Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
BLWYDDYN NEWYDD DDA I'R 'DYDD.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BLWYDDYN NEWYDD DDA I'R 'DYDD.' Blwyddyn newydd dda iddo i sefyll yn gadarn dros ryddid crefyddol a gwladol, ae i bleidioegwydd- orion, ac nid djnion; ac i ymgadwoddiwrth gecraeth clicyddol, ac ymosodiadau personol, pa rai sydd yn warth i unrhyw newyddiadur a'u cymer i mewn. Mae digon o (lestynau bud,jiol ac angenrheidiol i'w trafod, i lenwi newyddiadur, heb roddi lie i ffyliaid i ddifrio eu gilydd gerbron gwlad. Mae yn dda genyf allu dwyn tystiolaeth am y DYDD, ei fod wedi bod yn lied rydd oddiwrth beth fel hyn y flwyddyn ddiweddaf. Blwyddya newydd dda iddo i weithio ei ffordd yn mlaen fel papyr cenedlaethol, ac nid fel un sectol. Mae digon o gyhoeddiadau misol sectol, fel mai y ffwlbri mwyaf ydyw cyhoeddi newyddiadur wyth- nosol, sectol. Mae gormod o lawer o sectyddiaeth yn barod; felly, nid eisieucadw yn fy w seetyddiaeth sydd, oad eisitu ei ddileu yn hollo), pe byddai yn bosibl. Biwyddyn newydd dda iddo i fod yn gyfrwng i ddynion gonest a diofn i godi eu llais yn erbyn hea draddodiadau a chredoau dynion ffaeled- ig, pa rai a osodant i fyny yn lie gair Duw. Blwyddyn newydd dda iddo i ymosod yn ddi- dderbynwyneb yn erbyn meddwdod ac anghymedr- oldeb, yn nghyda'r fasnach mewn meddwi dynion ar fyglys, a'r trwynlwcb, a'r hen gelfi sydd yn di- nystrio dynoliaeth. Dymuaaf hysbysu Iago Leiaf nad ydwyf yn arfer ateb gofyniadau o dan ffugenw, oblegid ateb dim fyddai hyny, ond os bydd lago Leiaf mor foneddigaidd, ac yn gymaint a byny o ddyn, a rhoddi ei enw priodol yn eglur i ganlyn ti ofyniad, yr wyf yn addaw ei ateb yn llawn; ond os na wna efe hyny, caiff aros yn ei anwybodaetb; mae hyny. yn eithaf teg a Iago Fwyaf rhagor Iago Leiaf. R. T. WILLIAMS.
;P-ji. EISIEU GWYBOD.:
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
P-j i. EISIEU GWYBOD. MR. GOL. Yn gymaint a bod rhyw gymeriad adnabyddus, yr hwn a ddymunai gael ei adnabod fel un anwybodus, wedi ymgymeryd mewn Haw ftg ysgrifenu ychydig linellau dan y ponawd uchod, a hyny i'ch newydd- iadur clodwiw tam Rhagfyr 29ain; yn y lIe cyntaf, dymunaf alw sylwy cyhoedd ato, fel un a ymddang- osodd ar faes y DYDD y tro hwn yn nghymeriad lleidr, neu ddyn wedi ymwisgo mewn croen dafad, ond oddimewn blaidd rheibus. Ffordd hollol ang- hymhwys yn wir i ddenu neb allan i'r maes i oleuo yr anwybodus, druan, trwy ateb y gofyniadau celfydd- ydol a ofynwyd ganddo. Gan hyny, pwy bynag a ddarllena y llythyr hwn, caiff weled yn eglur fod anwybodaeth yr anwybodus crybwylledig, wedi ymddangoa i'r cyhoeid mewn dwy ffordd; yn gyntaf, trwy gyfrwng ei ofyniadau; ac yn ail, trwy gyfrwng ei hyfdra digywilydd yn ymddangos oddi- tan fantell ffugenw un arall. Yn awr, os bu yr an- wybodus hwn yn ddarllenwr