Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

KctogtiBtou < £ |>mwB.I ;

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

KctogtiBtou < £ |>mwB. I Anrhegwyd Maer Aberafon gan ei weithwyr &g anerchiad llongyfarchiadol, ar ei ddyrchafiad i'r swydd, ac i'r Faeres y rhoddwyd gwddf- dorch aur. Am dori ar rai o reolau gweithfeydd glo, dygwyd overman glofa y Rock, Coed-duon, o flaen ynadon Tredegar, a dirwywyd ef, ynghyd a'r costau, i £7158. Dygwyd hen filwr o'r enw Robert Moore, un o arwyr brwydr Balaclava, o flaen y gweinydd- wyr cyfiawnder yn Nghaerdydd, ar y cyhuddiad oymadaeloddiwrtheiwraig a'i deulu, rhydd- ha-vya ef Ceisiodd dyn canol oed o'r enw John Gardner roddi terfyn ar ei einioes yn Nghaerdydd. Yr amddiffyniad a roes o flaen y lainc farnol ydoedd ei fod wedi methu a chae) gwaith, ei fod yn cael ei hun yn starvio bob yn fodfedd, ei fod wedi apelio at y. awyddog cynorthwyol am help, fod hwnw wedi ei wrthod, a'i fod yn y diwedd wedi penderfynu rhoddi diweddglo ar ei fywyd a'i drueni ar unwaith. Gohiriwyd ei achos. Dydd Llun, wythnos i'r diweddaf, gosodwyd ilawr gareg sylfaen capel y Wesleyaid Cymreig yn Ferndale, gan Mr, John Arthur, sylfaenydd Methodistiaeth yn y dalaeth hbno. Llwyddodd gwraig o'r enw Ann Jones, o Treorci, i gael llythyr ysgar oddiwrth ei gwr, yn llys heddgeidwadol Pontypridd. Dywedai i'w gwr ei gadael yn Chwefror diweddaf, ac, ar 01 hyny, i'w thad adael eiddo iddi gwerth 700p. Yn mysg y rhai sydd yn dechreu teimlo effeithiau masnach wasgedig y mae barnwyr y llysoedd chwarterol n Morgauwg, Tystiolaeth y rhan fwyaf o'r carcharorion ydyw, eu bod wedi cyflawni y troseddau am ba rai y cyhuddir hwy am nas gallent gael dim i'w wneud Yn llY8 chwarterel Caerfyrddin, penderfyn- wyd, ar gynygiad Viscount Emlyn, anfon at yr Ysgrifenydd Cartrefol 1 ofyn ei reswm am ganiatau blwydd-dal i gaplan y carchar, yr hwn na orfodwyd i ymddiswyddo ac na bu yn gwas- anaethu am y tymor o 20 mlynedd. Mae gweithfeydd haiarn Sirhowy, perthynol i Gwmni Ebbw Yale, y rbai sydd wedi bed yn eu blaen yn barhaus er ys yn agos i ganrif, yn awr wedi stopio, mewn canlyniad i farweidd-dra cyffredinol masnach, ac arafwch y farchnad 'mewn haiarn Agorwyd ymchwiliad yn Abertawe dydd Gwener, yn cynwys cyhuddiadau o natur difrifol yn erbyn un o swyddogion gwaith glo yn y gymydogaeth. Kid w yr achos wedi cael ei gwblhau eto. Mae y dyn a wnaeth ymgais, mewn ffit o wallgofrwydd oblegid tylodi ei deulu, i roddi terfyn ar ei hoedl yn Nghaerdydd, wedi ca'l ei ryddhau gan ynadon y dref hbno. Rhoddodd ei wraig adroddiad torcalonus o flaen y llys, c'r hyn a ddyoddefodd y teulu yn ystod y deuddeng mis diweddaf. Dirwywyd cabman o Gaerdydd, o'r enw Albert Bensey, i 40s. a'r costau, am wneud ymosodiad anweddaidd ar ferch ieuanc a yrid adref yn ei gerbyd. Mae ystafelloedd cocoes wedi cael eu sefydlu yn Llanrwst, Bangor, Beaumaris, Caergybi, a Chaernarfoa, ac ymddengya eu bod yn derbyn cynorthwy cyffredinol. Mae elusenau y Nadolig wedi cael eu rhanu k dros bob rhan o'r wlad gyda Haw a chalon ryddfrydig. Y prif roddion oeddynt glo, bara, cig, a dillad. Yn Bodnac Hall, ger Conwy, rhoddodd Mr. Pochin, un o'r ymgeiawyr am gynrychiolaeth yr Amwythig, wledd anrhydeddus i'w denantiaid adeg y Nadolig. Esiampl deilwng 0 efelychiad i fan feiatradeedd ein tir. Traddododd Mr. John Roberts, yr aelod Seneddol dros fwrdeisdrefi Ffliat, araeth alluog nos Lun wythnos i'r diweddaf, yn JFflint, a'r wleidyddiaeth ryfelgar y Llywodraeth. Yn y Carnarvon and Denbigh Herald, dangosa un ysgrifenydd, dan yr enw 'Etholwr' yr angenrheidrwydd i Ryddfrydwyr daflu o'r neilldu eu gwahaniaethau moesol, a phleidleisio dros y rhai a bleidiant egwyddorion Rhyddfryd- ol yn yr etholiad nesaf. Cafodd rhwng tair a phedair mil o chwarel- wyr Ffestiniog wyliau annysgwyliadwy yr wyth- nos cyn y diweddaf oblegid gerwinder yr hin. Yn Llanberia, cafodd dros dair mil o chwarel-; wyr wyliau cyffelyb am dri diwrnod, a thua'r un nifer yn Bethesda am ddau ddiwrnod yn yr wythnos. Rhaid fod gorfodi dros 10,000 o chwarelwyr i weithio dim ond haner eu harnser wedi achosi niwed mawr i fasnach Gogledd Oymru.

Kitotrtftrion CramiK*

[No title]

.;LEKfWL. , y.. ;