Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
Netoglffltou OTgmrecg.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Netoglffltou OTgmrecg. y deheudir; Dirwywyd tri o ddynion o'r enwau Walters, Jones, a Price, gan ynadon Aber- honddu, am ymosod ar arolygwyr dwfr Usk ac Ebbw Vale. Y blaenaf i £ 5 I}s.; yr ail i X7; a'r trydydd i £2. Dirwywyd percbenog gwesty y Castell, Pontypridd, am wertba gin heb fod o'r ansawdd a ofynid.gon y prynwr. Yr oedd y dystiolaeth yn profi fod y gwirod yn cynwya tiiugain y cant o ddwfr. Gorfu i Albert Loyell, Roatb, ger Caer- dydd, dalu Y,20 o ddirwy am fod yn ei feddiant dybaco cavendish heb ei amblygu. Y ddadl dros yr amddiffyniad ydoedd, fod y tybaco wedi ei gael gan forwr, a bod y diffyn- ydd yn ei ddefnyddio ei bun. Ba hen wr o'r enw Morgan Evans, gwyliedydd yn Bryndu, Kenffig Hill, farw ddydd Llun mewn canlyniad i gamdriniaeth a gafodd oddiar ddwylaw berwhelwyr. Nid yw y dybirod wedi eu dal eto. Syrthiodd bacbgenyn chwech oed i Mr. W. Daniels, Caerdydd, i ddyfrffos wrth geisio cyrhaedd orange oedd yn nofio yn y llif, a boddodd. Y mae Mr. Alderman Elliot, maer Caer- dydd, wedi tanysgrifio iSlO at sefydliad y Mad a'r Byddar yn Llandaff. Cyfarfyddodd Bwrdd Gwarcheidwaid Tlod ion piwyf Tregaron ddydd Mawrtb, pryd y mynegid fod y swm a dreuliwyd i gynorthr yo 475 o dlodion yn ystod y pythefnos yn £ 68 16s* Pasiodd 10,000 o lythyran uwcblaw y niter arterol drwy lytbyrdy Caerdydd nos Fercher,erbyn dydd Valentine. Cyfarfyddodd George Bryant, 41 oed, llafurw." yn trigo yn Jfeolyfelin, Hirwaen, a'i ddiwedd ar y 7fed cyfisol, drwy gael ei falurio dan un o'r trams. Lladdwyd Edward Parker, glowr, Cwm- baobj tra yn gweithio yn nglofa Werfa, Aberdar. Syri hiodd, tri chant o bwysau o lo arno, gan ei letba. Bu y Parch. E. Herber Evans vn darlithio yn addoldy Countess of Huntington, Abertawe, ar y "Gwersi oddiwrth Hanes bywyd Dr. Livingstone." Gwnaeth gyfeir- iad at yr byn ydoedd Mr. Stanley o ran cenedl, a mynegodd mai Cymro o'r enw Rowlands ydoedd, rbieni yr hwo oedd yn prejwyJio yn Ngogledd Gymru. Y mae deiseb wedi ei gwnead yn erbyn etboliad Mr. Rees Thomas fel aelod o Gyngbor Trefol Aberafoa. Cynaliwyd oyfar- fod gwresog o'i gefnogwyr yn Taitoach, nos lao, pryd y pasiwyd peoderfyniad u.nfrydol, yn condemnioy cwrs a gyaierwyd gan y deisebwyr i geisio ei ddifeddiana o'i eisteddle
Y GOGLEDD.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y GOGLEDD. Dygwyddodd dam wain yn nglofa Bettis- field, Bagillt, ddydd Sadwrn, drwy yr hon y I niweidiwyd Thomas Roberts yn drwm. Pan yn myned drwy fynedfa gul yn y gwaith, tarawyd ef i lawr gan y gwageni, ac I aeth amryw o honynt drosto. Y mae Pont Menai yn bresenol yn myned drwy adgyweiriadau pwysig, ar ol 50 I mlynedd o wasanaeth cyhoeddus. T mae p•latform newydd i gael ei osod o'r naill ben ir Hail; a tbra y byddo yr adgyweiriadau yn myned yn mlaen, bydd yn rhaid i gerbydao a theithwyr foldloni ar yr un llwybr. Arholwyd Ysgol Genedlaetbol Porth- madog gan Arolygwyr y llywodraeth yn mis Rhagfyr diweddaf, ac y mae eu bad- roddiad newydd ddyfod i law. Yr oedd yn bresenol ar y pryd 430 o blant. Dywed yr adroddiad fel hyn:—"Ysgol gymysg: ysgol odidogj y canlyniadau yn rhagorol dda oil*. Ysgol y plant: yn mhob ystyriaeth yn obeithiol iawn." Yr oedd y grant yn X306 Os. lie., X13 yn yphwaneg na'r flwyddyn ddiweddaf. Dywedir fod tref Amlwch, er gwaethaf y gwaith nwy, yn parhaa mewn tywyllwcb. Sieryd hyn lawer am gynydd y dref. Y mae gweitbiau trewlwcb (snuff) Llan- erchymedd wedi ea symud i Gaer, a