manwl a chyson o'r DYDD am yr wythnosau diweddaf, rhaid ei fod wedi gweled y ffugenw, ac os gwelodd ef, ac iddo ar ol hyny gymeryd mantais arno i'w osod odditan ei ysgrif anwybodus ei hun, y casgliad, gan hyny, yw, am i'r eyhoedd gredu mai Iago Leiaf oedd yn anwybodus, ac nid efe. Pwy ond dynion o'r fath yna Sydit yn berffaith deilwng o'r enw Phariseaid huoangyfiawn; mewn gwirionedd, dylid ar bob cvfrif eu halltudio o'r byd newyddiadurol, a goreu po gyntaf. Drachefn, os dywed yr anwybodus hwn na welodd efe erioed y ffugenw, yr hyn sydd yn amheus genyf, dyiasai fod yn fwy goehelgar, a darllen ychwaneg. Pe buasai wedi gwneuthur hyny, ni buasai yn cael ei gyhoeddi yn ffugiwr enw neb. Gan hyny, cynghorwn anwybodus, mewn dull caredig a maddeugar, i gadw mewn cof o hyq allan, yr hen ddiareb Gymreig hop, "Agor dy lygaid cyn agor dy geg," a ebofiel fod ffugio enwau wfedi arwain lIa wer, eyn hyn, iafaely profedigaetjiau llymaf, A chan fy mod wedi dethel y ffugenw a nodwyd pan nad oeddwn ond pedair ar ddeg oed, ae wedi arfer anfon ysgrifau byrion, yn awr ae eilwaith, i newyddiaduron a chyhoeddiadau misol, felly, cymhellwyd fi gan y cyfeillion sydd :yn gwybo i hyny, i anfoa gair o amddiffyniad i'r fftig- enw a etholais o flaen neb arall, yn y byd Cymrieig yr amser presenol, beth bynag. Ac nid yn unig hyny, eithr hefyd i argraffu ar feddwl darllenwyr lluosog y DTDD, mai nid mjfi, y gwir Iago Leiaf, a amcanodd ddyrchafu ei hun yn y wedd a nedwytjl, i fod yn inspector holiadol y DYDD am yr wythnos a enwyd. Corris. IAGO LEIAF. Yr oedd y Cadfridog Grant, diweddar Arlywydd I. yr America, yn Dublin ar y 3ydd cyflsol.
YMWELIAD A CHAERLLEON.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YMWELIAD A CHAERLLEON. MR. GOL. 0 chaniatewch i mi, rhoddaf ychydig o hanes fy ymweliad a'r ddinas henafol uchod. Yno y treul- iais y Nadolig. Naturiol i Gymro ydyw yoiddy- ddori mewn Cymry a phethau Cymreig, Dywedir fod caneedd o'n cenedl yn y ddinas hon. A mi yn ym- daith oddiamgylch gan syllu ar ei hynodion a'i hynafion, diagynodd fy llygaid ar hysbysleni wedi eu hargraffa yn hen iaith fy mam. Mynegai y naill am gwr sd te a darlitb, a'r Hull am gyfarfod preg- ethu. Y cwrdd ä a'r ddarlith yn nghapel Albion Park, tranoelh dydd Nadolig. Aethujii yno. Pawb wrth eu bodd uwchben y ddysglaid de a'r bara brith da a estynid mewn cyflawnder. Golygfa hynod a dyddorol. Yr hwyr, yr awenyddol Hwfa Mon yn darlithio. 