Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

W JRaSSfa -tratol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

W JRaSSfa -tratol. Cawn fod cynyrchion y brodyr a ganlyn yn aros eu tro. Seffroy. Beddargraff a anfonodd y cyfaill hwn ar ffurf Englyn; ond er mwyn ei ddi- dwyllo, boed hysbys iddo, nid yw yn Englyn G gwbl. Hyderwn fod hyna. 'n ddigon i'w ddarbwyllo beth a ddylai Englyn fod; anffawd druenus a fyddai i neb ryfygu rhoddi y fath 4 Ilinell ar gareg bedd yr un bod rhesymol. R. Jarvis i'r Gauaf. Penillion marwaidd, heb swyn yr 'awen wir.' Mynycha'r awdwr y frawddeg 'Mae'r gauaf wedi d'od;' yrydym yn gwybod hyny eleni ysywaeth. Clywir awn stormydd y gauaf mewn Hinellau fel hyn, o eiddo y diweddar Emrys,- "Ystormydd yn dywydd du, Swn brochas t'n brawychu." J Y Wraig o Ganaan. Yr un dynged sydd i'r penillion diawen hyn a'u cymeiriaid. Penillion i'r Eira. Ebe'r brawd am yr eira,- 'Hwn yw y cwrlid harddaf 0 eiddo y Soruchaf.' 1/n bryd ni mae gwisg y gwanwyn a'r haf yn harddacb. Gwell yw ewrlid gwyrdd brifeh feillionog Mai a M ehefin.- Mor dirf yw y frodir fraa. Gosodwyd amwisg sidan Er swyn i glws rosya glâD; Gwel y gwydd dan glog addas, Gwaen y gledr wisga WR glas. Yr Arglwydd yn gymhorth. Anheilwng fel barddoniaeth ar destyn mor dda: Anerehiad priodasol, i Dr. G. R. G., a Miss Humphreys, Caernarfon. Ceir yn y naw Englyn ambell linell dda, a rhai hagr ar el bol. Sicr ydym, na buasai yr awdwr yn dweyd fel hyn mewn rhyddiaetb,— 'Gruffydd a Jennie gratrol-mewn syched A fu yn yfed o lif iawn nefol.' 0 ganlyniad, a rhoddi heibio bob teimlad rhaid i ni roddi chwareu teg i'r dduwies gain Ceridwen, rhag dwyn anfri ar ei llywodraeth a'i hurddas. Os tybia yr awdwr y derbynid ei englynica i ryw gyfnodolyn arall, pobpeth yn dda. Adgyweiriad Salem. Yr ydym yn methu Uyncu y llinell hon am Salem Herber- 'Ei hagr furiau oedd mor ddu.' Os gwir, yr oedd yn rhy ddrwg ar un o gewri'r areithfa Gymreig oddef y fath hagr- wch ar furiau ei gysegr. Anerehiad Priodasol. Mae 9 englyn ar briodas personau anghyhoedd yn ormod o'r haner, oni b'ai fod ynddynt fywyd barddas. Llinell dda jawn yw hon a newydd- 'Byw'n ddestlus heb nawdd ystleD,' end nid yw y rbelyw ond eyffredin, a rhai llinelhu'n wallus. Beth yw'r awydd sydd ya meddianu beirdd ieuainc i rigymu i briodasaul Mae un englyn i bar ieuanc, os yn meddu'r 'dine' a chlec yn ei f6n, yn werth ei argraflfu. Odl o Gy/archiad. Dyna'r penawd, er fod yn y dernyn gryn nifer o odlau. Cant le'n fuan. T Ehyfelfarch, gan Ieuan Wnion. Penill- ion o deilyngdod mawr; llefarant drostynt eu hunain, a chant oleuni y DYDD yn ebrwydd. Dichon y goddefir i ni ymesgusodi ar ddechreu blwyddyn am y nodion blaenorel, os barna rhai fod ysylwadau yn rhy feithion. Dichon hyny, ond os dywedir rhywbeth o gwbl, rhaid gwneud hyny yn eglur adifloesg- ni, gyda'r hyder y llesolant awdwyr dibrofiad gan eu bod yn dymuno hyny; rhaid derbyn y chwerw fel y melns fel eu gilydd yn eu lie. Barnai y diweddar Islwyn, parch i'w gofiad- wriaeth, mai swyddogaetb beirniad yw barnu, acnid bod yn athraw; nid ydys yn hoai y swydd griticyddol ar y darnau i'r DYDD, ond er mwyn rhoddi rlieawm o dderbyn neu wrthod. Anfoned pob un i'r cyfeiriad a osodwyd gan y Cyhoeddwr yn rheolaidd. Os tybia rhai eu bod yn ormod o feirdd i'w clorianu druain o.honynt. Na bo iddynt drafferthu neb yn ddiachos. Ieuan Ionawb.

AR Y DAITH.

BYWYD CENADOL YN CHINA.