dywedir na bydd yn unrbyw golled i'r dreflan. Y mae Mr. Stuart Reudel wedi derbyn gwahoddiad Rhyddfrydwyr sir Drefaldwyn i ddyfod yn ymgeisydd iddynt yn yr etholiad nesaf. Cafwyd yr wythnos ddiweddaf gerllaw Caernarfon, ddwy filldir ar ffordd Llanberis, fefus gwylltion yn ochr y gwrych yn ber- ffaich add fed. Siaredir am Neoadd Farchnad yn Anclwch, 08 gall y trigolion ddyfod i gytondeb &'u gilydd am y fan i'w badeiladu. Cymered ysmygwyr rybudd! Cybuddwyd George Pierce, Penygaer, o ysmygu yn Marcbnad Gig Dinbycb, a dirwywyd ef i haner coron. Caniatawyd y costau. Y mae pwyllgor yr Eisteddfod a fwriedid gynal eleni yn Llanrwst, wedi barnu yn ddoethach ei gohirio bvd 1880.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Aeth dynes nnllygeidiog yn Paris at wneothurwr llygaid gwydr, a phrynodd an: ond wedi myned ag ef adref, ni theimlai awydd talu am dano. Gwysiodd y gwerthwr hi i ymddangos o flaen ynad. Gofynai yr ynad iddi pabam yr oedd yn nacau tain. ] Dy wedai hithan mai am nad/oedd yn gallu gweled Ag ef. Yr ynad i ddywedai nad oedd y Uygad wedi ei fwriada i hyny, ond fel addarn. "Ni thalaf fi bytb," ebai bithau, "oblegid nid yw yn ateb un dyben i mi. Y mae genyf ddanedd gosod, ae y mae y rhai hyny yn gwneud y tro fel danedd eraill. Y mae genyf wallt gosod, sef perwig, 80 y mae yn gwneud y tro fel fy ngwallt fy hun: ac os gwna yntau y llygad i weled, mi a dalaf am dano." Torai y llygad yn dipiau, ac ymadawodd o'r llyg yn nghanol cbwertbin mawr. Arferai Samson Wood yn America, dros- glwyddo carcharorion yn fynych o un cfrr o'r wlad i'r cfrr arall, a phan ddelai yn nos sicrhai ei bun wrth y carcharor a heiyrn, ae elai i'r gwely, a dywedai wrtho fel hyn:— "Gelli yn awr fyned i gysgu os dewisi, nea beidio. O'm rhan i fy hun, yr wyf yn bwriadu gwneud. Ni elli ddianc ymaith heb fy neffro, a'm cludo gyda thi. Y mae genyt an fraicb ao un goes yn rbydd, felly y mae genyf inau. Eto gelli ben lerfynu fy lladd; ond os gwnei, rhaid fydd iti gario fy ngbelain gyda thi, a bydd hyny yn ddigon o brawf iti gael dy grogi am lofrnddiaeth; feliy gweli y glynaf wrthyt fel angeu wrth Negro marw onrhyw ffordd y dewisi di. Nos dawcb." Nid oe3 prin achos dweyd na ddiangodd un o garcharorion Samson Wood | erioed ar ol derbyn y rhagrybudd hwn.
BEAUMARIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BEAUMARIS. Nos Wener, Chwefror 8fed, yn nghapel yr Aoni- bynwyr yn y dref uehod, traddodwyd darlith gan y Parch. J. Rowlands, gweinidog y lie, ar y testun, 'Creaduriaid afresymol yn dysgu rheswm i ddyn.' Darparwyd y ddarlith ar gyfer cymdeithas y gwyr ieuainc cysylltiedig ar lie, ond rhoddwyd rhyddid i bawb eraill a ewyllysient dd'od. Derbyniodd y darlithydd gymeradwyaeth wresog yr holl gynull- eidfa. Llanwyd y gadair yn fedrus gan Mr. Wil- liams, y diacon hynaf yn yr eglwys. UN OBDD TMO.
LLANDDULAS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANDDULAS. Nos Fawrtb, Ionawr 29ain, cynaliwyd cyngherid yn yr Ysgoldy Cenedlaethol gan Tanymarian, yn cael ei gynorthwyo gan Glee Parties Colwya a Llanddula*, Thos. Davies, Llysfaen, a Mr. Evans Colwyn. Yn ystod y cyfarfod fe gafwyd amryw ganigion ac unawdau rhagorol. Llywyddwyd ean y Parch. Thos. Hughes, (M.C.), ac arweiniwyd yn ddeheuig gan Tanymarian. Cafwyd cynnlliad Ilu- OIOg, ac elw da. Damwain. — Drwg genym hysbysn i Lewis Roberts, Llanddnlas, gyfarfod a. damwain trwy gwympo i ddyfnder o tua chwe' llath yn ngwaith Pentregwyddel. Da oedd genym glywed nad oedd wedi ei archolli yn beryglus, ac hefyd ei fod yn gwella yn rhagorol. C.
