylu arno. Gwelais y dydd O'r blaen yn hanes Eistedd- fod Goffadwriaethol Cemaes Road, fod yna fwriad i roddi Ysgoloriaeth Gerddorol mewn cysylltiad ag enw yr anfarwol Mynyddog yn yr University yn Aberystwytb. Y mae yn dda genyf: fod rhywbeth teilwng i gael ei wneud mewn cysylltiad eriw. Ond, Syr, ar yr un pryd, a chyda phob dyledus barch i'r y rhai sydd a Haw yn y gwaith, y mae Walis Puw yn dal at y syniad a roddodd allan yn ei lith ddiweddaf, sef mai y peth goreu fuasai rhoddi ysgoloriaeth farddonol, ac nid gerdd- orol. Fel bar Id yn benaf y daetb Mynyddog i'r golwg, yn bytrach nag fel cerddor. Ni ddymunwn ddweyd gair yn fach am dano fel cerddor, ond yr wyf yn meddwl mai yn ei ganeuon y bydd efe byw htfyaf. Gan hyny, anrhydedder ef yn y peth a garia. ei enw bellaf. Buaswn yn hollol yn erbyn yr awgrym a daflwyd gerbron yn yr Eisteddfod uehod, i gyfyngu yr ysgoloriaeth i sir Drefaldwyn. Nid dyn sir mo Mynyddog, ond dyn y Cymry. Rhodder, gan hyny, yr ysgoloriaeth yn agored i Gymru i gyd. Tra gyda'rpwnc o Eisteddfodau, dymunwn ddweyd gair yn mheliach. Y cyntaf o'r mis hwn, cynaliwyd Eisteddfod yn Llandysul. Yr oedd Mynvddog wedi addaw bod yno, ond ei amcanion a dynwyd ymaith. Talwyd gwar- ogaeth i'w goffadwriaeth gan yr holl gynull- eidfa. Yn yr Eisteddfod ucbod, yr oedd gwobr yn cael ei rhoddi am y Farwnad oreu i'r diweddar Mr. Davies, Maengwyn, Rereb, un o brif golofnal1 yr achos Annibynol yn y lie. A phwy a feddyliech chwi aeth a'r WOb11 Neb ilai na'n cyfaill

Y PARCH. E. JONES, LLWYNCELYN.

: ■ • n -C =• I QrrYUobeb…

I LLETYA PREGETHWYR.