Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

X? AT DYFED GWAWDRYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

X? AT DYFED GWAWDRYDD. AITWYL GYFAILL,— Gwelais a darllenais eich ail lythyr mewn perthynas a Chalfiniaeth ya y DYDD diweddaf, cynwyø pa un ydyw eich datganiad yn ceisio dweyd nas gallaf brofi fod mwy yn proffesu etholedigaeth dragwyddol a diamodol nag sydd yn ei chredu. Wel, gyfaill, mentraf ddweyd eto yr un peth y waith hon, ac 08 methaf brofi fy haeriad er boddlon- rwydd i chwi, dichon er ,hyny n boddlonir rhywrai llai cyndyn i gredu yr hyn sydd mor amlwg ac eglur y dyddiau byn, yn neitlduol felly i'r sylwgar. Fel y dywedais yn fy llythyr cyntaf, yr hyn a ieddylir wrth Galfiniaeth, ydyw y gyfundraeth hdno sydd yn dal allan fod rhan o'r ddynoliaeth wedi eu tiagwyddol ethol a'u hoideinio, heb un golwg ar eu gweithredoeddj a'u hymddygiadau, i fywyd tragwyddol. Yn awr, onid y gyfundraeth yma a arddelir ac a broffesir gan gorif cryf y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghymru yn gyffred- inol? ie, mae yn rhaid ateb yn gadarnhaol. Yn awr, pa fodd y gellir profi nad ydyw proffeswyr y gyfundraeth yna yn credu yr hyn a broffesaot? Wel, ceisiwn ddangos tipyn fel hyn,-dadleuant â'lI tafod, a phroffesant &'u gwefusau, fod y eadwedig- ion oU wedi eu rhoddi i'r Mab mewn etholedigaeth dragwyddol a diamodol, yn annibynol ar ddim o'u gweithredoedd hwy eu hunain. Diolchant am ethol- edigaeth fel hon, sef un ddiamodol am iddi sicrhau iddynt mor ddidrafferth eu cadwedigaeth. Ond gresynant yn dosturiol wrth y colledigion diobaith, a chynghorant hwy ar yr un gwynt i adael eu ffyrdd drygionus, a phregethaut mai aroynt hwy y bydd y bai os yn golledig y byddant. Fel hyn, cymhellir ar iddynt gredu yr hya y maent hwv mewn proffes yn ei wadu a'i wrthod, sef y posibl- rwydd i bob pechadur fod yn gadwedig, yr hyn y maent mewn gwirionedd yn ei gredu eu hunain. Mae gwaith Mr. Dale, un o brif bregethwyr Lloegr, yn cyhoeddi nad oebneb yn awr yn pregethu Calfin- iaeth heb alw ei eiriau yn ol, yn myned yn mhell i broft fod mwy yn proffesu yr athrawiaeth o ethol- edigaeth ddiamodol nag sydd yn ei chredu. Nid wyf o'r un farn a chwi pan y dywedwch fod doabarth helaeth iawn yn credu yr athrawiaeth o etholedigaetb heb fod yo proffesu gydag un enwad: j gallai fod yehydig o rai fel yna yn proffesu eu bod yn credu, ond maent hwythau iel y mwyafrif o'u cydbroffeswyr yn anghredinwyr trwyadl. Yn olaf, mae yn dda genyf gael y cyfleusdra hwn eto i'ch sicrhau mai mewn etholedigaeth amodol [yr wyf yn credu, a brysied v byd oil i ddyfod i gredu yn yr unrhyw etholedigaeth. Mewn perthynas & phwy oedd, neu pe gofynaaech yn iawn, pwy ydynt y pleidiau yn yr amodau? dywedaf y- chwi a minau, pwy bynag ydycb, yr ydym oil yn ddeiliaid i'r efengyl, gan hyny ufuddbawn i'w galwadau, cyd- ayoiwn A'i bamodau; bydded i ni :oll hyd y mae, » ynom, ymdrechu cael y byd yn gyfan at y Gwaredwr, a dyweded Dyfed Gwawdrydd, Amen. rj iI eiddoch, LLAFURFAB.

J -------------——-————————…

FASNACK Y LLE.

TLODI Y LLE.

IECHYD Y LLE.

FFESTINIOG.

AT YMNEILLDUWYR PLWYF LLANUWCH"…