Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu

Cytarfod Chwarterol Meirion. GYNELIR yr uchod yn Nghapel Tabor, ger Dolgellau, ar y dyddiau Iau a Gwener, Mawrth 28ain a'r 29ain. Y gynadledd am 2 y dydd cyntaf.-Y DIACONIAID. AT OHEBWYR. J. RICHARDS, Abermaw, a ddywed fod rhai yn Aber- maw yn bwrw coegni disail ato, oblegid yr ymddydd- an fu dan y bont. Na, nid J. Richards yw yr awdwr, a da chwi, gadewch lonydd iddo, yn enwedig W.W., a John. MEWN LLAW.—Thomas Owain, Le'rpwl, Birmingham' W. G. W., Undeb y Chwarelwyr, Abermaw, &c., &c. Y GYMDBITHAS ADEILADU. Teimla D. Owen yn ddiolchgar i'r aelodau yn Dolgellau a'r am- gylchoedd am anfon eu llyfrau iddo yn ddioed. MARWOLAETH SYDYN, GER DOLGELLAU. Heddyw prydttawn (Mercher) aetli Mr. Thom- as Williams, Olarc, Portmadoc, (brawd Mr. John Williams, Clerc, Dolgellau) i weled bedd Sarah Hughes i'r Pare, gar Dolgellau; a phan wedi cyrhaedd yr ardd, lie y claddwyd y ddiweddar Sarah Hughes, toroddd ei blood vessel, a bu farw yn y fan.

1853 AC 1878.