'Coron Bywyd' ydoedd y testun. Ni chlywsom y darlithydd erioed yn fwy doniol a gwlithog. Efallai fod presenoldeb yr Hybarchedig Hiraethog yn symbyliad, yo. nghyda bod ein eyd- wladwr E. G. Salisbury, Yswain, Glan Aber, yn llywyddu. Cafodd wrandawiad astud a siriol. Yn wir, yr oeddwn wrth fy modd. Ond rhag fy mod yn ymdroi yn ormodol yn fy unman, af rhagof. Cefais gymaint hyfrydwch yn y ddinas hynod hon, fel yr arosais yno dros y Sabbath. Pan mewn lie dyeithr, byddaf yn cymeryd fy nghenad i fod yn fwy o Gymro nag 6 sect-ddyn; felly, aethum y boreu Sabbath i gapel y Methodistiaid Calfinaidd, St. John-street, adeilad eang a cbostus. Nid yw yn un o'r rhai mwyaf cysurus i wrando ynddo, beth bynag am lefaru. Buasai y gynulleidfa wasgarog ydoedd yno yn llawer cynhesach, debygwn, mewn lie Ilawer llai. Yn y prydnawn, cyfeiriais fy nghamrau at eglwys Anni- bynol Frodsham-street, oblegid yno y mynegasai yr hysbyslen am y cyfarfod pregetbu y cyfeiriais ato. Nid oedd y pregethu yn dechreu cyn y pryd- nawn. Yr oedd yr hysbyslen olygus wedi cynyrchu dysgwyliad uchel ynof. Beth bynag oedd yr achos, ychydig iawn ydoedd rhif y rhai a ddaethant yn nghyd, a theimlwn yn siomedig. Efallai fod anol- ygrwydd y lie yn ei erbyn. Adeilad llwydaidd, • wedi ei guddio o fewn muriau uchel, mewn heol gyfyng ydyw. Haner cant, a chyfrif fy hunan, oedd nifet y presenolion. Nis gwn pa faint o ddy- eithriaid oedd yno, heblaw yr ysgrifenydd. Hysbys- wyd y byddai yno 'ryddgymundeb'—peth newydd i Gymro. Arosais yno; yn sicr, pobl Ryddfrydig yw y rhai'n, oblegid ni ofynasant i mi 1)å. un a oeddwn yn aelod o ryw eglwyp aipeidio. Cyfranogodd yeh- ydig 0 dan ddeugain o'r elfenau. Diolchodd yr Hybarchedig H. Ellis yn gynhes ac yn efengylaidd am fod yr eglwys wedi cael ei chadw, er cymaint yr erlid oedd arni. Yr hwyr, aethum i'r brif Eg- lwys, neu'r Eglwys Gadeiriol, a'm teimlad wrth ddyiod oddiyno oedd-dioleh am symledd addoliad mewn capel Cymraig. GWIBIWK.
CORWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORWEN. Dydd Calan y cynaliodd yr eglwys Annibynol yn y lie uchod ei chyfarfod blynyddol. Y gweinidogioll eanlynol'ft wasanaethent eleni, sefy Parchn. Dr. Thomas, Le'rpwl; Oliver, Treffynon; a Hough, Llanarmon. Ac yr oedd min ar y weinidogaeth, a'r traddodiad yn rymus ac effeithiol, fel y cofir yn hir am y pleser a'r mwynbad a gafwyd. Daeth cynull- eidfaoedd lluosog yn nghyd, fel y mae yn arfer d'od i gyfarfodydd Calan Corwen, fel y gorfodwyd myned i gapel y Methodistiaid nosdn olaf y cyfar- fod, ac yr oedd y casgliadaH uwchlaw dysgwyliad ar yr adeg gyfyng bresenol. Angen mawryreglwys hon yw capel newydd, a da genym ddeall eu bod yn teimlo hyny, ao yn gweithio eu iforddyn mlaen yn raddol er cyrbaedd yr amcan. Pe byddai ond gweled y ffoidd yn glir i wario rhyw bedwar neu bum' cant o bunau ar yr hen addoldy, gallesid gwneud capel da a chysurus o hono; ac ymae yr hyn a wnaethant yn y blynyddoedd diweddaf o dan arweiniad Mr. Pritchard, eu gweinidog, yn ddigon 0 brawf y gallant fentro at y gwaith. Llwyddiant iddynt i fyn'd yn mlaen yw dymuniad—AMICUS.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
