Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLGELLAU. Ymdrechfa Aredig.-Oymerodd yr ymdrechfa le fldydd Sadwrn, y 9fed cyfisol, mewn maes perthynol i Mr. Evan Jones, Bragwr. Yr oedd yr ymdrechfa yn agored i'r tri phlwyf, sef, Dolgellau, Llanelltyd, a Llanfachreth. Hawdd oedd gweled y bore hwow fod rhywbeth neillduol i gymeryd He ya ystod y dydd gan y prysudeb a welid, a phob aradrwr a'i arfau yn loyw er ceiaio eaill y gwahanol wobrau a gynygid. Yr oedd dau ddosbarth yn yr ymdrechfa, a phedair gwobr i bob dosbarth. Dosbarth laf.-Aradrau gydag olwynion. Yr oedd cynifer a 14 yn ymgystadlu yn y dosbarth hwn. Dyfarnwyd y gwobraufely cmlyn:-laf. Mr. David Da vies, gwas Mrs. Jones, Ship, j64. 2il Mr. Thom- as Davies, gwas William Griffith, Eeq., Glyn, j63. 3ydd, Mr. John Jones, Esgeiriau, Rhydymain, £ 1 10s. 4ydd, Mr. David Thomas, Boetheog, a Mr. Thomas Edwards, Tynant, yn gyfartal, gwobr £ 1, sof 10s. i bob un. Dosbarth 2il.-Aradrau plaen heb olwynion na dim arall. Yr oedd 7 yn y dosbarth hwn, a dyfarn- wyd y gwobrau fel y canlyn:—laf, Mr. John Jones, Cefnybraicb, £ 3. 2il, Mr. Hugh Jones, Ty'ntwll, GwanM, JE2. 3ydd, Mr. William Jones, Cellfachreth, jEl 5s. 4ydd, Mr. John Ellis, gwas Mr. Robert Hughes, SFelin Newydd, 15s. Gwneuthnrwyr yr erydr yn y dosbarth cyntaf—laf, Mr. John Owen, Llandrillo; ail, Mr. Edward Williams, Corw0n; 3ydd „Mr. Zechariah Jones, Cynwyd; 4ydd, yn anhysbys. (Jwneuthurwyr yr erydr yn yr 2il ddosbarth- laf, 2il, a'r 3ydd, Mr. John Owen, Llandrillo; 4ydd yn anhysbys. Y beirniaid oeddynt Mri. Edward Davies, Bryn- banon; Richard Roberts, Brynysguboriau, Trawe- fynydd, a William Jones, Brynfoel, Ffestiniog, pa rai a gymerasant bwyll fel y gallent gyflnwni eu rhan yn anrhydeddus, a diameu fod eu beirn iadaeth yn teilyngu canmoliaeth uchel. Gwnaeth Mr. Davies sylw, ei bod yn bedwaredd tro iddo fod yn y cymydogaethau hyn fel beirniad, a dywedai fod yr aredig mor dda eleni fel mai gorchwyl caled ydoedd eu beirniadu, ac on dalient ati fel aradrwyr, y gallent gystadlu gydfi unrhyw ran o sir Feirionydd a sir Gaernarfon. Dywedai hefyd ei fod wedi ei foddhau yn fawr w rth weled pawb yn ymddwyn mor deilwng y diwrnqd hwnw, a gobeithiai pa bryd bynagy ceid ymdrechfa aredig eto yn Delgellau, y byddai eu hymddygiad yn gyffelyb. Dymuna Committee y clwb troi gydnabod yn ddiolchgar i'r boneddigicn canlynol am e'a rhoddion haelfrydig:-W. H. Beale, Esq., Bryntirion; T. H. Williams, Esq., Llwyn; W. Griffith, Esq., Glyn; William Jones, Esq., Peumaen Hall. Yr oedd y draul o gynal yr ymdrechfa uchod ya cyrhaedd yn agos 1922. Dylasem ddweyd fod Mr. Evan Jonos wedi bod mor garedig a rhoddi ciniaw danteithiol i'r aradrwyr oil ac i'r swyddogion, yr hyn sydd yn g inmoliaeth uchel iddo am ei garedigrwydd. G. WILLIAMS, Ysg. Ghoarcheidwaid.