Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
10 erthygl ar y dudalen hon
# 'I Y OYNWYSIAD. e'-4 i>…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
# 'I Y OYNWYSIAD. e'-4 i> Y ()•, -u "it .w Yr Wythnoo 1 Bfermdy Phylip 2 IP Fasiynau yr Oea 3 V Senedd Ymerodrol 4 Dolgellau 5 Newyddion Cymreig 6 Barddoniaeth. 7 ltwssia. a Thwrci 8 Hwssia yn Nyddiau Nicholas < 8 Marwolaeth a Chladdadigaeth E. Jonesi Crugybar 9 Gohebiaethau 10,11 Ffestiniog 12 Bysbysiadaa.13-16
i {)T!Yr 4>Si3?tf)«o0*I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
{)T! Yr 4>Si3?tf)«o0*
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
•c «■,» P 1 u 4-Sj *0' 0 Oft m Y mae gohebydd y Daily News yn Nghaercystenyn wedi anfon telegram i egluro Had oedd Rwssia yn fwriadol wedi esgeuluso y Groegiaid wrth gwblhau heddwch. Yr oedd y Cadfridog Ignatieff wedi ei sicrbau ef, pe buasai yn gofyn ychwaneg, y buasai y Tyrciaid yn gwrthod arwyddo y cytundeb- fi fod ef wedi gwneud yr oil a allai. Os oedd Ewrop yn ewyHysio gwneud ychwaneg, fod iddi groesaw. Gyda golwg ar Bulgaria, awgpymid y dylai hi gael Enos fel portbladd, ?c. fyddai rhoddi Cavalla i'r Groeg- iaid. Fodd bynag, os byddai Lloegr yn gwrth- wynebu i Bulgaria gael unrhyw borthladd o gwbl, y byddai Awasia yn barod i ildip i hyny, t am y gwasanaethid ei buddianau ei hun yn well drwy hyny.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae yn eglur nad oes gan un dyn hawl i wasgu neu orfodi ei gyd-ddyn i gyflawni yr hyn sydd groes i'w ewyllys, er cyrhaedd rhyw amcanion personol o'i eiddo ef ei hun, neu unrhyw gymdeithas o ddynion. Cyhuddid saer maen o'r enw Wilkinson yn aorawdlys Middlesex, yr wythnos ddiweddaf, am arfer trais at weithiwr arall o'r enw Walters, yn Chwefror diweddaf, mewn trefn i'w atal at ei orchwyl. Yr oedd yr amgylchiad yn canlyn gwaith y seiri meini yn sefyll allan. Addefodd y carcharor ei euogrwydd, gan amlygu ei ofid oblegid yr hyn a ddygwydd- odd. Cydsyniodd yr erlyniad i'w rwmo i ymarwedda yn dda yn y dyfodol. Dywedai y Barnwr cynorthwyol, ar ol edrych drwy yr holl amgylchiadau, na byddai iddo ond gofyn i'r amddiffynydd ymrwymo am £50, y cadwai efe yr heddwch am ddeuddeg mis.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'Does un fenyw, yn sir Aberteifi na sir Gaerfyrddin, wedi Ilwyddo i'ymprydio cyhyd a'r anaconda, y sarph hono yn y Zoological Gardens. Y mae yr ymlusgiad ryfedd hon wedi myned tuhwnt hyd yn nod i'r eirth gwineu-goch yn ei hympryd, y rhAi y tybir yn gyffredin eu bod yn detbyn ea cynaliaetb yn y gauaf drwy eugno eu pawenan eu hun- ain. Palfau yr arth, efallai, yw y rhanau o'i chorff y gall hi deimlo falchaf o honynt; ond nid oes i'r sarph y cyfeirir ati unrhyw ad- noddau o'r fath yn perthyn i'w natur. Dygwyd hon o'i chartref yn Neheudir America rywbryd yn 1876. Cludwyd hi dros y m6r mewn blwch cyfyng, yr hyn a barodd iddi lawer o anghysur, a'r hyn, o bosibl, a an- mharodd ei pheirianau treuliawl. Yr oedd y danteithion oedd yn nieddu y swyn penaf iddi, megys adar byw, a phetbau eraill, yn cael eu harddangos iddi yn ofer. Ond un o'r dyddiau diweddaf dychwelodd ei harchwaeth, a lladdodd a thraflyncodd hwyaden braf. Gall bellach wneud yn burion, oblegid y mae archwaeth yn d'od wrth fwyta. Parhaodd fel hyn heb fwyta am oddeutu blwyddyn, yr hyn a allai brofi yn brotedigaeth i lawer o seirff.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Faint bynag a haerir fod Pabyddiaeth yn gwywo ac yn darfod, nis gellir dweyd hyny 11 am y Babaeth yn Mhrydain Fawr; canys y mae y cynydd yn rhyfeddol er 1851, pryd y Befydlwyd archlywodi aeth eglwysig yma. Mae yn y deyrnas hon yn awr 1,158 o offeiriaid Pabaidd; 1,348 o gapelau a lleoedd addol- iad; 120 o dai crefyddol i ddynion, a 318 i ferched. Ychwanegodd nifer yr offeiriaid mewn 26oflynyddau l,100;ycapelau, 665; tai crefyddot i ddynion 112, a 265 o fynachdai i ferched; ac ychwanegwyd 10 at nifer y coleg- au. Perthyna i'r Pabyddion drwy y byd 907 q esgobaethau cyfaneddol, ac y mae 126 o honynt dan lywodraeth Lloegr—26 yn Iwerddon, 13 yn Lloegr, 