Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

YN YR ÐWTIt,

í. ,. YR UNDEB CYNULLEIDFAOL…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

í. YR UNDEB CYNULLEIDFAOL CYMREIG. Mae dysgwyliad holl Annibynwyr Cymru wedi bod am yr uchel wyl fawr hon er's rhai wythnosau bellach. Yn awr y mae y cyfarfod- yid wedi dechreu yn hynod o ddymunol. Yr oedd y trains yn tywallt y dyeithriaid i dref Porthmnd Jg wrth yr ugeiniau prydnawn dydd Mawrth diweddaf, ac arwyddion amlwg fod yr Undeb yn sicr o fod yn lluosog, er fod y tywydd braidd yn anffafriol. Ond er cymaint a ddaeth, yr oedd calon garedig pobl y Port wedi gwneud trefniadau deheuig ar eu cyfer. Yr oeddynt wedi darpar llety ar gyfer pawb a ddaeth, ac y mae ciniaw a thd yn cael ei barotoi yn yr Hall ar gyfer pawb o'r gweinidogion a'r cynrychiol- wyr yn rhad. Nos Fawrth, traddodwyd pregethau yr Undeb gan y Parchn. T. Rees, Maenygroes, a D. Roberts, Wrexham. Testun Mr. Rees oedd 2 Pedr i. 10, 11: "Oherwydd paham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedig- aeth a'ch etholedigaetb yn sicr; canys, tra fyddwch yn gwneud hyn, ni lithrwch chwi ddim byth: canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd an Hachubwr Iesu Grist;' a thestun Mr. Roberts oedd Marc xii. 24: "Am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr ysgrythyrau, na gallu Duw." Cafwyd pregethaa grymua, a theimla Iluaws eto hyfrydweh wrth eu darilen pan geir adroddiad swyddogol y pwyllgor. Dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. S. Evans, Hebron. Gwelwyd yn fuan nas gallai y cipel gynwvs yr holl gynulleidfa, a h.ebysodd y Parch. L. Probert y buasai y Parchn- W. Davies, Llandrillo, a O. Thomas, Brynmair, yn pregethu yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Dechreuwyd yr oedfa hon gan y Parch. J. Roberts, Brymbo.

DYDD MERCRER..,

■-í,!;^ TREBOR MAI WEDI MARW!

MYNYDDOG WEDI MA.RW!

; Jw: -I ■— —' DAU ENGLYN…