Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y CYNWYSIAD. ...-

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y mae sylw dfben?g yn cael ei dynu y dyddiau hyn at y newyn argifydlawn sydd yn gwneuthur y fath alanasdra yn China Ogleddol. Cynaliwyd cyfarfod i dynu sylw at y trychineb hwn yn llyfrgell Palas Lam- beth yr wythnos ddiweddaf. Yr oedd Syr Thomas Wade yn un o'r siaradwyr, yr hwn a roddai y desgrifiad mwyaf dychryllyd o'r galanastra, yr hwn sydd wedi dechreu er Hydrefy 1875, ac y mae yn myned tuhwnt i ddim sydd tfedi cyfarfod dynoliaeth yn ystod y 200 mlynedd di\reddaf mewn Ilym der. Y mae sycbiad graddol wedi cymeryd JIe yn y rhanbarth sydd yn cyrhaedd o wastadedd Asia Ganolbarthol hyd daleithiau poblog y Gogledd, a hyny am amrywiol flyn- yd'dafy yr hyn a briodolir i gymyniad y coed- wigoeddj ac y ma6 y iiewyn yn casl ei olrhain i hyn fel achos. Y mae y gwlaw wedi peidio disgyn, y cnydau wedi ffaelu, a'r pobl mewn canlyniad yn newynu. Y mae y gwlaw wedi peidio disgfBf y cnydau wedi ffaelu, a'r bobl mewn canlyniad yn newynu. Y mae gwlad fwy eang na thairarddeg o faintioli Switzer- land, ac yn cynwys poblogaeth o 70 miliwn —cyfartal i'r Deyrnas Gyfunol a'r Taleithiau Unedig gyda'u gilydd-yn dyoddef oddiwrth y prinder ymborth mwyaf ofnadwy. Y mae marwolaethau yn cymeryd lie wrth y mil- oedd-rhieni yn lladd eu plant, neu yn eu gwerthu, ac ar ol hyny yn cyflawni hunan- laddiad, drwy ymdaflu i bydewau, neu drwy gymeryd arsenic. Gwerthir gwragedd, merch- ed, a bechgyn, am ychydig ddoleri. Y mae cyrff yn cael eu gadael i fadru ar hyd y prif- ffyrdd o eisieu rhywnn i'w claddu. Y mae cydymdeimlad naawr yn cael ei ddangos at y trueiniaid gan y tramorwyr yn y PorJ^ oedd, a'r cenadon, Protestanaidd a Ph€baidd, ac y mae hyn yn cael yr effaith mwyaf cysur- lawn ar y meddwl brodorol. Y mae apeliad taer yn cael ei wneud at y genedl Brydeinig am gymhorth i leddfu ychydig ar ddyoddef- iadau miliynau China, ac y mae yr enwau sydd ar y pwyligor yn creu ynom hyder y defnyddir yr arian i'r dybenion goreu:-Syr T. F. Wade, Gweinidog ei Mawrbydi yn China, Syr A. Alcock, y Gwir Barchedig Esgob Alford, y Parch. J. Baldwin Brown, R. R. Douglas, R. N. Fowler, a'r Parch. Dr. Legge, Rhydychain.

[No title]

[No title]

[No title]