Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

I Y CYNWYSIAD.

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ycbydig lonyddwch sydd i Mr. GladFtone y dyddiau hyn am na b'ai yn penderfynu dros ba le y saif efe fel ymgeisydd yn yr etholiad nesaf. Gwyr ein darllenwyr ei fod wedi rhoddi rhybudd prydlon i ymgilio o gynrych- jolaeth Greenwich, a rhyfedd gynifer o leoedd sydd yn awyddu am yr anrhydedd a'r fraint o'i gael i sefyll fel eu cynrychiolydd yn y dyfodol. Yn mblith y lluaws, y mae Leeds wedi ei llanw ag aiddgarwch pryderus ar y pen hwn. Cynaliwyd cyfarfod o'r Liberal Four Hundred yno nos Wener i wrando y chwech ymgeisydd oedd wedi eu henwi, ac i ethol un fel yr ail Ryddfrydwr dros y Fwrdeisdref yn yr etboliad nesaf. Cynyg- iodd Syr Andrew Fairbaim benderfyniad, yr hwn a eiliwyd gan y Maer, ac a gefnogid gan Alderman Tatbam, yr oil o ba rai ydynt ymgeiswyr, yn enwi yn unfrydol, ac yn ymwystlo i'r pwyllgor y cefnogid, y Gwir Anrhydeddus W. E. Gladstone fel un o'r ddau ymgeisydd Rhyddfrydol yn yr etholiad nesaf. Ymrwyment hefyd na cha'i yr ethol- iad ei daflu ef i unrhyw draul nac ymdrech personol; ac yn mbellacb, os derbyniai Mr. Gladstone yr eisteddle, na ddysgwylid iddo gyflawni unrhyw ddyledswyddau lleol. Pen- odwyd dirprwyaeth i ymweled a Mr. Glad- stone.

[No title]

[No title]

[No title]