Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

I --=Y OYNWYSIAD. I

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Dydd Sul diweddaf, cynaliodd Pleidwyr Heddwch gyfarfod cyhoeddus yn Hyde Park (trueni mawr na fuasent yn ei gadw ryw ddiwrnod arall), ond pan oeddynt wedi cychwyn ar eu gwaith, gorfu iddynt adael y lie oblegid ymddygiad y roughians ddaeth yn nghyd i aflonyddu ar y cyfarfod, y rhai oedd yn cario banerau Tyrcaidd, yr 'Union Jacks' a'r 'placards,' gyda'r gair RHYFEL yn argraffedig arnynt, gan hwtio pawb a ddeuai i'w ffordd, a bloeddio yn uchel, 'Down with the Russians.' Collodd amryw ddynion parchus eu hetiau, drwv gael eu llucbio oddiar eu penau yn ddiwahaniaethgan y rhai oedd yn carlo y banerau;ymaflodd y creaduriaid anwar- < aidd hyn mewn dyn, a llusgasant ef yn groes ar hyd y glaswellt at gyfeiriad y Marble-arch. Collodd ei het a'i spectol, ac hefyd yr oedd y truan yn agored i fwy o greulondeb cyn y medrai ddianc o grafangau y rebels. Yn agos i'r fan hon cawsant hyd i gath farw, yr hon fu yn fuddiol iawn iddynt i daflu at rywun a fyddai o ymddangosiad boneddigaidd. Y oedd yr lle yn orlawn o'r rhyw fenywaidd, a chawsant eu gweled yn dianc yn bur gyflym wedi eu dychrynu; cliriwyd y Park yn fuan iawn gan y waedd, 'To Gladstone's house' (at dy Gladstone), ac i ffwrdd yr aeth- ant dan floeddio, 'At dy Gladstone, at dy Gladstone,' a dilynwyd hvry gan tua dwy fil o bobl, a gwelid y banerau yn chwifio ar hyd heol Oxford, yr hyn oedd yn profi eu bwriad o fyned at dy y boneddwr. Yn ffortunus, cafwyd fod amryw ganoedd o heddgeidwaid dan gyfarwyddyd pedwar Inspector mewn pryd i blocio heolydd New Cavendish, Queen Annie, a'r heolydd eraill oedd yn arwain i Harley-street. Gweithiodd yr heddgeidwaid mor hwylus fel y cadwyd yr heol yn mha un y mae yr aelod anrhydeddus yn byw yn hollol rydd oddiwrth y mobs. Credwyd unwaith y byddai iddynt drechu yr heddgeidwaid, ond gan fod rhai o honynt yn marchogaeth, setlwyd y mater yn bur faan trwy iddynt wasgn ar y dorf a'u gwthio hwynt yn ol. Yr oedd cyffro mawr yn ffynu yn yr heolydd, llenwid ffenestri y tai gan y boneddigion a'r boneddigesau. Dywedir i'r banerau Tyrcaidd a Phrydeinig ddiflanu o'r golwg pan welwyd fod yno gymaint o heddgeidwaid, ac i'r personau oedd yn eu cario eu tynu i ffwrdd a'u rhoddi yn eu llogellau. Yn tuan ar ol pump o'r gloch yr oedd y cyffro wedi myned drosodd. Cyhoeddwyd yn benderfynol yn ddiweddar fod y bachgen colledig Charlie Ross, yr hwn a ladratawyd o Philadelphia flynyddoedd yn ■ s ol, wedi ei ddarganfod yn grwydryn yn un o'r ynysoedd Gorllewinol. Anfonwyd y bachgen hwn gan foneddwr haelionus i Baltimore, a darparodd arian i roddi addysg a chynallaeth iddo, os nad Charlie Ross ydoedd. Aeth Mr. Ross i'w weled, a deall- v odd yn fuan nad oedd yn debyg i'w fachgen colledig. Y mae efe wedi cael ei alw i r.f' weled 573 o fechgyn er pan gollodd ei blentyn, yr hyn a ddengys fod nifer o lanciau ar hyd y wlad nad oes neb yn gwybod pwy ydyw eu rhienl Nid oes gan Mr. Ross ond gobaith gwan am ddychweliad ei blentyn; ac os ydyw yn fyw, y mae yn sicr o fod wedi newid llawer erbyn hyn, fel y bydd fyn anmhosibl ei adnabod.

[No title]

[No title]