Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

BEN GAPBL, LLANBRYNMAIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BEN GAPBL, LLANBRYNMAIR. MB. GOL.,— Dichon nad annerbyniol gan eich darllenwjr fyddai cael gair o hanes yr achos goreu yn yr hen fangre adnabyddus a chyaegredig hon. Da geoyf allu dweyd fod golwg dra llewyrchus ar waith yr Arglwydd yn ein mygg. Mae y Parch. 0. Evans, ein parchus weinidog, yn ddigon adnabyddus trwy dde a gogledd Cymru, fel na raid iddo wrth lythyr, au canmoliaeth oddiwrthym oi; ond gallaf sicrhau had ydyw yn fwy poblogaidd a. chymeradwy yn unman nag yn mblith ei bobl ei hun gartref, ac y mae pobl ei ofal yn penderfynu dangos eu teimladau caredig tuag ato, a'u gwerthfawrogiad o'i lafur egnlol, mewn dull mwy aylweddol na thrwy eiriau yn unig. Y mae arwyddion amlwg i'w gweled fod yr Arglwydd yn arddel ac yn bendithio ei ymdrech- ion, oblegid y mae yr achos yn llwyddoac yn myned. rhagddo yn gyson a pharhaus o dan ei weinidog- aeth, fel nad oes odid fia yn myned heibio heb fod rhywrai o'r newydd yn cael ei dderbyn i fewn i'r eglwys. Ychwanegwyd rhai ugeiniaii at yr eglwys yn ystod y flwyddyn a basiodd, ac yr oedd yma elygfa effeithiol iawn y Sibbath Cymun Jeb^diweddaf, sef gweled chwech yn cael eu derbyn at fwrdd yr Ar- glwydd, ac amryw o honynt yn benau teuluoedd, a rhai o honynt yn gyfryw ag yr oedd yr eglwys bron wedi llwyr anobeithio eu gweled byth yn ymuno a chrefydd. Yr oedd degau yn colli dagrau yn hidl wrth edrych arnynt tra yr oedd ein gweinidog yn rhoddi deheulaw cymdeithaB iddynt. Fel hyn y mae gwedd dra llwyddianus ar yr eglwys henafol hon, ac y. mae oriel newydd i gael ei chodi a chyf- newidiadau eraill i gael eu gwneud or y capel oddi- fewn ac oddiallan yn nechreu yr haf dyfodol. Gellir crybwyll hefyd fod yr ysgol Frutanaidd sydd yn y gymydogaeth yn dyfod yn mlaen yn rhagorol o dan ofal Mr. Williams yr ysgolfeistr, yr ¡ hwn sydd wedi ymsefydlu yn yr ardal yn ddiwedd- ar. Nid wyf yo meddwl y camgymeraf wrth ddweyd fod mwy o blant yn dyfod i'r ysgol yn awr nag a fu ar unrhyw gyfnod o'r blaen. Bydded llwyddiant mawr ar addysg a chrefydd yn yr hen gyoiydogaeth sydd yn meddu adgofion mor ddyddorol. Yreiddoch, DIACON. m t,,¡u t. J. t Jfjir i O*) if! ff (pt.

' 1,. ATBERCHENOG A GOL. U…

CLADDFA YN COLWYN A COLWYN…

" NEWYNU I FARWOLAETH."

AT ANNIBYNWR A PERIS.

I MARWOLAETH CYMRO YN YR INDIA.…