CARNO, MALDWYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CARNO, MALDWYN. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol nos Wener, y ISfed* yn nghapel yr Annibynwyr yn y lie uchod. Y IJywydd ydoedd y Pareh. T. J. Rees. Beirniad y traethodau, y Parch. R. Powell, Drefnewydd; a'r farddoniaeth, Mr. E. D. Lewis, Tynant. Wedi cael ton ac araeth gan y llywydd, aed yn miaen gyda'r programme. Anerchiadan gan y beirdd. Aoerch- wyd y cyfarfod gan D. Pugh. Darllenwyd anerch- iad gan E. Francis (a roddwyd iddo i'w ddarllen), pa un oedd ar fesnr anhysbys yn mblith y beirdd. Beirniadaeth ar y llawysgrifau, goreu Evan Thom- as; eto, dan 12 oed, goreu E. Jones, Ystrad. Can, Gwerthu y Gymraeg, gan E. Francis. Adrodd Salm; Harriet Lloyd a Jane Jones yn gydfuddogol. Can gan Mr. Simon Jones a'i barti. Sillebu Cy- mraeg i blant, goreu Evan Thomas. Traethawd, Hanes Pedr; gwobrwywyd Evan Thomas. Denawd, Mae'r Ian gerllaw, gan Mri. Williams a Morgans. Beirniadaeth y penillion i Arch Noah; D. Pugh a D. Jones yn gydfuddugol. Adrodd, Rhanu y Caws, goreu Sarah Roberts. Beirniadaeth ar y traethawd ar Hanes Esther, goreu Sarah Jones, Ystradfawr. Can gan Mr. Williams. Beirniadaeth englyn y Sweep, goreu T. Evans, Yatradfach. Canu unrhyw alaw; un yn cynyg, sef E. Jones. Castell, a chanodd yn dda. Sillebu Cymraeg, goreu John Davies, Dol- goch. "Can, Y dyn aaiffi a hi, gan R. Owen, Llan- brynmair. Beirniadaeth Mr. Yiltyr Williams ar yr alaw oreu ar y geiriau, Rhanu y Caws (Mynyddog). Dau yn cynyg; goreu Mr. J. Williams, B. School. Adrodd dadl, goreu Anne Humphreys ac M. Jones. Areithio difyfyr, goreu T. Evans, Ystradfach. Darllen difyfy, goreu E. Thomas. Can, Dweyd v Gwir, Mr. R. Jones. Canwyd 'Danzos dy bun' gan Mr. Simon Jones. Wedi talu y diolchiadau arferol terfynwyd y cyfarfod. Cafwyd cyfarfod hapus.—' GOHBBYDD.
BONTDDU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BONTDDU. Not Fercher, Chwefror 13eg, cynaliwyd cyfarfod llenyddol o nodwedd adeiladol iawn yn y lie uchod, pryd y gwasanaethwyd gyda'r rhan gerddorol gan Eos Brychan, Miss Davies, Springfield St., Dol- gellau; Mr. Robert Jones a'i barti, Dolgellau; Mr. R. James, Dolgellau; a Mr. John Lloyd a'i barti Dolgellau; parti o'r Abermaw; Alaw Madog; a Mr John Lloyd, Abermaw. Yr elw at gael capel new- yddi'r Wesley aid yn y lie.
CYFARFOD CHWARTEROL MON.
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYFARFOD CHWARTEROL MON. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Llanerchymedd, Chwefror 4ydd a'r 5ed. Llywydd, y Parch. W. Griffith. Penderfynwyd— 1 Fod y Cyfarfod Chwarterol nesaf i'w gynal yn (Hebron, Ebrill 29ain a'r 30ain, a dymunol genym i'w hysbysu y bydd yn gyfarfod juwbili y capel 2 Cynygiodd y Parch. J. Owen, Llangefni, ac eiliodd y Parch. E. C. Davies, Borth, Fod y Parch. W. Griffith, Caergybi, ac H. Lewis, Ysw., Llewelyn Lodge, i'n cynryohioli yn Mhwyllgor y Bala, yn mis Mawrth :nesaf. Pasiwyd yn unfrydol. 3 Ein bod yn hollol gydffurfio a chais eglwysi Liver- pool a Birkenhead mewn perthynas i bapyr aelodaeth eglwyaig, gan ddymuno, rhagllaw, na dderbynir neb x r eglwys, na gollwng neb i mewn heb bapyr rheolaidd. 4 Fod Cymanfa Gerddorol i'w chynal yr haf nesaf, a bod y rhai canlynol yn cael eu dewis yn Bwyllgor i ddethol tonau, dc.,—H, Lewis, Yaw,, Llewelyn Lodge;