Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Cytarfod Chwarterol Meirion. GYNELIR yr uchod yn Nghapel Tabor, ger Dolgellau, ar y dyddiau Iau a Gwener, Mawrth 28ain a'r 29ain. Y gynadledd am 2 y dydd cyntaf.-Y DIACONIAID. AT OHEBWYR. J. RICHARDS, Abermaw, a ddywed fod rhai yn Aber- maw yn bwrw coegni disail ato, oblegid yr ymddydd- an fu dan y bont. Na, nid J. Richards yw yr awdwr, a da chwi, gadewch lonydd iddo, yn enwedig W.W., a John. MEWN LLAW.—Thomas Owain, Le'rpwl, Birmingham' W. G. W., Undeb y Chwarelwyr, Abermaw, &c., &c. Y GYMDBITHAS ADEILADU. Teimla D. Owen yn ddiolchgar i'r aelodau yn Dolgellau a'r am- gylchoedd am anfon eu llyfrau iddo yn ddioed. MARWOLAETH SYDYN, GER DOLGELLAU. Heddyw prydttawn (Mercher) aetli Mr. Thom- as Williams, Olarc, Portmadoc, (brawd Mr. John Williams, Clerc, Dolgellau) i weled bedd Sarah Hughes i'r Pare, gar Dolgellau; a phan wedi cyrhaedd yr ardd, lie y claddwyd y ddiweddar Sarah Hughes, toroddd ei blood vessel, a bu farw yn y fan.
1853 AC 1878.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
1853 AC 1878. Y mae Golygydd yr Herald of Peace, mewn erthygl dan y penawd uchod, yn y Rhifyn am y mis hwn, yn ysgrifenu fel y canlyn:— Y mae perygl diifawr i'r wlad hon, er gwaethaf rhybudd 1853-4, a chanlyniadau autfodus rhyfel y Crimea, ruthro drachefn, f mewn ynfydrwydd a nwyd, i ryfel arall a Rwssia. Y mae yn dra anhawdd, ar y fath adeg a hon, pan y mae meddyliau dynion mor llawn o ragfarnau, dweyd gair yn ffafr hedd- wch, heb ar yr un pryd osod eich hun yn agored i achwyniadau anghyfiawn ac atgas. Y mae yn amlwg fod peryglon rhyfel yn tarddu oddiar yr eiddigedd a'r ddrwgdybiaeth hyny o Rwssia ag sydd fel math o anhwyldeb ar raio'n cydwiadwyr. Yr unig ffordd effeithiol, yn ddiameu, i ragflaenu y eyfryw berygl ydyw dangoa fod y teimlad hwn gyda golwg ar Rwssia yn anghyfiawn, neu o leiaf yn cael ei fwyhau i raddau gwrthun-fod llawer o'r bwriadau a briodolir iddi yn ddim amgen nag ofnau disail yn tarddu oddiar ddychryn neu arswyd-fod y son am yr hyn y mae hi yo wneud, neu yn bwrfadu ei wneui, wedi eu profi yn ffrwyth dychymygion penwan dynion, y rhai sydd wedi gwneud bwgan o honi i frawychu eu hunain ac eraill allan o'u synwyrau. Ond fe'n cyfarfyddir ni, oblegid dweyd hyn, a'r cri, "0, yr ydych chwi yn bleidiol i Rwssia, ac yn mawrhau ac yn amddiffyn y tra-awdurdod arothrol ag sydd mor hir wedi gormesu Poland, ac uchelgais yr hwn sydd yn bygwth taflu ei gysgod dros y byd." Neu dichon y dywedir4 "Yr ydych chwi yn cymeryd ochr Rwssia yn erbyn eich gwlad eich hunan, ac nid oes genych un gofal am fuddianau Prydeinig," &c. Ac felly, ynlle ceisio ymresymu yn deg yn ngolwg y fath drychineb ofnadwy a rhyiel a Rwssia, yr hwn ynhawdd a allai ymledu yn rhyfel cyffredinol dros holl Ewrop, ni wna dynion ond croch- lefain a bugunad, gan fwrw ewyn o'u genau. Mabwysiadwyd yn gymhwys yr un llwybr bum mlynedd ar hugain yn ol, ond gyda hyn o wahaniaeth yn bresenol, fod profiad yr amser hwnw genym yn awr o'n blaen, yr hwn sydd wedi darilen i ni ei wersi rhybuddiol yn ofer. Gadawer i ni alw i gof ein darllenwyr ffaith neu ddwy mewn eysylltiad a'r cyfnod blaenorol hwnw, y rbai a ddyient gael rhyw- faint o