Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

OFFEIRIAD LLANEFFRO.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OFFEIRIAD LLANEFFRO. dHWEDL GAN OLIVER GOLDSMITH. Wedi ei chyfieithu gan y PARCH. J. H, WILLIAMS, LLANIESTYN. .0 "01 PENOD XX. ————— Hanes crwyiÏryn athronyddol yn erlyn neioydd-deb, ond yn colli boddlondeb.. Cynygiodd Mrs. Arnold yn foesgar ar ol i ni swpera, yrudau droedwaa i geisio qelfi fy mab, yr hyn wrthodai ef ar y cyntaf; ond ar. ei gwaith hi yn gwaso'u ei chais, bu yn rhaid iddo ei hysbysu mai ffon ac ysgrepan oedd y r holl glud gelfi. ar y ddaear y gallasai ymffrostio ynddynt. 'Wei, ie, fy mab,' Ilefain i, 'gadawsoch fi yn dlawd, a gwelaf mai tlawd y denwch yn eich ol; ac eto ni amheuwn na welsoch lawer iawn ar y byd.' 'Do, syr, atebodd fy mab, 'ond nid teitbio ar ol ffawd. yw y fFordd i'w sicrhau hi; ac yn wir rhoddais yn ddiweddar heibio yr erlyniad.' 'Tybiwyf syr,' llefodd Mrs. Arnold, 'y byddai hanes eich anturiaethau yn ddlfyrus, rhan fiaenaf pa rai a glywais gan fy nith; ond pe Ilwyddai y cwmni i gael y rhan arall, byddai hyny yn gymwynas ychwanegol.' 'Meistres,' atebodd fy mab, 'addefaf ha fydd eich mwyniant wrth wrando haner cymaint a'm balchder i'w hadrodd; ac eto nis gallaf addaw un antur- iaeth trwy yr holl adroddiad, gan ei fod yn hanes yr hyn a welais yn fwy na'r hyn a wnes. Yr oedd anffawd gyntaf fy mywyd fel y gwyddoch i gyd yn fawr; ond er iddi fy ngbystuddio nis gallodd fy suddo. Ni fa yr un erioed .Po gwell dawn i obeithio na mi. Pa fwyaf angbaredig y gwelwn ffawd ar un adeg, mwyaf i gyd ddysh wy Ii wn wrthi ar adeg arall; a chan fy mod yn awr ar waelod ei holwyn, gallasai pob tro adnewyddol fy nyrchafu, ond nis gallasent fy iselu. Aethum yn mlaen gan hyny tua Llundain ar foreu teg, heb ofalu o gwbl dros dranoeth, mor lion a'r adar gathlent yn ymyl. y ffordd; a chysurais fy hun wrth feddwl mai Llundain oedd y farchnad He cawsai pob math o allu- oedd urddas a gobrwy. 'Fy ngorchwyl cyntaf ar fy nyfodiad i'r dref, syr, ydoedd cyflwyno eich llythyr cymeradwyaeth i'n cefnder, yr hwn ei hun oedd mewn amgylchiadau ychydig well na mi. Fy mwriad cyntaf wyddocb, syr, oedd bod yn isfeistr mewn athrofa, a gefynais ei gynghor yn nghylch y path. Derbyniodd ein cefnder y bwriad hwn gyda chrechwen wir goeglyd. 'Ië,' llefodd ef, 'dyma yrfa dlws iawn a dynwyd allan i chwi! Bum yn isfeistr mewn yagol gydwest fy hun; a boed i mi farw trwy fundorch liniarol, os na ddewiswn yn hytrach fod yn is.allweddwr yn Newgate! Yr oeddwn i fyny hwyr a boreu: ciliornid fi gan y meistr, caseid fi o herwydd fy ngwyneb hyll gan y feistres, a dirboenid fi gan y bechgyo. oddifewn, ac ni chaniateid byth i mi rodio allan, i daro wrth foesgarwch ar led. Ond a ydych yn sicr y gwnewch y tro mewn ysgol? Gadewch i mi holi ychydig arnoch. A ddygwyd chwi i fyny yn freint- was i'r Bwydd1 Naddo. Ni wnewch y tro ynte mewn ysgol. A ellwch drin gwallt y bechgynl Na allaf, Ni wnewch y tro ynte mewn ysgol. A gawsoch y frech wen? Naddo. Ni wnewch y tro ynte mewn ysgol. A fedrwch gysgu yn un o dril Na fedraf. Ni wnewch y tro byth ynte mewn ysgol. A oes genych archwaeth dda at fwyd! Oes. Ni wnewch y tro ynte ar un cyfrif mewn ysgol. Na, syr, os ydych am swydd hawdd a. gweddus, rbwymwch eich hun am saith mlynedd fel breintwas i droi olwyn gof cyllyll; ond gochelwch ysgol ar bob cyfrif. 