l PEEPEITHBWTDD.—Gwna "Mrs. S. A. ALLEN Worlds Hair Restorer "yn 4diball adfer gwallt wedi gwynu i'w liw cyntefig, cyfrana iddo fywyd newydd, tyfialit,a phrydfierthwch. Mae ei weithrediad yn sicr, ac yn drwyadl. Nid yw yn lIiwio (dye) y gwallt. Mae bob amser yn proft ei hun yn nerthydd naturiol y gwallt. Mae ei flaenoriaeth a'i ragoriaeth, yn sefydl- edig drwy yr holl fyd. Ar werth gan holl Chemists Perfumers. Mae Mrs. S. A. ALLBN wedi bod yn gwneuthur y ddau ddarpariad hyn e'rs deugain mlynedd. Rwyn byth yw y mmyddau sefydledig at y gwallt. Nid ydyn byth i'w defnyddio gyda'u gilydd, nac olew nac endin gyda'r un o'r ddau. Mrs. S. A. ILLEN'S ■Zylo-Balsamum, cryfhad syml- deilyngdod anghyffredin at driniaeth gwallt yr ieu enctyd. Atalia golli y gwallt yn gynamserol, yr hyn ydd mor gyffredin. Mae wedi rhoddi cymhorth un- ongyrchol mewn miloedd 0 ichlysuron pan oedd y gwallt yn syrthio yn ddyrneidiau Mae yn gla.ihau y wallt, a chroen pen, ac yn symud y cen. Ar werth gan yr holl Chemists a Perfumers,
----BRYNCRUG.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BRYNCRUG. Cynaliwyd cyfarfod cystadleuol yn y lie nchod nos Nadolig, 0 dan arweiniaeth y Parch G. Evans, Cynfal, a llywyddiaeth Mr Hugh Pughe, gynt o Berthlwyd. Oafwyd cyfarfod rhagorol ac ystyried yr hin, ac ymgynulloid tyrfa luosog i'r ysgoldy erbyn yr amser penodedig. Wrth ymgymeryd & gwabrwyolr buddugwyr. credaf yn gydwybodol fod y beirniaid wedi gwneud cyfiawder gyda'r cyfan- soddiadau o'r dechreu i'f diwedd, gyda'r eithriad o'u dyfarniad ar y chwe chwe Hir a Thoddaid 0 waith Eben Fardd ar 'Esgyniad Elias i'r nef;l a chredaf mor gydwybodol a hyny eu bod wedi gwneud anghyfiawnder mawr yn y peth hwn. Aeth tua haoer dwsin i fyny i'r llwyfan i adrodd y toddeid- iau, ac ar ol cael beirniadaeth arnynt, galwyd ar un yn mlaen, yr hwn, mae'n debyg, oedd y beirniaid yn ei hoffi fwyaf, a rhoddwydywobr iddo ef. Ond nid efe oedd y goreu, yn ol barn lluaws o lenorion gwych oedd yn bresenol. Pan yn gwrando yr un a wobrwywyd yn adrodd, sylwais ei fod yn methu a SWDio cynifer ag un gair 0 bob dwsin yn briodol. Yr un ddvlasai gael y wobr oedd Robert Thomas, os ydoedd y wobr yn myned i'r goren; adroddodd hwn yn rhagorol, fel nad oedd ei gydymgeiswyr i'w cymliaru ag ef. Cynghorwn i'r ddau feirniad hyn aros yn mro dystawrwydd, ac astudio nes dyfod i wybod y gwahaniaeth rhwng nos a dydd cyn myned i feirniadu mwyach.—CADNO HEB YR UN CTDTN. :).'j .v t. '(1 > —————————————————————„
LIXWM, GER TREFFYNON. ;