3 yn Scotland, ac 82 yn y gweddill o'r ymerodraeth. Mae 36 o Arglwyddi y deyrnas yn Babyddion; ac y mae 28 o honynt yn aelodau o Dy yr Arglwyddi, 6 yn aelodau o'r Cyfringynghor, sef Cynghorwyr y Frenhines; ac y mae 51 o Babyddion yn aelbdau o'r Senedd! Hefyd/y mae 48 o'r barwniard yn Babyddion. Dengys hyn eu bod yn gryfion yn y deyrnas, a bod eu dylanwad yn fawr. Yr ydym yn ddyled- us i'r Drych Americanaidd am yr ystadeg- aeth flaenorol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I ..u-nvS-l Y mae dyhirogod lladronUyd y deyrnas yA parhau i ysbeilio, ac i gyflawni gweithredoedd o nodwedd feiddgar. 'Does odid wythnos yn myned heibio nad yw gweithredoedd y Iladron yn trethu cyfran helaeth on newyddiadaron. Daeth un yn chwaneg o'u hystranciau i'r am- Iwg nos Sul diweddaf ya Walton Heath, Sorrey, yn mhalas Mr.' Valentine Cunning- ham, o'r hwn Ie y, lladratawyd gwerth X4000 o emau. Llwyddodd y lleidr i fyned i mewn drwy y genestr i dressing room Mrs. Cunning- ham tra yr oedd y teulu ar giniaw. Ni chafwyd hyd yma ddim o hanesylladron. Dywedir y gosodid pris uchel ar" lawer o'r gemau hyn, am eu bod yn weddillion teuluol.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Dygwyd y trengholiad ar gyrff y 43 a laddwyd yn Nglofa yr Unity Brook, Kersley, i derfyniad ddydd Llan., Dywedai. Mr. Dickinson, Prif Arolygwr y mwngloddiau, nad oedd amheuaeth ganddo ef fod y ff rwydr- rad wedi ei achosi gan ddiangiad nwy mewn canlyoiad i syrthiad cronglwyd yn Partington Place. Mewn atebiad i'r trengholydd, myn- egai fod mwy o ddamweiniau yn dygwydd mewn mwngloddiau a weithid 4 lampau, nag yn y oyfryw a weithid a. chanwyllau, am fod y dynion gyda chanwyllau yn gallu gweled syrthiad v nenau yn well. Dy- chwelwyd rheithfarn o 'Farwolaeth ddam- weiniol.' Siaradai y rheithwyr yn uchel am drefniadau y gwaith hwn, ac yr oeddynt yn cymeradwyo defnyddio canhwyllau yn y gwaith yo lie lampau. „viw«o
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y mae cyfarfyddiad y Gynadledd a ddysgwylid yn Berlin, ar byn o bryd, yn ymddangos yn amheus. Dywedir fod ateb- iad Rwssia i Lywodraeth Prydain yn cael ei ystyried yn dra anfoddhaol, yh gfmaint felly, fel y mae yn debygol na bydd i Brydain barhau yr ytndrafodaeth yn hwy. Y mae Rwssia wedi gwneud ymdrecbion mawrion, ond ofer, i etfeiihio cytundeb. Y mae gohebydd y Times o Vienna yn cadarnhau adroddiad y Central Aews o bertbynag i ateb- iad Rwasia i'r Weinyddiaeth Seisonig. 'Y mae cymylau trw-lvvythog yn bresenol yn llanw ein hawyrgylch wleidyddol, ond hyder- wn y daw awel o ryw gyfeiriad i wasgaru y cyfan, ac i ddal gwawr gobaith o flaen ein gwlad ein hunaia, yn gystal a gwledydd oraill. '.1 "l u o Iroavd- & .uhi
i {)T!Yr 4>Si3?tf)«o0*I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Derbyniodd Mr. Gladstone, ddydd Sadwrn, ddirpwyaeth oddiwrth Ryddfrydwyr Green- wich, yn dymuno arno ail ystyried ei bender- fyniad i ymgilio o gynrychiolaeth y fwrdeis dref h6no yn yr etholiad nesaf, ac yn ei sicrhau y dychwelid ef ar ben y rhestr os deuai yn mlaen eto fel yrogeisydd. Atebai y gwir anrhydeddua foneddwr, nad oedd y penderfyniad y daeth efe iddo wedi ei "^neud yn y graddau lleiaf oblegid unrhyw ofn am ddiogelwch ei eisteddle; ac ar ol talu teyrged i nodwedd ryddfrydol trwyadl yr etholiadaeth, ac amlygu ei grediniaeth yn ffyddloodeb yr Anghydffurfwyr, aeth yn mlaen i nodi y rhesymau oedd weJi ei gymhell i fabwysiadu y penderfyniad a Wnaeth. Wrthedrych ar fanteision y treul- s iau cyhoeddus anferth yn y fwrdeisdref, yr oedd ef yn teimlo y fjwelai y Rhyddfrydwyr ei bod yn anfantais iddynt feddu ymgeisydd yn dal opiniynau o gynildeb gyda golwg ar arian y cyhoedd. Am Gwestiwn y Dwyrain, dangosodd Mr. Gladstone ei wrth- wynebiadau i'r bleidlais arianol, a gofidiai fod y eyfieusdra i setlo yn heddychol y cweryl oedd rhwng RWFsia a Twrci wedi ei adael i basio heibio; a chyda golwg ar y sefyllfa bresenol, cyffesai ei anallu i ddeall y rheswm am y fatb ymdrafodaethau hirfaitb, a'r darpariadau rhyfelawg oedd yn parhau i gael ea cario yn mlaen.