Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

BLWYDDYN NEWYDD DDA I'R 'DYDD.'

;P-ji. EISIEU GWYBOD.:

YMWELIAD A CHAERLLEON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YMWELIAD A CHAERLLEON. MR. GOL. 0 chaniatewch i mi, rhoddaf ychydig o hanes fy ymweliad a'r ddinas henafol uchod. Yno y treul- iais y Nadolig. Naturiol i Gymro ydyw yoiddy- ddori mewn Cymry a phethau Cymreig, Dywedir fod caneedd o'n cenedl yn y ddinas hon. A mi yn ym- daith oddiamgylch gan syllu ar ei hynodion a'i hynafion, diagynodd fy llygaid ar hysbysleni wedi eu hargraffa yn hen iaith fy mam. Mynegai y naill am gwr sd te a darlitb, a'r Hull am gyfarfod preg- ethu. Y cwrdd ä a'r ddarlith yn nghapel Albion Park, tranoelh dydd Nadolig. Aethujii yno. Pawb wrth eu bodd uwchben y ddysglaid de a'r bara brith da a estynid mewn cyflawnder. Golygfa hynod a dyddorol. Yr hwyr, yr awenyddol Hwfa Mon yn darlithio. 'Coron Bywyd' ydoedd y testun. Ni chlywsom y darlithydd erioed yn fwy doniol a gwlithog. Efallai fod presenoldeb yr Hybarchedig Hiraethog yn symbyliad, yo. nghyda bod ein eyd- wladwr E. G. Salisbury, Yswain, Glan Aber, yn llywyddu. Cafodd wrandawiad astud a siriol. Yn wir, yr oeddwn wrth fy modd. Ond rhag fy mod yn ymdroi yn ormodol yn fy unman, af rhagof. Cefais gymaint hyfrydwch yn y ddinas hynod hon, fel yr arosais yno dros y Sabbath. Pan mewn lie dyeithr, byddaf yn cymeryd fy nghenad i fod yn fwy o Gymro nag 6 sect-ddyn; felly, aethum y boreu Sabbath i gapel y Methodistiaid Calfinaidd, St. John-street, adeilad eang a cbostus. Nid yw yn un o'r rhai mwyaf cysurus i wrando ynddo, beth bynag am lefaru. Buasai y gynulleidfa wasgarog ydoedd yno yn llawer cynhesach, debygwn, mewn lie Ilawer llai. Yn y prydnawn, cyfeiriais fy nghamrau at eglwys Anni- bynol Frodsham-street, oblegid yno y mynegasai yr hysbyslen am y cyfarfod pregetbu y cyfeiriais ato. Nid oedd y pregethu yn dechreu cyn y pryd- nawn. Yr oedd yr hysbyslen olygus wedi cynyrchu dysgwyliad uchel ynof. Beth bynag oedd yr achos, ychydig iawn ydoedd rhif y rhai a ddaethant yn nghyd, a theimlwn yn siomedig. Efallai fod anol- ygrwydd y lie yn ei erbyn. Adeilad llwydaidd, • wedi ei guddio o fewn muriau uchel, mewn heol gyfyng ydyw. Haner cant, a chyfrif fy hunan, oedd nifet y presenolion. Nis gwn pa faint o ddy- eithriaid oedd yno, heblaw yr ysgrifenydd. Hysbys- wyd y byddai yno 'ryddgymundeb'—peth newydd i Gymro. Arosais yno; yn sicr, pobl Ryddfrydig yw y rhai'n, oblegid ni ofynasant i mi 1)å. un a oeddwn yn aelod o ryw eglwyp aipeidio. Cyfranogodd yeh- ydig 0 dan ddeugain o'r elfenau. Diolchodd yr Hybarchedig H. Ellis yn gynhes ac yn efengylaidd am fod yr eglwys wedi cael ei chadw, er cymaint yr erlid oedd arni. Yr hwyr, aethum i'r brif Eg- lwys, neu'r Eglwys Gadeiriol, a'm teimlad wrth ddyiod oddiyno oedd-dioleh am symledd addoliad mewn capel Cymraig. GWIBIWK.

CORWEN.

Advertising

----BRYNCRUG.

LIXWM, GER TREFFYNON. ;

_________:''^ 'I* 01 ■ -_…