Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
7 erthygl ar y dudalen hon
Y LLOFRUDDIAETH YN BANNER…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y LLOFRUDDIAETH YN BANNER CROSS.. Fe gofie ein darllenwyr eiu bod wedi cyfeirio yn fyr at y llofruddiaeth uchod, a gymerodd le oddeutu dwy flynedd yn ol. Fe ddaeth yr hanes i mewn, mewn cysylltiad â chondemniad Charles Peace i atltuiiaeth am < ei oes, o herwydd iddo saethu at beddgeidwad yn Blackheath, pan oedd yn ceisio ei rwystro i ddianc, wedi i'r heddgeidwad ei ddal mewn ty ag yr oedd wedi myned yno i'w dori. Cafwyd allan drwy luaws o dystiolaelhau mai yr un oedd a lofruddiodd Mr. Dyson yn Barner Cross. Ond teimlid anhawsder i erlyn y carcharor, o herwydd a bsenoldeb y prif dystion. Ymddengys mai Mrs. Dyson oedd y tyst pwysicaf, ond metbai yr hedd- geidwad a chael dim o'i hanes; eibyn hyn, y maent wedi cael ei hanes yn America, ac y mae yn prysuro drosodd i roddi ei thystiolaeth yn erbyu Charles Peace; a chyn y bydd y rhifyn nesaf o'r DYDD o'r wasg, bydd w<di cyrhaedd y wlad hon. Anfonwyd heddgeid- wad yno i'w chyrchu.
PRIODAS IARLL CAERNARFON.i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
PRIODAS IARLL CAERNARFON. i Os yw y boneddwr uchod wedi tori pob cysylltiad &'r Weinyddiaeth bresenol, y mae wedi ymgysyllfcu ei hanes mewn modd arall, nas gall dori y cysylltiad 'hyd oni wahano angeu.' Y Gwir Atirb. Henry Howard Herbert, pedwerydd larll Caernarfon, a ym- briodwyd ddydd Iau diweddafag Elizabeth Catherine Howard, merch henaf Mr. Henry Howard, o Gastell Greystoke, Sir Cumber- land. Yr ydym yn gobeithio y try y briodas allan yn fenditbiol, nes dwyn y boneddwr yn Rhyddfrydwr o'r iawn ryw, o herwydd mae o fewn jchydig' er's misoedd bellach.
GAUAF CALED.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GAUAF CALED. Pan y mae pawb yn gorfod cyfaddef mai gauaf caled sydd wedi ein goddiweddyd, hwyrach y byddai yn ychydig o gysur i feddwl nad yw wedi cyrhaedd i'r graddau ae a deimlwyd gan ein tadau er's deg o ganrifoedd, i lawr i'n hoes ni. Y mae un Ffranowr enwog, Mr. Arago, wedi easglu llawer o honynt a'u hargraffu yn Paris yn y flwyddyn 1835. Rhbddwn rai enghreifftiau i'n darllenwyr:—Yn y flwyddyn i 806 o Oes Crist, fe rewodd y Rhone drosti; yn y flwyddyn 1133 fe rewodd yr afon Po, o Cre- mona i'r mor; yn 1234 yr oedd gwageni llwyth- og yn croesi y m6r Adriaidd, ar gyfer Yenice; yn y flwyddyn 11305, fe rewodd holl afonydd Ffrainc; yn 1324 yr oedd yn bosibl cerdded o Denmark i Lubeck a Dantzic ar y rhew; yn y flw yddyn 1334 fe rewodd holl afonydd Provence a: A^iidal, ac fe barhaodd y rhew yn Paris am dcf-t fis ao ugain diwrnod; yn 1468 yr otdd yn an ,f nrheidiol yn Flanders i gymeryd bwyeill i (Ie y gwin i'w ranu i'r milwyr; yn 1594, yr oe,d yr un peth yn angenrheidiol yli Ffrainc; yn 1594, yr oedd y m6r wedi rliewi o Marseilles i Venice; yn 1657, fe rewodd yr afon Seine drosti; yn 1767, fe barhaodd y rhew ar y Seine am 35 o ddiwrnodau; yn 1709, fe rewodd y I Adriaidd, a Mor y Canoldir, o Marseilles i Genoa; yn 1717, fe adeiladwyd siopau ar yv afon Tafwys;
Y NEUADD GYHOEDDUS, ABERMAW.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y NEUADD GYHOEDDUS, ABERMAW. Cynaliwyd cyngherdd ardderchog'yn yr ystafell uchod, nos Lun, Rhag. 30ain. Y cantorion oeddynt, Miss Martha Harris, R.A.M.; Miss H. B. Morris, Rhyl; Miss Cordelia Edwards, U.C.W.; a'r Proffeswr Gethin Davies, Llan- gollen. Canodd Miss Martha Harris deirgwaith, a pharodd i'r gynulleidfa deimlo bob tro mai Miss Martha Harris ydoedd. Dysgwylid liawer wrthi, ac mae yn ddiamheuol genym na chafodd yr un dysgwyliad ei siomi. Hon oedd y waith gyntaf i Miss Harris fod yma, ond gobeithio nad hoii ydyw y waith olaf. Ni bu Miss H. B. Morris yma o'r blaen ychwaith; rhoddodd hi gymaict boddhad i bawb bob tro y canodd, fel y creodd ,ynddynt hiraeth am ei chlywed yn fuan eto. Ond er cystal y canodd y boneddig- esau uchod, cafodd jMiss Cordelia Edwards dderbyniad cynhes, a chymeradwyaeth uchel bob tro yr ymddangosodd ar yr esgynlawr. Rhoddodd ei datganiad o'r gan newydd, 'Rhodd- wyd careg ar ei fedd?' cyfansoddedig gan Mr. W. M. Roberts (Advanig), Wrexham, foddlon- rwydd neillduol. Dyma y tro cyntaf i'r Pro- ffeswr Davies hefyd, wneud ei ymddangosiad yma fel datganwr. Argyhoeddwyd ni c'r blaen ei fod yn medru pregethu yn dda, ac yr ydym wedi ein hargyhoeddi yn awr ei fod yn gallu canu yn dda hefyd. Chwareuwyd y cyfeiliant gan yr enwog Miss Jennie Davies, Llangollen. Ni raid iddi hi wrth ein canmoliaeth Cafwyd cynulliad lluosog, yr elw at leihau dyled capel y Bedyddwyr yn y lie.—Un oedd yno.