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LIXWM, GER TREFFYNON. Cynaliwyd cyfarfod llenyddol yn Ysgoldy Brut- anaidd y lie uchod nos Nadolig, 0 dan lywyddiaeth Mr Thomas, Plasnewydd, ac arweinyddiaeth Mr Callestr Ellis, RheSycae, pryd y daeth cyuulleidfa dda yn nghyd, ac ystyried gerwinderyrhin. Wedi cael anorchiad agoriadol campus gan Mr Thomas ar y 'dymunoldeb i'r bobl ieaaino ymaflyd 0 ddifrif yn y gwahanol destynau a roididallan odroidroi gystadlu arnynt, cyflwynodd awenau y cyfarfod i Callestr Ellis, ac yr oedd ynhawdd canfod oddiwrth ysgogiadau 'y Callestr' (barddonol wrth gwrs), ei fod yn teimlo fod eisieu cryn dipyn o ymdrech i greu tan arabedd oddimewn, fel ag i gadw yr oerni tuallan i'r porth; ond llwyddodd yo rhagorol yn byn, a dangosodd fod llawer o elfenau yn cyfarfod ynddo i wneud arweinydd llwyddianus mewn Eisteddfod. 'Roedd rhaglen y cyfarfod fel y canlyn—-1 Am ycyf- ieithiad goreu 0 'The Child Missionary,' o'r Christ- ian Age, i feibion neu ferched heb fod dros 16 oed; goreu, Miss Thomas, Plasnewydd; ail, Mr John Jones, Babell. 2 'Y Ffrwd' (Gwilym Gwent), gan Mr Rees a'i barti, yn dda a bywiog. 3 Traethawd, (Hane-a Samuel;' goreu, Mr George Davies, Lixwm. 4 C&n gan Callestr. Enceriwyd ef.ondni atebodd. 5 Adrodd 'Einioes' (gan Mynyddog); goreu, Mr William Jones, Lixwm. 6 'I Bias Gogerddan,' gan Mr Rees, yn rhagorol. 7 Cynygiodd Mr Davies, Cross Foxes, Nanercb, ddau swllt 0 wobr i'r hwn a siaradai fwyaf o synwyr mewn pum munyd o amser. Daeth tri i'r llwyfan i siarad synwyr am un waith, beth bynag, a barnwyd mai Mr John Williams oedd yn deilwng o'r wobr. Siaradodd &r y lies deilliedig o gystadleuaeth. 8 Can gan gor yr Ysgol Frutan- aidd yn wir dda. 9 Darllen difyfyr; goreu, Mr J. E. Thomas, Plasnewydd; ail, Mr W. Jones, Lixwm. 10 Can gan Miss Eunice Morris yn wir ragorol, 11 Araeth ddifyfyr ar y 'March,' goreu, Mr G. Roberts. 12 'Mair Magdalen,' 0 Swn y Jutvbili, gan ddwy ferch ieuanc, ond methasom a chael eu henwau. Canasant yn rhagorol, ac encoriwyd hwy yn frwd. frydig. 13 Am yr araeth oreu ar 'Afradtonedd claddedigaethau yr ardal.' Pum munyd .i'w thra- ddodi; goreu, Mri John Davies, a George Davies, Lixwm, yn gyfartal. Deallwn fod y pwyllgor wedi cael addewid gan Miss Sarah Lloyd, Hersedd, i gymeryd rhaa yn yr adraxi gerddorol o'r cyfarfod, ond wedi methu bod yn bresenol o herwydd fod y tywydd nlor anffafriol, Beirniadwyd y gwahanol gyfansoddiadau gan John Lloyd, Yaw., Hersedd; Parchn E. JSvans, Holywell, Uwchlyn Jones, Rhesycae, a John Lloyd, Holy well. Yr oedd y eyfarfod yn ddifyrus ac adeiladol, a chyflwynir yr elw i drysorfa yr Ysgol Frutanaidd yn y Ile.-GoREBT-DD.
_________:''^ 'I* 01 ■ -_…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'I* 01 ■ 1 LLANFACHRETH. ( « f Cyfarfod Llenyddol.—Cynaliwyd yr uchod not Fawrth diweddaf, yn nghapel Siloh. Y Uywydd ydoedd y Parch W. R. WiIliams,gwelnidog. y lIe. • Enjllwyd ar adrodd, ateb cwestiynaa, &c., gan Mri D. Jones, Alltcarw, G. Price, ieu., Corsygarnedd, Misses M, Evans, Penrhos, ac E. A. Jones, Ganilwyd. Cerddoriaet,i—Mr R. Price ac E. Price, Friog, Miss A. Jones, Ffriddgoch, a pharti 0 Lan-« elltyd. Traethodau—Miss M. Evans, Mr H. Wil- liams, Tynewydd, a Jane Price. Barddoniaeth**