Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

LLETY'R EILLIWR, LLANYMAW.…

.LLANBRYNMAIR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLANBRYNMAIR. Nos Wener, Chwef. 22ain cynfisol, cynaliwyd cyfarfod yn yr ysgoldy Brutanaidd i gyflwyno anrheg i Mr. E. Davies, cyn-athraw yr ysgol uchod, yr hwn yn bresenol sydd athraw y* ysgol y Bwrdd, Llanerfyl. 'Roedd cyfeillion Mr. Davies wedi bwriadu dangos rhyw arwydd o fcnrhydedd tuag ato; felly penodwyd Pwyllgor i ymgymeryd &'r gwaith. Etholwyd Mr. Pugh, Brynllys, yn Llywydd; Mr. Smith, Tymawr, yn Ysgrifanydd; a Mr. Owen, Penybont, yn Dryaorydd. Wedi dwyn yr oil o'r eyfraniadau yn nghyd, cafwyd eu bod yn swm lied fawr. ), Yna. pender- fynwyd pa beth a fyddai yr anrheg, a daeth- bwyd i'r peoderfyniad o gael y Gwyddoniadur Oymrcig yn gyntaf, ac yna y gweddill o'r anrheg i fod mewn arian. Wedi talu am y Gwyddon iadur, cafwyd fod mewn llaw J613 3s. 6c., pa rai a roddwyd mewn pwrs hardd a gafwyd yn rhodd tuag at y perwyl. Wedi i'r Pwyllgor fel hyn gael pobpeth yn barod, yna cyhoeddwyd fod yr anrheg i gael ei chyflwyno ar yr adeg uchod, ac anfonwyd at Mr. Davies i ddyfod drosodd i'w derbyn. Erbyn 7 o'r gloch y noson uchod, yr oedd yr ysgoldy yn orlawn. Wedi treulio rhan o'r cyfarfod trwy areithio a chanu, yna galwyd ar Miss Francis, Brynaera, yn mlaen i gyflwyno y pwrs, yr hwn a dderbyniwyd gyda diolchgarwch gan Mr. Davies. Yna gal- wyd ar amryw foneddigesau oedd wedi bod dan ei ofal yn yr ysgol, i gyflwyno y Gwyddoniadur, pa un oedd ar y bwrdd yn gyfrolau hardd. Cafwyd cyfarfod lluosog a hapus yn mhob ystyr-pawb yn mwynhay eu hunain yn y modd goreu. Mae yn llawen genyf ddeall fod Mr. Davies yn prysur enill iddo ei hunan gymeriad uchel fel ysgolfeistr yn Llanerfyl, fel ag y gwnaeth yn Llanbrynmair.—GOHEBYDD. [Drwg genymZi ni orfod:talfyru.rhan o'ch ysgrif. -GOL.] hv!r

-- .h'T.f.ct CAPEL UCHAF,…

* DYFFRYN NANTLLE.

TANCHWA MEWN GWAITH GLO YN…