BRYNSEION, DOWLAIS.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRYNSEION, DOWLAIS. Coron Bywyd.-Ar noson yr 16eg o'r mis diweddaf, bellach, traddodwyd darlith gan Fardd y Pum' Cadair, Hwfa Mon, yn y lie, ac ar y testyn uchod. Cafodd lon'd capel o wrandawyr, ac ymddangosai pob clust fel yn anfocldlawn iawn i gymaint a gair dd'od dros wefus y darlithydd heb ei sicrhau. Yr oedd Hwfa yn ei hwyliau goreu, yn esgyn ac yn disgyn fel eryr yn ei elfen. Elai yr elw i gynorthwyodau frawd ieuanc o bregethwyr, yn eu hymgais i gael addysg rhagbarotoawl cyn cynyg am yr athrofa, a barnaf eu bod wedi cael nid ychydig o hono. Llanwyd y gadair yn mhob ystyr gan y Parch. T. Morgan (B.), Caersalem.-Gohebydd.
E1 s t eITdfo d meirion, ,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
E1 s t eITdfo d meirion, CALAN, 1878. Cynaliwyd yr Eisteddfod flynyddol uchod nos Fawrth, Rhag. 31ain, 1878, a dydd Mercher, Ionawr laf. 1879. Cymerwyd rhan yn y cyng- herdd y noson g) ntaf gan Miss Marian Williams, R.A.M.; Miss Martha Harris, R.A.M.; Eos Brychan, Eos Morlais, Mr. A. R. Jones, a'r ldris Choral Society. Cyfeilydd, Mr. Pritchard. Llywydd, Mr. R. Jones, New Shop. Bore dydd Calan, dechreuwyd am haner awr wedi deg. Cymerwyd y gadair gan T. H. Williams, Ysw.) Llwyn; a'r arweinyddiaeth gan Mr. R. Trevor Jones. Yr oedd y programme fel y canlyn— 1 Anthem Genedlaetho Gymraeg, gan Gor yr Eisteddfod. 2 Anerehiad gan y Liywydd. 3 Goreu ar 'Social Responsibilities,' Mr. P. O. Ashton, Corris; a 'Clement,' yr hwn ni atebodd i'w enw. 4 Anerchiad barddonol gan loan Meredyth. 5 Goreu ar ddatganu, 'Whon shall we three meet again,' Mr Edward Williams, 'Goleuad' Office, a'i Gyf. 6 Goreu ar y Llaw- so,rl ysgrifen, Mr. R. P. Morris, Bala; ail, Mr R. Jones, Abergynolwyn. 7 Goreu .ar ddatganu Solo Bass, Ap Avan, Criccieth, 8 Goreu ar 'Hanes1 Daniel,' Mr. J. H. Jones, Oswestry. 9 Goreu ar chwareu yr offeryn, Miss A. Mary Jones, Dolgellau. 10 Can gan Miss Martha Harris, yn ardderchog. 11 Goreu ar y 'Crys Main,' Miss E. Owen, Dolgellau. 12 Goreu ar ddatganu 'Mentra Gwen,' Mr G. Williams,, Llwyngwril; a Mr. J. Humphreys, Trawsfynydd,, 13 Goreu ar yr Englyn i 'Hen balasdy'r Llwyn,' leuaa Meurig, Abergynolwyn. Gwel tudalen 12.