'Deuwch eto,' ebai drachefn, 'gwelaf eich bod yn llanc gwrol a dysgedig, beth dybiech chwi am raddio yn awdwr fel fi1 Darllenas- och yn ddiamheu mewn llyfrau am ddynion o athrylith yn newynu wrth y gwaith. Dangosaf i chwi yn awr ddeugain o wyr hurt iawn yn byw mewn llawnder wrtho, i gyd yn ddynion gonest goduthiog, ant yn mlaen yn llyfn a gweddaidd, ac ysgrifenant hanesiaeth, gwleidyddiaeth, ac a ganmolir: dynion, syr, pe buasent wedi eu dwyn i fyny yn glytwyr, y treulient eu hoes i drwsio esgidiau, ond byth eu gwneud.' Pan ganfyddais nad oedd fawr o urddas yn gysylltiedtg a chymeriad o isfeistr, penderfynais dderbyn ei gynyg, a chan y meddwn y parch mwyaf i lenyddiaeth, anerchais fam henafol Heol y Crach* gyda bri. Cyfrif un yn ogoniant i mi ddilyn llwybr a droediodd Dryden ac Otway o'm blaen. Ystyriais dduwies y parth hwn fel mam anrhydedd; a gallasai cyfeillach i'r byd, pa fodd bynag roddi i ni bwyll, ond tlodi mae'n debyg fwriadodd fod. yn famaeth athrylith. Eisteddais i lawr, yn fawreddog gan y myfyrdodau byn, a chan weled fod y pethau goreu heb eu dweyd ar yr ochr gyfeiliornus, penderfynais ysgrifenu llyfr fuasai yn berffaitb newydd. Gwisgais gan hyny rai amgendybiau yn gywrain. Mae yn wir eu bod yn euol, ond eto yr oeddent yn newydd. Trosglwyddwyd gemau gwir- ionedd mor fynych gan eraill, fel nad oedd dim ar ol i mi drosglwycldo ond rhyw bethau claerwych ymddangosant o draw yn llawn cystal. Tystiwch, chwi nerthoedd, fath bwysigrwydd tybiedig orphwysai ar fy ysgritell tra yr ysgrifenwn. Ni amheuwn na chodai yr holl fyd dysgedig i wrtbwynehu fy nghyfundraethau; ond dyna yr oeddwn yn bardd i wrthwynebu yr holl fyd dyBgedig. Arosais fel y draenog mawr yn hunan- feddianol gydagasgell ar gyfer pob gwrth- wynebydd;' 'Da y dywedasoch fy machgen,' llefais, 'a phs bwne y traethasoch arnol Gobeithio na wnaethoch esgeuluso pwysfawredd unwreig- aeth. Ond aflonyddaf-ewch. yn mlaen, cyhoeddaaoch eich amgendybiau; a beth ddywedodd y byd dysgedig am eich amgen- dybiauf 'Syr,' atebodd fy mab, 'ni ddywedodd y byd dysgedig ddim am fy amgendybiau, ddim yn y byd, syr. Yr oedd pob dyn o honynt wedi ei gyflogi i ganmol ei gyfeillion ac efe ei hun, neu i gondemnio ei elynion, ac yn anfFoaus gan na feddwn y naill na'r llall, dyoddefais y darostyngiad creulonaf, diystyr- wch.' 'Fel y myfyriwn un diwrnod mewn gwerthdy coffi ar dynged fy amgendybiau, dygwyddodd dyn bychan ddyfod i'r ystafell, ac eisteddodd ar gist gyferbyn a mi, ac wedi ychydig ymddyddan ragarweiniol, pan ddeall. odd fy mod yn ysgolaig, tynodd allan sypyn o ysgrifau, gan geisio genyf danysgrifio at argraffiad newydd oedd ete ar roddi i'r byd o Propertius gyda nodiadau. Cynyrchodd y cais hwn o angenrheidrwydd yr ateb nad oedd genyf arian; tueddodd yr addefiad hwn ef i holi am natur fy rhagolygon. Wedi deall fod fy rhagolygon bron gymaint a fy nihwrs, 'gwelaf,' llefodd ef, 'eich bod yn anghyfarwydd a'r dref; dysgaf i chwi ran o *Enw heol gynt yn Llundain, a elwir yo awr

[No title]