Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

/ - TREFRIW. , , .;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TREFRIW. Cynaliodd Eglwys Annibynol Ebenezer y lie nchod, gyfarfodydd i ordeinio Mr. M. O. Evana o Goleg y Bala, yn weinidog ar yr eglwys uchod, ar ddyddiau Mawrth a Merchar, Chwefror 26ain a'r 27ain, 1878. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y porsouau. canlynol;—Am 7, nos Fawrth, dechreuwyd gan y Parch. T. R. Davies, Rhiw, a. phregethodd y Parchn. LI. B. Roberts, Tanygrisiau; a 1). S. Davies, Bangor. Am haner awr wedi 9, boreu dydd Mercher, dechreuwyd gan Mr. D. Jones, Coleg y Bala. Llywyddwyd gan y Parch. R. Smith, Bettws- ycoed. Darllenwyd papur gwir alluog ar 'Natur Eglwys,' gan y Parch. R. W. Griffith, Bethel. Holwyd y gofyniadau gan y Parch. LI. B. Roberts, ac atebodd Mr. Evans hwynt yn alluog ac i'r pwrpas. Wedi cael arwydd gan yr eglwys a'r gweinidog drwy godiad deheulaw, yna gweddiodd y Parch. R. Thomas, Bala, am fendith ar yr undeb oedd wedi cael eiffurfio. Pregethwyd i'r gweinidog gan y Parch. D. S. Davies; ac i'r eglwys gan y Parch R. Thomas. Am ddau, dechreuwyd gan y Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), a phregethodd y Parchn. LL B. Roberts a D. S. Davies. Am chwech, dechreuwyd gan y Parch. J. Rees, Bagillt, a phregethodd y Parchn. R. W. Griffith, Bethel; ac R. Thomas. Heblaw y rhai a enw/d, yr oedd y personal1 canlynol yn bresenol:—Parchn. R. M. Jonea. Dolyddelen; T. Morris, Dowlais; R. P. Williams, Wasnfawr; J. A. Roberts, Ponkey, Rhos; a W. E. Morris, Llanbedr; myfyrwyr or Bala; Mri. LI. 11. Jones. W. Owen, T. Rowlands, W. Thomas, a J. J. Jonos. Pregethwyr- Mri. W. Williams, Dolyddelen; a E. Jones, Llanrwst. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd. Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lluosog, a'r gweinid- ogion ar eu huchelfanau; yr oedd pob un o honynt yn adrodd 'geiriau gwirionedd a sobrwydd;' yr oedd y weinidogaeth fel gwlith, a hwnw 'fel gwlith Hermon yn disgyn ar fynyddoedd Seion.' Mewn gwirionedd, yr oodd yr Arglwydd yn arlwyo gwledd i'w bobl o basgedi^ion breision a gloyw win puredig; yr oedd y gorchudd yn cael ei ddifa nes yr oadd y bobt yn gweled 'ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist Iesu.' Mae Mr. Evans yn ysgolhaig gwych, ac yn bragethwr rhagorol. Bu yr eglwys yn Trefriw yn ddoeth iawn yn ei dewisiad Dymunem iddo oes hir a llwyddianus i weithio yn ddifefl yn ngwinllan ei Argl wydd-ceinciau ei ddefnyddioldeb fyddo yn cerdded drwy yr ardal, ei degwch fyddo fel olewydden, a'i arogl fel Libanus; y rhai fyddo yn aros dan gysgod ei weiuidogaeth fyddo yn cael eu 'troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw.* Haedda y cyfoillion yn Trefriw ganmoliaeth uchel am eu caredigrwydd yn darparu lluniaeth i'r dyeithriaid; nid oeidynt am orthrymu'r dyeithr yn nhir Trefriw, yr oeddynt fel pe buasent wedi bod yn ddyeithriaid eu hunain, ac felly yn cofio lletygarwch-taled yr Arglwydd iddynt. Nid oeS genym bellach ond dyweiyd fel yr apostol Paul, 'Bellach, frodyr, byddwch wycb, byddwch berflaith, dyddaner chwi, syniwch yr un peth, byddwch heddychol; a Duw y cariad a'r hedd- wch a fydd gyda chwi.'

i i LLANBEDR, GER CONWY.

..HOLIAD AT FEIRDD LLANRWST.

LE'RPWL.