—Canfyddwn yr wythnos hon ry. uddion ar y parwydydd yn arddangos fod adeg ethol- iad y bobl gyfrifol hyn yn agoshau. Gofaled yr holl drethdalwyr am nodi allan eu dynion, a hyny mewn pryd. Medr pawb siarad, a chadw twrw pan fydd rhywbeth yn myned yn mlaen yn y Workhouse, yn groes i'r hyn a dybient hwy i fod yn iawn; ond y mae L y gyfraith wedi rhagofalu am roddi mantfds yn Haw y trethdalwyr unwaith bob blwyddyn o newid dwylaw, os bydd hyny yn ymddangos yn oreu.- A gallwn dyb. ied wrth edrych yn ol ar hanes gweithrediadau y Bwrdd yn ystod y flwyddyn neu y ddwy flynedd ddi- weddaf, fod rhai o honynt yn haeddu kick out. Nod- weddir rhai o honynt yn hynod iawn gan eu chwerthin. Pa faint bynag fyddo pwysigrwydd unrhy w orchwyl a ddichon fod gan y Bwrdd i'w drafod, chwerthant hwy, a ohynygiant i'r Bwrdd y peth a dybient hwy i fod yn jokes, megys cymhell y gwarcheidwaid i dd'od i gyd yn deetotellers fel hwy, &c.,jneu rywbeth gwirion arall, hollol anmherthynasoi i'r hyn a fydd dan sylw ar y pryd. Ai tybed mai yn y dull| hwn y dylid trin a thrafod y miloedd arian a gesglir gan lawer o druein- iaid drwy hwy. eu gwynebau? Oofiwch am bethau fel hyn y dyddiau sydd bron gerllaw, a mynwch ddyn- ion i'ch cynrychioli. Cwyna rhai fod etholiadau yn myned yn ddrud iawn — ond esgus go sal ydyw hwn-rhyw wythftd o geiniog -Deu yn hytrach fel Bwllt neu bymtheg ceiniog i'r trethdalwyr mwyaf yn y plwYf-a beth ydyw hyny i'w gymerydi ystyriaeth wrth yrhawlfraiut o gael eich llaw mewn dewis dynion i gynawni y swyddau pwysig hyn? Dimgwerth son am danO,—nid wyf wedi penboethi am lectium. Ond paD y gadawer hwynt i fyned i lawr, llithrau matterion fel hyn i ddwylaw rhyw clujues, a dynion parti i gyflawni ei hamcanion eu huuain. Bydded i bob trethdalwr gydio o ddifrif yn yr bawl sydd wedi ei roddi iddo yn yr achos hwn. Y cymhwyader i fod yn warcheidwad ydyw-calol ei drethu i'r swm o £25. Rhaid iddynt gael eu nomiiutio eydrhwng 7 15fed ar 26ain o'r mis hwn, ac nid cyn hyny, nao ar ol y date» cofier. Os nominatir mwy nag fydd eisiau, cyhoeddir list, a bydd cyfleusdra i'r rhii a ddewisont dynu yn ol. Ceir forms, &e., gan y c £ ?'C, Mr. Joieph Roberts, yr hwn yn ddiamau a rydd unjfly^ gjrfarwyddid pcllach a ddichon fod yn angQorheidpli Yr Tianes diweddaf am "Achos Gisbourne" yw, fod y costau wedi cyrhaedd y awm dychrynllyd o ddwy fil a thri chant o bunau!! Dydd Gwener bu Mr. Taylor, y Casglwr. Trethi, farw, wedi bod yn ei swydd am lawer o flynyddoedd gyda pharch mawr.

FFESTINIOG.

Family Notices

Advertising