Y GOLOFN DDU.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
edig hyd oni welai ei Mawrhydi yn dda. Ar ol cael ei gollwng, derbyniwyd y druanes adref i fynwes ei theulu. Y mae llofruddiaeth ofnadwy wedi cymeryd lie yn agos i Melbourne, Awstralia. Y rbai a loftuddiwyd oed iynt, Sergeant Kennedy, a dau heddgeidwad o'r enw Scanlon a Lonargan. Y llofruddion oeddynt goed wig wyr, dau frawd o'r enw Kelly, y rhai oeddynt wedi cyflawni Iladrad beiddgar, ac yr oedd y rhai a lofrudd- iwyd wedi eu hanfon igeisio eu dal, saethwyd hwy mewn gwaed oer, a buwyd am beth amser cyn cael hyd i gorff Sergeant Kennedy, a phan ei cafwyd, yr oedd wedi ei otchuddio bron gan fwledau. Y mae y fath farba- eidd-dra, a'r fath bwyll a gyeaerasant i gyf- lawni eu hamcan dieflig, wedi achosi teimlad angherddol drwy'r drefedigaetb. Y mae y Llywodraeth yno wedi cynyg gwobrau mawr i'r rhai a ddeuant a byd i'r brodyr Kelly yn fyw neu yn farw. Yn ffortunus y mae gobaith y delir hwy yn gynt na phe buasent wedi diaac i'r mynyddoedd, o herwydd ym- ddengys eu bod wedi gwneud drosodd i Murray, gyda'r bwriad o groesi i Ddeheudir Cymru Newydd. Cafwyd cenadwri o Chiltern fod Kelly a thri eraill wedi codi dyn o'r enw Neil Christian yn Bungowanab, cyn dydd a cbawsant ddarpariaeth ar gyfer eu cyrff ganddo. Bygytbiodd Kelly saethu Christian os rhoddai bysbysrwydd; ac y mae yr heddgeidwaid yno wedi anfon i Melbourne am adgyfnerthiad i chwilio y wlad o gwmpas Bungowanah am danynt. • Y mae'dygwyddiad gofidus i'r eithaf wedi cymeryd IlIe yn Newchurch-in-Rossendale Ymddengys fod. Mr. Susfield, meddyg Bookfold, wedi bod yn afiach am rai wyth- nosau, ac aeth i'w wely nos Wener, ond ni fedrai gysgo. Haner awr wedi pedwar y boreu fe gododd ef a'i wraig, aeth yn ei flaen i'r surgery, gan adael ei wraig yn yr ystafell giniaw; yn fuan dychwelodd, a gwaeddodd, 'Yr wyf yn ddyn marw'; ac ar yr un pryd dangosai botel iddi o baun yroedd wedi bod yn yfed, yr oedd y botel yn cynwys yr hyn a elwir aconite liniment, yr hwn oedd wenwyn o'r fath fwyaf marwol. Dymunodd ar ei wraig i anfon am Dr. Wilson, ei gymydog- Yn y cyfamser fe yfai yn hael o ddiod. m wstard a dwfr, ond yr oedd yn parhau i fyned yn waeth-waeth, a bu farw mewn awr ar ol ei gymeryd, cyn dyfodiad y meddyg. Cafwyd allan fod potel o win 'sherry'yn, nesaf i'r gwenwyn, a bod y naill yn debyg iawn ei liw i'r Hall; ac felly, tebygol yw ei fod wedi yfed y gwenwyn mewn camgymer- iad yn lle'r gwin. Cyflawnid llofruddiaeth ddyblyg a hunan- laddiad yn Paris, na chlywir am eu cyffelyb ond anaml. Cyflawnwyd hwynt yn un o ystrydoedd mwyaf parchus Paris, Er's chwe mis yn ol, daeth M. Filliette, yr hwn oedd ysgrifenydd mewn swyddfa newidiwr arian, i fyw i rhif 9 ya yr heol grybwylledig, ac yno y daethant i gydnabyddiaeth a gwr ieuanc, oedd yn aros yn swyddfa'r heddgeidwaid, yr hvru a dalai ymweliad mynych a hwynt. Eorea Sadwrn cyn y diweddaf aeth M. Filliette '\t. y gwr y byddai arferol o fwyta yno, a gofyn-dd am ei 'nl.' Dywedodd hwnw nad oedd dim thyS, y gwnai y tro ddiwrnod arall. Dywedodd ynttu y byddai yn rhy hwyr ddiwrnol arall. Talodd y 'bill,' aeth i fyny i'w dy, ac ar o]|h fny ni welwyd efna'i wraig yn fyw. Ar ol myned i'r ty drwy drais gwelwyd golygfa dorcalonus i'r eiihaf. Caf- -w ai wraig heb ond ychydig am dani, yn ym( tynedig ar lawr, a'i gwr hefyd yn farw wrth ei hochr, y ddau wedi eu claddu mewn gwaed. Daliai ef yn ei law yn angeu, lav ddryll chwe ergyd, yr oil o'r ergydioa wedi eu saethu allan. Mewn ystafell arall caed y gwr ieiunc crybwylledig yn gorwedd ar yr ystol oedd yn ymyl y 'piano,' a phelen yn ei fynwes, ac un arall yn ei wddf. Tybir fod y gwr wedi gwylied y wraig a'r dyn ieuanc, ac ymddangos iddynt yn ddiarwybod, a'u saethu yn y fan; ac ar ol hyny i fyned i dalu ei 'fil/ ac yna myned yn ei ol, a saethu ei hun. Yr oedd ef yn 35 oed, a'i wraig yn 28.