ddylanwad ar feddyliau dynion, drwy ddangos pa fodd y mae rhai o arweinwyr proffesedig y farn gyhoeddus yn dilyn yn gymhwys yr un cylchdro ynfyd ag a arwein- iodd i'r rhyfel trychinebus a gwarthus hwnw. Y cyhuddiad a gythruddodd y wlad hon, efallai, yn fwy na dim arall yn erbyn Rwssia y pryd hwnw ydoedd, ei bod yn gweithio tu 01 i'r lien, yn cuddio ei hamean oddiwrth Loegr, ac felly yn ceisio twyllo ei gwleidydd- wyr, a thrwyddynt hwy y genedl. Sail y cyhuddiad hwn ydoedd yr honiad a wneid o fodolaeth rhyw nodyn cyfrinachol haerllug cyflwynedig gan y Tywysog Menchikoff i Lywodraeth Twrci, yn gofyn rhyw hawliau llawer mwy nag a amddiffynid yn wyneb- agored, a'r hwn nodyn na feiddiai Gweinidog- ion y Porte ei wneud yn hysbys i'n Llys- genhadwr ni, am eu bod wedi eu brawychu drwy fygythion Rwss;aidd. Haerid fod y nodyn hwn wedi ei gadw am ddau fis oddi- wrth ein cynrychiolydd ni yn N ghaercystenyn drwy orfodaeth Rwssia. Gwnaed yr haeriad hwn, wrth gwrs, yn destun goganau ffyrnig afrifed yn erbyn bradwriaerh a dauwynebedd y Gallu hwnw. Ac eto, pa beth a ddaeth i'r golwg ar ol hyn ? Yr oedd y nodyn dirgel- ) edig wedi ei gyflwyno gan y Tywysog [ Mencbikofi i Weinidog y Porta ar yr 17eg o Fawrth. Ar y 25ain, yr oedd y Milwriad Rose yn anfon adref yr hyn a dybid ydoedd yn grynodeb o'r nodyn neillduol hwnw, wedi ei gael gan Rifaat Pacha. Ac nid yn unig hyny, ond yr oedd ty nodyn cyfan wedi ei ddangos gan Count N essslrode i Syr H. Seymour, ein Llysgenhadwr yn Nghaer- cystenyn, yr hwn a ddywedai "el fod ef yn tybied nas gellid gwneud un eithriad i iaith y gyn-ysgrif hono, yr hon oedd wedi ei chyfansoddi mewn iaith cwynfynag, yn hytrach nag mewn iaitb fygythiol." Yn mhellach drachefn, anfonwyd copi o honi i Baron Brunnow, y Llysgenad- wr Rwssiaidd, er gwneud ei gynwyeiad yn hysbys i Arglwydd Clarendon; ac eto, yn wyneb hyn oil, parhaodd areithiau afrifed yn erbyn cyfrwysder ac ystryw Rwssia i ym- ddangos drwy yspaid y rhyfel, a'r oil yn aeiliedig ar yr haeriad o geledigaeth y nodyn hwn. Yr ydym ni yn credu fod yr unig gamddarluniad hwn wedi gwoeud cymaint a dim i wenwyno barn gyhoeddus y Deyrnas Gyfunol yn erbyn Rwssia; ac eto yr ydoedd yn gamddarluniad hollol, o'r dechreu i'r diwedd. Yr ydym yn credu fod camddarluniadau cyffelyb yn bresenol ar waith, ac yn achosi ysgelerder anghyfrifadwy. Nid ein gwaith ni yw pleidio na chyfiawnhau Rwssia. Y mae llawer o bethau yn ei chofnodion hanes- yddol, megys yn hanes pob cenedl fawr arall y mae genym gydnabyddiaeth a. hi, ag y mae yn rhaid i ni eu llwyr gondemnio a'u ffieiddio. Nid ydym am gyfiawnhau ei hymddygiad mewn perthynas i'r rhyfel hwn, oblegid er fod y rheolaeth Dyrcaidd, fel y dangoeai Mr. Hardy yn Nhy y Cyffredin, yn "annhraethadwy ddrwg," eto, nid ydym yn credu mewn meddyginiaethu cam drwy orthrech a thywallt gwaed. Ond ein gwaith ni yw ceisio atal ein cydwladwyr, mor bell ag y gallwn, i gael eu camarwain i groch_ A waeddi am ryfel drwy gamddarluniadau 0 ffeithiau. Y mae y cytryw gamddarluniadsu yn parhau i gael eu gwneud yn y dyddiatf hyn. r, Dywedir,. er engralfft, fod Llywodraeth Rwssia, ar ol ymwystlo i beidio meddiaDU Caercystenyn, wedi, neu ar wneud hyny, ae y mae hyn yn cael