Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Y CYNWYSIAD.

[No title]

[No title]

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MaeTy y Cyffredin wedi myned drwy fwy ogyfnewidiadau yn ystod y flwyddyn 1878 nag a &eth drwyddynt er Fpan y gosodwyd y Weinyddiaeth bresenol mewn awdurdod. Bu pymtheg o aelodau farw—cyfartaledd anarfer- 01 o farw; yn wir mae marwolaethau Seneddol y flwyddyn ddiweddaf agos gymaint arall ag eiddo y flwyddyn flaenorol. Yr oedd wyth o'r rhai hyn yn Rhyddfrydwyr, chwech yn Geidwadwyr, ac un yn Home Ruler. Mae marw-rostr y Senedd yma, o'i chyferbynu a rhai o'i rhagflaenoriaid, yn un luosog. Ni chollodd Senedd Arglwydd PalmGrston, a atwyd ar y 15fed o Awst, 1865, ac a dorwyd i fyny gan y Prifweinidog presençl af yr lleg o Dachwedd, 1868, ond 23 o aelodau drwy angeu. Yr oedd marwolaethau y Senedd a ymgynullodd ar y lOfed o Ragfyr, 1868, ac a ddiddymwyd ar y 26ain o lonawr, 1874, ar 01 bodolaeth o bum' mlynedd, mis, ac un dydd ar bymtheg, yn cyrhaedd y nifer o 55, neu ar gyfartaledd oil bob blwyddyn. Ni fydd y Senedd bresenol yn bum' mlwydd oed hyd y 5ed o Fawrth nesaf; ond y mae 53 o'i baelodau wedi maiw yn barod-4 yn 1874, 12 yn 1875, 14 yn 1876, 8 yn 1877, a 15 yn 1878. Ymneillduodd deg o aelodau o'r Senedd yn ystod y flwyddyn; yr oedd chwech o honynt yn Geidwadwyr, a phedwar yn Ryddfrydwyr. Daeth chwech yn Arglwyddi -pedwar drwy olyniaeth, a dau drwy 'greu o newydd;' yr oedd pedwar o'r rhai hyn yn Domid, a dau yn Ryddfrydwyr. Derbyniodd dau aelod swyddogaethau dan y Goron, yr byn oedd yn eu gosod dan yr angenrheidrwydd o adael Ty y Cyffredin.

[No title]

[No title]

[No title]