Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Netosliiioii ®j)mreig. ■ i

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Netosliiioii ■ i J Y G OGLED D. Mae Mr. Williams, Tyddyn, wedi anrhegu 0 y "Ddarllenfa Rydd" yn Bangor, & nifer o lyfrau gwerthfawr. Hyderwn y bydd i lawer eraill ei efelychu yn hyn. Mae y Bedyddwyr Seisonig, yn Bangor, wedi rhoddi galwad unfrydol i Mr. W. R. Saunders, Caergybi, i ddyfod i'w bugeilio. Ychydig ddyddiau yn ol, yr oedd boneddwr yn prynu newyddiadur wrth y "bookstall," yn ngorsaf Dinbyeh, a syrthiodd darn dau swllt i'r Hawr. Er chwilio a chwalu, meth- wyd cael hyd iddo. Gofynai rhyw ddyn oedd y n sefyll yn agos iddynt am beth oedd ynt hwy yn chwilio. Wedi iddynt ei hysbysu, dywedai iddo weled ci, yr hwn sydd i'w weled yn ami yn yr orsaf, yn codi rhyw- beth oddiar y llawr, ac yn rhedeg i ffwrdd. Dilynwyd y ci, a chafwyd y darn yn ei safn. Cafwyd cryn waith ei gael oddiwrtho. Un o effeithiau y cyfarfodydd cenadol, a gynaliwyd yn ddiweddar gan yr Annibyn- wyr Seisonig, yn Wyddgrug, ydyw "Undeb Cristionogoi y bob! ieuainc sydd wedi cael ei sefydlu. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynal nos Iau diweddaf yn yr ysgoldy. Bwried- ir cynal eyfarfodydd yn wythnosol. Yn ngharchar Rhuthyn, yr wythnos cyn y ddiweidaf, bu farw dyn o'r enw Wm. Jones, 54 oed, yr hwn oedd wedi ei garcharu am ddyled. Wedi i Dr. Thomas Jones weled ei < foif mewn cyflwr peryglus o ran iechyd, ysgrifenodd at Mr. Horatio Lloyd, barnwr llys y man ddyledion, yr hwn ar dderbyniad y llythyr, a ddanfonodd ddau delegram—un i geidwad y carchar i beri iddo ollwng y carcharor yn rhydd, a'r Hall i ohwaer y trano- edig, i'w hysbysu o'r gorchymyn hwn; ond pan oedd ar gael ei symud, bu farw yn ddisymwth. Nos Fercher diweddaf, cafwyd cyngherdd hwyliog iawnjyn ysgoldy St. Stephan, Smith- downlane, Le'rpwl. Gwasanaethwyd gan y Band of Hope, yn rhifo 60-pob un yn gwisgo "regalia. Cymerwyd y gadair gsn y Parch. E. P. Hodgings, D.D.

Y DEHEUDIR.

[No title]

LE'RPWL.

CAERLLEON.

BIRMINGHAM.I