ei wneud yn sail i'r ddadli euaeth nwydwyllt o barth i'w ffalsedd a* bradwriaeth. Yn y lie cyntaf, nid yO Rwssia eto, fodd bynag, wedi meddianu Y ddinas, ac yr ydym yn gobeithio na bydd iddi wneud, er, os byddai i rywbeth rodd1 iddi esgusawd golygus am hyny, mai ein gwaith ni yn anfon ein llynges i'r Dardanelles fyddai hyny: ond, yn yr ail Ie, os ydoedd 11 feddianu Caercystenyn am amser, nad ydoedd hyny i fod yn doriad amod, oblegid yr oedd hi o'r dechreuad yn cadw iddi ei hun yr hawl hono, os gweegid hyny arni fel mater o ang" enrhaid milwrol. Dyma ydoedd geiriau yr Ymerawdwr mor bell yn ol a Mehefin 8, 1877:0 berthynas i Gaercystenyn, nlS gall ein cytundebau ond yn unig gyfeirio aC gymeryd meddiant o'r dref, neu ei dal YO barhaus. Byddai yn hynod, ac heb unrbyw rhagflaenydd, pe, ar doriad rhyfel allan, Y byddai i un o'r pleidiau ymgymeryd yn mlaen Haw a pheidio cario eu gweithrediadan rbyfel" awg i fyny at furiau y brifddinas." Nid oaS dim yn fwy amlwg na hyn. Camddarluniad arall a barodd niwaid an- nherfynol ydoedd hwn-fod Rwasia am hit amser wedi cuddio oddiwrth Loegr yr amodau heddwch ag yr ydoedd am eu trawsfynu oddi" ar Twrci, ac yna pan y cafodd y wlad hono yn ddigymorth wrth ei thraed, iddi yn ddi" symw h chwythu y cuddglawdd arnom DI. Yn awr, y mae hyn mor bell o fod yn wirlon. edd, fel, drwy frys-lythyr a gyhoeddwyd ddiweddar,—ond paham y cadwyd ef yn °\ mor hir sydd aneglaradwy,—ymddengys 1 Rwssia naw mis yn ol, yn nechreuad y rhyfel a chyn iddi enill an fuddugoliaeth o bwyS, osod gerbron ein Llywodraeth ni, yn llawn manwl, y gwir delerau y bu iddi eu flfurfi0 ar ol hyny. Dyma hwy ger ein bron yø bresenol, dan y dyddiad Mehefin, 1877:— Bulgaria i gael ei gwneud yn wladwriaeth hunan-lywodraethol o dan deyrnged—y bydd* inoedd Tyrcaidd i gael eu symud o honi, af amddiffynfeydd eu diarfogi a'u llwyr ddyfl1- chwelyd. Montenegro a Servia i gael chwan" egu eu tiriogaeth. Bosnia a Hersegovina I gael sefydliadau newyddion. Annibyniaeth Roumania i gael ei setlo drwy ddealltwriaetb cyffredinol. Y gyfran o Bessarabia 3 roddwyd i fyny yn 1856 i gael ei hadferu Rwssia. Roamania i gael ei gwobrwyo chyfran o Dobrudscha. Ac felly yn mlaOO dr-vy yr amrywiol gynygion a wnaed, ar 01 pa rai y cyffrowyd cymaint ar ddigofaint Y blaid wrth-Rwssiaidd. Nid ydym yn Y sylwadau hyn yn cynwysy chwedlau diwedd' araf o barth i ofynion Rwssia, sef rhoddiad fyny y llynges, a'r iawn arianol anfertb, oblegid nid yw y rhai hyn ond newydd ddyfod allan, a gallant fod yn hollol ddiawdurdod, ae nid oeddynt mewn unrhyw fodd yn achos o f digofaint ffyrnig a amlygid bymtbengnos ne11 dair wythnos yn ol. Nid ydym am gynyg L un farn o barth i nodwedd y telerau byn; gallant fod yn afresymol neu eithafol; ond j dywedwn hyn, nad oedd un sail i'r hyn roddid yn erbyn Rwssia o geisio cadw Lloegr yn y tywyllwch, tra yr ydoedd, na^ mis yn ol, wedi egluro yn berffaith rydd bet*1 oedd y telerau yn debyg o fod. Paham yr ydym yn gwneud y sylwadau hyn1 Ai oblegid rhyw ddyddordeb a deimlwn yn, natl gydymdeimlad a Rwssia? Nage, yn y Inesut lleiaf. Ond oblegid ein bod 1n canfod perygi i'n cydwladwyr, yn 1878, gael eu camarwaln drwy gelu neu gamystumio ffeithiau, megya Y S;